Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar y diwygiad i Ran 2 o Atodlen 8 o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 er mwyn tynnu’r cyfeiriad at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a rhoi’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ei le.

Cefndir

Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn darparu ar gyfer sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd ('y Comisiwn') ac ar gyfer diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ('CCAUC') unwaith y bydd y Comisiwn yn weithredol.

Y Comisiwn fydd y corff rheoleiddio sy’n gyfrifol am gyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae addysg drydyddol yn cwmpasu addysg ôl-16 gan gynnwys addysg bellach ac uwch, addysg oedolion yn y gymuned ac addysg seiliedig ar waith, prentisiaethau, a chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol.

Mae sefydlu'r Comisiwn yn gam hanfodol tuag at wireddu nodau Llywodraeth Cymru, fel y nodir yn y Rhaglen Lywodraethu, mewn perthynas â diwygio addysg ôl-16.

Mae'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn rhoi pwerau i'r Comisiwn i’w alluogi i lywio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru i ddiwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr yn well, gan helpu i adeiladu economi gryfach yn y dyfodol, a hyrwyddo mwy o gydlyniant ar draws y sector a rhwng addysg orfodol ac ôl-orfodol. Un o'r prif nodau wrth sefydlu'r Comisiwn yw creu corff sy'n gallu delio â'r cynllunio strategol a'r cyllid ar draws y sector addysg drydyddol cyfan, a'r sector ymchwil ac arloesi mewn perthynas â Chymru.

Mae gwaith yn parhau, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol, i sefydlu'r Comisiwn cyn iddo ddod yn weithredol yng ngwanwyn 2024.

Deddf yr Economi Ddigidol 2017

Mae Deddf yr Economi Ddigidol yn creu pwerau i rannu data ymhlith awdurdodau cyhoeddus at ddibenion:

  • gwella’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
  • datgeliad gan swyddogion cofrestru sifil
  • lleihau’r ddyled i’r sector cyhoeddus
  • mynd i’r afael â thwyll yn erbyn y sector cyhoeddus
  • ymchwil
  • datgeliad gan awdurdodau refeniw
  • creu ystadegau swyddogol

Er mwyn i gorff cyhoeddus allu rhannu gwybodaeth o dan bwerau cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, twyll a dyledion yn Neddf yr Economi Ddigidol, mae angen eu henwi yn yr Atodlen berthnasol.

Y sefyllfa bresennol

Mae Pennod 4 o Ran 5 o Ddeddf yr Economi Ddigidol yn nodi pwerau i ganiatáu i gyrff cyhoeddus penodedig rannu gwybodaeth at ddibenion atal, canfod, ymchwilio ac erlyn achosion o dwyll yn erbyn y sector cyhoeddus. Mae’r Ddeddf hefyd yn rheoleiddio pryd y gellir defnyddio'r pwerau rhannu data twyll, gan awdurdodi rhannu data dim ond lle gall yr awdurdod cyhoeddus gyfiawnhau hyn yn unol â'r dibenion a nodir yn Rhan 5 o'r Ddeddf.

Mae Atodlen 8 o Ddeddf yr Economi Ddigidol yn cynnwys rhestr o bersonau a bennir at ddibenion darpariaethau sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth at ddibenion atal twyll yn erbyn y sector cyhoeddus. Mae angen i gyrff Cymru gael eu rhestru yn Rhan 2 o Atodlen 8 er mwyn gallu rhannu data o dan y pwerau hyn gyda phersonau eraill sydd hefyd wedi'u rhestru yn yr Atodlen berthnasol. Ar hyn o bryd mae CCAUC wedi'i restru ym mharagraff 49 o Ran 2 o Atodlen 8. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adran 56(6) o’r Ddeddf i ychwanegu cyrff o Gymru at Atodlen 8 o'r Ddeddf drwy wneud Rheoliadau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd. Mae hyn yn sicrhau bod y Senedd yn gallu craffu a phleidleisio ar unrhyw newidiadau a wneir.

