Dull strategol ar gyfer mynd i'r afael â physgodfeydd a dyframaethu Cymru: y diweddaraf am ei gynnydd
Y diweddaraf am hynt y gwaith ers ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Fe wnaethom ddisgrifio'n dull strategol ar gyfer mynd i'r afael â physgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2024.
Mae'n canolbwyntio ar:
- gael y pethau sylfaenol yn iawn
- sicrhau bod gennym sylfaen gref ar gyfer rheoli pysgodfeydd a dyframaethu’n gynaliadwy
Drwyddo, gallwn gefnogi diwydiant pysgota ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru.
Cafodd y diweddariadau canlynol eu gwneud rhwng 2 Rhagfyr 2024 a 15 Ionawr 2026.
Cynlluniau rheoli pysgodfeydd
Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud ar draws sawl cynllun rheoli pysgodfeydd (FMPs).
Draenogiaid y môr
Cynhaliodd Grŵp Cynghori Cymru ar Ddraenogiaid y Môr ei 10fed cyfarfod ym mis Hydref 2025.
Mae bylchau yn y dystiolaeth yn cael eu llenwi gan Brifysgol Bangor a Chanolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS). Mae adolygiad o rwydo o'r lan wedi'i gynnal gydag astudiaeth wyddonol wedi'i chomisiynu o'r sgil-ddalfa.
Mae gwaith yn cael ei wneud i:
- gyflwyno system wirfoddol yn y gwanwyn ar gyfer cofnodi dalfeydd rhwydi o'r lan
- comisiynu astudiaeth economaidd-gymdeithasol o bysgodfa hamdden draenogiaid môr Cymru
- cwblhau adolygiad o'r system gyfredol ar gyfer awdurdodi draenogiaid y môr
Cregyn y Brenin
Mae’r Grŵp Cynghori ar Gregyn y Brenin wedi cynnal 8 cyfarfod. Mae wedi helpu i lunio'r cynllun gweithredu a'r cynigion ar gyfer newid y mesurau rheoli. Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar 24 Hydref 2025.
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal prosiectau tystiolaeth ar stoc blaenoriaeth ac integriti gwely'r môr.
Crancod a chimychiaid
Y bwriad yw cynnal ymgynghoriad cyhoeddus o Gynllun Rheoli Pysgodfeydd Crancod a Chimychiaid cyntaf Cymru yn gynnar yn 2026. Rydyn ni wedi cytuno ar ei amcanion, wedi comisiynu asesiadau o'r stoc a llunio cynllun drafft.
Pelagig a dyfnforol: cynlluniau ar y cyd
Mae FMPs pelagig a dyfnforol y Môr Celtaidd a Gorllewin y Sianel dan arweiniad DEFRA yn dod yn eu blaenau. Y nod yw ymgynghori ar y cynlluniau drafft ym mis Chwefror 2026.
Mae'r gwaith o ddatblygu FMPs pelagig a dyfnforol Môr Iwerddon dan arweiniad DAERA yn mynd rhagddo.
Lansiodd Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad ar 20 Tachwedd 2025 ar 11 FMP dyfnforol yn y DU, gan gynnwys FMP Pendduod Silff y Gogledd ar ôl trafod â Llywodraeth Cymru. Mae'r Alban yn arwain datblygiad FMPs pelagig eraill yn y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at gynlluniau pysgodfeydd Mecryll a Swtanod Glas.
Rheoli ein pysgodfeydd
Fe wnaethom ymgynghori ar gynigion ar gyfer trwyddedau cocos Cymru ym mis Mawrth 2025. Rydym wedi cyflwyno amodau newydd ar gyfer cyfnod trwydded 2025 i 2026. Mae'r rhain yn cynnwys terfynau dalfeydd dyddiol, maint bagiau safonol a thagio. Rydym wedi cynnal arolygon o welyau cocos de a gogledd Cymru. Daethom yn rheolwyr ar wely Cilfach Tywyn ym mis Mehefin 2025. Dyma'r flwyddyn gyntaf heb farwolaethau mewn 2 ddegawd.
