Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Ar ffurf naratif, disgrifiwch y mater a'r camau gweithredu a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Sut rydych wedi cymhwyso / y byddwch yn cymhwyso'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 at y camau gweithredu arfaethedig, drwy gydol y cylch polisi a chyflawni?

Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu math newydd o ganiatâd dros dro i aros yn y DU ar gyfer dioddefwyr caethwasiaeth neu'r fasnach mewn pobl, a elwir yn ‘ganiatâd dros dro i aros’, drwy adran 65 o Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022[1]. Bydd y newid hwn yn sicrhau bod y DU yn cyflawni ei rhwymedigaethau rhyngwladol o dan Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu Pobl (ECAT)[2], yn arbennig sut mae'n berthnasol i'r gwaith o adnabod a chefnogi dioddefwyr. Mae adran 65 o Ddeddf 2022 wedi'i drafftio mewn ffordd debyg i destun Erthygl 14 o ECAT, gyda chaniatâd dros dro i aros ar gael at y dibenion canlynol:

  • helpu'r unigolyn i ddod dros unrhyw niwed corfforol neu seicoleg a achoswyd drwy gam-fanteisio arno;
  • galluogi'r unigolyn i geisio iawndal am fod eraill wedi cam-fanteisio arno, neu
  • galluogi'r ymgeisydd i gydweithredu ag awdurdod lleol mewn cysylltiad ag ymchwiliad neu achos troseddol mewn perthynas â'r cam-fanteisio arno.

Ar hyn o bryd, gall dioddefwyr caethwasiaeth a'r fasnach mewn pobl gael tai a chymorth tai drwy bwerau disgresiynol (caniatâd y tu allan i'r rheolau) a roddir gan y Swyddfa Gartref, gyda llawer yn byw mewn llochesi a mathau tebyg o dai dros dro. Bydd y caniatâd dros dro i aros yn disodli'r defnydd o bwerau disgresiynol ar gyfer dioddefwyr caethwasiaeth a'r fasnach mewn pobl fel bod caniatâd yn cael ei roi o fewn y Rheolau Mewnfudo yn hytrach na'r tu allan iddynt. Mae'r Swyddfa Gartref yn amcangyfrif nad oes gan tua 28% o oedolion sy'n ddioddefwyr unrhyw statws mewnfudo cyn iddynt gael cymorth drwy'r Contract Gofalu am Ddioddefwyr Caethwasiaeth Fodern[3], o dan y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol[4].

Bydd y caniatâd dros dro i aros, y disgwylir iddo ddechrau o 30 Ionawr 2023 ymlaen, yn caniatáu i unigolion aros yn y DU am 30 mis neu am 12 mis yn achos y rhai sy'n ceisio iawndal, ac yn rhoi hawl i'r rhai sy'n cael penderfyniad cadarnhaol ‘Ar Seiliau Terfynol’ gael cyllid cyhoeddus[5] (mae'r hawl i gael cyllid cyhoeddus yn ofyniad statudol ar gyfer cymorth tai). Y tu hwnt i gyfnod y caniatâd dros dro i aros, gall unigolyn wneud cais am estyniad os bydd angen caniatâd arno o hyd i aros yn y DU neu wneud cais am ganiatâd i aros mewn categori arall, os bydd un yn briodol, megis categori sy'n ymwneud â bywyd teuluol neu breifat. Fodd bynnag, os na fydd yr un o'r opsiynau hyn yn gymwys, mae'r Swyddfa Gartref yn disgwyl iddo adael y DU am nad yw'r caniatâd dros dro i aros yn cael ei ystyried yn llwybr at ymsefydlu'n barhaol yn y DU.

Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 [“Rheoliadau 2014”] yn penderfynu ar gymhwystra pobl sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael tai a chymorth tai. Oni chaiff Rheoliadau 2014 eu diwygio, ni fydd pobl sy'n gymwys i gael caniatâd dros dro i aros yn gymwys i gael tai na chymorth tai yng Nghymru.

Os na chaiff Rheoliadau 2014 eu diwygio, gallai niweidio buddiannau grŵp o bobl ag anghenion cymorth sylweddol iawn sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Er bod y Swyddfa Gartref yn caniatáu i ddioddefwyr caethwasiaeth a masnachu mewn pobl gael eu lletya neu gael cynnig cymorth tai y tu allan i'r rheolau ar hyn o bryd, daw hyn i ben o 31 Ionawr 2023 ymlaen ar ôl i'r caniatâd dros dro i aros ddod i rym.

