Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Trafnidiaeth

Heddiw cyhoeddwyd cyllid i ddarparu systemau trafnidiaeth integredig modern, cynaliadwy ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r £115.9 miliwn o gyllid wedi'i ddyfarnu i awdurdodau lleol, drwy Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru (2026 i 2027), i'w gwneud hi'n haws i bawb ddefnyddio trafnidiaeth leol a helpu pobl i symud o gwmpas yn haws.

Bydd y cyllid yn helpu i greu strydoedd mwy cynhwysol i'w gwneud hi'n haws i bobl gerdded, olwyno a beicio (£58.5 miliwn); gwella cyflwr ffyrdd lleol drwy fuddsoddi mewn cynlluniau priffyrdd (£24.1 miliwn); creu gwell mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus (£20.9 miliwn); gwella diogelwch ar y ffyrdd (£7 miliwn) a gwneud gwelliannau seilwaith i bwyntiau gwefru cerbydau trydan (£3.9 miliwn).

Mae'r prosiectau a fydd yn elwa ar y buddsoddiad hwn yn cynnwys:

  • cynlluniau cerdded, olwyno a beicio, fel cynllun Bae Penrhyn gwerth £1.1 miliwn yng Nghonwy
  • £2.4 miliwn i gwblhau cynllun cerdded Stryd Fawr Aberhonddu i wella creu lleoedd a mynediad diogel at gyfleoedd i gerdded, olwyno a beicio
  • agor cyfnewidfa aml-ddull Hwlffordd yn Ne-orllewin Cymru
  • gwerth £4 miliwn o welliannau i gyfnewidfa Caerffili i gefnogi gwell cysylltiadau aml-ddull yn ogystal â
  • mynd i’r afael â blaenoriaethau a nodwyd drwy Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru i gefnogi system drafnidiaeth fwy gwydn a chynaliadwy o amgylch coridor yr M4.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Mae darparu gwell trafnidiaeth a chysylltu cymunedau i bawb wrth wraidd y buddsoddiad hwn sydd werth £115 miliwn. Rydym am ei gwneud hi'n haws i bobl deithio i'r gwaith, i'r ysgol, gofal iechyd ac i weld ffrindiau a theulu, a hefyd adeiladu system drafnidiaeth mwy modern, cynaliadwy ac integredig ledled Cymru er budd cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae ein hymrwymiad i ddull un tîm yn seiliedig ar wybodaeth leol a'n hymddiriedaeth yn ein partneriaid; y CJCs, Awdurdodau Lleol, Trafnidiaeth Cymru, a rhanddeiliaid ehangach, er mwyn sicrhau bod yr arian hwn yn creu'r manteision mwyaf.

"Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaethau gwirioneddol i deithiau bob dydd - boed hynny'n lwybrau mwy diogel, llwybrau gwell ar gyfer cerdded, olwyno a beicio, neu gysylltiadau aml-ddull mwy dibynadwy."