Neidio i'r prif gynnwy

Ein cynlluniau i greu Senedd fwy effeithiol a chynrychiadol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn nodi ein cynlluniau i greu Senedd Cymru sy’n gallu gwasanaethu pobl Cymru yn well.

Mae’r Bil yn dangos sut y mae rôl a chyfrifoldebau’r Senedd wedi newid ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru agor ei ddrysau am y tro cyntaf ym 1999.

Bellach, gall y Senedd wneud deddfau a gosod trethi Cymreig – dyma benderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pawb yng Nghymru.

Ond er bod cyfrifoldebau’r Senedd wedi cynyddu, nid yw ei haelodaeth wedi cynyddu.

Mae’n parhau i fod yn llawer llai na Senedd yr Alban, sydd â 129 o aelodau, a Chynulliad Gogledd Iwerddon sydd â 90 o aelodau.

Bydd y Bil yn cryfhau democratiaeth yng Nghymru.

Newidiadau arfaethedig

Mae’r cynigion allweddol ym Mil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cynnwys:

  • Cynyddu maint y Senedd i 96 o Aelodau.
  • Newid y system etholiadol i un sydd wedi’i seilio’n llwyr ar egwyddor cynrychiolaeth gyfrannol. O etholiad y Senedd 2026, bydd fformiwla D’Hondt yn cael ei ddefnyddio (mae’r fformiwla hwn wedi bod yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ar Aelodau rhestr rhanbarthol y Senedd).
  • Creu 16 o etholaethau newydd ar gyfer y Senedd, a fydd yn cael eu creu drwy baru’r 32 o etholaethau newydd Senedd y DU ar gyfer etholiad y Senedd 2026.
  • Bydd chwe Aelod yn cael eu hethol, o restrau caeedig, ym mhob un o’r 16 o etholaethau.
  • Cynyddu’r terfyn o ran nifer Gweinidogion Cymru y gellir eu penodi o 12 i 17 (ynghyd â’r Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol). Bydd gan Weinidogion Cymru’r gallu i gynyddu’r nifer ymhellach i 18 neu 19, ond dim ond gyda chymeradwyaeth y Senedd.
  • Rhoi’r hyblygrwydd i Aelodau’r Senedd ethol ail Ddirprwy Lywydd.
  • Ei gwneud yn gyfraith bod pob ymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Senedd yn gorfod byw yng Nghymru.

O 2026 ymlaen, cynnal etholiadau’r Senedd bob pedair blynedd.

Mae’r Bil yn seiliedig ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd. Cafodd yr argymhellion hyn eu cefnogi gan fwyafrif o Aelodau o’r Senedd (ym mis Mehefin 2022).

Mae diwygio’r Senedd yn un o flaenoriaethau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith yn cael ei gynnal ar y cyd â Phlaid Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio.

Llinell amser

Y camau nesaf

  • Bydd Aelodau o’r Senedd yn craffu ar fanylion y Bil, a osodwyd gerbron y Senedd ar 18 Medi 2023, cyn mynd ymlaen yn y pen draw i bleidleisio i’w gefnogi ai peidio.
  • Bydd y Bil angen uwchfwyafrif (40 o’r 60 o Aelodau o’r Senedd) er mwyn ei basio.
  • Os caiff y Bil ei basio, bydd y newidiadau yn dod i rym o etholiadau’r Senedd yn 2026 ymlaen.
  • Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd Bil arall yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru, yn nodi cynlluniau i gyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd. Nod hyn fydd gwneud y Senedd yn fwy effeithiol ac yn fwy cynrychiadol.

Gwybodaeth bellach