Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae'r pecyn cymorth hwn wedi'i gynllunio ar gyfer unrhyw weithiwr proffesiynol sy'n gweithio mewn lleoliad ysgol ledled Cymru, yn ogystal â llywodraethwyr a rhieni neu ofalwyr dysgwyr. 

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn faterion difrifol, cymhleth a sensitif sydd â goblygiadau eang i blant a phobl ifanc ledled Cymru a'r lleoliadau addysg y maent yn eu mynychu.

Y ddeddfwriaeth a pholisi yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r diffiniadau canlynol yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (y Ddeddf). 

Cam-drin domestig yw cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol lle mae cysylltiad rhwng y dioddefwr a'r sawl sy'n cam-drin, neu lle mae cysylltiad o'r fath wedi bod. 

Trais ar sail rhywedd yw trais, bygythiadau o drais neu aflonyddu sy’n deillio'n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o werthoedd, credoau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. 

Trais rhywiol, mae'n cynnwys camfanteisio rhywiol, aflonyddu rhywiol, neu fygythiadau o drais o natur rywiol. 

Mae'n bwysig nodi bod cam-drin emosiynol a rheolaeth orfodol yn elfen gyffredin ym mhob math o gamdriniaeth. Mae'r Ddeddf yn canolbwyntio ar sut y gall Gweinidogion Cymru a'r sector cyhoeddus yng Nghymru atal niwed rhag digwydd, amddiffyn y rhai sydd wedi ei cael niwed o'r fath, a chefnogi'r rhai yr effeithir arnynt. 

Cyflwynodd Strategaeth VAWDASV Genedlaethol 2022 i 2026 chwe amcan i hyrwyddo dibenion y Ddeddf ymhellach. Amcan 2 yw:

cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a'u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ledled Cymru i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad at gymorth amserol a phriodol lle bynnag y maent, gan gynnwys mewn lleoliadau addysg. Mae'n bwysig cofio bod plant bellach yn cael eu cydnabod yn y gyfraith fel dioddefwyr cam-drin domestig yn eu hawl eu hunain, yn dilyn gweithredu Aadran 3 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021, a ddaeth i rym ar 31 Ionawr 2022. Mae'r ddarpariaeth gyfreithiol hon yn nodi bod plentyn o dan 18 oed sy'n gweld, yn clywed neu'n profi effeithiau cam-drin domestig, i'w ystyried fel dioddefwr.

Mae canllawiau gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn tynnu sylw at hynny, ac nid oes rhaid iddynt fod yn bresennol yn gorfforol yn ystod y digwyddiad. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn sicrhau bod gan blant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig hawl i gefnogaeth a bod yn ddiogel, a bod eu profiadau yn cael eu hystyried o fewn prosesau diogelu a chyfiawnder. Mae gan leoliadau addysg rôl hanfodol o ran nodi ac ymateb i'r effeithiau hyn gyda sensitifrwydd a gofal. 

Nifer yr achosion o VAWDASV a'r effaith ar blant a phobl ifanc

Yn anffodus, mae nifer sylweddol o blant a phobl ifanc mewn lleoliadau addysg yn profi trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a/neu drais rhywiol ar hyn o bryd, neu wedi cael profiad ohono . Er bod pob profiad yn unigryw, gall effaith cam-drin neu drawma fod yn ddwfn ac yn hirhoedlog, yn enwedig pan fydd yn digwydd yn ystod plentyndod. Gall cael eich amlygu i Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs), megis cam-drin domestig, effeithio ar bob agwedd ar fywyd person ifanc, gan gynnwys eu lles emosiynol, a'u gallu i ffurfio perthynas iach ac ymgysylltu ag addysg.

Mae tystiolaeth ddiweddar yn tynnu sylw at ba mor fawr yw'r broblem. Yn 2024, adroddodd y Gronfa Gwaddol Ieuenctid fod 33% o bobl ifanc 13 i 17 oed wedi dod ar draws cynnwys ar-lein sy'n hyrwyddo trais yn erbyn menywod a merched. Cofnododd data'r heddlu o Gymru a Lloegr dros 1 miliwn o droseddau treisgar yn erbyn menywod a merched yn 2022 i 2023, cynnydd o 37% ers 2018.

