Mae'r canllawiau canlynol yn amlinellu'r hyn y mae angen i chi ei wybod am gyflwyno safleoedd rheoli ffiniau ym mhorthladdoedd Cymru.
Cynnwys
Mae'r canllawiau hefyd yn rhoi trosolwg o'r gofynion ar ôl gadael yr UE ar gyfer gwiriadau ar y ffin ar nwyddau sy'n symud rhwng yr Undeb Ewropeaidd (UE) a'r Deyrnas Unedig (DU).
Safleoedd rheoli ffiniau
Daeth ymadael â’r UE aelodaeth y DU o'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau i ben. Drwy gyfres o reolau a rheoliadau a rennir, roedd yr undeb tollau wedi caniatáu i bobl a nwyddau symud yn rhwydd drwy'r aelod-wladwriaethau.
Mae ein hymadawiad wedi cael effaith ar nwyddau misglwyf a ffisiechydol (SPS) sy'n cael eu mewnforio a'u hallforio rhwng yr UE a'r DU. Mae nwyddau SPS yn cynnwys anifeiliaid byw a phlanhigion. Byddant yn destun gwiriadau ychwanegol mewn mannau mynediad. Diben y gwiriadau hyn yw diogelu bioddiogelwch a diogelwch bwyd.
Bydd y gwiriadau hyn yn cael eu cynnal mewn safleoedd rheoli ffiniau (BCPs). Maent yn cael eu datblygu ledled y DU ar hyn o bryd mewn porthladdoedd sy'n mewnforio nwyddau SPS o'r UE.
Mae BCPs eisoes yn bodoli ym meysydd awyr a phorthladdoedd y DU sydd wedi bod yn mewnforio o wledydd y tu allan i'r UE. Cyfeirir at hyn weithiau fel masnach Gweddill y Byd. Rhaid datblygu'r seilwaith i ddarparu'r gwiriadau hyn yn awr mewn porthladdoedd a meysydd awyr sy'n bwyntiau mynediad ar gyfer nwyddau o'r UE yn unig.
Mae'r gwiriadau a gynhelir ar y nwyddau hyn yn cynnwys gwiriadau dogfennol, hunaniaeth a chorfforol. Maent wedi'u hanelu'n bennaf at ddiogelu bioddiogelwch y DU. Byddant hefyd yn sicrhau iechyd y cyhoedd a lles anifeiliaid drwy reoli clefydau a rhywogaethau goresgynnol.
Mae'r nwyddau sydd i'w gwirio yn cynnwys:
- planhigion
- cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid
- anifeiliaid byw a
- bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad yw'n dod o anifeiliaid
Bydd yr arolygiadau hyn yn cael eu cynnal gan yr awdurdod dynodedig ar gyfer y mathau o nwyddau. Awdurdodau Lleol neu Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion sy'n gyfrifol am gynnal y rhan fwyaf o'r gwiriadau. Mae Llywodraeth Cymru yn arwain y rhaglen rheoli ffiniau yng Nghymru.
Mae’r Llywodraeth, o’r dechrau, wedi disgwyl i Lywodraeth y DU dalu am y cyfleusterau hyn. Y rheswm am hyn yw bod nhw a’r seilwaith cysylltiedig yn bwysau newydd, a achoswyd gan Brexit. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau'n ddiweddar i Awdurdodau Lleol ei bod yn barod i ddarparu rhagor o gymorth ariannol yn 2022-23. Mae hyn ar gyfer y costau cychwynnol y bydd angen eu hysgwyddo er mwyn cyflawni’r dyletswyddau a fydd yn ofynnol.
Bydd Cymru’n datblygu’r seilwaith i gynnal y gwiriadau hyn i’w cefnogi ym mhorthladdoedd:
- Caergybi ar Ynys Môn yn y gogledd
- Doc Penfro ac Abergwaun yn y De Orllewin
Mae'r porthladdoedd hyn yn ymdrin â symud nwyddau rhwng y DU a'r UE.
Caergybi
Porthladd Caergybi yw'r man mynediad ac ymadael allweddol ar gyfer nwyddau a gludir rhwng y DU a Gweriniaeth Iwerddon. Dyma'r ail borthladd fferi gyrru i mewn ac allan prysuraf yn y DU. Mae'n darparu cyswllt hanfodol yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer busnesau ledled Cymru, y DU ac Iwerddon.
Ar 12 Mawrth 2021 cyhoeddodd Gweinidogion Cymru y penderfyniad i leoli'r safle rheoli ffiniau sy'n gwasanaethu porthladd Caergybi ym Mhlot 9, Parc Cybi, Caergybi. Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar y safle.
Ceisir caniatâd cynllunio drwy Orchymyn Datblygu Statudol o dan adran 59(3) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae cyfnodau o ymgynghori â rhanddeiliaid cyhoeddus a thechnegol bellach wedi cau. Gallwch weld yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Caergybi ar Parc Cybi, Safle Rheoli Ffiniau Caergybi.