Yn ogystal â'r angen ymarferol i gysoni'r rheolau tai yng Nghymru â'r newidiadau a wnaed i'r Rheolau Mewnfudo gan Lywodraeth y DU, ceir dadleuon cymhellol hefyd o blaid rhoi hawl i ymgeiswyr sy'n ceisio caniatâd dros dro i aros gael tai a chymorth tai yng Nghymru. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang ac fel cenedl noddfa, drwy ei Strategaeth Ryngwladol.

Nid ydym yn rhagweld y bydd y caniatâd dros dro i aros yn rhoi baich ychwanegol ar allu awdurdodau lleol i gynnig llety, am fod gan y categori newydd o bobl hawl i aros dros dro yn y DU ar hyn o bryd. 

Casgliad

Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi helpu i'w ddatblygu?

Am fod y caniatâd dros dro i aros yn deillio o bolisi a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU (mewnfudo), ni fyddai'n bosibl cynnal ymgynghoriad ystyrlon ar ddulliau gweithredu amgen, am mai effaith y cynnig yw cysoni cyfraith tai Cymru a chyfraith mewnfudo.

Pa effeithiau, yn gadarnhaol ac yn negyddol, fu'r rhai mwyaf arwyddocaol?

Effeithiau cadarnhaol

Bydd ymestyn hawliau cymhwystra pobl sy'n dod i Gymru drwy lwybr mewnfudo'r caniatâd dros dro i aros, i gael tai a chymorth tai, yn helpu i ddiogelu'r unigolion hyn rhag y bygythiad o ddigartrefedd a'r effaith niweidiol y gall hynny ei chael ar eu llesiant personol. Bydd y cynnig yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddangos ei dyheadau o ran bod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang a'i hymrwymiad i hawliau dynol ac i hyrwyddo heddwch.

Effeithiau negyddol

Ni fydd y cynnig hwn yn cael unrhyw effeithiau negyddol hirdymor. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod llety digonol a chartrefi tymor hwy ar gael i'r rhai yr effeithir arnynt yn ogystal â'r rhai sydd mewn llety dros dro ac yn ceisio cartrefi priodol a fforddiadwy ar hyn o bryd.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu,
  • yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cartrefi o ansawdd da yw conglfaen cymunedau bywiog a chydlynus ac maent yn darparu sylfaen i unigolion ffynnu ym mhob agwedd ar eu bywydau. Bydd cael tai diogel a fforddiadwy yn sicrhau bod unigolion sy'n agored i niwed yn cael eu diogelu a'u bod yn fwy abl i ffynnu yng Nghymru.

Bydd y newidiadau arfaethedig a gyflawnir drwy'r cynnig hwn yn sicrhau y gall pobl sy'n dod i Gymru drwy lwybr mewnfudo'r caniatâd dros dro i aros geisio tai neu gymorth tai a fydd, yn ei dro, yn eu galluogi i ymsefydlu'n haws a chyfrannu at gyflawni uchelgeisiau'r saith nod llesiant.

Er y gall rhai unigolion gael llety dros dro a ddarperir drwy wasanaethau digartrefedd, mae heriau yn gysylltiedig â'r math hwn o lety ac efallai na fydd yn dod â sefydlogrwydd na diogelwch i fywydau pobl sydd â chaniatâd dros dro i aros, a allai gael budd o opsiwn tymor hwy. Hefyd, efallai na fydd rhai mathau o lety dros dro yn briodol am y gallai olygu byw yn agos at bobl sydd â bywydau di-drefn neu broblemau iechyd meddwl/camddefnyddio sylweddau neu gyda phobl o'r fath. O ystyried y trawma y bydd llawer o bobl â chaniatâd dros dro i aros wedi'i brofi, efallai na fydd llety dros dro a ddarperir drwy wasanaethau digartrefedd yn briodol nac yn ddigonol i rai unigolion. Er y dylid cydnabod nad yw caniatâd dros dro i aros yn llwybr i ymsefydlu'n barhaol yn y DU a bod llety a chymorth arbenigol ar gael yng Nghymru drwy Bawso.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben? 