Mae gwaith ar y gweill i benderfynu ar y mesurau rheoli i'w cynnwys yn yr FMP Cocos. Rydym hefyd yn paratoi Gorchymyn Rheoleiddio newydd ar gyfer Aber Afon Dyfrdwy. Amcangyfrifir mai gwerth y dalfeydd hyd at ddiwedd mis Hydref 2025 oedd £5 miliwn.
Cregyn Gleision
Bu ymgynghoriad anffurfiol cyn agor pysgodfeydd Bae ac Aber Conwy. Mae hawl o ganlyniad i’w casglu gan artisaniaid rhwng 1 Medi 2025 a 30 Ebrill 2026.
Cregyn y moch
Mae'r cynllun trwyddedau cregyn y moch yn fyw. Mae grŵp cynghori ynghyd ag arolygon stoc blynyddol gan Brifysgol Bangor yn ei gefnogi. Oherwydd diffyg data am ddalfeydd, cafodd terfynau dalfeydd eu gostwng 5% ar gyfer cyfnod trwydded 2025 i 2026. Mesur rhagofalus yw hwn. Amcangyfrifir mai gwerth y dalfeydd hyd at ddiwedd mis Hydref 2025 oedd £2.9 miliwn.
Tiwna
Agorwyd y bysgodfa hamdden ar gyfer Tiwna Glas ym mis Awst 2025. Rydym wedi rhoi 10 trwydded.
Eog a sewin
Cytunwyd ar ddyletswyddau CNC o ran rhwydi eogiaid a sewin ar gyfer 2025. Cadarnhawyd is-ddeddf yn cau pysgodfa rwydi Dyfrdwy.
Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd (JFS)
Cafodd newidiadau o bob cwr o'r DU eu gwneud i'r JFS ddiwedd 2024. Mae'r gwaith ar yr adroddiad cynnydd 3 blynedd yn mynd rhagddo. Caiff ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2026.
Y rhwymedigaethau cenedlaethol a rhyngwladol
Rydym yn parhau i gydweithio â phartneriaid y DU ar reoli pysgodfeydd rhyngwladol trwy’r Comisiwn Rhyngwladol ar gyfer Gwarchod Tiwna'r Iwerydd (ICCAT) a Sefydliad Cadwraeth Eogiaid Gogledd yr Iwerydd (NASCO). Dyma rai o’r prif lwyddiannau:
- mynd i gyfarfodydd ICCAT i gymeradwyo cynlluniau pysgota 2025
- paratoi ar gyfer pennu cwotâu 2026 i 2028
Gwnaethom gydweithio â Chymdeithas Pysgotwyr Cymru (WFA) i fwydo cynllun datblygu pysgodfeydd y DU. Gosododd hyn y sylfaen ar gyfer cynnydd sylweddol yng nghwota tiwna glas y DU, o 63 tunnell i 230 tunnell.
Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol 2025 NASCO yng Nghaerdydd. Trafodwyd y canlynol:
- asesiadau straen gan y partïon
- nodi'r prif fygythiadau i eogiaid gwyllt yr Iwerydd
- hynt y mesurau rheoleiddio ar gyfer Gorllewin yr Ynys Las ac Ynysoedd Ffaro
Daeth trafodaethau gyda'r UE a gwledydd arfordirol eraill am gyfleoedd pysgota 2025 i ben. Ymatebodd swyddogion i'r cyhoeddiad 'reset' rhwng y DU a'r UE ym mis Mai 2025. Roedd hyn yn cynnwys gwaith ar:
- gytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS)
- Cronfa Twf Pysgodfeydd ac Arfordirol newydd
Rydym wedi datgan sawl tro bod angen i ni allu gwerthu molysgiaid dwygragennog byw i farchnad yr UE. Rydyn ni'n gobeithio y daw hyn trwy gytundeb yr SPS.