Rhagor o wybodaeth:
- Datganiad llafar y Cabinet: Rheolaethau ffiniau 28 Mehefin 2022
- Llywodraeth Cymru Datganiad Ysgrifenedig: Y Diweddaraf am Safleoedd Rheoli Ffin 10 Mawrth 2022
- Llywodraeth Cymru Datganiad Ysgrifenedig: Y diweddaraf am y Seilwaith Rheoli ar y Ffiniau 19 Ionawr 2022
- Llywodraeth Cymru Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddi Lleoliadau Safleoedd Rheoli Ffiniau 12 Mawrth 2021
De-orllewin Cymru
Yn Ne Cymru, bydd angen cyfleusterau BCP ar borthladdoedd Doc Penfro ac Abergwaun i barhau i fewnforio nwyddau penodol.
Mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar eu polisi ynghylch rheolaethau mewnforio a byddant yn sicrhau bod masnach yn parhau i lifo drwy borthladdoedd de-orllewin Cymru.
Byddwn yn parhau i gyhoeddi unrhyw ddiweddariadau ar BCP De-orllewin Cymru ar-lein.
Rhagor o wybodaeth:
Canllawiau: paratoi ar gyfer rhagor o reolaethau ffiniau
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar 28 Ebrill y byddai rhagor o reolaethau mewnforio yn cael eu gohirio ym mis Gorffennaf 2022.
Mae'r rheolaethau a gyflwynwyd yn flaenorol yn parhau yn eu lle. Bydd y trefniadau presennol ar gyfer masnachu o ynys Iwerddon yn parhau.
Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru’r Model Gweithredu Ffiniau i adlewyrchu’r Border Operating Model - GOV.UK.
Ymgynghoriad: Estyn y Cyfnod Graddoli Trosiannol a gofyniad i rag-hysbysu rhai nwyddau a fewnforiwyd drwy borthladdoedd Cymru trwy IPAFFS
Roedd disgwyl i reolaethau ffiniau ar blanhigion, anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ddod i rym ar 1 Ionawr 2023 ond cyhoeddodd Llywodraeth y DU adolygiad radical o drefn ffiniau Prydain Fawr ym mis Ebrill. Edrychwn ymlaen at ddadansoddi casgliadau yn ei Fodel Gweithredu Targed i asesu'r gofynion seilwaith, goblygiadau o ran adnoddau a’r amserlen gyflenwi. Yn y cyfamser mae angen gohirio cyflwyno gwiriadau gan y byddai fel arall yn anghyfreithlon mewnforio'r nwyddau hyn i borthladdoedd Cymru ac eithrio trwy Safleoedd Rheoili Ffin dynodedig - does dim un yng Nghymru ar hyn o bryd.
Yn dilyn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ystyriaeth ofalus o’r ymatebion yr ymgynghoriad, rydym wedi ymestyn y cyfnod graddoli trosiannol tan 31 Ionawr 2024, sy’n golygu oedi o ran cyflwyno rheolaethau SPS a oedd i fod i ddod i rym ar 1 Ionawr 2023. Bydd yr estyniad yn caniatáu i nwyddau iechydol a photoiechydol (SPS) barhau i gyrraedd drwy borthladdoedd Cymru, gan olygu cyn lleied â phosibl o darfu ar fusnesau a mewnforwyr. Bydd hyn hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda llywodraethau eraill y DU i gwblhau a gweithredu'r Model Gweithredu Targed, er mwyn sicrhau system gydlynol, effeithiol, ac effeithlon o reolaethau, gan wella bioddiogelwch a lleihau'r effaith ar fewnforwyr. Mae deddfwriaeth debyg i ymestyn y cyfnod graddoli trosiannol hefyd wedi cael ei chyflwyno yn Lloegr a'r Alban.
O ran y gofyniad i rag-hysbysu trwy IPAFFS, rydym wedi gwrando'n ofalus ar yr adborth, yn enwedig y pryderon a leisiwyd gan randdeiliaid ynghylch yr amser sydd ar gael cyn 1 Ionawr 2023 i baratoi. Rydym felly wedi penderfynu, i ohirio cyflwyno rhagosodiad ar y categorïau hyn o nwyddau SPS tan yn ddiweddarach yn 2023.
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth
- Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Defra yr UE-GB (on confirmsubscription.com)
- Llinell Gymorth Tollau Tramor a Thollau EM - 0300 200 3700
- Ymholiadau Cyffredinol mewnforio ac allforio CThEM (gan gynnwys GVMS) - 0300 322 9434
- Ymholiadau cyffredinol ar-lein CThEM ar gyfer mewnforion ac allforion (ar GOV.UK)
- Mae gan DEFRA linellau cymorth ychwanegol hefyd (ar GOV.UK)