Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar yr arferion presennol sydd ar waith ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac yn archwilio'r argymhelliad blaenorol ar gyfer dull mwy integredig o wella deilliannau addysgol.
Nod y gwaith ymchwil hwn yw cynorthwyo Llywodraeth Cymru i lunio cyfeiriad polisi i'r dyfodol ar gyfer cefnogi addysg plant sy'n derbyn gofal, er mwyn sicrhau bod cymorth yn cael ei gydgysylltu'n effeithiol, a gwella deilliannau addysg. Bydd yr ymchwil o gymorth i ganfod sut y gall model newydd adeiladu ar arfer gorau a systemau sy'n bodoli eisoes yng Nghymru, sut y gellir gweithredu model newydd i Gymru, ac effaith cyflwyno model newydd.