Cynhaliwyd trafodaethau am gyfleoedd pysgota 2026 ddiwedd 2025:
- cadwyd fel arfer at y cyngor o ran lefelau Cyfanswm y Dalfeydd a Ganiateir (TAC). Pan sero yw'r cyngor hwnnw ar gyfer TAC, cytunir ar lefelau sgil-ddalfeydd isel. Mewn ambell achos, mae gofynion cynlluniau aml-flynyddol yn cyfyngu ar y newidiadau y gellir eu gwneud i'r TAC
- cytunwyd ar fesurau technegol newydd i ddiogelu stociau pysgod teulu'r cod yn y môr Celtaidd ac Iwerddon
- cytunwyd ar derfyn hamdden o 3 bag ar gyfer morlas
- gan fod stociau draenogiaid y môr wedi ymadfer ar ôl blynyddoedd o gyfyngiadau, mae terfynau dalfeydd wedi cael eu codi yn unol â'r cyngor. Bydd y terfyn bagiau hamdden yn codi o 2 bysgodyn y dydd i 3
Rheoli a gorfodi
Cynhalioddein timau gorfodi dros 60 o deithiau patrôl ym mharth Cymru a 58 o archwiliadau ar y môr. Arweiniodd hyn at 8 erlyniad llwyddiannus am gamgofnodi lledod chwythig:
- cyfanswm o £950,000 mewn dirwyon a chostau
- 20 o hysbysiadau cosb penodedig ar gyfer troseddau eraill
Fe wnaethom arwain nifer o weithgareddau aml-asiantaeth yn y Môr Celtaidd ac ar welyau cocos a chyllyll môr caeedig. Fe wnaethom ymateb i wybodaeth am dramgwyddau posibl. Ers mis Mehefin 2025, mae ffocws penodol wedi bod ar bysgodfeydd cocos, gan gynnwys Cilfach Tywyn a aeth yn ôl i fod yn bysgodfa gyhoeddus o dan ein rheolaeth. Mae ein gwaith gorfodi llwyddiannus wedi cynnwys erlyniadau am:
- rwystro
- trwy systemau monitro llongau'r glannau (iVMS) a chamgofnodi dalfeydd
Rydyn ni'n defnyddio ein hadnoddau i wneud gwaith gorfodi effeithiol ar y môr ac ar y glannau. Yn enwedig ar ôl cael y cwch Lady Megan yn ôl ar ôl iddo gael ei drwsio.
Mae'r system drwyddedu yn gweithio'n dda, gyda'r trwyddedau canlynol wedi'u cyhoeddi yn 2025:
- 46 o drwyddedau cregyn y moch
- 9 o drwyddedau tiwna glas
- 216 o drwyddedau cocos
- 492 o drwyddedau pysgota hamdden â chewyll
- 16 o drwyddedau cregyn bylchog
O 10 Ionawr 2026 daeth gofynion newydd o ran "Pysgota Anghyfreithlon ac Anrheoleiddiedig nas Hysbysir amdano" (IUU) i rym yn yr UE. Mae hyn yn golygu bod angen i allforwyr o'r DU ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar eu Tystysgrifau Dalfeydd. Cynhaliwyd ymgyrch i sicrhau bod y diwydiant yn barod. Mae gweithgor traws-lywodraethol yn cyfarfod yn rheolaidd. Ei rôl yw nodi cyfleoedd i wella systemau a'r help sydd ar gael.
Gwyddoniaeth a thystiolaeth / data a TGCh
Cafodd £194,006 ei neilltuo i bysgotwyr trwy Gynllun Monitro Cychod Cymru. Hynny i osod dyfeisiau iVMS newydd ar longau o dan 12 metr. Bydd hyn yn gwneud yr wybodaeth a gofnodir yn gywirach.
