Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Mae gan Gymru dreftadaeth falch yn y maes gweithgynhyrchu a gall honni mai hi yw’r ‘wlad ddiwydiannol’ gyntaf. Dangosodd Cyfrifiad 1851 fod mwy o bobl yn cael eu cyflogi mewn diwydiant nag mewn amaethyddiaeth yng Nghymru – y tro cyntaf erioed i hynny ddigwydd mewn unrhyw wlad. Yna, dros genedlaethau, mae wedi dod yn hanfodol i’n ffyniant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.

Roedd Cymru wrth galon y chwyldro diwydiannol cyntaf, yn ganolfan allforio fyd-eang, a oedd yn arwain y ffordd wrth ddatblygu pŵer stêm a chynhyrchu mecanyddol. Heb anghofio, wrth gwrs, taith gyntaf yn y byd locomotif stêm ar y rheilffordd ar 21 Chwefror 1804 yma yng Nghymru, yng Ngwaith Haearn Penydarren, Merthyr Tudful. Heddiw, rydym yn croesawu’r newid technolegol a ddaeth yn sgil y pedwerydd chwyldro diwydiannol, gyda sector gweithgynhyrchu sydd bellach yn cynnwys tua 150,000 o swyddi[troednodyn 1] ac sy’n cyfrannu dros 16% o’n cynnyrch cenedlaethol[troednodyn 2], sy’n sylweddol uwch na chyfartaledd y DU.

Yn ogystal â’r gwaith uniongyrchol sylweddol y mae’n ei greu, mae’r sector yn cyfrannu miloedd yn fwy yn y gadwyn gyflenwi estynedig hefyd. Mae’n dal i allforio ledled y byd yn ogystal â chyfrannu cyllid sylweddol i waith Ymchwil, Datblygu ac Arloesi. Mae rhai o’r cwmnïau gweithgynhyrchu mwyaf yn y byd wedi sefydlu gwaith sylweddol yng Nghymru, gan roi llwyfan i’r hyn y gwyddom sy’n lle gwych i fuddsoddi ynddo.

Mae gweithgynhyrchu yr un mor bwysig i Gymru heddiw ag erioed ac mae’n dal i fod yn rhan annatod o’n hunaniaeth genedlaethol. Mae gennym gyfrifoldeb unigryw i ddiogelu’r sector hanfodol hwn a rhaid i ni gydweithio â’r diwydiant a’n partneriaid cymdeithasol, i sicrhau ei fod yn parhau i ffynnu ymhell i’r dyfodol. Gellir diffinio gweithgynhyrchu fel sector ynddo’i hun, a gwneir hynny’n aml, ond mewn gwirionedd mae’n gyfuniad o is-sectorau cydgysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys y sectorau bwyd a diod, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh), cemegion, electroneg, gwyddorau bywyd, adeiladu, metelau, ynni, modurol, rheilffyrdd, awyrofod, amddiffyn a diogelwch.

Lansiwyd ein Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu[troednodyn 3] (y Cynllun Gweithredu) cyntaf ym mis Chwefror 2021, ar ôl ymgynghori’n helaeth â rhanddeiliaid. Mae’n seiliedig ar saith amcan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae wedi darparu fframwaith sydd wedi meithrin cydweithio ac wedi helpu i gydlynu gweithgareddau cymorth Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar weithgynhyrchu. Mae wedi fframio ein gwaith i ddatgarboneiddio’r diwydiant, gan gynnwys sefydlu Diwydiant Sero Net Cymru, a ategir gan ein Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net. Rydym hefyd wedi gweld ein Advanced Manufacturing Research Centre (AMRC) Cymru yn ffynnu ac mae gweithgareddau fel WRAP Cymru a’n rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota yn helpu busnesau i gynyddu cynhyrchiant a lleihau gwastraff drwy sefydlu economi gylchol ac egwyddorion darbodus.

Mae hyn i gyd yn digwydd yn ystod cyfnod lle mae’r sector yn wynebu heriau mawr: cystadleuaeth fyd-eang, ffrwydrad o dechnolegau, Brexit a threfniadau masnachu newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd, pandemig COVID-19, yr argyfwng hinsawdd, cost gynyddol ynni, oedi oherwydd problemau morgludo sydd wedi tarfu ar gadwyni cyflenwi byd-eang, prinder deunyddiau crai, cynnydd mewn prisiau a phroblemau difrifol o ran argaeledd llafur. Mae rhai wedi galw hyn yn ‘storm berffaith’.

Er bod llawer o heriau, yn ddieithriad, mae’r rhain yn darparu cyfleoedd a gall y ffordd rydym yn mynd i’r afael â’r rhain ac yn eu goresgyn gyda’i gilydd arwain at fantais gystadleuol go iawn i Gymru.

Mae ein hymrwymiad i gefnogi ein sector gweithgynhyrchu yn dal i fod yn gadarn. Dyna pam ei bod yn iawn i ni adolygu’r Cynllun Gweithredu i sicrhau ein bod yn parhau i fanteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau cyfunol, i ymateb i’r meysydd lle mae’r angen mwyaf. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud hyn ar sail gweledigaeth gyson:

Rhaid i ni drawsnewid, a chefnogi’r broses o drawsnewid ein cymuned gweithgynhyrchu – gan gynnwys ei chadwyni cyflenwi – i fod yn un sy’n ymwneud mwy a mwy â gweithgarwch ‘gwerth ychwanegol’. Mae arnom angen cymuned gweithgynhyrchu o gwmnïau sydd â pherfformiad ariannol cryf, sy’n ymgymryd â gweithgareddau strategol bwysig ac sy’n cael effaith gadarnhaol yn gymdeithasol, yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn ddiwylliannol ar eu cymunedau lleol, eu rhanbarthau a’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru. Dyma sut rydym yn diffinio Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth yng Nghymru – nid yn ôl y sector, ei gymhlethdod na’i ddefnydd o dechnoleg – ond o ran sut mae’n effeithio ar lesiant pobl Cymru.

Datblygwyd y Cynllun Gweithredu gwreiddiol yng nghyd-destun sut rydym yn troi’r weledigaeth hon ar gyfer economi llesiant yn realiti. Nid yw’r dull hwn wedi newid ac mae’n seiliedig ar dri chanlyniad:

  1. Economi ffyniannus, sy’n gofyn am ganolbwyntio’n gyson ar gydnerthedd â’r gallu i drawsnewid. Mae angen i ni gryfhau sylfeini’r economi gyda sylfaen economaidd amrywiol ond cydberthynol o gwmnïau eangfrydig gyda pherfformiad arloesi cadarnhaol, lefelau cynhyrchiant da a gweithlu sydd â’r sgiliau ar gyfer byd sy’n newid.
  2. Economi werdd, sy’n gofyn am lefelau uchel o gylcholrwydd lle mae adnoddau’n dal i gael eu defnyddio, gan ychwanegu gwerth economaidd ac osgoi gwastraff. Mae’r economi hon yn hanfodol ar gyfer cymdeithas carbon isel, felly mae angen i ni fuddsoddi mewn seilwaith carbon isel sy’n gallu addasu i’r newid yn yr hinsawdd, prosiectau ynni adnewyddadwy, dyluniad/ meddylfryd systemau cyfan a chartrefi cynaliadwy.
  3. Economi gyfartal, sy’n golygu buddsoddi ym mhotensial cynhyrchiol yr holl bobl mewn cymunedau. Mae angen i ni ddatblygu uchelgais, annog dysgu i fyw, gwella ein dealltwriaeth o ymddygiad ac agweddau a chefnogi pobl i wneud y gorau o’u potensial. Bydd ein dull rhanbarthol yn cefnogi’r broses o ddosbarthu cyfleoedd yn deg, a byddwn yn parhau i fynnu a hyrwyddo gwaith teg.

Rydym yn credu y gall ein dull gweithredu, sy’n cefnogi cydbwysedd mwy effeithiol rhwng yr economi farchnatadwy a’r economi sylfaenol, barhau i adeiladu ar y blaenoriaethau yn ein Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi, sydd wedi’i gwreiddio yn ein Rhaglen Lywodraethu. Mae hefyd yn cyd-fynd â’n model datblygu economaidd yn seiliedig ar leoedd a’r angen i deilwra ein dull i adlewyrchu’r heriau a’r cyfleoedd unigryw a wynebir mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru, sydd wedi’u nodi yn ein Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol[troednodyn 4]. Rydym yn deall ein bod yn parhau i wynebu heriau. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bwysicach nag erioed bod rhanddeiliaid yn gweithio mewn partneriaeth er budd Cymru a’n sector gweithgynhyrchu hollbwysig, gyda Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gynnull a chydlynu gweithgareddau yn ogystal â rhoi cymorth uniongyrchol. Mae hyn yn adeiladu ar ein Contract Economaidd, sy’n ymgorffori ein dull gweithredu ‘rhywbeth am rywbeth’, lle mae’r rheini sy’n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru hefyd yn amlinellu camau y byddant yn eu cymryd i’n helpu ni i adeiladu economi gref ac ystwyth, lleihau carbon, gwreiddio egwyddorion gwaith teg a hyrwyddo llesiant hirdymor ein cymunedau, ein hiaith a’n treftadaeth ddiwylliannol.

Hoffwn ddiolch eto i bawb a gyfrannodd at ddiwygio’r cynllun hwn. Edrychaf ymlaen at barhau i gyflawni ein hymrwymiad ar y cyd i ddiogelu’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru at y dyfodol. Mae gwybodaeth ac arbenigedd y prif gyrff sy’n cynrychioli diwydiant Cymru a’r DU, sef Make UK a Diwydiant Cymru, wedi arwain y gwaith o ddatblygu’r cynllun hwn.

Vaughan Gething AS
Gweinidog yr Economi

Sector Gweithgynhyrchu’r DU: Safbwynt Make UK

Rhaid i sector gweithgynhyrchu’r DU fod yn beiriant ar gyfer twf economaidd y DU. Mae’r 20,000 o weithgynhyrchwyr y mae Make UK yn eu cynrychioli ledled y DU wedi parhau i fuddsoddi yn nhechnolegau newydd yfory ac wedi meithrin gweithluoedd y dyfodol. Mae gweithgynhyrchu’n sector cadarn, arloesol a modern sy’n sbarduno economi Prydain. Mae’n cyflawni dros 10% o’r cynnyrch domestig gros[troednodyn 5], yn cyfrannu dros 50% o’r holl allforion, ac mae’r DU yn un o’r 10 pwerdy gweithgynhyrchu gorau yn y byd.

Ond mae’r gweithgynhyrchwyr yn dal i wynebu rhwystrau sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r heriau tymor byr sy’n gysylltiedig â phrinder llafur, costau cynyddol gwneud busnes, a’r tarfu parhaus ar y gadwyn gyflenwi yn rhai o’r rhwystrau y mae’r gweithgynhyrchwyr yn eu hwynebu. Mae angen gweithredu go iawn i leihau costau ynni a sbarduno effeithlonrwydd ynni, mynd i’r afael â’r prinder llafur a sicrhau bod y DU yn lle cystadleuol i wneud busnes.

Rydym am weld y sector yn tyfu ac yn ehangu. Mae gwaith dadansoddi Make UK yn dangos bod cefnogi’r sector i dyfu i gyfrif am 15% o’r cynnyrch domestig gros, i fyny o 10%, yn gallu ychwanegu £142bn arall at economi’r DU[troednodyn 6], yn ogystal â swyddi a buddsoddiad yn ein rhanbarthau.

Mae gwaith ymchwil gan Make UK yn dangos bod 42% o arweinwyr gweithgynhyrchu wedi mynegi diffyg cynllun economaidd hirdymor fel un o’r prif risgiau i hyder busnesau yn 2023[troednodyn 7]. Hyd yma, mae llunio polisïau mewn ffordd dameidiog yn golygu bod gweithgynhyrchwyr yn teimlo bod diffyg dull gweithredu rhanbarthol, cydlynol o ymdrin â heriau sydd wedi bodoli ers tro, a bod angen dull gweithredu o’r fath. Mae Make UK yn credu’n gryf mai dyma golofnau strategaeth ddiwydiannol fodern:

  • Sbarduno effeithlonrwydd ynni – Mae gwneuthurwyr yn cydnabod yr her hirdymor ac yn canolbwyntio mwy ar effeithlonrwydd ynni lle bo hynny’n bosibl. Rhaid i fesurau i leihau costau ynni fynd law yn llaw â mesurau i hybu effeithlonrwydd ynni a fydd hefyd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau Sero Net.
  • Ysgogi mwy o ymchwil, datblygu ac arloesi – Mae’r sector gweithgynhyrchu yn cyfrif am oddeutu 41% o holl wariant y sector preifat ar ymchwil, datblygu ac arloesi yn y DU[troednodyn 8]. Fodd bynnag, mae prosiectau ymchwil, datblygu ac arloesi yn ansicr iawn ac yn aml yn golygu creu cynnyrch neu atebion newydd heb wybod beth yn union fyddai’r canlyniad, a dyna pam mae polisïau sy’n addas ar gyfer buddsoddi yn allweddol i ysgogi hyd yn oed mwy o fuddsoddiad preifat.
  • Mynd i’r afael â phrinder llafur – Mae gweithgynhyrchu’n wynebu prinder sgiliau difrifol, gyda mwy a mwy o’r gweithlu’n cael eu diffinio’n economaidd anweithgar erbyn hyn. Mae swyddi gwag yn y sector yn anodd eu llenwi oherwydd nad oes gan ymgeiswyr y sgiliau, y cymwysterau na’r profiad priodol. Mae ymchwil Make UK yn amcangyfrif (yn 2022) y gallai’r gost mewn cynnyrch a gollwyd i gynnyrch domestig gros y DU oherwydd swyddi gwag gyrraedd cymaint â £21m y diwrnod[troednodyn 9] [troednodyn 10]. Er bod yn rhaid i ni fynd i’r afael â’r prinder llafur nawr, rhaid i ni ddechrau nodi pa sgiliau sydd eu hangen arnom yn y degawd nesaf a gweithredu nawr i atal argyfwng sgiliau yn y dyfodol.
  • Lleihau’r baich treth: Yn ehangach, mae’r baich treth yn y DU ar ei uchaf ers 70 mlynedd ar hyn o bryd, gan gyrraedd bron i 35% o’r cynnyrch domestig gros[troednodyn 11]. Er y bydd y baich treth cynyddol yn cynyddu costau i lawer o aelwydydd a busnesau, gall y llywodraeth helpu drwy wella ansawdd y cymorth a’r cymhellion wedi’u targedu i sicrhau bod busnesau mewn sefyllfa well i fuddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi, gan wella eu cynhyrchiant a’u cystadleurwydd.

Gweithgynhyrchu yng Nghymru: safbwynt diwydiant Cymru

Mae Diwydiant Cymru yn cynrychioli safbwyntiau’r diwydiant i Lywodraeth Cymru, gyda’r uchelgais o angori, datblygu a thyfu Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth yng Nghymru ymhellach. Roedd y Cynllun Gweithredu gwreiddiol yn ceisio ailddiffinio ‘Uchel ei Werth’ fel rhywbeth sy’n llai cysylltiedig â’r cynnyrch neu’r gwasanaeth, gan roi mwy o bwyslais ar yr hyn y mae’r sector yn ei gynnig o ran gwerth ehangach i’r holl randdeiliaid yn eu cymuned; o gyflogeion i gymdogion, o anghenion gwlad i gyfrifoldeb byd-eang.

Yn unol â strategaeth y Cynllun Gweithredu, mae Diwydiant Cymru wedi estyn allan at bob sector, rhanbarth a sefydliad masnach, gan ddechrau sgwrsio â dros 50 o gyrff masnach. Gan adeiladu ar lwyddiant Clwstwr Diwydiannol De Cymru, mae wedi ychwanegu Diwydiant Sero Net Cymru fel fforwm newydd ar gyfer Datgarboneiddio Diwydiant. Drwy hyn mae wedi croesi ffiniau sectorau a pholisïau i sicrhau bod seilwaith, prosesau trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau’n canolbwyntio ar atebion gwerth ychwanegol yn seiliedig ar leoedd ar gyfer busnesau, gan ddatblygu dyfodol cynaliadwy sy’n galluogi’n economaidd i bawb.

Sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Cyflawni trawslywodraethol, a oedd yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd polisi ac adrannau i ddarparu dull gweithredu cydlynol o gyflawni’r uchelgeisiau a’r gweithgareddau penodol a nodir yn y Cynllun Gweithredu. Mae hyn yn cynnwys yr Economi, Iechyd, Trafnidiaeth, Caffael, Tai ac Ynni. Edrychodd ar ddulliau cymorth i fynd i’r afael â bylchau yn y gadwyn gyflenwi, ynghyd â chyfleoedd polisi a phrosiect ar gyfer gweithgynhyrchwyr Cyflenwi yng Nghymru. Mae Diwydiant Cymru wedi bod yn aelod gweithredol o’r grŵp hwn gan sicrhau llais i’r diwydiant yn ogystal â chraffu a herio’n wrthrychol.

Mae ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru yn dal yn gyson â’r diffiniad a nodwyd eisoes, sef sut  mae gweithgareddau “Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth” yn cael effaith gymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol gadarnhaol ar lesiant dinasyddion Cymru.

Mae’n ymwneud â chreu swyddi sy’n talu’n dda, cymunedau diogel, diwydiannau carbon niwtral a diwylliant sy’n ffynnu yng Nghymru.

