Dr Marc Penny Dirprwy Gadeirydd
Mae Dr Marc Penny yn arweinydd profiadol ym maes rhagoriaeth weithredol, trawsnewid busnes ac arloesedd, sy'n meddu ar dros 25 mlynedd o brofiad o fewn sefydliadau cyhoeddus, preifat a nid-er-elw.
Mae wedi arwain rhaglenni trawsnewid cymhleth sy'n gwella perfformiad sefydliadol, sy'n cyflawni newid cynaliadwy ac sy'n gwella canlyniadau i'r cymunedau mae'r gwasanaethau yn eu cefnogi.
Mae Marc yn byw ac yn gweithio ledled Cymru, ac ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Anweithredol yng Nghymdeithas Tai Caredig, lle mae'n cyfrannu at waith goruchwylio strategol, gweithlu a pherfformiad sefydliadol. Ochr yn ochr â'i yrfa broffesiynol, mae'n cymryd rhan weithredol yn y sector gwirfoddol ledled Cymru. Mae'n Gadeirydd ac Ymddiriedolwr Brynawel Rehabilitation, elusen flaenllaw ym maes adsefydlu cleifion mewn cyfleusterau preswyl , ac mae hefyd yn cefnogi Ambiwlans Sant Ioan Cymru fel Ymddiriedolwr.
Mae Marc yn angerddol dros wasanaethu'r cyhoedd ac mae wedi ymrwymo i wella canlyniadau i'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.
