Neidio i'r prif gynnwy

Canfyddiad a phrofiadau dysgwyr, eu teuluoedd ac ymarferwyr ysgol o’r calendr ysgol presennol yng Nghymru.

Prif ganfyddiadau

Ym marn ymarferwyr, rhieni a dysgwyr, mae’r gwyliau o 6 wythnos yn achosi colled dysgu i bob dysgwr. Ychydig iawn o effaith barhaol sydd i’r golled hon gydag adferiad yn digwydd yn fuan ar ôl cychwyn tymor yr Hydref.

Roedd staff a rhieni yn pwysleisio mai ar ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol mae’r calendr ysgol presennol yn effeithio fwyaf.

Grŵp arall yr effeithir yn fwy arnynt o safbwynt cynnydd a chyrhaeddiad yw’r rheini sydd o gefndiroedd difreintiedig yn gymdeithasol ac economaidd.

Mae’r rhan fwyaf o gynnwys addysgu yn cael ei gyflwyno yn nhymor yr Hydref, gan mai dyma’r tymor hiraf yn gyson. Mae hyn yn amlwg i ddysgwyr eu hunain a ddywedodd ei fod yn cynyddu lefelau blinder.

O safbwynt yr uwch dimau arwain mewn ysgolion uwchradd, mae’r gwyliau haf 6-wythnos yn hanfodol er mwyn caniatáu seibiant i ddysgwyr mewn blynyddoedd arholiadau (blwyddyn 10+) ac felly i gynnal cyfradd cynnydd dysgwyr drwy gydol y flwyddyn.

Mae anghysondeb mewn hyd tymhorau yn cynyddu lefelau blinder ar bwyntiau penodol o’r flwyddyn ac yn effeithio ar agwedd at ddysgu ar bwyntiau allweddol megis diwedd tymhorau’r hydref a’r haf.

Roedd yn cael ei dderbyn yn helaeth ymysg pawb o’r staff y bydd cychwyn unrhyw gyfnod gwyliau yn eu gweld yn dioddef gyda salwch. Yn ystod cyfnodau o hanner tymor hirach mae mwy o achosion o salwch staff yn ystod y tymor.

Y farn yw nad yw’r gwyliau byrraf yn cael fawr o effaith o ran mynd i’r afael â lefelau o flinder a llesiant, gyda dwy wythnos yn cael eu hystyried yn fwy buddiol gan un.

Wrth i flinder gynyddu, mae digwyddiadau o ymddygiad sy’n tarfu ar eraill hefyd yn cynyddu, (waeth beth fo’r adeg o’r flwyddyn) yn ôl staff ym mhob ysgol.

Mae ffactorau sy’n cyfrannu at broblemau ymddygiad yn cynnwys tarfu ar drefniadau arferol yn ôl staff a rhieni, blinder yn ôl rhieni a dysgwyr, diflastod yn ôl rhieni, ansawdd bywyd cartref yn ôl staff a thywydd a thymor yn ôl staff a dysgwyr.

Mae staff addysgu wedi adrodd nad yw’r calendr ysgol yn cael fawr o effaith gweladwy ar y pontio o ysgol gynradd i ysgol uwchradd. Caiff gwyliau’r haf eu gweld gan staff fel gwyliau sydd wedi eu diffinio’n glir rhwng prif gyfnodau addysg i ddysgwyr. Gwnaed rhai cysylltiadau rhwng gwyliau hir yr haf a phryder dysgwyr ynghylch y pontio i ysgol uwchradd.

Roedd dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu gweld fel rhai sydd mewn risg penodol oherwydd y cyfuniad o orbryder a heriau ynghylch pontio, yn ogystal â’r heriau eraill mae gwyliau’r haf yn eu hachosi i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Adroddiadau

Diwygio’r flwyddyn ysgol: canfyddiad a phrofiadau o’r calendr ysgol presennol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 793 KB

PDF
793 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Archwilio diwygio’r flwyddyn ysgol (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 204 KB

PDF
204 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Jody Mellor

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.