Drwy weithio gyda rhanddeiliaid lleol yn ogystal â llunwyr penderfyniadau cenedlaethol a rhyngwladol, mae’n hanfodol bod cyflenwyr medrus, cystadleuol a chynaliadwy y pethau sydd eu hangen arnom i fyw ein bywydau o ddydd i ddydd wedi’u dosbarthu ledled cymunedau, i sicrhau ffyniant a swyddi da ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae fersiwn ddiweddaraf y Cynllun Gweithredu hefyd yn mynd i’r afael â materion sydd wedi datblygu dros y ddwy flynedd diwethaf. Pan lansiwyd y cynllun gwreiddiol, roeddem yng nghanol pandemig COVID-19, heb fawr o sicrwydd ynghylch beth allai cylch nesaf y feirws ei olygu. Roedd problemau yn ymwneud ag aflonyddwch masnach ryngwladol yn parhau, nid oedd y tarfu sylweddol ar y gadwyn gyflenwi na’r cynnydd mewn prisiau ynni a chostau byw wedi’u rhagweld i raddau helaeth, ac rydym wedi gorfod ymateb i’r problemau chwyddiant hyn, sydd yn eu tro, yn effeithio ar incwm, elw ac yn creu amgylchedd anoddach ar gyfer buddsoddi. Felly, mae angen i’r cynllun diwygiedig ganolbwyntio ein hadnoddau cyfyngedig mewn ffordd sy’n rhoi ‘cychwyn cyflym’ (tactegol) i weithgarwch, ac eto yn y pethau iawn (strategol).

I’r perwyl hwnnw, rydym wedi nodi’r chwe amcan strategol sy’n ffurfio fframwaith y cynllun diwygiedig hwn, y pennir camau gweithredu penodol yn eu herbyn.

Bydd hyn yn ein galluogi i ddefnyddio ein hadnoddau’n ddoeth ar anghenion sylfaenol y wlad, gan ddatblygu ein pobl, cefnogi ein gweithgynhyrchwyr a darparu seilwaith er mwyn gallu adeiladu cymuned ddi-garbon gynhwysol a blaengar. Bydd  cael y cydbwysedd hwn yn iawn yn helpu i greu cyfoeth a’i ddosbarthu’n deg ymysg rhanddeiliaid yn ein cymunedau a’n cadwyni cyflenwi.

Bydd hefyd yn sicrhau ei fod yn ymgysylltu â chenedlaethau heddiw ac yfory i gynnig sgiliau, rolau a chyfleoedd go iawn a phriodol yng Nghymru a’i rhanbarthau i drawsnewid busnes a diwydiant er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i bawb.

Drwy weithio gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i helpu busnesau i adfer ac ailadeiladu eu marchnadoedd lleol ac allforio drwy wella cynhyrchiant, ac felly cystadleurwydd. Mae hyn yn golygu mapio’r adnoddau rydym yn eu defnyddio, o bobl i fuddsoddiadau, yn ogystal â chanolbwyntio ar adnoddau ynni a deunyddiau i gael gwared ar wastraff a chynyddu’r arenillion, gan gynnwys ailddefnyddio deunyddiau a sgil-gynhyrchion ynni gwerth uwch. Rydym am i’r sector arwain y ffordd dros Gymru, gan hyrwyddo gwaith teg a chyfle cyfartal i bawb ar draws ein cymunedau gweithgynhyrchu, gan sicrhau bod ein hiaith a’n diwylliant yn ffynnu ar yr un pryd.

Mae deialog barhaus yn ogystal â chyfres o gyfarfodydd bord gron gyda sectorau Diwydiant, Rhanbarthau, Undebau Llafur a’r byd academaidd wedi ychwanegu at broses ymgynghori helaeth y cynllun gwreiddiol.

Cafodd ei wella ymhellach gan arolwg “Archwiliad Iechyd y Sector”, a gomisiynwyd gan Diwydiant Cymru. Roedd hyn yn cynnwys arolwg ar-lein a chyfweliadau “ymchwil manwl” a oedd yn canolbwyntio ar feysydd fel datgarboneiddio diwydiant a defnyddio technolegau digidol. Rydym wedi defnyddio data o’r adroddiad hwn i lywio’r broses ddiweddaru ac wedi cynnwys dyfyniadau yn y cyflwyniad i bob amcan strategol.

Y diwydiant gweithgynhyrchu sydd wedi cyfrannu fwyaf at dirwedd gymdeithasol ac economaidd newidiol Cymru ers cenedlaethau.

Symud o’r maes i’r ffatri, gan ddatblygu cydnabyddiaeth i gyflogeion i sicrhau gwobr a chynrychiolaeth briodol, er mwyn galluogi cenedlaethau i gael dewis ac agor y drysau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae gwneud pethau’n dda a rhannu’r budd yn amlwg yn y sector heddiw; sector sy’n cynhyrchu cyfoeth, ond sydd hefyd yn ei rannu’n rhesymol.

Heddiw, mae gweithgynhyrchu yng Nghymru yn dal yn arwyddocaol o ran gwerth ychwanegol gros a chyflogaeth[troednodyn 12] ond rydym yn credu hefyd fod dosbarthiad cyfoeth yn gymharol deg yn ei weithlu. Mae adborth gan gwmnïau y mae Diwydiant Cymru yn rhyngweithio â nhw’n rheolaidd yn awgrymu bod hyn yn wir, gydag adborth yn tynnu sylw at y graddfeydd (hynny yw, cymhareb uwch reolwyr i weithredwyr) a llawer o sefydliadau’n gallu talu cyflogau ar y Cyflog Byw Gwirioneddol, neu’n uwch na hynny. Mae adborth hefyd yn awgrymu bod cynrychiolaeth gymharol uchel o gyflogeion ac ychydig o achosion o ymddygiad gwael o dan gontract, sy’n golygu bod y sector eisoes yn esiampl mewn sawl ffordd. Fel y cyfrannwr mwyaf i’n heconomi o ran cynnyrch, mae gennym gyfle go iawn i’r sector gweithgynhyrchu fod yn gatalydd i sicrhau ffyniant cymdeithasol ac economaidd hirdymor yng Nghymru, dim ond i ni ddod o hyd i’r ffordd drwy’r pedwerydd chwyldro diwydiannol hwn gyda’n gilydd, a’r rhai sy’n dod nesaf. Bydd hyn yn gofyn am ddull gweithredu cyson a chydweithredol o ymdrin â nifer o amcanion strategol allweddol.

Ein hamcanion a’n camau gweithredu strategol

1. Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy ddatgarboneiddio’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru, yn seiliedig ar arferion a phrosesau economi gylchol.

Er ei bod yn deg dweud bod mwy o ysgogiad i ddatgarboneiddio ein sector gweithgynhyrchu, pe baem yn cyfeirio yn hytrach at ‘ddatgarboneiddio’ fel ‘datgostio’, gyda’r nod o dynnu costau allan o’r system, yna byddai pawb yn canolbwyntio ar hyn. Mae Carbon yn Gost ar bob llinell yn ein cyfrifon Elw a Cholled. O ddeunyddiau a gyflenwir ac ynni i ffatrïoedd a chludiant. Rydym i gyd yn gweld ac yn cydnabod yr angen i wella ein cystadleurwydd a’n cynhyrchiant, i wella elw er mwyn ein galluogi yn y pen draw i fuddsoddi yn ein pobl, ein peiriannau a’n cynnyrch.

Mae defnyddio ein hadnoddau’n effeithlon yn dod yn fwy a mwy hanfodol. Fodd bynnag, er mwyn hybu effeithlonrwydd, rhaid i ni ddeall yn well pa adnoddau rydym yn eu defnyddio mewn punnoedd ac mewn Mt C02 a deall y rhyngweithio a’r gydberthynas rhwng y ddau. Ar ôl nodi hyn, mae’n bosibl dechrau’r gweithgareddau gwella sy’n cael eu blaenoriaethu i leihau costau a charbon yn y meysydd pwysicaf ar gyfer busnes. Mae syniadaeth ddarbodus a gwelliant parhaus yn galluogi pawb i ddeall eu rôl yn y gweithgaredd hwn, ac mae hefyd yn galluogi pob rhanddeiliad i weld y materion mwy strategol iddynt ganolbwyntio eu harweinyddiaeth arnynt.

Er enghraifft, gallai hyn gynnwys yr angen i ystyried Newid Tanwydd neu Ddal, Defnyddio a Storio Carbon ar gyfer rhai sefydliadau. Mae trafodaeth ehangach ar hyn wedyn yn bosibl i weld sut gall partïon gydweithio ar faterion seilwaith, cydweithredu yn y gadwyn gyflenwi a meddylfryd Economi Gylchol, lle gellir defnyddio gwastraff un parti fel deunydd crai neu ynni rhywun arall.

Nid yw llawer o’n cwmnïau gweithgynhyrchu wedi dechrau ar y daith hon eto, neu nid ydynt yn ddigon pell ar hyd y daith eto, ac mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf yn canolbwyntio ar ynni. Yn amlwg, nid yw’r ddealltwriaeth o fod yn Ddarbodus ac Optimeiddio yn ddigonol gan fod nifer o fusnesau’n rhuthro i ystyried newid tanwydd ac economi gylchol cyn mapio’r hyn maent yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Mae’n debygol y bydd cadwyni cyflenwi lle defnyddir llawer o garbon yn gweld hyn yn anoddach.

 Wedi mesur/ dadansoddi’r defnydd o garbon a phennu targedauWedi cynnal Gweithgareddau DarbodusWedi defnyddio’r prosesau gorau posiblBwriadu newid tanwyddWedi mabwysiadu dull economi gylcholDim gweithredu
Ynni44%6%18%32%18%12%
Gwastraff23%13%33%3%43%7%
Adeiladau32%14%27%41%18%18%
Trafnidiaeth28%4%12%24%20%24%
Cynnyrch33%33%0%0%0%67%
Cyfarpar  31%31%31%13%31%19%
Cadwyni Cyflenwi20%10%10%0%20%50%

*Ffynhonnell – Arolwg ‘archwiliad iechyd’ Diwydiant Cymru 2022’

Gwyddom fod gan Lywodraeth y DU lawer o’r pwerau angenrheidiol i fynd i’r afael â’r gofynion hynny a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’r llywodraeth honno, Awdurdodau Lleol a’r sylfaen ddiwydiannol yng Nghymru i fwrw ymlaen â hyn. Mae llawer o weithgareddau eisoes yn cael eu cynnal ledled Cymru a byddwn yn ceisio adeiladu ar hyn er mwyn cyflymu ein taith tuag at Sero Net.

Hefyd, mae nifer o raglenni a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, y sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach a chyrff Llywodraeth y DU fel Innovate UK. Mae enghreifftiau’n cynnwys gweithgareddau ASTUTE a MAKE Cymru y Sector Addysg Uwch a chynnig Cynhyrchiant SMART Llywodraeth Cymru.

1.1 Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2 (2021 i 2025)

Mae’r argyfwng hinsawdd a natur ar ein gwarthaf yn barod. Ein huchelgais yw cynllunio dyfodol gwell, tecach a gwyrddach i bob un ohonom ac ym mis Mawrth 2021 ymrwymodd y Senedd yn ffurfiol i gyflawni allyriadau Sero Net erbyn 2050. Ym mis Hydref 2021, fe wnaethom gyhoeddi Cymru Sero Net[troednodyn 13], ein cynllun lleihau allyriadau sy’n canolbwyntio ar sut byddwn yn cyflawni ein hail gyllideb garbon (2021-2025)[troednodyn 14]. Mae hyn hefyd yn edrych ymlaen at adeiladu’r sylfeini ar gyfer Cyllideb Garbon 3, ein targed ar gyfer 2030, a’n targed Sero Net ar gyfer 2050. Mae’r Cynllun yn cynnwys 123 o bolisïau a chynigion a thros 100 o addewidion gweithredu, sy’n adlewyrchu pa mor helaeth yw’r gweithgarwch sy’n digwydd ledled Cymru. Mae’r Cynllun hefyd yn nodi’r camau ehangach i’w cymryd gan eraill, ein galwadau ar Lywodraeth y DU ac mae’n cynnwys addewidion a wnaed gan ein partneriaid. Ochr yn ochr â Sero Net Cymru, fe wnaethom hefyd gyhoeddi Gweithio Gyda’n Gilydd i Gyrraedd Sero Net sy’n cydnabod ac yn arddangos dull gweithredu Cymru gyfan o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd gydag addewidion ac astudiaethau achos o bob cwr o’r wlad.

Wrth i ni symud tuag at Sero Net, rhaid i ni sicrhau ei fod yn cael ei gynllunio’n effeithiol ac yn deg; nid dim ond diogelu diwydiannau a’u cyflogeion, ond eu cryfhau, datblygu sgiliau ar gyfer marchnadoedd y dyfodol, a sicrhau nad yw’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael eu llethu’n annheg gan gostau newid.

Felly, yn Cymru Sero Net rydym wedi ailddatgan ein hymrwymiad i sicrhau ‘pontio teg’ i ffwrdd o economi tanwydd ffosil y gorffennol i ddyfodol carbon isel newydd. Wrth i ni symud at Gymru lanach, gryfach a thecach, bydd sicrhau proses o bontio teg yn golygu na fyddwn yn gadael neb ar ôl. Byddwn yn datblygu dealltwriaeth glir o effeithiau newid – y rhai cadarnhaol a negyddol – a sut i sicrhau bod y rhain yn cael eu dosbarthu’n deg mewn cymdeithas. Wrth wneud hynny, rydym wedi ymrwymo i ddysgu gwersi o’r gorffennol ac adeiladu dyfodol i Gymru sy’n cefnogi economi llesiant. I gefnogi ein sylfaen dystiolaeth sy’n datblygu a’n dull gweithredu ar gyfer sicrhau pontio teg, ddiwedd 2022 fe wnaethom gyhoeddi cais am dystiolaeth, gyda dros 100 o ymatebwyr yn darparu tystiolaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu llwybr datgarboneiddio Cymru i Sero Net erbyn 2050.

1.2 Pontio Teg i Sefyllfa Sero Net

Rhan bwysig o sicrhau Pontio Teg i Sefyllfa Sero Net fydd gweithio’n effeithiol gyda diwydiant ledled Cymru i ddatblygu ein sylfaen ddiwydiannol bresennol a chreu cyfleoedd busnes newydd. Rydym yn cydnabod bod heriau sylweddol wrth ddatgarboneiddio ein diwydiannau trwm yn benodol, oherwydd y gofyn i gynhyrchu gwres uchel iawn mewn prosesau cynhyrchu a’r CO2 sy’n sgil-gynnyrch y broses gynhyrchu.

Mae ein Cynllun Strategol Cymru Sero Net[troednodyn 15] wedi sefydlu y bydd cyflawni Cyllideb Garbon 2 yn galw am gamau gweithredu mewn sawl maes gan gynnwys newid tanwydd a Dal, Defnyddio a Storio Carbon. Ar gyfer sectorau diwydiannol lle mae’n anodd lleihau carbon, ac mewn rhai mathau o drafnidiaeth, rydym yn cydnabod rôl bosibl hydrogen i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r targed Sero Net ac
rydym yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch y dystiolaeth sydd ar gael. Er mai ein huchelgais hirdymor yw symud i hydrogen gwyrdd, rydym yn cydnabod rôl bosibl hydrogen glas yn y cyfamser a fyddai’n galw am dechnolegau Dal, Defnyddio a Storio Carbon. Byddwn yn ymgynghori ymhellach ar hyn i ddatblygu datganiadau polisi a’r camau nesaf yn ddiweddarach eleni.

Rydym yn parhau i weithio gyda’n rhanddeiliaid diwydiannol ledled Cymru i ddatblygu llwybrau datgarboneiddio credadwy. Ym mis Mawrth 2022 fe wnaethom gyhoeddi creu Diwydiant Sero Net Cymru a fydd yn sbarduno cydweithio hanfodol rhwng y diwydiant, y byd academaidd a’r llywodraeth i gyflymu ein taith tuag at Sero Net.

Bydd Diwydiant Sero Net Cymru yn bwrw ymlaen â gwaith Clwstwr Diwydiannol De Cymru a lansiodd ei Gynllun[troednodyn 16] ym mis Mawrth 2023. Mae’r cynllun yn benllanw gwaith helaeth dros ddwy flynedd sy’n cynnwys dros 30 o sefydliadau fel Rockwool, RWE, Celsa Steel, Dragon LNG, ABP, Tata a Valero. Mae’r Cynllun Clwstwr yn amlinellu gweledigaeth a phrif gamau sy’n cynnig y potensial i ddiwydiant newid i ddyfodol Sero Net. Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd amrywiaeth o ymyriadau i’n helpu i gyflawni hyn, gan gynnwys effeithlonrwydd ynni ac adnoddau, newid tanwydd a dal, defnyddio a storio carbon. Byddwn yn gweithio drwy Diwydiant Sero Net Cymru i ddeall mwy am ganfyddiadau’r Cynllun Clwstwr a sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd ar y daith tuag at Sero Net.

Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, rydym yn ymgysylltu â’r diwydiant, gan adeiladu ar y cysylltiadau sydd gan yr ardal â phrosiect Hynet; prosiect dal, defnyddio a storio carbon ac ynni hydrogen trawsffiniol o dan arweiniad consortiwm sy’n cynnwys nifer o bartneriaid allweddol gan gynnwys Progressive Energy Ltd, Eni UK, Cadent a Hanson Cement. Mae camau cychwynnol y prosiect yn canolbwyntio ar gynhyrchu hydrogen yng Ngogledd- orllewin Lloegr a storio CO2 a gynhyrchir mewn meysydd olew a nwy wedi’u haddasu at ddibenion gwahanol, sy’n cael eu gweithredu gan Eni UK ym Mae Lerpwl. Mae’r cam ehangu yn cynnwys piblinellau hydrogen i Gei Connah ar gyfer prynwyr diwydiannol yng Ngogledd Cymru.

Astudiaeth achos: Cynllun Peilot Lleihau Allyriadau Carbon Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru

Mae TB Davies yn fusnes teuluol pedwaredd genhedlaeth yng Nghaerdydd a sefydlwyd yn y 1940au. Mae’n cyflogi 21 o bobl ac roedd ganddo drosiant o £8m yn 2022. Yn ogystal â gwerthu’n uniongyrchol i ddefnyddwyr, mae ei gwsmeriaid yn cynnwys cwmnïau mawr fel Screwfix, Arco ac Amazon.

Mae’r cwmni’n cynhyrchu ac yn dosbarthu amrywiaeth eang o gynnyrch dringo, gan gynnwys grisiau, ysgolion, tyrrau, a phodia ar gyfer defnyddwyr proffesiynol, masnachol a domestig. Mae wedi ymfalchïo mewn aros un cam ar y blaen drwy arloesi ers iddo ddod yn un o’r cwmnïau cyntaf yn y DU i gyflwyno cyfres o ysgolion alwminiwm newydd chwyldroadol at ei ystod o gynnyrch yn y 1960au.

Yn ddiweddar, ymunodd y cwmni â saith cwmni arall i gymryd rhan yng Nghynllun Peilot Lleihau Allyriadau Carbon Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen drochi a oedd yn para tri mis wedi helpu’r cwmni i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’i allyriadau carbon uniongyrchol ac anuniongyrchol a chymryd camau cadarnhaol i’w lleihau.

Wrth esbonio taith y cwmni, dywed y Cyfarwyddwr Mat Gray:

“Fe wnaethon ni ddechrau drwy nodi pa ddata oedd gennym eisoes a lle gallem wella. Er enghraifft, rydyn ni’n defnyddio paneli solar i gyflenwi’r rhan fwyaf o’n trydan, a dydyn ni ddim yn defnyddio nwy ar y safle, felly roeddem yn gwybod ein bod yn “lân” iawn o ran llygredd. Yn y gorffennol, roeddem yn cael trafferth mesur allyriadau Cwmpas Tri, nad ydym yn eu creu. Yn hytrach, dyma’r allyriadau a ddaw gan y rheini rydyn ni’n uniongyrchol gyfrifol amdanyn nhw, i fyny ac i lawr ein cadwyn gyflenwi.

“Mae cynhyrchu ysgolion alwminiwm yn defnyddio llawer o ynni a charbon. Ac mae’n dibynnu’n fawr ar o ble daw’r deunyddiau crai. “Roedden ni’n gallu casglu llawer iawn o ddata am ein gweithgarwch ein hunain a’n cadwyn gyflenwi, gan gynnwys cwmnïau morgludo. Roedd hyn yn ein galluogi i gynnal dadansoddiad manwl a oedd yn nodi meysydd lle gallem wneud yr arbedion carbon mwyaf sylweddol yn yr amserlen fyrraf.

“Mae cam cyntaf y daith wedi arwain at Gynllun Datgarboneiddio, gydag ymrwymiad i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2050. Mae’r cynllun yn nodi nifer o nodau i drawsnewid ar draws y cwmni a newid meddylfryd ein rhanddeiliaid, gan gynnwys cyflenwyr, dosbarthwyr a defnyddwyr, o feddylfryd ‘defnyddio a gwaredu’ tuag at feddylfryd o ‘atgyweirio ac ailddefnyddio’, gan fuddsoddi mewn economi gylchol sy’n seiliedig ar egwyddorion sylfaenol ansawdd, gwydnwch a’r gallu i ailgylchu.”

1.3 Ynni Carbon Isel yng Ngogledd Cymru

Dros y deng mlynedd diwethaf, mae Gogledd Cymru wedi llwyddo i ddefnyddio a chynnal a chadw ynni gwynt ar y môr ac ar y tir, gan ddarparu ynni adnewyddadwy glân a chost-effeithiol ar raddfa fawr.

Mae’r Rhanbarth wedi bod yn rhan o’r stori ynni carbon isel ers y 1960au gyda niwclear, gweithfeydd ynni dŵr mawr a gwynt sefydlog ar y môr. Heddiw, mae’r ymdrech ar y cyd rhwng rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, drwy weithio mewn partneriaeth, yn parhau i roi Gogledd Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil, cynhyrchu a datblygu sgiliau ynni carbon isel sydd â’r potensial i arwain at lawer o fanteision economaidd a chymdeithasol cynaliadwy.

Yn yr ardal, sydd ger y môr, ceir datblygiadau:

  • Ynni morol, fel prosiect arddangos llanw Morlais a phrosiectau gwynt ar y môr rownd 4 posibl,
  • Porthladd Caergybi,
  • Hyb trafnidiaeth hydrogen Caergybi yn harneisio’r adnodd ynni adnewyddadwy enfawr, gan gynnwys ynni solar, llanw a gwynt ar y môr,
  • Canolfan arloesi M-SParc a, niwclear newydd posibl,
  • Porthladd Mostyn,
  • Prosiectau gwynt ar y môr sefydlog presennol a newydd posibl.

Mae Gogledd Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i weithgynhyrchu a dangos sut gall system carbon isel yn y dyfodol, sy’n integreiddio cynhyrchu, trafnidiaeth a gwresogi ddiwallu anghenion cymunedol a rhanbarthol drwy system ynni clyfar integredig gynaliadwy.

1.4 Rôl economi gylchol wrth ddatgarboneiddio diwydiant

Mae economi carbon isel yn economi gylchol oherwydd mae 45% o’r allyriadau carbon byd- eang yn dod o’r cynnyrch a’r gwasanaethau rydym yn eu defnyddio[troednodyn 17]. ‘Mwy nag Ailgylchu’'[troednodyn 18] yw ein strategaeth i wireddu’r economi gylchol yng Nghymru. Mae’n cyflwyno ein huchelgais i Gymru ddod yn wlad lle rydym yn osgoi gwastraff, yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio cyn hired â phosibl ac yn cyfyngu’n rhesymol ar faint o adnoddau’r Ddaear rydym yn eu defnyddio. Yn y dyfodol, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gael gwared ar wastraff diangen mewn gweithgynhyrchu. Mae hyn yn cynnwys plastig untro, lleihau gwastraff bwyd ymhellach a lleihau gwastraff dillad; pob un ohonynt ag ôl troed carbon neu ôl-troed nwyon tŷ gwydr uchel.

Mae llawer o enghreifftiau o sut gellir cyflawni hyn a rhaid i ni gydweithio a dysgu o arferion gorau. Mae rhaglen waith ar y cyd yn cael ei chynnal i gyflwyno cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ledled y DU ar gyfer pecynnu. Bydd y cynllun yn sicrhau bod y rheini sy’n gyfrifol am roi deunydd pacio ar y farchnad yn talu’r costau net llawn am y gwaith rheoli gwastraff ar ôl i’r deunydd pacio gael ei ddefnyddio. Bwriedir dechrau codi ffioedd ar fusnesau yn 2024. Bydd Cymru, ynghyd â Lloegr a Gogledd Iwerddon, hefyd yn cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yn 2025.

Mae gennym lawer o fusnesau yma yng Nghymru sydd eisoes wrth galon newidiadau cadarnhaol mewn prosesau gweithgynhyrchu. Er enghraifft, mae Seda UK yn y Coed-
duon yn darparu atebion cynaliadwy i McDonald’s ymysg cwmnïau eraill; mae Mainetti yn Wrecsam yn ailddefnyddio ac yn ailweithgynhyrchu miliwn o hangers bob dydd ac yn ddiweddar agorodd Frugalpac gyfleuster gweithgynhyrchu yng Ngogledd Cymru i gynhyrchu cwpanau coffi y gellir eu hailgylchu.

Mae’n bwysig cydnabod y rôl hollbwysig y mae Arloesi’n ei chwarae wrth drawsnewid i economi gylchol yn y maes gweithgynhyrchu. Mae strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru, ‘Cymru’n Arloesi’19 yn nodi: ‘symud i economi gylchol yw un o gyfleoedd arloesi mawr ein hoes’. Mae’r strategaeth yn amlinellu’r angen i gyfnewid deunyddiau carbon uchel sy’n defnyddio llawer o ynni am ddeunyddiau cynaliadwy, carbon isel, sy’n effeithlon o ran adnoddau. Gall atebion technolegol digidol a ‘chlyfar’ hefyd hwyluso defnyddio adnoddau’n effeithlon yn y maes gweithgynhyrchu. Ochr yn ochr â’r buddsoddiad mewn seilwaith, mae angen i ni hefyd fuddsoddi mewn pobl i ddatblygu a meithrin y sgiliau iawn. Mae hyn yn cynnwys ailsgilio diwydiannau presennol i addasu i’r newid tuag at ddyfodol carbon isel.

Astudiaeth Achos: Cronfa Economi Gylchol: Addis

Mae Addis Housewares yn gwmni annibynnol blaenllaw yn y farchnad sydd â hanes o 230 mlynedd o ddylunio, gweithgynhyrchu a chyflenwi cynnyrch ar gyfer y cartref. Mae’r cwmni ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gweithgynhyrchu amrywiaeth eang o gynnyrch domestig a masnachol ar draws amrywiaeth eang o farchnadoedd, gan gynnwys rheoli gwastraff, glanhau, golchi dillad, storio bwyd, ochr y sinc a chynnyrch storio. Roedd Addis yn bwriadu ehangu ei amrywiaeth o gynhyrchion eco-gyfeillgar gan ddefnyddio plastig polypropylen wedi’i ailgylchu’n gyfan gwbl drwy gynhyrchu bin pedal 40 litr.

Er mwyn i Addis ymrwymo i ehangu ei ddewis o gynnyrch polypropylen wedi’i ailgylchu’n gyfan gwbl, roedd angen i’r cwmni ddod o hyd i ffyrdd o wneud iawn am rai o’r costau
cyfalaf a oedd yn gysylltiedig â chreu cynnyrch newydd. Roedd cymorth gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan WRAP Cymru, yn galluogi Addis i wneud hynny.

Mae’r bin pedal 40 litr yn ychwanegu at ddewis o gynnyrch eco Addis, yn hytrach na’n disodli cynnyrch sy’n bodoli’n barod. O ganlyniad, mae unrhyw blastigau wedi’u hailgylchu
sy’n cael eu defnyddio yn cynrychioli tunelli ychwanegol o ddeunyddiau eilaidd sy’n cael eu defnyddio. Bydd y cynnyrch yn cael ei gynhyrchu o bolypropylen wedi’i ailgylchu’n gyfan gwbl, sy’n osgoi’r canlynol:

  • defnyddio plastigau newydd sbon sy’n deillio o danwydd ffosil,
  • echdynnu a defnyddio tanwyddau ffosil mewn ffordd anghynaliadwy,
  • y difrod amgylcheddol cysylltiedig y mae’r prosesau hyn yn ei olygu.

Bydd y cynnydd yn y plastig wedi’i ailgylchu a ddefnyddir hefyd yn annog casglu ac ailbrosesu plastigau gwastraff ac, yn y pen draw, bydd yn cefnogi’r gwaith o greu capasiti ailbrosesu ychwanegol yng Nghymru.

O ganlyniad, mae’r cwmni:

  • am ddefnyddio mwy o’r 315 tunnell o bolypropylen wedi’i ailgylchu dros dair blynedd.
  • yn rhagamcanu y bydd yn arbed yr hyn sy’n cyfateb i 182.7 tunnell o CO2 dros gyfnod o dair blynedd.
  • yn rhagweld cynnydd sylweddol mewn refeniw.

“Roedd grant Cronfa’r Economi Gylchol yn caniatáu i ni ehangu ein dewis o gynnyrch eco a chynnig cynnyrch newydd i’n cwsmeriaid, hyd yn oed mewn cyfnod o ansicrwydd mawr. Mae’r grant wedi ein helpu i ddatblygu ein hymrwymiad i’r amgylchedd ac wedi galluogi twf parhaus i’n busnes.” 

Martyn Lee-Smith, Rheolwr Gyfarwyddwr Addis Group Ltd

1.5 Seilwaith Trafnidiaeth Di-allyriadau

Mae Allyriadau Cwmpas o’r sector trafnidiaeth yn cynnwys allyriadau o geir, tryciau, bysiau, tacsis a rheilffyrdd yng Nghymru, ynghyd â’n cyfran o allyriadau o awyrennau a llongau rhyngwladol. Bydd sut rydym yn mynd i’r afael â’r rhain yn cael effaith sylweddol ar helpu Cymru i gyrraedd Sero Net ac yn cefnogi manteision ehangach ar draws iechyd, ansawdd aer, hygyrchedd a’r economi yn gyffredinol. Mae ein Strategaeth Drafnidiaeth ar gyfer Cymru, ‘Llwybr Newydd’[troednodyn 19] yn amlinellu sut byddwn yn rhoi pobl a Newid yn yr Hinsawdd ar flaen y gad o ran ein system drafnidiaeth.

Yn gyntaf, byddwn yn cynllunio ar gyfer gwell cysylltedd ffisegol a digidol, mwy o wasanaethau lleol, mwy o weithio gartref a gweithio o bell a mwy o deithio llesol, er mwyn lleihau’r angen i bobl ddefnyddio eu ceir bob dydd. Yn ail, mae arnom angen system drafnidiaeth integredig sy’n gweithio i bawb, lle gall pobl a nwyddau symud yn rhwydd o ddrws i ddrws drwy wasanaethau a seilwaith trafnidiaeth hygyrch, cynaliadwy ac effeithlon. Mae hyn yn golygu buddsoddi’n sylweddol mewn dulliau cynaliadwy, fel bysiau, rheilffyrdd a theithio llesol, i greu gwasanaethau y mae pobl yn dymuno eu defnyddio, yn gallu eu defnyddio ac yn eu defnyddio. Yn drydydd, byddwn yn annog pobl i newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy drwy ei gwneud yn fwy deniadol ac yn fwy fforddiadwy drwy ddulliau arloesi sy’n ei gwneud yn haws i bawb ei defnyddio.

Ein nod yw lleihau allyriadau o drafnidiaeth teithwyr 22% yn 2025 (o 2019) a 98% yn 2050 drwy leihau’r galw, newid dulliau teithio a defnyddio technolegau carbon isel. Rydym hefyd yn targedu gostyngiad o 10% yn nifer y milltiroedd a deithir y pen mewn car erbyn 2030 ac i gynyddu cyfran y teithiau drwy ddulliau teithio cynaliadwy i 35% erbyn 2025 a chyrraedd 39% erbyn 2030.

Rydym hefyd wedi rhoi arian i Fforwm Moduro Cymru i gynnal ymarfer mapio cadwyni cyflenwi symudedd carbon isel. Bydd hyn yn nodi newydd-ddyfodiaid i’r farchnad, yn tynnu sylw at gamau gweithredu ar gyfer y rheini sydd angen newid modelau busnes ac yn creu màs critigol drwy gydweithio rhwng carfannau. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn rhoi dealltwriaeth gyfannol o’r heriau sy’n wynebu’r sector.

1.6 Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio

Drwy’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio[troednodyn 20], rydym yn cefnogi Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r Awdurdodau Lleol hynny sydd â stoc o dai wrth gefn
drwy ôl-osod cartrefi presennol i wella eu heffeithlonrwydd ynni, lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd a’u gwneud yn fwy cost- effeithiol i’w gwresogi. Mae cyllid ar gael i brynu cynnyrch a gwasanaethau sy’n cynnwys deunydd inswleiddio, awyru, oeri, atebion storio a gwresogi heb danwydd ffosil.

Mae’r cyllid gan y rhaglen hon wedi’i dargedu i fod yn £270m dros dymor presennol y llywodraeth, gydag oddeutu £70m wedi’i fuddsoddi hyd yma. Cynigir y grant i bob Landlord Cymdeithasol Cofrestredig ac Awdurdod Lleol sydd â mwy na 200 uned o stoc dai. Yn 2022-23, gwnaethom ddarparu
£60m drwy gyllid grant i landlordiaid cymdeithasol ac rydym wedi darparu cyllid dangosol ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ganlynol ar sail £70 miliwn o gyllid.

Mae hyn yn dangos pwysigrwydd gweithio ar y cyd nid yn unig gyda’r diwydiant ond gyda’n partneriaid cymdeithasol hefyd, i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae ein cymorth ariannol drwy’r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn helpu i hwyluso cydweithio, gan alluogi Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac Awdurdodau Lleol i gymryd camau ymarferol i ddatgarboneiddio’r stoc dai bresennol, darparu cyfleoedd i gadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu yng Nghymru a sicrhau ein bod yn mynd ar y daith tuag at Sero Net gyda’n gilydd.

Astudiaeth achos: dull gweithredu’r Economi Sylfaenol ar gyfer y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio

Mae gwaith peilot wedi cael ei wneud i ganfod dulliau o ymgysylltu â busnesau lleol, yn enwedig y rheini nad oeddent yn hysbys o’r blaen i gleientiaid contractio, ar y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Roedd tîm yr Economi Sylfaenol wedi cyflogi busnes bach yng Nghymru, Simply Do, ac wedi cynnal ymarfer i sefydlu capasiti a gallu yn y crefftau adeiladu yng Nghymru, a oedd yn uniongyrchol gysylltiedig â chyflawni’r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Mae datgarboneiddio cartrefi yn rhan allweddol o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Sero Net.

