Neidio i'r prif gynnwy

Os cawsoch eich geni rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, efallai bod arian ar gael ichi o gyfrif cynilo anghofiedig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ynglŷn â'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y Llywodraeth yn darparu arian i ddechrau cyfrif cynilo. Y bwriad oedd helpu teuluoedd i arbed arian ar gyfer eu plentyn i fod ar gael iddo pan fyddai'n oedolyn. Gallai rhieni, gwarcheidwaid, teulu a ffrindiau hefyd ychwanegu at y gronfa dros y blynyddoedd.

Mae'r arian mewn Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn perthyn i chi, a gallwch gymryd rheolaeth ohono yn 16 oed, a chael mynediad llawn yn 18 oed. Eich dewis chi yw penderfynu sut i ddefnyddio'r arian. Eich arian chi yw hwn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gafael arno, yn ei ddefnyddio, ac yn gwneud iddo gyfrif. Gallai arian heb ei hawlio fod yn hwb ichi wrth ddechrau eich bywyd fel oedolyn. Gweithredwch nawr a dywedwch wrth eraill, fel bod pob person ifanc yn cael gafael ar eu cyfrif.

Faint allai fod yn aros amdanoch chi?

Mae'n dibynnu ar faint a ychwanegwyd i'r cyfrif yn y lle cyntaf. Rhoddodd y llywodraeth £250 neu £500 a chafodd rhai plant o deuluoedd incwm is arian ychwanegol.

Os cawsoch eich geni yng Nghymru, efallai bod taliad ychwanegol wedi'i wneud. Mae cannoedd neu filoedd o bunnoedd mewn rhai cyfrifon erbyn hyn oherwydd y llog a dalwyd.

Dod o hyd i'ch Cronfa Ymddiriedolaeth Plant a chael gafael ar yr arian

  1. Defnyddiwch adnodd Dod o hyd i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant ar GOV.UK.
  2. Llenwch y ffurflen ar-lein gan roi eich manylion. Os ydych yn rhiant neu'n warcheidwad i rywun sydd â chyfrif, bydd angen ichi ddarparu gwybodaeth eich plentyn, gan gynnwys eu Rhif Yswiriant Gwladol.
  3. Bydd CThEF yn chwilio am eu cofnodion ac yn rhoi gwybod ichi pa ddarparwr sy'n rheoli'r gronfa.
  4. Os ydych yn 16 oed, cewch reoli'r cyfrif, ac yn 18 oed cewch ei drosglwyddo neu gael mynediad ato.
  5. Os oes angen help neu gyngor arnoch i ddod o hyd i'ch Cronfa Ymddiriedolaeth Plant neu os hoffech siarad â rhywun amdano, cysylltwch â meiccymru.

Atebion i'ch cwestiynau

Pam mae yna Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant heb eu hawlio?

Efallai bod rhai teuluoedd wedi colli cysylltiad â'r cyfrif neu wedi anghofio amdano. Nid yw rhai pobl yn sylweddoli bod gan eu plentyn gronfa oherwydd efallai bod y llywodraeth wedi ei hagor ar eu rhan.

Efallai bod yna lawer o oedolion ifanc, felly, yn anymwybodol bod arian yn aros amdanynt.

Beth os nad wyf yn gwybod a oes gen i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant?

Os cawsoch eich geni yn y cyfnod cywir, ond heb gael unrhyw ffurflenni erioed, neu os ydych wedi colli eich manylion, peidiwch â phoeni. Gallwch wirio gyda CThEF. Rhowch eich rhif Yswiriant Gwladol a'ch dyddiad geni iddynt gan ddefnyddio eu hadnodd ar-lein.

Byddwch ar eich gwyliadwriaeth rhag hysbysebion ar-lein sy'n cynnig cymorth i ddod o hyd i Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant. Gallwch gael mynediad at Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant a gollwyd yn rhad ac am ddim. Bydd yr adnodd am ddim ar GOV.UK yn eich helpu i ddod o hyd iddynt; nid oes angen talu unrhyw un i helpu.

Beth sy'n digwydd os na chaiff Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ei hawlio?

Mae'r arian yn parhau i fod yn ddiogel ac yn parhau i dyfu'n ddi-dreth nes bod deiliad y cyfrif yn ei hawlio. Nid oes terfyn amser na chosb am oedi cyn i'r deiliad ei hawlio. Y cynharaf y byddwch yn hawlio, y cynharaf y gallwch ddewis ble i ailfuddsoddi'r arian neu ei ddefnyddio.

Alla i drosglwyddo fy Nghronfa Ymddiriedolaeth Plant i gyfrif arall?

Gallwch. Mae llawer o bobl ifanc yn symud eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i ISA i Bobl Ifanc neu gyfrif cynilo oedolion. Bydd hyn yn rhoi cyfraddau gwell a mwy o ddewisiadau ichi. Gall eich darparwr eich arwain drwy'r broses.

Beth os nad yw fy narparwr yn bodoli mwyach?

Mae eich arian yn aros yn ddiogel, hyd yn oed os yw cwmni'r gronfa yn newid ei enw neu'n cau. Bydd CThEF yn eich helpu i ddod o hyd i'ch cyfrif.

Sut galla i ddefnyddio'r arian?

Gallwch ddefnyddio'r arian ar gyfer addysg, hyfforddiant am swydd, teithio, dechrau busnes, neu gynilo. Dewiswch beth sydd orau i chi a'i wario'n dda.

Sut gallwch chi helpu eraill i ddod o hyd i'w harian

Yn achos llawer o ddeiliaid Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, nid ydynt yn sylweddoli bod ganddynt gyfrif. Gall rhieni, athrawon, a gweithwyr ieuenctid chwarae rôl wrth godi ymwybyddiaeth. Soniwch am Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant mewn gwasanaethau ysgol, grwpiau ieuenctid, a digwyddiadau cymunedol. Gall cyflogwyr atgoffa staff ifanc cymwys mewn cylchlythyrau. 

A fydd yr arbedion hyn yn effeithio ar fy mudd-daliadau?

Ni fydd arbedion o dan £6,000 yn effeithio ar eich dyraniadau Credyd Cynhwysol. Cysylltwch ag Advicelink Cymru ar 0800 702 2020 i siarad â chynghorydd hyfforddedig am eich amgylchiadau. Byddant yn eich helpu drwy roi cyngor ar eich union sefyllfa.

Rwy'n rhan o sefydliad sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, a hoffwn rannu gwybodaeth gyda nhw. 

Gawn ni eich annog i ddechrau'r sgwrs ac atgoffa pobl ifanc yn rheolaidd? Mae templedi cyfathrebu ar gael ichi eu rhannu â phobl ifanc. 

Ieithoedd eraill

Gallwch weld cynnwys mewn ieithoedd eraill drwy ddefnyddio cyfieithu awtomatig gan Google Translate.

Darperir Google Translate i helpu defnyddwyr, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnwys na chywirdeb gwefannau allanol.