Nid lleoedd dysgu yn unig yw ysgolion, maent hefyd yn rhywle lle mae plant a phobl ifanc yn ffurfio perthynas, yn datblygu arferion sy'n gymdeithasol normal, ac yn dechrau deall beth yw ymddygiad derbyniol a pharchus. Fodd bynnag, mae ymchwil wedi dangos bod llawer o ddysgwyr yn gweld ymddygiadau niweidiol yn rheolaidd i yn y lleoliadau hyn. Canfu adolygiad Ofsted yn 2021, bod aflonyddu a cham-drin rhywiol yn digwydd ar raddfa eang mewn ysgolion a cholegau, sy'n aml cael eu gweld gan ddysgwyr fel rhan arferol o fywyd bob dydd. Mae adroddiad Estyn yn ategu hyn, gan nodi bod tua hanner yr holl ddisgyblion yn dweud bod ganddynt brofiad personol o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, a thri chwarter o'r rheini yn  dweud eu bod wedi ei weld yn digwydd i ddisgyblion eraill. Mae adroddiad Estyn, 'Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon', yn tynnu sylw at y profiadau o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion ymhlith disgyblion uwchradd yng Nghymru.

Yn aml, fodd bynnag, gall ysgolion ddarparu amgylchedd sydd mewn rhai achosion yn teimlo'n fwy diogel na'r cartref, ac yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddatgelu eu profiadau o gam-drin neu drais gartref. Mae ysgolion mewn sefyllfa unigryw i roi esiampl o berthynas parchus a darparu amgylchedd diogel lle gall plant, pobl ifanc, a'u teuluoedd geisio cyngor a chefnogaeth. Mae plant a phobl ifanc yn treulio rhan mor sylweddol o'u bywydau yn yr ysgol, ac mae lleoliadau addysg felly'n hanfodol wrth nodi niwed a heriau posibl ac atal cam-drin cyn iddo waethygu. 

Gall cam-drin domestig effeithio ar blant a phobl ifanc mewn ffyrdd hynod bersonol a pharhaol. Yn ôl Refuge, mae 1 o bob 5 o blant yn y Deyrnas Unedig wedi byw mewn cartref lle roedd oedolyn yn gyfrifol am gam-drin domestig. Gall y profiadau hyn siapio eu datblygiad emosiynol, eu hymdeimlad o ddiogelwch, a'u gallu i ymddiried mewn pobl eraill.

Gall trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gael ei atal, nid yw'n anochel.

Themâu neu heriau sy'n dod i'r amlwg

Gellir diweddaru'r adran hon o bryd i'w gilydd i adlewyrchu themâu a materion sy'n dod i'r amlwg y gallai ysgolion ddymuno eu harchwilio ymhellach. 

Misogynedd ac aflonyddu ar sail rhywedd

Mae ysgolion yn wynebu ystod o heriau, gan gynnwys cynnydd mewn iaith a stereoteipiau misogynistaidd ymhlith myfyrwyr sy'n effeithio ar eu hagwedd ac yn pharhau â stereoteipiau rhywedd niweidiol. 

Misogynedd yw'r term a ddefnyddir i ddiffinio casineb a rhagfarn yn erbyn menywod a merched, sy'n aml wedi'i wreiddio yn y gred bod dynion yn rhagori. Gall yr agweddau niweidiol hyn ddod i'r amlwg mewn gwahanol ffyrdd, yn gorfforol, ar lafar, yn emosiynol, neu trwy gam-drin cyfoedion. Mewn ysgolion, gallai hyn gynnwys defnydd achlysurol o iaith rywiol neu iaith sy'n diraddio, ymddygiad sy'n diystyru cyfoedion neu staff, neu jôcs sy'n gwneud hwyl o drais yn erbyn menywod a merched. 

Fodd bynnag, nid yw misogynedd wedi'i gyfyngu i'r ystafell ddosbarth. Gall aflonyddu ar sail rhywedd ddigwydd mewn unrhyw le cyhoeddus, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i drafnidiaeth gyhoeddus, ar-lein, neu wrth fynd i'r ysgol ac oddi yno. Gall gynnwys sylwadau diangen, ystumiau, ymddygiad bygythiol ac ymddygiad sy'n targedu rhywun yn oherwydd eu rhyw. Gall y profiadau hyn gael effaith sylweddol ar hyder a lles pobl ifanc a'u hymdeimlad o ddiogelwch. 