Mae contractau gwyddoniaeth aml-flwyddyn wedi'u lansio am y tro cyntaf. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd ac yn rhyddhau adnoddau ar gyfer cyngor hanfodol ar bolisi.
Mae ymchwil economaidd-gymdeithasol ar y gweill ar draws pysgodfeydd allweddol gan gynnwys ymchwil i bysgota hamdden am ddraenogiaid y môr. Mae archwiliad carbon ar y gweill o fflyd Cymru, gan ddefnyddio offeryn proffilio allyriadau carbon bwyd môr Seafish. Disgwylir y canlyniadau erbyn mis Mawrth 2026 i fwydo penderfyniadau cyllido yn y dyfodol.
Mae trwyddedu digidol wedi gwella, gyda:
- dros 1300 o drwyddedau wedi'u rhannu, a
- dros 16,000 o gofnodion dalfeydd wedi'u cyflwyno
Mae'r trwyddedau tiwna glas a chregyn bylchog bellach yn fyw. Mae cynllun gwaith fframwaith casglu data y DU ar gyfer 2025 wedi'i gymeradwyo. Mae rheoliadau wrthi'n cael eu diwygio.
Cefnogaeth i'r diwydiant ddatblygu a thyfu
Rydyn ni'n dal ati i gryfhau cadwyn gyflenwi bwyd môr Cymru. Mae Seafish yn arwain Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ddatblygu map ffordd cydweithredol ar gyfer sector modern, gwydn ac arloesol. Byddwn yn ystyried yr argymhellion ar ôl eu derbyn.
Ym mis Mai 2025, arddangosodd Cymru ei bwyd môr yn yr Expo Bwyd Môr yn Barcelona.
Mae mentrau llesiant i'r sector yn cael eu cynnal, gydag arian oddi wrth Llywodraeth Cymru. Eu pwrpas yw hyrwyddo iechyd a lles teuluoedd pysgotwyr. Yn cynnwys:
- cyfeiriadur ar-lein o wasanaethau cymorth, a
- digwyddiadau Seafit, ym mis Chwefror a Mawrth
Mae ceisiadau ar gyfer Gorchmynion Pysgodfeydd Unigol yn cael eu hystyried. Mae trafod yn digwydd am Orchymyn Rheoleiddio Cocos Aber Afon Dyfrdwy newydd posibl. Mae'r gorchymyn presennol yn dod i ben yn 2028.
Mae swyddogion yn parhau i fonitro dyframaethu wystrys yn y Môr Tawel. Hynny i gadw golwg a oes angen tystiolaeth newydd o blaid newid polisi.
Cyllid ar gyfer pysgodfeydd
Agorodd Rownd 5 y Gynllun Morol a Physgodfeydd Cymru (WMFS) yn gynnar yn 2025. Hynny gyda chymorth Peilot Animateur Pysgodfeydd Cymru. Denodd ddiddordeb cryf, gyda:
- 63 o gontractau
- cyfanswm o £1,146,984 o gyllid wedi'i ddyfarnu
Agorodd y Gronfa Adeiladu Capasiti Arfordirol ym mis Mehefin 2025, gan arwain at:
- 6 cais llwyddiannus, ac
- ymrwymo £430,132 dros 2 flynedd
Agorodd chweched rownd y WMFS ar 7 Ionawr 2026. Oherwydd llwyddiant y peilot animateur, cafodd ei estyn am 12 mis arall.
Rydym yn neilltuo dyraniad llawn Cronfa Pysgota a Thwf Arfordirol y DU o £1.29 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-2027. Bydd hyn yn cefnogi ac yn gwella'r sector pysgodfeydd a'n cymunedau arfordirol.
Bwriad yr arian ychwanegol yw buddsoddi at y dibenion canlynol:
- datblygu’r farchnad:
- cynaliadwyedd a diogelu'r amgylchedd
- y gweithlu
- twf arfordirol ac adeiladu capasiti
- gwyddoniaeth a thystiolaeth