Roedd y cynllun peilot yn recriwtio cyflenwyr anodd eu canfod ac anodd eu cyrraedd. Bu’r cynllun peilot hwn yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Caredig, a daeth o hyd i dros 200 o gyflenwyr sy’n gallu cefnogi’r gwaith o gyflawni’r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. O’r rhestr hir hon, cyflwynodd 15 o gyflenwyr ddatganiadau o ddiddordeb a chwblhaodd saith y broses gymhwyso i wneud gwaith i Caredig. Nid oedd Caredig yn gwybod am y cyflenwyr hyn o’r blaen. Mae llwyddiant y cynllun peilot yn golygu bod modd cynyddu hyn ledled Cymru er mwyn galluogi cyflenwyr i ymwneud â datgarboneiddio a chefnogi’r gwaith o gyflawni’r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio.

Ble byddwn ni’n canolbwyntio:
  • Gwneud carbon isel a gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn rhan annatod o’r Contract Economaidd ac ehangu’r ystyriaeth i holl agweddau eraill ar wariant Llywodraeth Cymru, gan gynnwys grantiau a chaffael.
  • Defnyddio Cronfa’r Economi Gylchol fel dull i sbarduno mwy o ailgylchu a llai o dirlenwi, gan gynnwys defnyddio technolegau a phrosesau newydd mewn gweithgynhyrchu.
  • Ochr yn ochr â Diwydiant Sero Net Cymru, byddwn yn gweithio gyda chlystyrau a hybiau diwydiannol ledled Cymru wrth iddynt ddatblygu eu llwybrau ac adeiladu sylfaen dystiolaeth gadarn i ddeall yn well y rôl bosibl y gall newid tanwydd a dal, defnyddio a storio carbon ei chwarae o ran datgarboneiddio gweithgynhyrchu.
  • Gweithio gyda Diwydiant Sero Net Cymru, Clwstwr Diwydiannol De Cymru a rhanddeiliaid yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys Hynet, i ddeall y seilwaith sydd ei angen i ddatgarboneiddio’r diwydiant a manteisio i’r eithaf ar fentrau perthnasol.

2. Datblygu’r amodau i angori cwmnïau gweithgynhyrchu allweddol yng Nghymru, gan gynnwys darparu seilwaith modern a chadwyni cyflenwi cadarn.

Mae ateb y cwestiwn allweddol ynghylch beth sy’n angori busnes yn hanfodol er mwyn datblygu busnesau sydd â mwy a mwy o werth ychwanegol yng Nghymru. P’un ai ydynt yn fusnesau newydd entrepreneuraidd, busnesau bach a chanolig sydd eisoes yn bodoli ac yn ceisio tyfu i’r lefel nesaf neu fewnfuddsoddwyr mawr sy’n ymateb i fylchau yn y gadwyn gyflenwi, mae’n hanfodol ein bod yn dysgu gwersi hanes ac yn sicrhau ein bod yn eu hangori ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Y farn hanesyddol am angori erioed yw bod dal gafael ar berchnogaeth mewn lleoliad yn arwain at gynnydd yn y broses o wneud penderfyniadau ac felly mae’n bosibl ailgyfeirio’n strategol. Mae’r farchnad hefyd yn dal yn arwyddocaol wrth i fusnesau ymsefydlu ac angori lle mae galw yn y farchnad sy’n cychwyn, yn cynnal ac yn gallu datblygu busnes. Er bod y DU yn ymadael â’r UE wedi newid ein perthynas â’r Farchnad Sengl, mae cyfleoedd sylweddol o hyd i gwmnïau o Gymru dyfu yng Nghymru a gweddill y DU, gyda photensial yr UE. Mae hyn yn dal yn wir am yr Economi Sylfaenol yn ogystal ag am nwyddau a gwasanaethau y gellir eu gwerthu pan gyflawnir rhagoriaeth a chystadleurwydd.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni ystyried efallai na fydd perchnogaeth a marchnad yn ddigon i angori cwmnïau mewn bylchau mawr yn y gadwyn gyflenwi a nodwyd fel blaenoriaethau, ac mae angen i ni ddenu buddsoddwyr mawr i feysydd lle nad oes digon o allu na chapasiti yng Nghymru nac yn y DU. Mae’r gwersi a ddysgwyd o’r gweithgarwch Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor yn y gorffennol, gan gwmnïau sy’n buddsoddi yma o Ewrop, Asia ac America, yn dangos i ni mai’r rheini sy’n aros yw’r rheini sy’n gweithredu yng Nghymru ac sydd hefyd wedi cynyddu lefel y swyddi gyda rolau sylweddol ar draws y meysydd Corfforaethol, Cyllid, Gwerthu, Prynu ac Ymchwil a Datblygu. Nid yn unig y mae swyddi lefel uwch o’r fath yn cynyddu sgiliau a gwobrau, maent hefyd yn dod yn bwysig wrth ddatblygu arweinyddiaeth ac yn bwysig iawn, yn rhan o’r prosesau o wneud penderfyniadau a’r dylanwad sydd gan gwmnïau yng Nghymru ar lefel fyd-eang.

Mae meini prawf allweddol yn dal i gynnwys mynediad i’r farchnad, datblygu seilwaith, cadwyni cyflenwi cadarn a sgiliau. Mae gennym sawl ysgogiad yn barod i alluogi’r amodau hyn ac mae angen i gynnig ‘Tîm Cymru’ fod yn glir er mwyn gwneud hyn.

2.1 Cynllun Cyflenwi Eiddo

Ffactor allweddol wrth ddatblygu’r amodau i gwmnïau angori yma yng Nghymru yw eiddo. Er mai dim ond rhan o ‘gynnig Cymru’ i’r economi yw hyn, mae’r safleoedd neu’r adeiladau ‘iawn’ sydd ar gael fel arfer yn hanfodol i fusnes tramor sy’n penderfynu buddsoddi a symud i Gymru, neu i fusnes cynhenid sy’n penderfynu aros a thyfu yma. Mae’r amserlen ar gyfer meddiannu yn ffactor allweddol yn y broses o wneud penderfyniadau busnesau a gall cael portffolio cytbwys o safleoedd ac adeiladau sy’n barod ar gyfer buddsoddi roi mantais gystadleuol i Gymru.

Mae tystiolaeth eang bod y cyflenwad diwydiannol yn gyfyngedig, o’i gymharu â’r galw. Mae diffyg eiddo masnachol priodol nid yn unig yn cyfyngu ar gyfleoedd busnesau i roi hwb i gyflogaeth, ond hefyd yn arafu twf cynhyrchiant. Gwyddwn fod buddsoddi mewn seilwaith eiddo modern yn rhoi cyfle i fusnesau sy’n bodoli eisoes wella cynhyrchiant drwy adleoli o eiddo sydd wedi dyddio neu sy’n aneffeithlon i fan mwy addas. Gall stoc adeiladau masnachol newydd hefyd chwarae rhan bwysig fel catalydd, gan annog deiliaid i fuddsoddi mewn offer a pheiriannau newydd i wella cynhyrchiant.

Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn, mae gan Gynllun Cyflenwi Eiddo Llywodraeth Cymru darged i ddarparu 300,000 troedfedd sgwâr y flwyddyn o ofod llawr ar gyfer cyflogaeth newydd a safleoedd cyflogaeth sy’n barod ar gyfer buddsoddiad mewn lleoliadau blaenoriaeth ledled Cymru. Mae dros 800,000 troedfedd sgwâr o adeiladau newydd a 125 erw o safleoedd sy’n barod am fuddsoddiad naill ai wedi’u cwblhau neu ar y gweill drwy gyfuniad o ymyriadau uniongyrchol, cymorth grant i’r sector preifat a chydweithio â phartneriaid yn y sector cyhoeddus.

Yn ogystal â’r safleoedd neu’r eiddo ‘iawn’ sydd ar gael, rhaid i ni ystyried sut gall cwmnïau ehangu ac arallgyfeirio o’u safleoedd presennol yn ogystal ag addasu adeiladau i fod yn fwy effeithlon o ran ynni, lleihau carbon a chefnogi dyheadau ehangach i gyrraedd Sero Net erbyn 2050. Mae Cymru’r Dyfodol a Pholisi Cynllunio Cymru yn amlinellu ein dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer cefnogi twf cynaliadwy ym mhob rhan o Gymru.

Astudiaeth achos: Datblygiad Tŷ Du

Mae Tŷ Du yn safle datblygu sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru sydd i’r de o Nelson (Caerffili, De Cymru), gyda mynediad uniongyrchol o’r A470 i’r A472 sy’n cysylltu Abercynon ac Ystrad Mynach. Cafodd cynllun mawr i wneud gwaith galluogi seilwaith priffyrdd, gan gynnwys gosod gwasanaethau a ffyrdd ystad, ei gwblhau’n llwyddiannus
ar y safle yn 2019. Roedd hyn yn paratoi’r ystad gyfan ar gyfer datblygiadau preswyl a masnachol, gan gynnwys darparu cartrefi fforddiadwy. Cafodd ei gyllido drwy raglen Safleoedd Cyflogaeth Strategol Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).

Ail gam y datblygiad ehangach ar safle Tŷ Du yw Whitebeam Court a gwblhawyd yn 2021 sef partneriaeth Menter ar y Cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth Cymru. Cafodd yr unedau eu hariannu’n rhannol gan ERDF drwy Lywodraeth Cymru a phartneriaid y Fenter ar y Cyd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r 11 uned yn Whitebeam Court, sydd wedi’u lleoli mewn pedwar teras, wedi denu busnesau o safon ac maent i gyd yn llawn. Mae’r datblygiad hwn yn enghraifft o greu’r seilwaith angenrheidiol sydd ei angen ar fusnesau, fel y nodir yn y Cynllun Cyflenwi
Eiddo. Mae’r unedau o ansawdd uchel heb fod angen llawer o waith cynnal a chadw arnynt ac maent wedi’u lleoli mewn amgylchedd wedi’i dirlunio. Maent wedi’u hadeiladu i safonau rhagoriaeth BREEAM ac maent yn cael eu rheoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae’r tir defnyddiadwy sy’n weddill a ddyrannwyd at ddefnydd cyflogaeth (tua 4.1 erw/ 1.7 hectar) yn cael ei farchnata gan Knight Frank ar ran Llywodraeth Cymru ac mae wedi cael ei farchnata fel tri phlot gyda’r opsiwn o rannu’r plot mwy yn ddau blot llai. Ar hyn o bryd, mae cytundeb wedi’i sicrhau i werthu dau blot.

2.2 Ein Seilwaith Digidol

Nid yw’r cyfrifoldeb dros delathrebu wedi’i ddatganoli – Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol amdano. Fodd bynnag, rydym yn parhau i gamu i mewn i wella cysylltedd digidol ledled Cymru. Bydd y gwaith rydym yn ei wneud gydag Openreach ar hyn o bryd i gyflwyno ffeibr llawn yn darparu cyflymderau gigabit i oddeutu 40,000 o fusnesau a chartrefi ledled Cymru. Mae cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn rhoi grantiau i dalu neu i dalu’n rhannol am osod band eang ar gyfer busnesau a chartrefi. Mae’r Gronfa Band Eang Lleol yn darparu cyllid i awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i gysylltu cymunedau cyfan â band eang cyflym a dibynadwy. Mae gennym hefyd dasglu sy’n gweithio ar fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal defnyddio seilwaith band eang a ffonau symudol. Rydym yn gwybod y bydd technolegau digidol yn hollbwysig ac mae mynediad at seilwaith digidol priodol yn hanfodol os yw ein sector gweithgynhyrchu yn mynd i allu mabwysiadu technolegau Diwydiant 4.0 yn llawn yn y dyfodol.

2.3 Cadwyni Cyflenwi

Yn ein Cynllun Gweithredu cyntaf, roeddem yn cydnabod natur agored i niwed posibl llawer o’n gweithrediadau gweithgynhyrchu oherwydd eu cadwyni cyflenwi byd-eang sy’n aml yn gymhleth. Daeth hyn i’r amlwg yn ystod pandemig COVID-19, a oedd yn dangos o ddifri faint mae ein busnesau yn dibynnu ar y cadwyni cyflenwi hyn, a’r effaith a gaiff unrhyw darfu ar gymdeithas yn gyffredinol. Mewn gwirionedd, gwelsom lawer o gwmnïau’n profi tarfu a oedd weithiau’n arwain at oblygiadau difrifol, yn enwedig y rheini a oedd yn defnyddio methodoleg cynhyrchu ‘mewn union bryd’. Ers y pandemig, rydym wedi gweld newidiadau sylweddol eraill yn y dirwedd fyd- eang gydag effaith y rhyfel yn Wcráin, costau ynni yn cynyddu a chanlyniadau economaidd go iawn Brexit yn dod yn realiti.

Mae hyn wedi ei gwneud yn fwy eglur nag erioed bod angen cadwyni cyflenwi mwy gwydn a lleol sy’n gallu ymdopi â siociau sydyn ar draws y byd, ar y cyd â ffactorau eraill, i sicrhau ffyniant cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy i Gymru. Mewn ymateb i hyn, fe wnaethom ddechrau ar gam cyntaf ymarfer helaeth i fapio cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn deall yn well y capasiti a’r gallu ar hyn o bryd ar draws sectorau, gan gynnwys Ynni Adnewyddadwy, Tai, Gofal Iechyd a Gwyddorau Bywyd, Adeiladu, Bwyd a Diod, Trafnidiaeth a chaffael cyhoeddus.

Bydd gweithgarwch fel hyn yn adnodd gwerthfawr i fusnesau yng Nghymru drwy roi mwy o amlygrwydd a helpu i ddod o hyd i gyfleoedd i ailategu cadwyni cyflenwi presennol. Mae ganddo hefyd y potensial i helpu i lunio polisi’r llywodraeth yn y dyfodol drwy alluogi cymorth wedi’i dargedu ar y meysydd lle mae’r angen mwyaf. Yn y cam nesaf, byddwn yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn drwy greu llwyfan ar-lein ar gyfer data cadwyni cyflenwi ac yn gweithio gyda’r diwydiant a rhanddeiliaid eraill i ysgogi cadwyni cyflenwi i ymateb i feysydd lle ceir cyfleoedd yn y dyfodol. Er enghraifft, bydd hyn yn ein helpu i ddyblu ein hymrwymiad i seilwaith gwefru cerbydau trydan drwy gynyddu capasiti cadwyni cyflenwi i gyflawni yn erbyn ein targedau heriol ar gyfer cyflwyno.

2.4 Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan

Yn 2021, fel rhan o’n dyhead ehangach i gyflawni Sero Net erbyn 2050, fe wnaethom nodi ein Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer Cymru. Yn benodol, sut gallwn ni sicrhau bod pob defnyddiwr ceir a faniau trydan yng Nghymru yn gallu cael mynediad at seilwaith gwefru cerbydau trydan pan fydd ei angen arnynt.

Rydym wedi dechrau gweithio ar ddatblygu fframwaith caffael seilwaith cerbydau trydan o dan arweiniad Llywodraeth Cymru y gellir ei ddefnyddio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd hyn yn ein galluogi i ddylanwadu ar ddatblygu a defnyddio seilwaith cerbydau trydan yn fwy effeithiol yn y dyfodol, yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd i weithgynhyrchwyr yng Nghymru fanteisio ar y gadwyn gyflenwi gymharol newydd hon.

Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i fwrw ymlaen â hyn a disgwylir y bydd y fframwaith yn cael ei lansio yn 2023, gan ddangos ein bwriad clir a’n cynnydd mewn seilwaith trafnidiaeth di-allyriadau yn unol
â Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021.

2.5 Yr Economi Sylfaenol

Mae’r gwasanaethau a’r cynnyrch sydd yn yr economi sylfaenol yn darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sylfaenol hynny y mae pob dinesydd yn dibynnu arnynt. Mae
gwasanaethau gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, adeiladu, twristiaeth a siopau ar y stryd fawr i gyd yn enghreifftiau o’r economi sylfaenol. Mewn rhai rhannau o Gymru, yr ‘economi sylfaenol’ hon yw’r economi. Mae iddi arwyddocâd mwy strategol nag erioed o’r blaen ac mae egwyddorion sut rydym yn gwreiddio’r meddylfryd ‘sylfaenol’ hwn i’w gweld ar draws chwe blaenoriaeth strategol y Cynllun hwn.

Gallwn ddefnyddio’r meddylfryd hwn i ddatblygu cadwyni cyflenwi mwy lleol a hybu mwy o werth cymdeithasol ac economaidd i gymunedau, gan fanteisio ar raglenni buddsoddi mwy fel y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a datgarboneiddio bysiau. Un her i gyflawni hyn yw nad ydym yn gwybod pwy yw llawer o’r busnesau hynny a allai fod â’r galluoedd angenrheidiol, neu y gellid eu cefnogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath, a gallant fod yn anodd dod o hyd iddynt. Rydym eisoes yn gweithio i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o wariant ar y rhaglenni hyn yn y dyfodol, ynghyd â mwy o amlygrwydd i gyflenwyr presennol a darpar gyflenwyr. Drwy ddefnyddio’r wybodaeth hon, byddwn yn helpu cwmnïau i ysgogi’n fwy effeithiol er mwyn manteisio ar gyfleoedd ar gyfer contractau yn y dyfodol, a allai fod o fudd
sylweddol iddynt hwy a’r gadwyn gyflenwi leol.

