Mae'r adroddiad yn cwmpasu pob presgripsiwn a weinyddwyd gan fferyllwyr cymunedol (gan gynnwys fferyllfeydd mewn archfarchnadoedd) yn ystod 2017.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Dosbarthu presgripsiynau yn y gymuned

Prif bwyntiau
- Bu cynnydd yn nifer yr eitemau o bresgripsiynau a weinyddwyd yn y gymuned o 80.3 miliwn yn 2016 i 80.4 miliwn yn 2017 (cynnydd o 0.2%), cyfwerth â 25.8 o eitemau fesul pen.
- Cost net cynhwysion pob presgripsiwn a weinyddwyd yn y gymuned yn 2017 oedd £578.1 miliwn, yn debyg iawn i’r gost yn 2016.
- Dosbarthodd Cymru'r nifer uchaf o eitemau ar bresgripsiwn i bob person o’r boblogaeth - 25.8 o'i gymharu â 22.3 yng Ngogledd Iwerddon, 20.0 yn Lloegr ac 19.2 yn yr Alban.
- Meddyginiaethau ar gyfer trin y system gardiofasgwlaidd yw’r grŵp mwyaf o ran eitemau presgripsiwn (23.5 miliwn), ond meddyginiaethau ar gyfer trin y system nerfol ganolog yw’r grŵp mwyaf o ran y gost (£123.9 miliwn).
- Ar draws holl benodau British National Formulary (BNF), Omeprazole oedd y cemegol ragnodir yn fwyaf aml gyda 2.6 miliwn eitemau wedi’u dosbarthu yn 2017.
Nodyn
Yn ychwanegol i’r ystadegau blynyddol yma, cyhoeddir data misol gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Adroddiadau
Dosbarthu presgripsiynau yn y gymuned, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 964 KB
Nodiadau esboniadol ar gyfer y dadansoddiad o gostau presgripsiynau , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 206 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Dadansoddiad o gostau presgripsiynau: paratoadau unigol, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 2 MB
Dadansoddiad o gostau presgripsiynau: cyfansymiau data, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 787 KB
Dadansoddiad o gostau presgripsiynau: data cryno, 2000-2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 500 KB
Dadansoddiad o gostau presgripsiynau: paratoadau unigol, 2000-2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 26 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
