Yn dilyn llwyddiant Rhaglen Dyfarniad Corfforaethol CIPS, mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd ceisiadau ar gyfer rhaglen 2025/2026.
Mae Rhaglen Dyfarniad Corfforaethol y CIPS yn rhaglen arloesol sy'n rhan o raglen gallu a chapasiti Llywodraeth Cymru. Ei nod yw darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol i staff, gan gefnogi gweithwyr proffesiynol caffael y dyfodol, gyda'r nod o leihau'r problemau capasiti a wynebir ar draws y proffesiwn a chodi proffil caffael yng Nghymru.
Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n helaeth yn natblygiad proffesiynol ei chymuned caffael, gan ariannu dros 330 o leoedd ar draws y Rhaglen Dyfarniad Corfforaethol, i gynyddu nifer y gweithwyr caffael proffesiynol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n gweithio i fodloni egwyddorion Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS).
Mae rhaglen Dyfarniad Corfforaethol arloesol y CIPS yn rhaglen ddysgu gymhwysol, fesul modiwl sy'n seiliedig ar waith sy'n cynnig llwybr at aelodaeth CIPS llawn mewn amserlen gyflym. Mae dwy lefel, sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd drwy blatfform ar-lein rhithwir, gan ddefnyddio Microsoft Teams enu ddarlithoedd wyneb yn wyneb sy'n cynnig y gallu i fyfyrwyr astudio o dan drefniadau hyblyg wrth iddynt ymdopi ag ymrwymiadau eraill.
Rhaglen Ymarferydd Dyfarniad Corfforaethol y CIPS
Mae'r lefel hon yn datblygu dealltwriaeth gadarn o hanfodion caffael a gallu ynddynt, ac mae'n llwybr i aelodaeth Diploma CIPS.
Am fwy o wybodaeth am Rhaglen Ymarferydd Dyfarniad Corfforaethol y CIPS.
Rhaglen Ymarferydd Uwch Dyfarniad Corfforaethol y CIPS
Mae'r rhaglen Ymarferydd Uwch yn meithrin proffesiynoldeb ym maes caffael, yn helpu i sicrhau mwy o werth sefydliadol ac yn lleihau risg. Mae hefyd yn llwybr i gyflawni MCIPS. Am fwy o wybodaeth am Rhaglen Ymarferydd Uwch Dyfarniad Corfforaethol y CIPS.
Mae'r asesiad yn seiliedig ar aseiniad ac mae angen prosiect 10,000 o eiriau ar ddiwedd y cwrs Ymarferydd Uwch. Mae'n rhoi cyfle dysgu cymhwysol er budd y busnes drwy seilio'r prosiect ar y busnes ei hun.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen, bydd myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am statws MCIPS, ar ôl dangos tystiolaeth o'r nifer dymunol o flynyddoedd o brofiad caffael sy'n ofynnol.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn ymuno â'r lefel hon ddangos eu bod eisoes wedi cwblhau Diploma L4 y CIPS neu raglen dyfarniad corfforaethol ymarferydd y CIPS neu wedi llwyddo yn asesiad cymhwysedd y CIPS wrth iddynt wneud cais am y cwrs Ymarferydd Uwch.
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen Dyfarniad Corfforaethol ar gael yn y ddogfen Cwestiynau Cyffredin.
Sesiwn Trosolwg y CIPS
Cyn cyflwyno cais ffurfiol bydd gofyn i ddarpar fyfyrwyr wylio gweminar trosolwg ar-lein wedi'i recordio ymlaen llaw a gynhelir gan y CIPS a fydd yn rhoi trosolwg o'r rhaglen i fyfyrwyr a chyflogwyr a'r ymrwymiadau a ddisgwylir ohonoch wrth ichi gymryd rhan yn y rhaglen.
Sut i wneud cais
I wneud cais am le a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar y Rhaglen hon, anfonwch e-bost at GalluMasnachol@llyw.cymru i gael pecyn cais.
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 17:00 ar 24 Tachwedd 2025.
Dogfennau
Dyfodol Dyfarniad Corfforaethol y CIPS
Mae adolygiad annibynnol o Ddyfarniad Corfforaethol y CIPS wedi dod i ben. Er na fydd hyn yn effeithio ar ddysgwyr presennol neu ddysgwyr sydd wedi'u cymeradwyo i ddechrau'r rhaglen hon, ni fydd unrhyw sicrwydd o gyllid yn y dyfodol gan y gallai'r rhaglen newid.