Rydym eisoes wedi ymrwymo dros £4.5m drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol a oedd yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau a fydd yn ein galluogi i ddysgu gwersi gwerthfawr am y ffordd orau o gefnogi’r economi sylfaenol a pha ymyriadau gan y Llywodraeth sy’n gweithio orau.

2.6 Strategaeth Pren

Enghraifft arall o ble gallwn edrych ar leoleiddio cadwyni cyflenwi yw pren, yn benodol sut rydym yn symud tuag at
gynhyrchu cynnyrch pren gwerth uwch o bren Cymru yma yn yng Nghymru. Yn 2021, roedd 81% o’r pren sy’n cael ei ddefnyddio yn y DU yn cael ei fewnforio[troednodyn 21] a dim ond 4% o’r 1.5 miliwn m3 o bren wedi’i gynaeafu o Gymru oedd yn cael ei brosesu i’w ddefnyddio fel pren wedi’i raddio ar gyfer adeiladu[troednodyn 22]. Mae cyfran is o bren yn cael ei ddefnyddio ym mhob math o waith adeiladu yng Nghymru nag yn yr Alban neu Iwerddon. Mae cyfle gwirioneddol i broseswyr a gweithgynhyrchwyr pren yng Nghymru gyfrannu at ‘economi goed’, gan greu swyddi newydd mewn ardaloedd gwledig yn ogystal ag adeiladu cadwyn gyflenwi arloesol ar gyfer defnyddiau gwerth ychwanegol uchel, sy’n para am gyfnod hwy.

Y cynhyrchion hyn fydd y rhai sy’n gwneud y cyfraniad mwyaf i’n helpu i gyrraedd targed Sero Net 2050 ac i gynyddu gwerth y sector yng Nghymru, ac rydym yn canolbwyntio ar sut gallwn gyflawni hyn. Byddwn yn ystyried, ymysg materion eraill, sut rydym yn datblygu dealltwriaeth gadarn o ofynion y sector a’r marchnadoedd a’r gofynion o ran niferoedd ac yn sicrhau bod gennym yr hyfforddiant sgiliau cywir ar gyfer y dyfodol.

Mae potensial clir ar gyfer twf yn y sector hwn a allai ddarparu mwy o gyfleoedd gwaith ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan ynghyd â datblygu amrywiaeth o sgiliau mewn meysydd fel y sectorau amaeth-goedwigaeth, prosesu, gweithgynhyrchu ac adeiladu.

Ble byddwn ni’n canolbwyntio:
  • Llunio mapiau manwl o’r cadwyni cyflenwi ar gyfer cynnyrch hanfodol, gan gynnwys capasiti a gallu presennol. Byddwn yn defnyddio hyn i ganfod cyfleoedd i leoleiddio cadwyni cyflenwi, cynyddu gallu busnesau cynhenid a denu mewnfuddsoddiad wedi’i dargedu i fynd i’r afael â bylchau yn y cadwyni cyflenwi.
  • Mynd i’r afael â’r prinder safleoedd ar gyfer gweithgynhyrchu a sectorau cysylltiedig drwy fuddsoddi mewn safleoedd cyflogaeth strategol, gan ddarparu 300,000 troedfedd sgwâr y flwyddyn o arwynebedd llawr newydd ledled Cymru drwy’r Cynllun Cyflenwi Eiddo.
  • Sicrhau bod cwmnïau gweithgynhyrchu wedi’u hangori’n gryfach ac annog mwy o benderfyniadau’n cael eu gwneud yng Nghymru. Byddwn yn gwneud hyn drwy ysgogiadau cymorth uniongyrchol fel y Contract Economaidd a buddsoddiad cyfalaf, er enghraifft, cyfleoedd a ddarperir gan y newid i drafnidiaeth ddi-allyriadau
  • Gweithio gyda datblygwyr a rhanddeiliaid eraill i ddeall a hyrwyddo potensial y gadwyn gyflenwi o’r ynni ar y môr yng Ngogledd Cymru ac yn y Môr Celtaidd.
  • Cefnogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i gyflenwi nwyddau a gwasanaethau mewn ymateb i’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, gan fabwysiadu dull caffael yn yr economi sylfaenol sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu â chyflenwyr yng Nghymru a’u cefnogi pan fo hynny’n briodol.

3. Nodi a datblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y gweithlu ac arweinwyr er mwyn cyflawni ‘Cymru 4.0’.

Canfu arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Ysgol Fusnes Ryngwladol Hult mai dim ond 6% o uwch reolwyr sy’n credu bod eu sefydliadau’n datblygu arweinwyr yn effeithiol.

Mae hwn yn faes lle mae llawer o gymorth wedi’i roi a lle mae llawer o ganolbwyntio wedi bod dros y blynyddoedd, felly mae cwestiwn pwysig i’w ateb ynghylch pam mae ein hyder yn parhau i fod yn isel o ran effeithiolrwydd sgiliau ein gweithlu a’n harweinwyr.

Mae arweinyddiaeth dda yn hanfodol, nawr yn fwy nag erioed, o ystyried yr heriau sy’n ein hwynebu. Fodd bynnag, er ein bod wedi gweld llawer o enghreifftiau da o arweinyddiaeth a darpariaeth hyfforddiant ategol, mae wedi bod yn dameidiog yn rhy aml. Mae angen dull gweithredu mwy cyfannol er mwyn sbarduno trawsnewid llwyddiannus mewn busnesau. Rhaid i ni ddatblygu’r cyd-destun cywir ar sail tystiolaeth a thueddiadau byd-eang, darparu’r gefnogaeth iawn mewn ymateb a sicrhau bod ein busnesau’n cael eu cynnwys yn llawn.

Mae datblygu arweinyddiaeth yn rhoi pwyslais ar bobl wrth reswm, ac mae hyfforddiant yn aml yn seiliedig ar newid diwylliant ac ymddygiad. Fodd bynnag, mae angen gwneud hyn ochr yn ochr â datblygu arweinyddiaeth mewn meysydd fel digidol, darbodus a Gwelliant Parhaus, er mwyn arfogi ein harweinwyr busnes nawr ac ar gyfer y dyfodol ar gyfer oes sy’n canolbwyntio fwyfwy ar dechnoleg a chynaliadwyedd. Mae’n hanfodol bod y gweithlu’n cael ei gynnwys i sbarduno newid diwylliannol effeithiol, gan wneud arweinyddiaeth yn rhan annatod ar bob lefel a chynnwys pawb mewn gweithgareddau hyfforddi. Mae hyn yn galluogi busnesau i harneisio arloesedd a brwdfrydedd eu gweithwyr a datblygu consensws a momentwm ar gyfer newid cynaliadwy ar yr un pryd.

Mae’n bwysig bod arweinwyr yn datblygu o fewn cyd-destun ehangach tirwedd eu diwydiant sy’n newid, ac nid ar eu pen eu hunain. Mae Cymru wedi buddsoddi mewn llawer o weithgareddau datblygu dros y blynyddoedd, ond mae’n bwysig cael dull gweithredu strategol sy’n seiliedig ar dueddiadau byd-eang ac arferion gorau. Mae’r Sector Cyhoeddus, y Sector Preifat a’r Trydydd Sector yn dod at ei gilydd gan ddefnyddio iaith, maes llafur a hyfforddiant cyffredin i ddatblygu arweinwyr heddiw a darparu cenedlaethau o arweinwyr y dyfodol, sydd wedi’u harfogi i arwain ein sefydliadau tuag at ddyfodol lle gallant hwy, eu gweithwyr a Chymru ffynnu.

Yn hollbwysig, mae’n rhaid i’r diwydiant ddangos arweinyddiaeth yn y galw am sgiliau. Barn Diwydiant Cymru, yn seiliedig ar adborth gan amrywiaeth o fusnesau, yw y byddai gan gwmni modurol nodweddiadol, canolig ei faint, 40 mlynedd yn ôl hyd at 5% o’i weithlu yn datblygu sgiliau bob blwyddyn, gan gynnwys ei ysgol hyfforddi ei hun gyda llawer o brentisiaethau, nawdd, interniaethau a rhaglenni i raddedigion. Heddiw, dim ond tua 1% fyddai hyn ar gyfartaledd. Felly mae’r ddemograffeg yn dangos ein bod yn anelu at sefyllfa lle mae gennym fylchau mawr wrth i fwy a mwy gyrraedd oed ymddeol. Dylai busnesau sy’n ymrwymo i gyflawni 3-5% gael eu gwobrwyo a’u cydnabod wrth iddynt gynyddu sgiliau. Dylai’r llwybrau traddodiadol hyn gael eu hategu gan hyfforddiant penodol ar gyfer rolau lefel mynediad, gradd-brentisiaethau ac ailsgilio gweithwyr presennol yng nghanol gyrfa.

  • Nifer isel o ymgeiswyr gyda’r sgiliau gofynnol: 69%
  • Gormod o gystadleuaeth gan gyflogwyr eraill: 54%
  • Difyg cymwysterau sydd eu hangen ar y cwmni: 49%
  • Nifer isel o ymgeiswyr yn gyfredinol: 49%
  • Nifer yr ymgeiswyr sydd â’r agwedd / cymhelliant / personoliaeth angenrheidiol: 38%
  • Dim digon o bobl â diddordeb mewn gwneud y math hwn o waith: 31%
  • Difyg profiad gwaith sydd ei hangen ar y cwmni: 28%
  • Lleoliad anghysbell / trafnidiaeth gyhoeddus wael: 21%
  • Cyflog gwael yn cael ei gynnig ar gyfer y swydd: 8%
  • Newid ym mholisi cyflog byw y llywodraeth / costau llafur: 8%
  • Amseroedd teithio afresymol i’r gwaith: 5%
  • Cyflogaeth dymhorol: 3%
  • Mae’r swydd yn golygu gweithio shiftiau /
    oriau anghymdeithasol: 3%
  • Dim llawer o gyfle i gamu ymlaen yn eich gyrfa / difyg rhagolygon mewn rôl benodol: 3%

*Ffynhonnell: Arolwg ‘archwiliad iechyd’ Diwydiant Cymru 2022’

Rydym yn gweld ein busnesau’n ei chael hi’n anodd denu digon o bobl sydd â’r sgiliau, y cymwysterau neu’r profiad iawn, gyda llawer o gystadleuaeth yn y farchnad i’r rheini sy’n bodloni’r gofynion. Mae ‘cyflog gwael’ yn cael ei ystyried yn broblem llawer llai, sy’n dangos bod y sector fel arfer yn parhau i gynnig cyflogaeth o ansawdd am dâl da. Mae hyn yn dweud wrthym fod angen i ni gefnogi datblygiad arweinwyr ein diwydiant, yn ogystal â helpu i roi hynny yn ei gyd-destun o ran tueddiadau byd-eang ar gyfer eu sector a’u gofynion o ran sgiliau. Mae gennym eisoes amrywiaeth o weithgareddau cefnogi ar gael i ni sy’n darparu gwerth i’n busnesau, eu gweithwyr a’n cymunedau ar hyd a lled Cymru. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn defnyddio’r rhain mewn ffordd wedi’i thargedu sy’n cynyddu’r effaith ar ein sector gweithgynhyrchu.

3.1 Gyrfa Cymru

Wrth galon ein cynnig sgiliau, mae Gweledigaeth Strategol Gyrfa Cymru: ‘Dyfodol Disglair’ 2021-2026, sy’n amlinellu’r uchelgais o greu dyfodol gwell i bob person ifanc ac oedolyn a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae Gyrfa Cymru yn darparu hyfforddiant ac arweiniad gyrfaoedd proffesiynol a diduedd i bobl ledled Cymru.

Mae Gyrfa Cymru yn gweithio gydag ysgolion a cholegau i gefnogi pobl ifanc i ddod yn fwy effeithiol wrth gynllunio a rheoli eu gyrfaoedd mewn marchnad swyddi gymhleth sy’n newid yn gyson. Mae hyn yn cynnwys eu helpu i ddeall yn well sut mae eu dewisiadau’n effeithio ar eu gyrfa yn y dyfodol, eu hannog i gynllunio ymlaen llaw a’u cefnogi i gymryd y camau angenrheidiol i ddatgloi’r llwybr gyrfa o’u dewis. Mae’r gefnogaeth yn eang ac yn cael ei hategu gan gyfleoedd dysgu i athrawon, cymorth i rieni a’r rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, i sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Mae Gyrfa Cymru yn gweithio gyda miloedd o fusnesau ledled Cymru ac mae’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddod ag ysgolion a chyflogwyr at ei gilydd i roi gwybodaeth, ysbrydoli a symbylu pobl ifanc, gan roi cyfle i fusnesau ymgysylltu’n uniongyrchol â darpar weithwyr yn y dyfodol hefyd. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau ymgysylltu â chyflogwyr (rhithwir ac wyneb yn wyneb), cyfnewidfa addysg busnes i ddarparu rhaglenni sy’n gwella’r cwricwlwm ar gyfer
disgyblion ac amrywiaeth o ffeiriau gyrfaoedd a gweithgareddau tebyg. Mae hyn i gyd yn seiliedig ar gynnig digidol cynhwysfawr sy’n sicrhau bod gwybodaeth a chymorth ar gael drwy wasanaethau digidol sy’n hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio.

Mae Cymru’n Gweithio yn wasanaeth ategol am ddim a ddarperir gan Gyrfa Cymru. Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn, ac mae’n darparu cyngor a hyfforddiant arbenigol i helpu pobl i ddod o hyd i waith ystyrlon. Mae hyn yn cynnwys ysgrifennu CV, cymorth gyda dileu swyddi a chyfeirio at ddarpariaethau priodol eraill, gan gynnwys rhaglenni Llywodraeth Cymru fel ReAct +, Twf Swyddi Cymru + a Chyfrifon Dysgu Personol.

Cymru’n Gweithio yw’r llwybr mynediad ar gyfer ein Gwarant i Bobl Ifanc, ein hymrwymiad allweddol i gefnogi pawb o dan 25 oed, sy’n byw yng Nghymru, i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, a’u helpu i gael gwaith neu ddod yn hunangyflogedig. Mae’r pecyn cynhwysfawr hwn yn dwyn ynghyd amrywiaeth o raglenni i ddarparu’r gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn ar gyfer anghenion amrywiol pobl ifanc ledled Cymru.

Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ymgysylltu’n agos â gweithgynhyrchwyr i hyrwyddo’r ystod eang o wasanaethau sydd ar gael drwy Cymru’n Gweithio a Gyrfa Cymru, ac i nodi unrhyw feysydd lle mae cyfle i wneud pethau’n wahanol er budd y sector gweithgynhyrchu.

Astudiaeth achos: Gweithgaredd STEM Caerdav Ltd gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru

Mae’r cwmni o Fro Morgannwg, Caerdav Ltd, yn helpu merched i gymryd rhan mewn STEM. Dechreuodd yr arbenigwr hedfan weithio gyda chynghorwyr ymgysylltu â busnesau Gyrfa Cymru i annog mwy o ferched ysgol i ystyried peirianneg fel gyrfa. Mae Caerdav Ltd yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw, atgyweirio ac adfer, a hyfforddi ar gyfer cwmnïau awyrennau ledled y byd a’r nod yw cyflogi mwy o fenywod. Trefnwyd ymweliad ar gyfer grŵp o 17 o ferched blwyddyn wyth o Ysgol Llanilltud Fawr i ymweld â safle’r cwmni. Cafwyd sgwrs ragarweiniol am Caerdav, gan gynnwys beth mae’r cwmni’n ei wneud a sut mae’n gweithredu. Yn ogystal â thaith o amgylch y safle a’r cyfle i siarad â pheirianwyr a phrentisiaid, rhoddwyd tasgau ymarferol iddynt. Roedd un dasg yn cynnwys dysgu sut mae platiau metel yn cael eu cysylltu mewn ffordd sy’n eu hatal rhag llacio o ganlyniad i ddirgryniadau wrth esgyn.

Dywedodd Lyndsay Gallo, athrawes yn Ysgol Llanilltud Fawr: 

“Roedd yn anhygoel. Aeth Caerdav i drafferth arbennig i sicrhau profiad llawn gwybodaeth. Cafodd y disgyblion gyfle i weld yn uniongyrchol y math o rolau ym maes peirianneg awyrennau ac roedd siarad â menywod oedd yn gweithio yn y cwmni yn eu helpu i sylweddoli pa mor hygyrch oedd gyrfa o’r fath. Mae mor bwysig tynnu sylw merched ifanc at yrfaoedd sydd, yn hanesyddol, wedi cynnwys dynion yn bennaf – yn enwedig mewn diwydiannau STEM. Gall siarad â menywod sydd eisoes yn y swyddi hyn fod yn ysbrydoledig ac mae’n helpu merched ifanc i weld y llwybr gyrfa hwnnw fel nod realistig iddyn nhw.”