Caiff y Rheoliadau a gyflwynir o dan y cynnig hwn eu hadolygu'n rheolaidd yn y ffordd arferol. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn monitro unrhyw effeithiau andwyol y cânt eu hysbysu amdanynt gan awdurdodau lleol neu sefydliadau yn y Trydydd Sector sy'n ymdrin â phobl sy'n dod i Gymru drwy lwybr caniatâd dros dro i aros y mae angen tai neu gymorth tai arnynt.

Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant

Rhaid i bob Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant gael ei anfon i flwch post CRIA@gov.wales

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a'i Phrotocolau Dewisol wrth arfer unrhyw un o'u swyddogaethau.

Noder bod gennym Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant sefydledig, sy'n cynnwys swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, UNICEF, Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc a Plant yng Nghymru, y gellir ei ddefnyddio i drafod neu brofi eich Asesiad drafft o'r Effaith ar Hawliau Plant. Cysylltwch â'r Gangen Blant CRIA@gov.wales i gael rhagor o wybodaeth.

Proses Asesu'r Effaith ar Hawliau Plant yw'r mecanwaith y cytunwyd arno y dylai swyddogion ei ddefnyddio er mwyn helpu Gweinidogion i gyflawni'r ddyletswydd hon a sicrhau eu bod yn rhoi ystyriaeth gytbwys i hawliau plant yn eu prosesau gwneud penderfyniadau. Dylid defnyddio Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant i lywio cyngor Gweinidogion a rhaid iddo gael ei gwblhau cyn i benderfyniad Gweinidogol gael ei wneud. Unwaith y bydd penderfyniad wedi'i wneud, rhaid i'ch Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant gael ei gyhoeddi hefyd.

Image
broses Asesu'r Effaith ar Hawliau Plant

 

Am ragor o gyngor ac arweiniad ar broses Asesu'r Effaith ar Hawliau Plant, gweler Llawlyfr i Staff ar Hawliau Plant neu cysylltwch â'r Gangen Blant CRIA@gov.wales

  1. Amcanion polisi
  • Effaith pa benderfyniad sy'n cael ei hasesu gennych?

Mae a wnelo'r penderfyniad perthnasol â diwygio rheoliadau cymhwystra er mwyn galluogi pobl sy'n gymwys i gael caniatâd dros dro i aros am eu bod wedi profi caethwasiaeth neu fasnachu mewn pobl gael tai a chymorth tai. Mae cynnig i ddiwygio cyfraith tai yng Nghymru yn adlewyrchu'r angen i sicrhau cydymffurfiaeth â mater polisi a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU (mewnfudo).

  1. Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
  • Pa waith ymchwil a data ar blant a phobl ifanc sydd eisoes ar gael i lywio eich polisi penodol? Mae'n bosibl y bydd eich amcan polisi yn effeithio ar feysydd polisi eraill – bydd trafodaethau â thimau polisi eraill yn rhan bwysig o'r broses asesu effaith gan sicrhau eich bod wedi casglu amrywiaeth o wybodaeth a thystiolaeth.
  • Gan ddefnyddio’r gwaith ymchwil hwn, sut rydych yn rhagweld y bydd eich polisi yn effeithio ar grwpiau gwahanol[6] o blant a phobl ifanc, yn gadarnhaol ac yn negyddol? Cofiwch y gall polisïau sy'n canolbwyntio ar oedolion effeithio ar blant a phobl ifanc hefyd.
  • Pa waith cyfranogol gyda phlant a phobl ifanc rydych wedi'i ddefnyddio i lywio eich polisi? Os nad ydych wedi ymgysylltu â phlant na phobl ifanc, esboniwch pam.[7]

I gael cyngor ar waith cyfranogol gyda phlant a phobl ifanc, cysylltwch â'r Gangen Blant. Mae gennym gydberthynas sefydledig â Plant yng Nghymru, a allai eich helpu i weithio gyda phlant a phobl ifanc drwy ei raglen Cymru Ifanc.

Prin yw'r data ar blant a phobl ifanc y bydd y cynnig yn effeithio arnynt. Dim ond ar nifer bychan yn unig y bydd yn effeithio yn y DU ac mae'n bosibl na fydd yn effeithio ar ddim un yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd y cynnig yn sicrhau bod teuluoedd plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn gymwys i gael tai. O ystyried y nifer bach o blant a phobl ifanc yr effeithir arnynt ac am fod y polisi sy'n sail i'r cynnig yn fater a gedwir yn ôl, ni fwriedir gwneud unrhyw waith cyfranogol gyda phlant na phobl ifanc.