Mae Deddf yr Economi Ddigidol yn awdurdodi cyrff cyhoeddus a bennir yn Atodlen 8 i rannu gwybodaeth â chyrff penodedig eraill at ddibenion "gweithredu" mewn cysylltiad â thwyll yn erbyn y sector cyhoeddus. Mae gweithredu'n cynnwys atal, canfod, ymchwilio ac erlyn twyll, dwyn achos sifil a chymryd camau gweinyddol o ganlyniad i dwyll. Nid yw'r Ddeddf yn gorfodi awdurdodau cyhoeddus i rannu gwybodaeth. Mae'r pŵer i rannu gwybodaeth o dan y Ddeddf yn ychwanegol at unrhyw bwerau rhannu data eraill a ddelir gan y cyrff penodedig.

Mae Deddf yr Economi Ddigidol yn creu troseddau am ddatgelu gwybodaeth bersonol a dderbynnir o dan y pwerau twyll heb awdurdod. Yn ogystal, rhaid i awdurdodau cyhoeddus sicrhau bod rhannu data yn cydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998 ac ni ddylent weithredu mewn ffordd a fyddai'n anghydnaws â hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Rhaid i awdurdodau cyhoeddus hefyd sicrhau bod unrhyw ddata sy'n cael ei rannu yn cydymffurfio â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.

Mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus sy’n rhannu data o dan y pwerau twyll roi sylw i’r Cod Ymarfer ar gyfer awdurdodau cyhoeddus sy’n datgelu gwybodaeth o dan Benodau 1, 3 a 4 (Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, Dyled a Thwyll) o Ran 5 o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017). Mae'r Cod Ymarfer yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus sy'n dymuno rhannu data gan ddefnyddio'r pwerau twyll ofyn am gymeradwyaeth gan y 'Bwrdd Adolygu' perthnasol, sy'n ystyried ac yn cymeradwyo cynigion newydd. Rhaid sefydlu defnydd newydd o'r pwerau twyll fel cynlluniau peilot yn y lle cyntaf, sy'n cael eu monitro gan y Bwrdd Adolygu. Gall cynlluniau peilot sy'n llwyddiannus gael eu hehangu ar gyfer profion pellach ac yn y pen draw gallant ddod yn rhan o brosesau 'busnes fel arfer' sefydliad.

Mae natur rôl y Comisiwn wrth oruchwylio'r sector addysg drydyddol yn golygu y bydd ganddo'r pŵer i gasglu, dadansoddi ac adrodd ar ddata mewn perthynas â'r sector addysg drydyddol. Mae ei swyddogaethau'n golygu y gallai gasglu neu gynhyrchu data y gallai awdurdodau cyhoeddus eraill ei ddefnyddio i adnabod twyll yn eu herbyn.

Y diwygiadau a gynigir

Rydym yn ymgynghori ar y canlynol a ddylid tynnu’r cyfeiriad at CCAUC a rhoi’r Comisiwn yn ei le yn y rhestr o bersonau penodedig yn Rhan 2 o Atodlen 8.

Byddai'n caniatáu i'r Comisiwn rannu data ag awdurdodau cyhoeddus eraill ar gyfer atal a chanfod twyll yn erbyn y sector cyhoeddus. Byddai'r Comisiwn yn gallu, pe bai'n dewis gwneud hynny, rhannu data â gwybodaeth gan gyrff eraill y sector cyhoeddus er mwyn nodi gweithgarwch twyllodrus.

Consultation questions

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno y dylid tynnu’r cyfeiriad at CCAUC a rhoi’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ei le yn y rhestr o bersonau penodedig yn Rhan 2 o Atodlen 8 o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017?

Cwestiwn 2

Hoffem wybod eich barn ar yr effaith y byddai tynnu’r cyfeiriad at CCAUC a rhoi’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ei le yn y rhestr o bersonau penodedig yn Rhan 2 o Atodlen 8 o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 yn ei chael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth fyddai’r effaith yn eich barn chi? Sut gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol neu leihau’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 3

Esboniwch hefyd sut ydych chi’n credu y gallai tynnu’r cyfeiriad at CCAUC a rhoi’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ei le yn y rhestr o bersonau penodedig yn Rhan 2 o Atodlen 8 o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017, gael ei ffurfio neu ei newid er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith Gymraeg ac ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn , llai ffafriol na’r Saesneg, a dim effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ymateb i'r cwestiynau uchod os gwelwch yn dda.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaeth graidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol, Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w gwblhau gan drydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o'r fath ei wneud. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech fod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: Information Commissioner's Office.