Adolygiad atodol o lenyddiaeth a chyfweliadau ar draws y DU i ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth ar gyfer diwygio'r calendr ysgol.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Effaith newidiadau i'r flwyddyn ysgol a chalendrau ysgol amgen
Mae'r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau adolygiad wedi'i ddiweddaru o'r sylfaen dystiolaeth sy'n edrych ar newidiadau i galendr yr ysgol, ac yn cynnwys canfyddiadau cyfweliadau â rhanddeiliaid mewn awdurdodau lleol lle gwnaed newidiadau.
Mae'r adroddiad yn crynhoi'r effaith y gallai'r flwyddyn ysgol bresennol ei chael ar bresenoldeb myfyrwyr, lles a cholli dysgu. Mae hefyd yn rhoi trosolwg o'r newidiadau a wnaed mewn naw awdurdod lleol ledled Lloegr a'r Alban, a'r broses ymgynghori sy'n gysylltiedig â'r newidiadau hyn.