3.2 Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Mae ein Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn rhaglen datblygu sgiliau sy’n agored i gyflogwyr yng Nghymru sy’n dymuno uwchsgilio neu ailsgilio eu gweithluoedd presennol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gymwys i gael cymhorthdal o hyd at 50% tuag at hyfforddiant wedi’i gaffael yn breifat, gan ddefnyddio darparwr/darparwyr o’u dewis. Mae dwy elfen wahanol i’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg: 1. Prosiectau Partneriaeth, sydd wedi cael eu datblygu gan gyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant mewn ymateb i heriau sgiliau sy’n wynebu busnesau ar draws sector, a 2. Datblygu Busnes, sy’n helpu cyflogwr i ddatblygu ei weithlu er mwyn ennill sgiliau newydd neu well, a fydd yn helpu i gwblhau prosiect datblygu busnes sylweddol yn llwyddiannus.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig Prosiect Partneriaeth Uwch Beirianneg a Gweithgynhyrchu i helpu i sbarduno economi sgiliau Cymru, gan ganolbwyntio ar anghenion sgiliau blaenoriaeth a nodwyd gan gyflogwyr yng Nghymru a chyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant yn y sector. Mae Prosiectau Partneriaeth yn cynnig proses ymgeisio symlach i gyflogwyr sy’n eu galluogi i fynd i’r afael yn gyflym ag anghenion sgiliau eu busnes, gan helpu Cymru ar yr un pryd i naill ai oresgyn her sgiliau benodol, neu ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi datblygiad economaidd yn y dyfodol. Dyma enghraifft lle rydym eisoes yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion ein cwmnïau gweithgynhyrchu, a byddwn yn parhau i hyrwyddo’r cynnig hwn yn frwd i’n cwmnïau gweithgynhyrchu er mwyn cael y budd mwyaf.

Astudiaeth achos: Energizer Auto UK

Sefydlwyd Energizer Auto UK ym 1997 ac mae bellach yn cyflogi 50 o staff medrus sy’n cynhyrchu mwy na 700 o gynhyrchion ar gyfer moduron, sy’n amrywio o ychwanegion tanwydd i gynhyrchion golchi ceir ar draws 43 o wledydd gwahanol.

Mae gan y cwmni bartneriaeth hirsefydlog â Llywodraeth Cymru ac mae’n elwa o’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg sy’n helpu cyflogwyr i ddatblygu sgiliau technegol, proffesiynol ac arwain eu staff.

Mae gan Energizer gysylltiadau cryf hefyd â Sefydliad Arddangos Arloesol Datblygu Technegol y Cymoedd (VISTA) lle mae’r cwmni’n rhannu arferion gorau gyda chyflogwyr lleol eraill a Choleg Gwent i hyrwyddo a chreu profiad gwaith a chyfleoedd gwaith newydd yn yr ardal leol.

Dywedodd y Rheolwr Peiriannau, Mark Thomas o Energizer Auto UK:

“Gyda chymaint o ansicrwydd ac ansefydlogrwydd yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’n wych cael dathlu’r garreg filltir bwysig hon. Mae’r tîm yn Rasa wedi gweithio’n galed i wella effeithlonrwydd a dod yn fwy ymatebol i amrywiadau yn y galw, ac mae hyn wedi arwain at dwf sylweddol dros y ddwy flynedd diwethaf.

Mae’r ffatri wedi gorfod addasu a newid o ganlyniad i’r twf hwn. Mae Rhaglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan bwysig o uwchsgilio a pharatoi’r gweithlu.”

3.3 Cwricwlwm i Gymru

Mae angen i ni fel gwlad arfogi ein holl ddysgwyr ar gyfer y byd sydd o’n blaenau. Maent yn wynebu dyfodol o newid technolegol, cymdeithasol ac economaidd cyflym lle bydd y gallu i addasu, creadigrwydd a sgiliau digidol yn hanfodol. Mae gwaith yn esblygu, mae technoleg yn wahanol, mae cymdeithas yn newid, ac rydym yn anelu, drwy bedwar diben Cwricwlwm i Gymru, at feithrin unigolion uchelgeisiol, galluog, creadigol a mentrus sy’n barod i fyw bywydau moesegol a chwarae rhan lawn mewn cymdeithas. 

Dyma hefyd pam ein bod wedi sefydlu Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith (neu, Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith yn fwy cryno) fel thema drawsbynciol yng Nghwricwlwm i Gymru i blant o dair oed ymlaen. Mae gwneud STEM yn rhan annatod o’r canllawiau Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith yn golygu canolbwyntio ar gyfathrebu am gyfleoedd gyrfa STEM ac ehangu ymgysylltiad cyflogwyr mewn ysgolion cynradd – gan ddyfnhau dealltwriaeth o gyfleoedd STEM o oedran ifanc. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun y sectorau gweithgynhyrchu a chysylltiedig lle mae sgiliau sy’n gysylltiedig â STEM mor bwysig ac yn debygol o ddod yn bwysicach fyth.

Wrth i dechnoleg barhau i esblygu, mae gweithlu amrywiol a hyblyg yn hanfodol er mwyn diwallu anghenion economaidd Cymru yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’r un mor bwysig ein bod yn arfogi cenedlaethau’r dyfodol â’r sgiliau hyn ac yn sicrhau ein bod yn cael gwared ar rwystrau, stereoteipiau ac anghydraddoldebau o oedran cynnar. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r diwydiant ac yn cefnogi Gyrfa Cymru i gydnabod y rôl allweddol sydd gan y cwmni o ran cyfateb y cyflenwad o sgiliau i anghenion y diwydiant, hyrwyddo gyrfaoedd a sgiliau STEM, gan sicrhau bod pobl ifanc yn deall llwybrau gyrfa mewn STEM a’u bod yn cael eu hysbrydoli a’u cymell i ddilyn y rhain.

3.4 Cymorth ar gyfer STEM

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwaith o ddarparu mentrau gwyddoniaeth a STEM mewn ysgolion, drwy raglenni cyllid grant gwerth bron i £1.5m ar gyfer 2022-23. Mae cyllid grant ar lefel dysgwyr ac ymarferwyr yn cwmpasu ehangder y pynciau sy’n dod o dan STEM. Mae Gyrfa Cymru yn darparu amrywiaeth eang o wybodaeth gyfredol sy’n ymwneud â gyrfaoedd STEM, yn ddigidol, ac yn bersonol, drwy weithgareddau wedi’u hwyluso i gyflogwyr a ffeiriau gyrfaoedd.

Rydym hefyd wedi buddsoddi’n sylweddol (dros £1m y flwyddyn dros y blynyddoedd diwethaf) mewn rhaglenni STEM, gan gynnwys rhaglen ‘Global Teaching Labs’ yng Nghymru gan Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT). Ers 2019, mae wedi ariannu tiwtoriaid o MIT i gyflwyno gweithdai STEM am dair wythnos y flwyddyn mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru.

3.5 Prosiect Hwyluso STEM y Cymoedd Technoleg

Mae Rhaglen y Cymoedd Technoleg wedi bod yn gweithio ar y cyd ag ysgolion yn ardal Blaenau Gwent, gyda’r nod o ysgogi cynnydd mewn cyflawniad gwyddoniaeth ym
mhob ysgol yn yr ardal. Roedd dangosyddion perfformiad allweddol yn dangos gwelliant arwyddocaol yn 2021/22 wrth gymharu â chanlyniadau Blwyddyn Academaidd 2018-
19. Ym mis Rhagfyr, fe wnaethom ymestyn y Prosiect Hwyluso STEM am ddwy flynedd ariannol arall (2023/2024 a 2024/2025).

Hyd yma, mae Prosiect Hwyluso STEM y Cymoedd Technoleg wedi sefydlu cyfnod newydd o bartneriaeth rhwng diwydiant ac Ysgolion a Lleoliadau yng nghlwstwr Ebwy Fawr ym Mlaenau Gwent. Mae’r prosiect wedi codi ymwybyddiaeth Dysgwyr o gyfleoedd gyrfa sy’n deillio o Ddiwydiant 4.0. Mae’r ffocws hwn ar addysg wedi profi’n allweddol i wella rhagolygon swyddi dysgwyr, i’w helpu i ddeall y gwerth y mae cyflogwyr yn ei roi ar bynciau STEM. O ganlyniad, bydd busnesau’n gallu recriwtio o’r ardal leol a bydd sylw’n cael ei roi i’r bwlch sgiliau.

3.6 Cymwysterau Cymru

Cynhaliodd Cymwysterau Cymru adolygiad sector o gymwysterau, a’r system gymwysterau, mewn Peirianneg, Gweithgynhyrchu Uwch ac Ynni rhwng 2018 a 2020. O ganlyniad, mae wedi ymrwymo i nifer o gamau gweithredu sydd wedi cael eu rhoi ar waith dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf. Er enghraifft, mae wedi gweithio gyda chyrff dyfarnu i oruchwylio cyflwyno cymwysterau galwedigaethol newydd cyn-16 ac ôl-16 yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cymhwyster peirianneg ymarferol ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed a chyfres newydd o gymwysterau cerbydau modur ôl-16 gyda’r cynnwys diweddaraf ar gynnal a chadw cerbydau trydan. Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn datblygu meini prawf ar gyfer TGAU newydd mewn Peirianneg a fydd yn rhan o’r gyfres newydd o gymwysterau TGAU ‘Gwneud i Gymru’ i gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru o 2025 ymlaen.

3.7 Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol

Gwelwn amrywiaeth o fentrau ledled Cymru sy’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu sgiliau, ac yn bwysig iawn, sgiliau arwain ein pobl ifanc a fydd yn arwain Cymru yn y pen draw, i’r dyfodol. Bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn dechrau recriwtio pobl ifanc rhwng 18 a 30 oed ar gyfer Academi Arweinyddiaeth nesaf Cenedlaethau’r Dyfodol yn dilyn rhaglen beilot lwyddiannus yn 2019 a 2021. Bydd y rhaglen yn cael ei lansio ym mis Medi 2023 am saith mis, a daw i ben ym mis Mawrth 2024. Bydd yn cyfuno sesiynau rhithiol ac wyneb yn wyneb dros gyfanswm o 60-70 awr. Bydd grŵp amrywiol o 30 o gyfranogwyr yn cael eu dewis a byddant yn dysgu sgiliau arwain ac arferion da o ran gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a’i saith nod llesiant, yn ogystal â’r pum ffordd o weithio sydd eu hangen i gyflawni’r nodau.

Bydd hanner y cyfranogwyr yn cael eu recriwtio drwy sefydliadau unigol, a fydd yn cytuno i noddi’r academi. Bydd gweddill y cyfranogwyr yn cael eu dewis drwy raglen recriwtio a fydd yn agored i Gymru gyfan.

Pan fydd y cyfranogwyr wedi graddio o’r academi, byddant yn cael gwahoddiad i ymuno â’r rhwydwaith cyn-fyfyrwyr, lle mae tîm Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn parhau i hwyluso cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth a lle gall yr aelodau barhau i gefnogi ei gilydd drwy rannu arferion gorau.
Mae sefydliadau o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector wedi noddi’r academi gan gynnwys Ove Arup, Costain, Trafnidiaeth Cymru a Capital Law. Mae pob noddwr fel arfer yn recriwtio un cyfranogwr i ymuno â’r rhaglen ar bob carfan.

3.8 Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net

Er ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod gofynion sgiliau tymor byr a chanolig cyflogwyr ac yn arfogi cenedlaethau’r dyfodol yn unol â hynny, rydym hefyd yn gwybod bod y sgiliau cywir yn hanfodol er mwyn i ni sicrhau pontio teg i sefyllfa Sero Net. Ym mis Chwefror 2023, fe wnaethom lansio ein Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net.

Mae ein huchelgeisiau Sero Net yn cynnwys dyfodol gwell, tecach a gwyrddach i bob un ohonom. Mae sgiliau yn alluogydd allweddol i gyflawni’r uchelgeisiau hyn, gan sicrhau bod y broses o drawsnewid yn deg ac nad yw’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael eu llethu’n annheg gan gostau newid. Mae’r Cynllun yn gam cyntaf pwysig i ddeall rôl sgiliau o ran sicrhau proses bontio teg i sefyllfa Sero Net. Mae’r her i gyflawni ein hymrwymiad Sero Net yn enfawr a bydd ein hanghenion sgiliau yn y dyfodol yn galw am ddull gweithredu cydweithredol ar draws yr economi gyfan. Wrth lunio’r cynllun, rydym wedi gweithio ar draws y llywodraeth, gyda rhanddeiliaid allanol a phartneriaid allweddol i gael darlun o’r dirwedd sgiliau Sero Net yn erbyn yr wyth sector allyriadau sydd wedi’u hamlinellu yn Sero Net Cymru.

Mae’r Cynllun yn blaenoriaethu saith maes allweddol ac yn cynnwys 36 o gamau gweithredu. Mae’n amlinellu ymrwymiad y Llywodraeth hon i gefnogi proses bontio teg i sefyllfa Sero Net drwy gyfrwng dull gweithredu mwy cydlynol. Mae ein cynllun sgiliau yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu ag arweinwyr busnes a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod y diwydiant a’r llywodraeth yn cyd-fynd ac yn cael eu hysgogi mewn ffordd gydlynol.

3.9 MIT: Y Rhaglen Cyswllt Diwydiannol

MIT yw un o’r sefydliadau ymchwil ac academaidd gorau yn y byd, sy’n enwog am ragoriaeth mewn technoleg, peirianneg a gwyddorau, ac mae’n cynnwys dros 90 o enillwyr Gwobrau Nobel ymhlith llawer o anrhydeddau eraill. Mae Cymru wedi sefydlu perthynas gref â MIT dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys bod yn aelod o Raglen Cyswllt Diwydiannol MIT. Mae tua 800 o fusnesau blaenllaw ledled y byd yn ffurfio perthnasoedd strategol hirdymor gyda MIT drwy’r Rhaglen Cyswllt Diwydiannol, gan eu helpu i sganio’r gorwel yn hyderus a datblygu strategaeth fusnes sy’n seiliedig ar arferion gorau byd-eang mewn meysydd fel Diwydiant 4.0, datgarboneiddio a gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.

Gan fod Cymru yn aelod, gall cwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru gael mynediad at borth ar-lein MIT sy’n llawn gwybodaeth, cael mynediad am ddim at gynadleddau MIT, mynychu gweithdai a sesiynau briffio preifat ac archwilio cyfleoedd i gydweithio â MIT ac aelodau eraill y Rhaglen Cyswllt Diwydiannol. Mae Cymru hefyd yn croesawu academyddion pwysig MIT sydd wedi rhoi cyflwyniadau allweddol ac wedi cyflwyno gweithdai pwrpasol i gwmnïau
o Gymru ar amrywiaeth o bynciau.

Ble byddwn ni’n canolbwyntio:
  • Meincnodi ein perfformiad gweithgynhyrchu yn erbyn arferion gorau rhanbarthau tebyg yn y DU ac yn fyd-eang. Defnyddio’r data hyn er mwyn defnyddio ein dulliau cymorth yn y ffordd orau i wella cynhyrchiant a chystadleurwydd.
  • Galluogi cwmnïau o Gymru, yn enwedig ein sylfaen gweithgynhyrchu, i ddysgu o arferion gorau byd-eang drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â rhaglenni o’r radd flaenaf fel Rhaglen Cyswllt Diwydiannol MIT.
  • Sefydlu dull o gyfathrebu ag arweinwyr ar draws yr ecosystem gweithgynhyrchu i gydweithio, canfod cyfleoedd i ddysgu o arferion gorau byd-eang a thargedu cymorth penodol fel ein Rhaglen Sgiliau Hyblyg.
  • Gweithredu TGAU newydd mewn Peirianneg drwy Cymwysterau Cymru, a fydd yn rhan o’r gyfres newydd o gymwysterau TGAU ‘Gwneud i Gymru’ i gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru o 2025 ymlaen.
  • Gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid yn y sector gweithgynhyrchu i greu cynllun gweithredu sy’n nodi blaenoriaethau i gefnogi’r diwydiant i gyflymu’r broses o fabwysiadu arloesedd digidol a data, gan gynnwys seiber a deallusrwydd artiffisial.

4. Cryfhau cydweithio rhwng rhanddeiliaid i fanteisio ar newid technolegol a chyflawni arloesedd mwy masnachol yn ddi-oed.

Rydym yn aml yn clywed y dywediad ‘dydyn ni ddim yn gwybod beth dydyn ni ddim yn ei wybod’, a dyna pam mae meithrin ecosystem sy’n galluogi deialog organig ac anffurfiol rhwng rhanddeiliaid yr un mor bwysig i sbarduno mwy o arloesi a chydweithio â chymorth neu ymyriad uniongyrchol.

Mae buddsoddi mewn mwy o ymchwil, datblygu ac arloesi a denu mwy o fuddsoddiad preifat a chyhoeddus i Gymru yn dal yn bwysig. Fodd bynnag, bydd cyd-greu heriau ac atebion posibl drwy gydweithio yng Nghymru a ledled y DU ac Ewrop yn cael effaith fawr, a gall arwain at ganlyniadau sylweddol drwy fasnacheiddio mwy o ymchwil yn ddi-oed.

Mae diffyg swyddogaethau lefel uchel cadarn mewn busnes wedi arafu’r broses o gyd-greu gyda’r byd academaidd ac wedi cyfyngu ar ein potensial i gael rhaglenni Arloesi mawr.
Mae hyn yn bwysig gan ein bod yn gweld y budd amlwg iawn i Gymru lle rydym wedi llwyddo i sbarduno buddsoddiad mawr gan fuddsoddwyr preifat ac yn y DU, er enghraifft gyda chlwstwr Lled-ddargludyddion a rhaglenni datgarboneiddio’r diwydiant. Hefyd, mae gennym Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru, sy’n dod o dan Brifysgol Sheffield ac sy’n aelod o Gatapwlt Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth y DU.

