BREEAM yw ein prif safon ar gyfer adeiladau dibreswyl cynaliadwy a gofal ychwanegol preswyl.
Mae BREEAM yn asesu perfformiad amgylcheddol adeiladau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes.
Y mathau o adeiladau y mae arnom angen sgoriau BREEAM ar eu cyfer:
- adeiladau Rydym yn eu hariannu'n uniongyrchol,
- adeiladau a ariennir gan 1 o'n rhaglenni cyfalaf, megis tai fforddiadwy, ysgolion ac addysg bellach ac uwch,
- adeiladau a adeiladwyd o dan 1 o'n cynlluniau neu raglenni ariannu,
- adeiladau ar ddatblygiadau lle rydym yn ymrwymo i gytundeb menter ar y cyd â phartneriaid neu ddatblygwyr,
- adeiladau ar dir sydd ar werth, neu brydles neu i'w gwaredu i'w datblygu gennym ni,
- adeiladau ar dir yr ydym yn ei wella neu'n ei adfer neu drwy arian corff noddedig sydd yn dal i fod yn amodol ar adfachu ariannol.
Mae'r canlynol wedi'u heithrio rhag asesiad BREEAM:
- pob adeilad sydd â gofod llawr o 250m2 ac o dan,
- yr holl estyniadau, addasiadau, adnewyddiadau a newid defnydd adeiladau presennol,
- lle mae Llywodraeth Cymru yn darparu llai na £1,000,000 o arian,
- lle mae Llywodraeth Cymru wedi darparu benthyciad masnachol,
- pob un yn defnyddio adeiladau dosbarth B8 (dosbarthiad a storio),
- pob adeilad amaethyddol dibreswyl,
- pob adeilad gwastraff ac ynni, megis cyfleusterau trosglwyddo gwastraff a gorsafoedd cynhyrchu pŵer,
- pob gwerthiant tir ' moel ' (dim rhwymedigaeth datblygu) na gwerthiannau am resymau nad ydynt yn rhai polisi.
Mae angen i'r adeiladau canlynol dros 250m2 ddangos tystiolaeth o welliant o 10% yn y gyfradd allyriadau targed ar gyfer rhan L y rheoliadau adeiladu:
- lle mae Llywodraeth Cymru yn darparu llai na £1,000,000 o arian,
- lle mae Llywodraeth Cymru wedi darparu benthyciad masnachol.
Ymwelwch â BREEAM i gael cyngor ar asesu.