  1. Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith
  • Gan ddefnyddio'r dystiolaeth rydych wedi'i chasglu, pa effaith y mae eich polisi yn debygol o'i chael ar blant a phobl ifanc? Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i liniaru a/neu leihau unrhyw effeithiau negyddol?

Bydd y diwygiadau yn ei gwneud yn haws i deuluoedd sy'n cyrraedd Cymru y rhoddwyd caniatâd dros dro i aros iddynt, gael tenantiaeth a symud rhwng eiddo. Drwy allu symud yn haws i mewn i'r sector tai cymdeithasol ac o fewn y sector hwnnw, efallai y bydd rhieni yn fwy abl i ganfod a sicrhau eiddo sy'n ddigonol i ddiwallu eu hanghenion nhw ac anghenion eu teulu yn gyffredinol. Bydd y ffactorau a ystyrir ganddynt wrth symud yn cynnwys mynediad at amgylchedd glân a diogel, yn ogystal â sicrhau bod safon byw yn eu heiddo newydd yn ddigon da i ddiwallu anghenion corfforol a meddyliol y teulu cyfan.

Mae'n bosibl y bydd rhai teuluoedd sy'n cael budd o'r Rheoliadau yn cynnwys plant sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod neu sydd wedi bod yn byw mewn tlodi. Dylai symleiddio'r dull i deuluoedd plant ddod yn gymwys i gael tai a chymorth tai gael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.

  • Sut y bydd eich cynnig yn gwella neu'n herio hawliau plant, fel y'u nodir gan erthyglau CCUHP a'i Brotocolau Dewisol? Edrychwch ar yr erthyglau i weld pa rai sy'n gymwys i'ch polisi eich hun.
Sut y bydd eich cynnig yn gwella neu'n herio hawliau plant

Erthyglau neu Brotocolau Dewisol CCUHP

Yn gwella (X)

Yn herio  (X)

Esboniad

Erthygl 24 (Iechyd a gwasanaethau iechyd): Mae gan blant yr hawl i gael gofal iechyd o ansawdd da - y gofal iechyd gorau posibl - ac i ddŵr glân, bwyd maethlon, amgylchedd glân a diogel a gwybodaeth i'w helpu i gadw’n iach. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.

X

 

Drwy roi'r hawl i deuluoedd plant wneud cais am dai a chymorth tai, gall y plant hynny fyw mewn amgylchedd diogel.

 

Erthygl 27 (Safon byw ddigonol): Mae gan blant yr hawl i safon byw sy’n ddigon da i ddiwallu eu hanghenion corfforol a meddyliol. Dylai llywodraethau helpu rhieni a gwarcheidwaid na allant fforddio darparu hyn, yn arbennig mewn perthynas â bwyd, dillad a thai.

X

 

Bydd y cynnig yn ei gwneud yn haws i blant sydd wedi'u cynnwys yn y Rheoliadau hyn gael cymorth i ddod o hyd i gartref yng Nghymru a byw ynddo. Gyda'r hawliau a ddarperir gan y cynnig, byddant yn gallu cael bywyd o ansawdd gwell na fyddai, fel arall, wedi bod yn bosibl.

 

  • Ystyriwch a oes unrhyw hawliau sydd gan Ddinasyddion yr UE (fel y cyfeirir atynt yn yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb) yn ymwneud â phobl ifanc hyd at 18 oed.

Ddim yn gymwys.

I gael rhagor o wybodaeth am CCUHP a'i Brotocolau Dewisol, ewch i'r Dudalen ar Hawliau Plant ar y fewnrwyd.

  1. Cyngor a phenderfyniad gweinidogol
  • Sut y bydd eich dadansoddiad o'r effeithiau yn llywio eich cyngor gweinidogol?

Caiff y dadansoddiad yn yr asesiad hwn ei adlewyrchu yn y cyngor a ddilynir gan y Gweinidog wrth gyflwyno'r rheoliadau diwygio hyn.

  1. Cyhoeddi'r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant

Cyhoeddir yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant ar wefan Llywodraeth Cymru ynghyd â'r Asesiad Effaith Integredig.

I gael rhagor o wybodaeth a chymorth ar y broses hon, ewch i'r Dudalen ar Hawliau Plant ar y Fewnrwyd sy'n cynnwys amrywiaeth o adnoddau.