Mae’r rhain yn enghreifftiau o effaith datblygu prosiectau magnet sy’n cael eu targedu’n fwriadol, sy’n cynnig cyfleoedd i Gymru, y DU neu hyd yn oed yr UE. Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn enghraifft amlwg arall lle gall meysydd Seilwaith, Ynni, digidol, technoleg ac Adeiladu, yn ogystal â Thrafnidiaeth, ganolbwyntio ar weithgareddau datblygu. Mae gennym hefyd nifer o gyfleoedd eraill fel Niwclear ar Ynys Môn ac yn Nhrawsfynydd a’r Diwydiant Ynni Adnewyddadwy sy’n tyfu.

Mae’r cyfuniad o ecosystem arloesi integredig a chysylltiedig ynghyd â seilwaith blaenllaw yn bwerus. Rydym yn deall y rheidrwydd strategol i wella cynhyrchiant, effeithlonrwydd ynni, cadwyni cyflenwi a sbarduno mwy o gydweithio ac arloesi. Bydd llawer o hyn yn seiliedig ar dechnolegau a phrosesau newydd, ond nid yw llawer o dechnolegau Diwydiant 4.0, sydd â photensial trawsnewidiol ar gyfer y sector gweithgynhyrchu, yn cael eu mabwysiadu’n ddigonol ar hyn o bryd a rhaid i ni fynd ymhellach i wella hyn.
 

 Wedi’i fabwysiadu’n llawnProsiect peilot ar waithMeddwl am ei ddefnyddio/bwriadu dechrau prosiect peilotDdim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd
Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD)65%4%13%19%
Monitro Prosesau36%8%16%40%
Modelau Digidol30%11%13%47%
Technolegau Synhwyro28%2%12%58%
Roboteg ac Awtomatiaeth25%15%17%44%
Oˆer Dadansoddi Data20%5%15%60%
Gweithgynhyrchu Haen-ar-haen / Argrau 3D18%14%8%59%
Cysylltedd (IOT)11%0%22%68%
Dysgu Peirianyddol / Deallusrwydd Arti­sial9%2%11%77%
Realiti Estynedig0%5%9%86%
Realiti Rhithwir0%5%5%91%
Cadwyni atal2%2%95%0%

*Ffynhonnell: Arolwg ‘archwiliad iechyd’ Diwydiant Cymru 2022’

Astudiaeth Achos: Cydgynllwyn optegol, Datblygu dyfodol technoleg gorsbectrol

Yr her

Nid dim ond arbenigwyr masnachol yw partneriaid hanfodol Airbus. Mae sefydliadau academaidd yn chwarae rhan bwysig ym mhob math o brosiectau, o ddatblygu technoleg tanwydd glanach i ddeall gweithgynhyrchu cyfansawdd.
Ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yng Ngogledd Cymru – un o bartneriaid hirdymor Airbus – arweiniodd ymchwil arloesol a gwaith datblygu opteg fanwl a systemau optegol at greu cangen fasnachol, Arloesiadau Glyndŵr. Mae’r gangen yn creu opteg fawr a heriol yn bwrpasol ac yn dylunio systemau optegol arbenigol. Mae delweddu gorsbectrol ymhlith ei feysydd arbenigedd.

Yn syml iawn, mae delweddwr gorsbectrol yn caniatáu i chi ddelweddu golygfa gan ddefnyddio sawl band sbectrol cul (lliwiau) ar yr un pryd. Mae hyn yn golygu bod modd
canfod newidiadau bychan iawn mewn lliw ar draws yr olygfa. Gall y newidiadau hyn mewn lliw ddangos unrhyw beth o bresenoldeb clefyd y croen mewn pobl, i falltod ar gnydau neu hyd yn oed bresenoldeb dyddodion mwynau mewn tirweddau. Felly, gall y data sy’n deillio o hyn ddarparu gwybodaeth fforensig bwerus ar gyfer meysydd sy’n cynnwys meddygaeth, amaethyddiaeth, mwyngloddio ac amddiffyn.
Wrth ystyried y cymwysiadau posibl ar gyfer Arsylwi’r Ddaear, roedd yn gwneud synnwyr perffaith i Arloesiadau Glyndŵr ymuno ag Airbus ac eraill i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn – a dyna ddigwyddodd yn 2018.

Y dull gweithredu

Mae cael Airbus yn bartner wedi galluogi Glyndŵr i fod yn rhan o ddatblygiad y gallai fod wedi bod yn anodd ei gyflawni fel arall.
 
“Mae Arloesiadau Glyndŵr yn dîm bach, arbenigol iawn,” meddai Paul Rees, Athro Opteg – Technoleg a Mesureg ym Mhrifysgol Glyndŵr. ““Er y gallem adeiladu delweddwr gorsbectrol ar fainc mewn labordy, ni allem lansio un i’r gofod!

“Fe wnaeth Airbus ddarparu’r cyd-destun i ni ddefnyddio hyn yn y rhaglen ac mae wedi helpu i gaffael rhywfaint o offer profi arbenigol – sy’n bwysig iawn i’n twf parhaus fel tîm technegol.

“Yn y bôn, rydyn ni’n hoffi gweithio gydag Airbus. Mae aelodau’r tîm yn hawdd iawn troi atyn nhw, ac mae hyn yn hanfodol ar gyfer prosiectau fel y rhain lle mae angen trafod syniadau tra gwahanol yn agored. Roeddem i gyd yn gallu awgrymu syniadau ac roedd pawb yn ein cymryd o ddifri. Dim ond os ydych chi’n teimlo’n gyfforddus gyda’ch cydweithwyr y gallwch chi wneud hynny.”

Yr ateb

Mae’r bartneriaeth wedi arwain at system ‘protofwrdd’ mewn labordy, neu arddangosydd technoleg – ac mae’r system yn cael ei phrofi ar hyn o bryd – gydag amcan strategol i’w datblygu ymhellach ar gyfer treialon hedfan.

Mae cyllid bellach wedi’i sicrhau i ymestyn y rhaglen ddatblygu i gynnwys treialon hedfan. Ond i Brifysgol Glyndŵr, mae partneriaeth ag Airbus yn ymwneud gymaint â datblygu’r
genhedlaeth nesaf o arloeswyr awyrofod ag y mae’n ymwneud ag adeiladu offer.

“Dros y blynyddoedd mae’r brifysgol wedi datblygu llawer iawn o arbenigedd yn y maes hwn ond mae partneriaethau fel hyn yn rhoi pwrpas go iawn i gyfeiriad ein hymchwil a’n cyrhaeddiad masnachol,” meddai Caroline Gray, Athro Menter, Ymgysylltu a Throsglwyddo Gwybodaeth, a Chyfarwyddwr Canolfan Dechnoleg OpTIC.

“Mae prifysgolion modern yn cynnal gweithgareddau ymchwil sy’n cyflawni ar gyfer yr economi drwy alluogi’r syniadau newydd ac arloesol hyn i fod yn fasnachol hyfyw. Mae’n ein galluogi i feithrin ein henw da, adeiladu partneriaethau eraill ac ariannu ein gwaith.

“Ar yr un pryd, fel Prifysgol, mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gallu darparu llwyfannau addysg a hyfforddiant perthnasol i ddiwydiant i gefnogi twf y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen yn niwydiant y DU. Mewn sawl ffordd, mae’r bartneriaeth hon yn enghraifft wych o sut dylai’r berthynas weithio.”

4.1 Cymru’n Arloesi: Creu Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach

Ym mis Chwefror 2023, fe wnaethom lansio Cymru’n Arloesi: Creu Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach, canlyniad ymgynghori helaeth ar draws y llywodraeth, y diwydiant, partneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid ehangach.

Mae’n cynrychioli agwedd newydd at arloesi yng Nghymru lle rydym yn cydnabod na allwn wneud popeth a bod yn rhaid i ni flaenoriaethu’r pethau hynny a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar Gymru, gan dargedu ein cefnogaeth yn unol â ‘chenadaethau’ penodol. Yn hyn o beth, bydd ein dull gweithredu’n canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:
 

  1. Addysg: system addysg sy’n darparu’r sgiliau a’r wybodaeth ar draws ein hysgolion, ein colegau, ein prifysgolion a’n sefydliadau ymchwil, gan alluogi masnacheiddio syniadau i greu ffyniant cymdeithasol ac economaidd.
  2. Economi: economi sy’n arloesi ar gyfer twf, yn cydweithio ar draws sectorau i gael atebion i heriau cymdeithas, yn mabwysiadu technolegau newydd ar gyfer effeithlonrwydd a chynhyrchiant, yn defnyddio adnoddau’n gymesur, ac yn caniatáu i ddinasyddion rannu cyfoeth drwy waith teg.
  3. Iechyd a Llesiant: ecosystem arloesi gydlynol lle mae’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio â diwydiant, y byd academaidd a’r trydydd sector i sicrhau mwy o werth ac effaith i ddinasyddion, yr economi a’r amgylchedd.
  4. Hinsawdd a Natur: gwneud y defnydd gorau posibl o’n hadnoddau naturiol er mwyn gwarchod a chryfhau cydnerthedd natur a gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd. Byddwn yn canolbwyntio ymdrechion arloesi’r ecosystem ar fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur ar yr un pryd gan sicrhau proses bontio teg tuag at economi llesiant.

Bydd Cynllun Gweithredu ar gyfer Arloesi yn cael ei ddatblygu, a fydd yn nodi nifer fach o nodau ym mhob maes cenhadaeth, y camau y byddwn yn eu cymryd gyda phartneriaid, mesurau a cherrig milltir tymor byr, tymor canolig a thymor hir.

Bydd y dull gweithredu hwn sy’n seiliedig ar genhadaeth yn galluogi Llywodraeth Cymru i chwarae rôl o gynnull, gan gefnogi ein hecosystem arloesi i ddatblygu cynigion
ymchwil, datblygu ac arloesi mwy o ran maint, sy’n fwy cydlynol a grymus. Bydd hyn yn helpu i wneud yn fawr o’r cyllid sydd ar gael i ni wrth i Gymru gystadlu am gyllid y DU yn lle’r cymorth blaenorol gan Gronfeydd Strwythurol yr UE. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth wedi’i dargedu pan fydd angen neu gyfle penodol i Gymru.

4.2 Advanced Manufacturing Research Centre (AMRC) Cymru

Elfen allweddol arall sy’n sbarduno ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghymru yw sut rydym yn manteisio i’r eithaf ar ein hasedau, fel Advanced Manufacturing Research Centre (AMRC) Cymru, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran meithrin ymchwil mwy cydweithredol a gwneud technolegau a phrosesau Diwydiant 4.0 yn rhan annatod o’n cwmnïau gweithgynhyrchu. Mae AMRC wedi cefnogi rhaglen dechnoleg adenydd y dyfodol Airbus sydd gyda’r gorau yn y byd a thros 30 o fusnesau bach a chanolig ar draws 16 o brosiectau. Mae rhaglen alluogi ddigidol fawr ar gyfer busnesau bach a chanolig ar y gweill ar hyn o bryd, a fydd yn cefnogi 60 o weithgynhyrchwyr eraill dros y 18 mis nesaf.
Un enghraifft o’r gwerth gwirioneddol y mae’r cymorth hwn yn ei ddarparu yw’r prosiect ‘Ffatri 4.0’ sy’n brosiect ar y cyd rhwng AMRC Cymru, Airbus a chwmnïau bwyd a diod Cymru (The Pudding Compartment a Hensol Distillery), gan ddefnyddio offer digidol i greu ‘ffatri’r dyfodol’, gwella effeithlonrwydd cynhyrchu a lleihau costau ynni ac ôl troed carbon i gyflawni’r rhaglen BITES a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Rhwydwaith AMRC adnabyddus Prifysgol Sheffield sy’n rhedeg AMRC Cymru, sy’n rhan o’r Catapwlt Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth ac mae’n dynfa bwerus ar gyfer mewnfuddsoddi a datblygu sgiliau sy’n sbarduno twf economaidd rhanbarthol. Mae AMRC yn hyb ymchwil o’r radd flaenaf sy’n cefnogi 120 o bartneriaid diwydiannol byd- eang o bob maint yn uniongyrchol er mwyn bod yn fwy cynhyrchiol, datblygu cynnyrch gwell, defnyddio prosesau gwell a newid i economi carbon isel. Mae’n cynnwys cwmnïau fel Boeing, Rolls-Royce, BAE Systems ac Airbus, yn ogystal â busnesau bach a chanolig ledled y wlad sy’n hanfodol i gadwyni cyflenwi byd-eang.

Astudiaeth achos: AMRC Cymru

Mae Advanced Manufacturing Research Centre (AMRC) Cymru yn troi ymchwil o’r radd flaenaf yn welliannau ymarferol enfawr i ddiwydiant, gan helpu i roi hwb i’w cynhyrchiant, gwella eu mantais gystadleuol ac arbed amser, arian ac ynni.

Mae’r arbenigedd yn cynnwys deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol, gweithgynhyrchu haenau ychwanegol, roboteg, realiti rhithwir a realiti estynedig, cydosod â chymorth dynol, rhyngrwyd diwydiannol pethau (IIoT) a gefeilliaid digidol, mesureg uwch, efelychiadau digidol, dylunio a phrototeipio a llawer mwy.

Mae AMRC Cymru wedi cefnogi rhaglen dechnoleg adenydd y dyfodol flaengar Airbus, sy’n datblygu technolegau adenydd y genhedlaeth nesaf, mae wedi cefnogi Rolls-
Royce i wneud injans tyrbo-ffan yn ogystal â chefnogi Toyota i ddatblygu systemau gyriant y dyfodol. Hefyd, mae AMRC Cymru wedi helpu dros 50 o fusnesau bach a chanolig ar draws sbectrwm eang o fusnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru, a bydd yn cefnogi 60 o weithgynhyrchwyr eraill dros y 18 mis nesaf.

Roedd y rhaglen Cymorth Gweithgynhyrchu Digidol (DIMAS) yn un o’i brosiectau arloesol. Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, bu AMRC Cymru yn cefnogi deg busnes lleol drwy amrywiaeth o weithgareddau arloesi yn y maes gweithgynhyrchu. Roedd y rhain yn cynnwys datblygu cynnyrch newydd, gwella prosesau gweithgynhyrchu a mentrau arloesi eraill.

Mae’r tîm yn AMRC Cymru yn helpu i feithrin cydweithredu a phartneriaethau rhwng diwydiant, y byd academaidd a’r llywodraeth, i ddarparu gwaith ymchwil, datblygu ac arloesi blaengar ar gyfer cynnyrch a phrosesau gwell; ac yn helpu i sbarduno technolegau gweithgynhyrchu cynaliadwy ar gyfer sero net, gan greu’r newidiadau sylweddol sydd eu hangen ar gyfer trawsnewid i garbon isel.

4.3 Strategaeth Ddigidol i Gymru

Mae AMRC Cymru hefyd yn helpu i wireddu rhai o’n huchelgeisiau craidd a nodwyd yn ein Strategaeth Ddigidol i Gymru, sy’n amlinellu gweledigaeth ac uchelgais glir ar gyfer dull digidol cydlynol ar draws sectorau. Mae’n amlinellu sut byddwn yn defnyddio adnoddau digidol a data i sicrhau trawsnewid ar draws chwe maes cenhadaeth – gwasanaethau digidol, cynhwysiant, sgiliau, yr economi, seilwaith a data. Wrth galon hyn, mae ein hymrwymiad i ddatblygu gwasanaethau digidol sy’n ystwyth, yn gydweithredol, yn gynhwysol ac, yn hollbwysig, wedi’u dylunio o gwmpas anghenion defnyddwyr.
Mae hefyd yn amlinellu sut rydym am dyfu mewnfuddsoddiad, datblygu ecosystem fasnachol ac academaidd a gweithio gyda’r diwydiant i gynyddu cynnig digidol Cymru i’r farchnad ryngwladol. Un o ganlyniadau cenhadaeth Economi Ddigidol y Strategaeth yw: “bydd arloesedd digidol Cymru yn amlwg yn y gystadleuaeth fyd-eang am farchnadoedd a diwydiannau newydd ac yn
denu talentau newydd i Gymru”. Rydym wedi meithrin partneriaethau cryf a chydweithredol â chlystyrau diwydiannol, y byd academaidd a’r gymuned fusnes ehangach i fanteisio ar y cyfleoedd y gall economi ddigidol eu cynnig ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol. Mae strategaeth ddigidol effeithiol yn hanfodol er mwyn galluogi Cymru i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil technolegau newydd Diwydiant 4.0 fel Deallusrwydd Artiffisial, Rhyngrwyd Pethau a Dysgu Peirianyddol.

4.4 Seiber yng Nghymru

Fel yr amlinellir yn ein Strategaeth Ddigidol, rydym yn datblygu Cynllun Gweithredu Seiber ar gyfer Cymru a fydd yn dwyn ynghyd ddatganiad cenedlaethol cydlynol o uchelgais a gweithgarwch ar faterion seiber. Pwrpas
y cynllun yw diffinio gweledigaeth ar gyfer materion seiber yng Nghymru gyda chyfres o gamau gweithredu i ddarparu dull cydlynol o ddatblygu’r ecosystem seiber, gan adeiladu ar bartneriaethau cadarn sydd eisoes yn bodoliar draws y llywodraeth, y byd academaidd a diwydiant a chynyddu buddsoddiadau drwy gydweithio.

