Neidio i'r prif gynnwy

Llythyr ac ymateb ynghylch bwriad i ddeddfu er mwyn gohirio cyflwyno gwiriadau SPS ar rai nwyddau o’r UE.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Diwygiadau i reolau ynghylch gwiriadau iechydol a ffytoiechydol (SPS) mewn perthynas â mewnforion o nwyddau o’r UE sy’n teithio i Gymru o Weriniaeth Iwerddon , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 310 KB

PDF
310 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad ar y diwygiadau i reolau ynghylch archwiliadau iechydol a ffytoiechydol (SPS) ar fewnforion cynhyrchion o’r UE: crynodeb ac ymateb y llywodraeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 167 KB

PDF
167 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad rhwng 27 Hydref a 11 Tachwedd 2022 yn gofyn am farn cyrff a phersonau sy’n cynrychioli buddiannau’r rhai sy’n ymwneud â mewnforio cynhyrchion SPS i Gymru ar gynigion i ddiwygio’r rheolau

  • estyn y cyfnod pontio fel na fydd rhagor o fesurau rheoli SPS sydd i fod i ddod i rym ym mis Ionawr 2023 yn cael eu cyflwyno hyd 31 Ionawr 2024.
  • i gael gwared ar yr eithriad ar y gofyniad i rag-hysbysu ar rai categorïau ychwanegol o gynhyrchion SPS a fewnforir o Weriniaeth Iwerddon o 1 Ionawr 2023.

Mae dogfen crynodeb o’r ymatebion ar gael ar y dudalen hon. 

Rydym wedi gwrando'n ofalus ar yr adborth, yn enwedig y pryderon a leisiwyd gan randdeiliaid ynghylch yr amser sydd ar gael cyn 1 Ionawr 2023 i baratoi. Felly, rydym wedi penderfynu gohirio cyflwyno gofyniad i raghysbysu tan yn ddiweddarach yn 2023. Ar ôl ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad, rydym hefyd wedi ymestyn y cyfnod graddoli trosiannol tan 31 Ionawr 2024.