  1. Cyfathrebu â Phlant a Phobl Ifanc
  • Os ydych wedi ceisio barn plant a phobl ar eich cynnig, sut y byddwch yn eu hysbysu am y canlyniad.

Gan fod y caniatâd dros dro i aros yn deillio o bolisi a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU (mewnfudo), ni fyddai'n bosibl cynnal ymgynghoriad ystyrlon ar ddulliau gweithredu amgen, am mai effaith y cynnig yw cysoni cyfraith tai Cymru a chyfraith mewnfudo.

Os bydd eich polisi yn effeithio ar blant a phobl ifanc, cofiwch lunio fersiynau addas i blant o unrhyw ddogfen gyhoeddus sy'n ymwneud â'ch cynnig. Cysylltwch â'r Gangen Blant i gael rhagor o gyngor.

  1. Monitro ac Adolygu

Mae'n hanfodol ailedrych ar eich Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant i weld a gafodd cynigion yr effeithiau a nodwyd gennych yn wreiddiol ac a oedd unrhyw ganlyniadau anfwriadol.

Pan fyddwch yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth, ni fydd yn ddigon dibynnu ar yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol; bydd angen ichi ddiweddaru'r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant er mwyn ystyried sut y gallai manylion y cynigion yn y rheoliadau neu'r canllawiau effeithio ar blant.

Gall yr arweinydd polisi ailedrych ar y fersiwn gyhoeddedig o'i Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant, ei ailenwi fel adolygiad o'r Asesiad gwreiddiol o'r Effaith ar Hawliau Plan a diweddaru'r dystiolaeth o'r effaith. Dylid cyflwyno'r asesiad effaith a adolygwyd i Weinidogion gydag unrhyw gynigion i ddiwygio'r polisi, yr arfer neu'r canllawiau. Dylid cyhoeddi'r fersiwn wedi'i hadolygu hon o'r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant hefyd.

  • Nodwch pa fecanwaith monitro ac adolygu y byddwch yn ei roi ar waith er mwyn adolygu'r Asesiad hwn o'r Effaith ar Hawliau Plant. 
  • Yn dilyn yr adolygiad hwn, a oes unrhyw ddiwygiadau sydd angen eu gwneud i'r polisi neu'r ffordd y caiff ei roi ar waith.

Am fod y caniatâd dros dro i aros yn deillio o bolisi a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU (mewnfudo) ni fydd yn bosibl diwygio'r polisi na'r ffordd y caiff ei roi ar waith mewn unrhyw ffordd ystyrlon am mai'r bwriad fydd cysoni cyfraith tai Cymru a chyfraith mewnfudo. Fodd bynnag, byddwn yn ymgysylltu â chydweithwyr yn y Swyddfa Gartref os byddwn yn dod yn ymwybodol o ganlyniadau anfwriadol posibl sy'n niweidiol i blant a phobl ifanc.

[1] Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 (legislation.gov.uk)

[2] Rhestr lawn (coe.int)

[3] modern slavery statutory guidance, non statutory guidance v2.11 (publishing.service.gov.uk)

[4] National referral mechanism guidance: adult (England and Wales) - GOV.UK (www.gov.uk) - y fframwaith ar gyfer adnabod ac atgyfeirio dioddefwyr posibl caethwasiaeth a sicrhau eu bod yn cael y cymorth priodol

[5] Ystyr “penderfyniad cadarnhaol ar seiliau terfynol” yw penderfyniad a wneir gan awdurdod cymwys (sef cyrff y Swyddfa Gartref) fod unigolyn yn ddioddefwr caethwasiaeth neu'r fasnach mewn pobl.

[6]Gallwch ystyried, er enghraifft, sut y byddai eich polisi yn effeithio ar y grwpiau canlynol o blant a phobl ifanc mewn ffyrdd gwahanol: blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd, oedolion ifanc; plant ag anghenion dysgu ychwanegol; plant anabl; plant sy'n byw mewn tlodi; plant Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol; Sipsiwn, Roma a Theithwyr; mudwyr; ceiswyr lloches; ffoaduriaid; siaradwyr Cymraeg; plant sydd â phrofiad o ofal; plant LHDTC+. Noder nad yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr ac, yn y carfanau hyn, na fydd un profiad homogenaidd.

[7] Mae Erthygl 12 o CCUHP yn nodi bod gan blant hawl i fynegi eu barn, yn enwedig pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ac i’w barn gael ei hystyried.