Er bod llawer o'r materion hyn wedi'u gwreiddio'n ddwfn mewn systemau cymdeithasol a diwylliannol ehangach, mae tystiolaeth gynyddol bod cyfryngau cymdeithasol yn rhoi glo ar y tân. Mae plant a phobl ifanc yn dod i gysylltiad cynyddol â dylanwadau niweidiol ar-lein, gan gynnwys pobl sy'n galw eu hunain yn 'ddylanwadwyr' sy'n hyrwyddo safbwyntiau ac ymddygiadau misogynistaidd. Gall twf cymunedau gwrywaidd (manosphere) sy'n darlledu safbwyntiau ymosodol am fenywod siapio agweddau a dylanwadu ar ymddygiadau mewn ystafelloedd dosbarth, gartref ac ar-lein. Mae gan ysgolion rôl bwysig o ran meithrin amgylcheddau parchus a chynhwysol ac arfogi dysgwyr gyda'r offer i herio normau niweidiol. 

Defnyddir termau fel misogynedd a gwrywdod gwenwynig yn helaeth ar draws y sector VAWDASV i ddisgrifio agweddau ac ymddygiadau rhywedd niweidiol. Fodd bynnag, cydnabyddir bod yn well gan rai ymarferwyr, yn enwedig y rhai sy'n gweithio'n agos gyda bechgyn a dynion ifanc, ddefnyddio iaith sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol a gwrywdod iach. Lle bo'n briodol, gall ysgolion ac addysgwyr ddewis defnyddio terminoleg amgen sy'n annog ymgysylltu a myfyrio wrth fynd i'r afael â'r materion sylfaenol yn effeithiol. 

Dull ysgol gyfan

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fframwaith statudol  ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol yn 2021. 

Bwriad y Fframwaith yw cefnogi ysgolion, ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion (PRUs) ac ystod o leoliadau addysg i adolygu eu tirwedd llesiant eu hunain wrth ddatblygu cynlluniau i fynd i'r afael â gwendidau ac adeiladu ar eu cryfderau i gefnogi anghenion llesiant dysgwyr. Mae’n cydnabod na all yr ysgol neu leoliad ar ei hun ddiwallu holl anghenion poblogaeth gymhleth o blant a phobl ifanc, ac mae’n nodi rôl cyrff rhanbarthol, y GIG ac eraill fel y trydydd sector wrth gefnogi’r ysgol neu leoliad. Mae'r fframwaith yn ategu'r Cwricwlwm i Gymru ac, yn benodol, y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles. Enghraifft o'r gefnogaeth aml-asiantaeth hon yw Operation Encompass, partneriaeth rhwng yr heddlu ac addysg sy'n galluogi ysgolion i ddarparu cymorth uniongyrchol i blant sydd wedi profi cam-drin domestig. Pan fydd yr heddlu yn mynd i ddigwyddiad sy'n ymwneud â phlentyn neu berson ifanc, maent yn hysbysu arweinydd diogelu dynodedig yr ysgol cyn y diwrnod ysgol nesaf. Mae hyn yn caniatáu i ysgolion ymateb yn sensitif ac yn briodol. 

Mae'n ofynnol i ysgolion ac awdurdodau lleol ystyried y Fframwaith statudol hwn a'r canllawiau wrth ddatblygu cynlluniau gweithredu, strategaethau a pholisïau eraill sy'n effeithio ar lesiant dysgwyr, staff ac eraill sy'n gweithio yn amgylchedd yr ysgol. Hefyd, dylai awdurdodau lleol ystyried y Fframwaith hwn wrth drefnu neu ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS).

Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn manylu ar rolau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr i sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Maent wedi'u bwriadu i lywio arferion diogelu da ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sy'n cael eu cyflogi yn y sector statudol, y trydydd sector neu'r sector preifat. Mae hyn yn cynnwys addysg ochr yn ochr ag iechyd, gofal cymdeithasol, yr heddlu, cyfiawnder a gwasanaethau eraill.

Y Cwricwlwm i Gymru: addysg cydberthynas a rhywioldeb

Ers 2022, mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) yn orfodol o dan y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r Cod ACRh gorfodol yn cefnogi ysgolion i gynllunio eu darpariaeth, gyda chynnwys wedi'i strwythuro o amgylch tri llinyn dysgu eang a chysylltiedig:

  • cydberthnasau a hunaniaeth
  • iechyd rhywiol a lles
  • grymuso, diogelwch a pharch 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ACRh yn cwmpasu themâu allweddol gan gynnwys cydberthnasau; hawliau ac thegwch; rhyw, rhywedd a rhywioldeb; cyrff a delwedd gorfforol; iechyd rhywiol a lles; a thrais, diogelwch a chymorth. Mae'r themâu hyn wedi'u plethu ar draws y meysydd dysgu a rhaid eu cyflwyno mewn modd sy'n gynhwysol ac yn adlewyrchu amrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth dysgwyr o wahanol hunaniaethau, safbwyntiau a gwerthoedd ac amrywiaeth o ran cydberthnasau, rhywedd a rhywioldeb, gan gynnwys bywydau LHDTC+. Mae dull sy'n seiliedig ar hawliau wedi'i ymgorffori drwyddi draw, gan sicrhau bod dysgu am hawliau a thegwch yn rhedeg ar draws pob llinyn.  

Er mwyn cefnogi ysgolion i ddarparu ACRh cynhwysol, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid yn 2025 i STORI i arwain Prosiect Addysg CWTCH, menter tair blynedd Cymru gyfan sydd wedi'i chynllunio i fagu hyder a gallu ar draws y gweithlu addysg.  Bydd y prosiect yn cefnogi ymarferwyr, arweinwyr a chymunedau ysgol gyfan i ddarparu ACRh o ansawdd uchel yn hyderus. 

Yn ogystal â STORI, gall ysgolion hefyd gael mynediad at gymorth drwy Brosiect Spectrwm, menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a ddarperir gan addysgwyr cymwys ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae Spectrwm yn darparu adnoddau a sesiynau priodol o ran oedran sy'n canolbwyntio ar gydberthnasau iach ac effaith cam-drin domestig, gan helpu ysgolion i ddefnyddio dull gweithredu ysgol gyfan ar gyfer VAWDASV mewn addysg. 

Mae rhagor o adnoddau a chanllawiau statudol ar gael drwy Hwb, llwyfan dysgu digidol Llywodraeth Cymru. Mae Hwb yn cynnal ystod eang o ddeunyddiau i gefnogi dylunio a chyflwyno'r cwricwlwm, gan gynnwys y Cod ACRh, canllawiau diogelu, ac offer dysgu proffesiynol. 

Mae'n bwysig nodi y gall trafod pynciau sensitif o dan y cwricwlwm ACRh arwain at ddatgelu gwybodaeth gan ddysgwyr. Mae'r canllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel yn cynnwys adran benodol ar ymateb i bryderon, gan gynnig gweithdrefnau clir ar gyfer diogelu. Yn ogystal, mae Cymorth i Ferched Cymru, yr elusen genedlaethol yng Nghymru sy'n gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, yn darparu cyfeiriadur o wasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol arbenigol ledled Cymru a all helpu ysgolion a gweithwyr proffesiynol i nodi'r cymorth sydd ar gael yn eu hardal leol. 

Cynllun Gweithredu ar Aflonyddu Rhywiol rhwng Cyfoedion

Gall aflonyddu rhywiol ddigwydd unrhyw le, gan gynnwys ar-lein. Mae'n fater cymdeithasol, y mae angen ymateb iddo mewn modd cymdeithasol. Ond yn ddi-au, mae gan leoliadau addysgol ran holl bwysig i'w chwarae yn hyn o beth, wrth addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd ymddygiad ac agweddau parchus. Gall aflonyddu rhywiol hefyd fod yn rhan o gontinwwm o ymddygiad sy'n galluogi achosion o gam-drin drwy lywio normau cymdeithasol a diwylliannau problemus. Yn 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Aflonyddu Rhywiol rhwng Cyfoedion mewn Lleoliadau Addysg sy'n amlinellu camau gweithredu allweddol ar sail y themâu canlynol:

  • atal
  • ymyrraeth gynnar
  • cymorth i ddysgwyr a lles dysgwyr
  • dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth
  • rhieni, gofalwyr a'r gymuned
  • ymdrin ag achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein
  • ymchwil a gwerthuso 

Er mwyn cefnogi'r gwaith o weithredu'r cynllun, mae amrywiaeth o arbenigwyr a phartneriaid allanol yn gweithio gyda staff ysgol a phobl ifanc i ddatblygu atebion i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg, gan sicrhau bod lleisiau dysgwyr yn parhau i fod yn ganolog i'r gwaith parhaus hwn. Mae hon yn ddogfen 'fyw' a fydd yn parhau i ddatblygu mewn ymateb i heriau sy'n dod i'r amlwg. 

Cadw dysgwyr yn ddiogel

Yn 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y fersiwn ddiweddaraf o'r canllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel. Caiff y canllawiau hyn eu hanelu at bawb sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad addysg neu asiantaeth gysylltiedig ac a allai elwa ar ddeall y prosesau a'r disgwyliadau diogelu mewn ysgolion, a’r system ehangach. Ceir fersiwn gryno yma hefyd.

Gwella Cadernid Digidol mewn Addysg

Mae'r cynllun gweithredu 'Gwella cadernid digidol mewn addysg' yn nodi ein hymrwymiad trawslywodraethol i wella diogelwch plant a phobl ifanc ar-lein a'r gweithgareddau yr ydym yn eu cynnal i hyrwyddo ymddygiad diogel, cyfrifol ac ystyriol ar-lein.

Mae ardal Cadw'n Ddiogel ar-lein ar Hwb wedi'i chynllunio i gefnogi diogelwch ar-lein mewn addysg. Mae'n darparu ystod eang o adnoddau a chanllawiau dwyieithog i gefnogi ymarferwyr i addysgu a diogelu dysgwyr ynghylch diogelwch ar-lein. Gweler yr adran adnoddau a chymorth i gael rhagor o wybodaeth.

Deddf Diogelwch Ar-lein 2023

Fel rhan o'i rôl fel rheoleiddiwr y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, mae Ofcom wedi nodi'r camau y mae'n disgwyl i ddarparwyr gwasanaethau perthnasol eu cymryd i gydymffurfio â'u dyletswyddau mewn perthynas â diogelu plant ar-lein. Mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi canllawiau 'Trais yn erbyn Menywod a Merched' (2025), sy'n nodi meysydd lle dylai cwmnïau technoleg wneud mwy i wella diogelwch menywod a merched ar-lein.

Adnoddau a chymorth

  • Mae Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau digidol dwyieithog drwy Hwb i bob ysgol a gynhelir er mwyn cefnogi addysgu a dysgu drwy'r Cwricwlwm i Gymru.
  • Gall ymarferwyr addysg, dysgwyr a'u teuluoedd ddod o hyd i wybodaeth a chefnogaeth gydag ystod o faterion diogelwch ar-lein, gan gynnwys aflonyddu rhywiol ar-leinrhannu delweddau noeth, casineb ar-lein ac eithafiaeth drwy ardal Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am offer adrodd arbenigol i adrodd am gynnwys niweidiol ar-lein.
  • Fframwaith ar ymgorffori dull ysgol gyfan at les emosiynol a meddyliol.
  • Mae Adnodd wedi'u comisiynu gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn nodi eu huchelgais hirdymor ar gyfer datblygu adnoddau addysg sy'n cefnogi dysgu'r Cwricwlwm i Gymru.
  • Prosiect Sbectrwm Stori Cymru.
  • Y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant ar faterion sy'n ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: os ydych chi, aelod o'r teulu, ffrind, neu rywun rydych chi'n poeni amdano wedi profi cam-drin domestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, am gyngor a chefnogaeth am ddim neu i siarad am eich opsiynau. Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth drwy'r wefan, ffôn, neges destun, neu SignLive
  • Barnardos: cyngor a gwybodaeth am unrhyw beth i blant a phobl ifanc, a'u teuluoedd.
  • Mae'r Internet Watch Foundation yn gweithio i gael gwared ar ddelweddau cam-drin plant yn rhywiol ar-lein ac yn darparugwybodaeth ac adnoddau diogelwch ar-lein i bobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol.
  • Childline: ar gael i helpu unrhyw un o dan 19 oed yn y Deyrnas Unedig gydag unrhyw broblem sy'n ei wynebu. Yn darparu cyngor cyfrinachol rhad ac am ddim, gallwch siarad am unrhyw beth. Cysylltwch â nhw drwy ffonio 0800 1111, drwy e-bost neu drwy sgwrs un i un gyda chwnselydd.
  • NSPCC: Cymorth a chyngor i helpu i gadw plant yn ddiogel.
  • Comisiynydd Plant Cymru: cefnogi hawliau plant yng Nghymru.
  • Meic: gwasanaeth eiriolaeth cenedlaethol i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
  • OFCOM: diogelwch ar-lein.