Gallwn weld hyn yn digwydd yn barod drwy’r Hyb Arloesedd Seiber o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd a fydd yn cefnogi ac yn sbarduno trawsnewid a thwf clwstwr seiberddiogelwch yn Ne Cymru. Nod yr Hyb yw cefnogi dros 25 o fusnesau newydd seiberddiogelwch ac uwchsgilio 1,750 o
unigolion ag arbenigedd seiber i helpu i wella sgiliau seiberddiogelwch yng Nghymru. Mae’r Hyb wedi cael cyllid ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a bydd yn gweithio’n agos gyda’i bartneriaid a’i fusnesau i ddod â heriau seiberddiogelwch sy’n cael eu gyrru gan y farchnad at ei gilydd i helpu i sbarduno trawsnewid a thwf arloesedd seiber. Mae hwn yn faes sy’n dod yn fwyfwy arwyddocaol i sectorau gweithgynhyrchu a sectorau diwydiant eraill wrth iddynt symud i ffordd fwy digidol o weithio.

4.5 Bargeinion Dinesig a Bargeinion Twf

Un o egwyddorion sylfaenol y Cynllun Gweithredu newydd yw hyrwyddo ffordd fwy cydweithredol o weithio, gan gyfuno ein hadnoddau a’n harbenigedd i gael effaith drawsnewidiol drwy gydnabod cyfleoedd unigryw gwahanol Ranbarthau. Mae ein Bargeinion Dinesig a’n Bargeinion Twf yn enghreifftiau o ddull gweithredu o’r fath, sy’n rhoi cyfle i Gymru a’n Rhanbarthau fanteisio i’r eithaf ar gyllid Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gefnogi ymyriadau sy’n gallu sicrhau twf economaidd cynaliadwy, sy’n canolbwyntio ar flaenoriaethau rhanbarthol.

Yn y bôn, maent yn cael eu harwain gan uchelgais ein Partneriaid Cyflawni Rhanbarthol (Awdurdodau Lleol) sy’n nodi eu blaenoriaethau ar sail eu dealltwriaeth unigryw o’u cyd-destun rhanbarthol. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gyd-lofnodwyr, ond yr egwyddor allweddol yw bod y Partneriaid Cyflawni Rhanbarthol yn gyfrifol am y weledigaeth, yr amcanion, y gwaith llywodraethu ac am gyflawni canlyniadau ystyrlon yn llwyddiannus ar gyfer pob Bargen Ddinesig a Bargen Twf.

Mae pedair Bargen Ddinesig weithredol yng Nghymru; Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Rhanbarth Bae Abertawe, Gogledd Cymru a Chanolbarth Cymru. Rhyngddynt, bydd y rhain yn golygu buddsoddiad gan y sector cyhoeddus mewn amrywiaeth eang o raglenni a phrosiectau sy’n werth tua £1.7bn. Ategir hyn gan gyllid gan y sector preifat sy’n golygu bod y buddsoddiad cyffredinol yn sylweddol uwch dros oes y Bargeinion. Er bod yr amcanion penodol yn unigryw i bob Rhanbarth, maent i gyd yn canolbwyntio ar gefnogi rhaglenni, prosiectau a seilwaith trawsnewidiol a fydd yn cefnogi ein dyheadau Sero Net, yn creu cyflogaeth newydd sylweddol, yn arfogi cenedlaethau’r dyfodol â sgiliau o’r radd flaenaf ac yn cyfrannu at gynnydd sylweddol mewn gwerth ychwanegol gros ar draws pob rhan o Gymru.

4.6 Rhaglen ‘Cymoedd Technoleg’ Llywodraeth Cymru

Mae’r Cymoedd Technoleg yn ymrwymiad deng mlynedd gwerth £100 miliwn y Rhaglen Lywodraethu i greu amgylchedd ffisegol lle gall cwmnïau gweithgynhyrchu uwch- dechnoleg o bob maint ffynnu. Mae hyn yn cynnwys is-sectorau fel digidol, seiber, deallusrwydd artiffisial a roboteg. Nod y rhaglen yw annog mabwysiadu atebion digidol a datblygu technolegau uwch o werth uchel sy’n cefnogi diwydiannau arloesol fel 5G, technoleg batris ac ymchwil i gerbydau modurol ac awtonomaidd. Rydym hefyd wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol (NDEC), sef partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Thales a Phrifysgol De Cymru. Hefyd, arweiniodd Cyngor Blaenau Gwent gais llwyddiannus ar
y cyd â’r Cymoedd Technoleg, Coleg Gwent a rhanddeiliaid y diwydiant i ddatblygu’r cyfleuster Peirianneg Gwerth Uchel (HiVE), sefydliad addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf yng Nglynebwy.

Y datganiad o weledigaeth yw y bydd ardal cymoedd De Cymru yn cael ei chydnabod yn fyd-eang fel canolfan ar gyfer datblygu technolegau newydd sy’n cefnogi diwydiant arloesol. I wneud hyn, byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd sy’n deillio o Ddiwydiant 4.0, yn cefnogi swyddi cynaliadwy, gwerth uchel, yn denu mewnfuddsoddiad ac yn creu amgylchedd ar gyfer dysgu a datblygu sgiliau wedi’i deilwra i’r hyn sydd ei angen ar fusnesau mewn gwirionedd, nawr ac yn y dyfodol. Hyd yma, mae rhaglen y Cymoedd Technoleg wedi ymrwymo £40 miliwn i brosiectau ac rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ganfod a datblygu prosiectau newydd.

4.7 Fforwm Datgarboneiddio Glannau Dyfrdwy

Ym mhen arall Cymru, gwelwn enghraifft wych arall o gydweithio a meddwl cydgysylltiedig. Mae Fforwm Datgarboneiddio Glannau Dyfrdwy yng Ngogledd Cymru yn fforwm Busnes-i-Fusnes i alluogi trafodaeth agored ynghylch y cyfle datgarboneiddio yng Nglannau Dyfrdwy a’r ardal gyfagos. Mae’n llwyfan ar gyfer arwain, rhwydweithio, lledaenu gwybodaeth a hwyluso prosiectau ar draws dros 30 o sefydliadau sy’n cynrychioli’r gadwyn gwerth lawn.

Mae Uniper yn un o sylfaenwyr y Fforwm sydd wedi denu tua 30 o aelodau o Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, gan gynnwys Tata, Toyota, Eni, WWU, Triton Power, Essity a ffatri bapur newydd ICT, Prifysgol Bangor, AMRC ac Uchelgais Gogledd Cymru. Mae potensial yn y dyfodol i ehangu’r fforwm i gynnwys ardal Wrecsam.

Ble byddwn ni’n canolbwyntio:
  • Cefnogi ecosystem Cymru (gan gynnwys fforymau a digwyddiadau masnach) i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach gyda mwy o gydweithio a gweithgareddau ymchwil, datblygu ac arloesi yn unol â’r ymrwymiadau a’r blaenoriaethau yn ein Strategaeth Arloesi, “Cymru’n Arloesi”.
  • Defnyddio Advanced Manufacturing Research Centre (AMRC) Cymru
    fel canolbwynt i sbarduno ymchwil cydweithredol, lle mae ysgogiadau cymorth ategol yn cydgyfeirio er mwyn sicrhau’r gwerth mwyaf posibl (gan gynnwys cynigion Arloesi ehangach Llywodraeth Cymru fel SMART).
  • Gweithio i sicrhau mwy o gronfeydd ymchwil ac arloesi yn y DU.
  • Parhau i ddatblygu gallu a chapasiti ymchwil yng Nghymru a hwyluso cyfleoedd cydweithio rhyngwladol drwy Raglen Sêr Cymru.
  • Hyrwyddo perfformiad sylfaen Ymchwil Cymru a manteision allweddol cyllid gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
  • Datblygu map manwl o randdeiliaid allweddol i ddeall yr ecosystem bresennol a chanfod cyfleoedd i sbarduno cyfleoedd cydweithio yn y dyfodol – wedi’i gysylltu â meysydd blaenoriaeth wrth fapio’r cadwyni cyflenwi (hynny yw, pa undebau llafur/ prifysgolion sy’n ymwneud â phob ardal).
  • Byddwn yn annog ac yn cefnogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i fabwysiadu arferion ‘arloesi agored’ i reoli eu dull o gydweithio.

5. Sefydlu egwyddorion cyflogaeth ‘Gwaith Teg’ yng Nghymru, gan hyrwyddo cynhwysiant, diogelwch a gwarchod ein treftadaeth ddiwylliannol

Mae gweithgynhyrchu yn arwyddocaol o ran nifer y bobl y mae’n eu cyflogi neu’r cyfraniad y mae’r sector yn ei wneud i’n cynnyrch cenedlaethol. Hefyd, mae ganddo enw da am ‘Waith Teg’ a photensial i fod yn hyrwyddwr go iawn dros Gymru. Nid yw hyn yn anwybyddu rhai o’r newidiadau mawr sy’n dal yn ofynnol, yn enwedig o ran cydbwyso’r manteision
a geir drwy dechnolegau newydd yn deg rhwng y cyflogwr a’r gweithiwr. Mae angen i ni gydnabod bod gan y sector werth ychwanegol gros sy’n golygu bod modd dosbarthu buddion yn deg i weithwyr yn hyn o beth[troednodyn 23]. Mae’r gymhareb ar gyfer y rhai sy’n cael eu talu fwyaf i’r rhai sy’n cael eu talu leiaf yn enghraifft o hyn. Er enghraifft, mae cyflog Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn bedair gwaith cyflog y rhai sy’n gweithio mewn siopau, ac wrth gymharu â diwydiannau mwy newydd a rhai gwledydd cost isel, mae’r gwahaniaeth hwn yn gallu bod hyd at ugain gwaith.

Mae’n mynd y tu hwnt i gyflog teg yn unig ac mae’n cynnwys amodau contract teg i gyflogeion sydd, mewn diwydiannau gweithgynhyrchu uchel eu gwerth, yn hollbwysig o ystyried yr her o ddenu a chadw pobl hynod fedrus sy’n ymwneud â gwelliant parhaus. Mae’r sector yn darparu cyfleoedd gwych ar lefel mynediad, heb fod angen achrediad academaidd uchel o reidrwydd, gyda llwybrau gyrfa sy’n cynnwys Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) cydnabyddedig sy’n cael eu gwobrwyo gyda sicrwydd contract.

Mae gweithgynhyrchu wedi trawsnewid drwy’r chwyldroadau diwydiannol blaenorol, gydag amgylcheddau ffatrïoedd yn ficrocosm ar gyfer newidiadau yn yr amgylchedd gwaith, cynhyrchu mecanyddol, Iechyd a Diogelwch, Iechyd Galwedigaethol ac awtomeiddio. Unwaith eto, y sector fydd y sbardun ar gyfer trawsnewid ffurf y diwydiant, a fydd yn galw am weithio mewn partneriaeth gyda chynrychiolaeth gref o gyflogeion a chydnabyddiaeth Undebau Llafur.

Bydd sicrhau bod pawb yn cael ei werthfawrogi a hyrwyddo cynhwysiant nid yn unig yn gwella’r gweithle ond hefyd yn annog ac yn datblygu cyfranogiad ehangach o lawer na heddiw. Mae hyn yn hanfodol i ddiwydiant. Mae’r Contract Economaidd yn un o’r dulliau y byddwn yn ei ddefnyddio i sbarduno’r newid hwn ac i fonitro ein cynnydd.

Mae llygaid y byd wedi canolbwyntio ar arweinyddiaeth Ddiwydiannol Cymru yn y gorffennol, ac os ydym yn gweithio ar y cyd, mewn ffordd gynhwysol a theg ac yn ddi-oed, gallwn unwaith eto hyrwyddo Cymru a’n sector gweithgynhyrchu fel arweinydd byd-eang.

5.1 Gwaith Teg

Mae gwaith teg yn golygu bod amodau ar gael sy’n golygu bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, eu clywed a’u cynrychioli’n deg, a’u bod yn gallu datblygu mewn amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol, lle mae eu hawliau fel gweithwyr yn cael eu parchu. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu amgylchedd gwaith sy’n:

  • Galluogi gweithwyr i dalu eu costau byw ac yn darparu buddion ehangach fel tâl salwch a phensiynau.
  • Cynnig y cyfle a’r dewis i weithwyr gael eu cynrychioli ar y cyd drwy Undeb Llafur, yn sicrhau bod gweithwyr yn cael gwybod am benderfyniadau arfaethedig a allai
    effeithio arnynt ac yn rhoi’r modd i weithwyr gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny a dylanwadu arnynt.
  • Darparu sicrwydd gwaith ac incwm sy’n cynnwys oriau gwaith, enillion ac yn rhoi cyfle i weithwyr weithio’n hyblyg i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.
  • Darparu cyfleoedd cynhwysol i gael gwaith, i ennill a datblygu sgiliau a dysgu ac i ddatblygu gyrfaoedd.
  • Mynnu bod gwaith yn cael ei wneud mewn amgylchedd diogel ac iach, lle
    ymdrinnir â bwlio, aflonyddu a phob math o wahaniaethu.
  • Gwarantu bod hawliau a rhwymedigaethau’n cael eu cydnabod bob amser ac y glynir wrthynt.

Rydym wedi cynhyrchu canllaw byr Llywodraeth Cymru: Canllaw i waith teg, sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am beth mae gwaith teg yn ei olygu’n ymarferol; pam mae hyrwyddo gwaith teg o fudd i sefydliadau, i weithwyr ac i lesiant yn ehangach; a sut gall sefydliadau roi gwaith teg ar waith.

Rydym yn glir ynghylch y gwerthoedd rydym yn barod i’w cefnogi, a dyna pam mae gwaith teg nawr yn rhan mor bwysig o’r ffordd rydym yn llunio ein perthynas â busnesau drwy ein Contract Economaidd. Yn ogystal â’r cannoedd o fusnesau sydd wedi ymgysylltu â ni yn y Contract Economaidd hyd yma, mae dros 400 o gyflogwyr wedi ymrwymo i God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

Mae llofnodwyr y Cod yn cytuno i gydymffurfio â’i ymrwymiadau i gefnogi arferion cyflogaeth foesegol a mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern. Rydym yn dymuno
codi ymwybyddiaeth o’r Cod ac annog cynifer o fusnesau gweithgynhyrchu â phosibl i fod yn llofnodwyr er mwyn gallu teimlo’r manteision ar draws eu cadwyni cyflenwi.

Bydd Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) sydd bellach wedi bod drwy’r broses o graffu deddfwriaethol yn y Senedd, yn cael effaith anuniongyrchol ar weithgynhyrchwyr yng Nghymru, yn bennaf drwy ei ddyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol. Mae cysylltiad agos rhwng y dyletswyddau caffael a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac maent yn canolbwyntio’n benodol ar reoli contractau a rheoli’r gadwyn gyflenwi. Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu rheoliadau a chanllawiau statudol i gefnogi’r ddeddfwriaeth.

Rydym yn cydnabod bod cyflogwyr yn cystadlu i recriwtio, datblygu a chadw’r gweithlu sydd ei angen arnynt. Mae gwaith teg yn rhan bwysig o’r ymdrech honno i unrhyw fusnes. Mae rhan o hynny’n gofyn am ymrwymiad gwirioneddol i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu ac i ddefnyddio’r Gymraeg. Rydym yn parhau i hyrwyddo’r Model Cymdeithasol o Anabledd, yr uchelgeisiau a nodir yn Cymraeg 2050 a’r Cynllun Gweithredu ar
gyfer Cymru Wrth-hiliol, ac rydym yn annog y sector gweithgynhyrchu, sydd mor allweddol
i wead Cymru, i gefnogi ein huchelgeisiau.

Yn syml, mae defnyddio gwaith teg yn gweithio i gyflogwyr, gyda mwy a mwy yn darganfod manteision gwaith teg iddynt hwy a’u gweithlu. Mae’r rhain yn cynnwys llawer o gwmnïau yn y sector gweithgynhyrchu. Rydym am i lawer mwy o fusnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru ymuno â hwy a bod ar flaen y gad o ran yr arferion cyflogaeth blaengar sy’n hybu cynhyrchiant a thegwch.

Rydym yn deall pwysigrwydd technolegau newydd a sut mae’n rhaid i ni groesawu Diwydiant 4.0 i siapio sector gweithgynhyrchu sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Ond rhaid i ni beidio â cholli golwg ar bwysigrwydd cael y cydbwysedd yn iawn, lle mae technolegau newydd yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sydd o fudd i weithwyr ac nid dim ond er elw
i gyflogwyr. Bydd gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn yr Undebau a phartneriaid cymdeithasol ehangach yn allweddol i hyn er mwyn ymgysylltu â busnesau i hyrwyddo
manteision cyffredin egwyddorion gwaith teg.

5.2 Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gydraddoldeb a Chynhwysiant

Y tu hwnt i waith teg yn benodol, rydym yn rhoi cydraddoldeb a chynhwysiant wrth galon yr holl waith o lunio polisïau cyhoeddus yma yng Nghymru. Mae gennym nifer o gynlluniau ar wahanol gamau datblygu sy’n cwmpasu ein hymrwymiad llwyr i fynd ar drywydd cydraddoldeb. Mae’r rhain yn cynnwys:

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024: O dan y Dyletswyddau Penodol yn Neddf Cydraddoldeb 2010, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru lunio Cynllun Cydraddoldeb
Strategol. Mae hyn yn cynnwys wyth Amcan Cydraddoldeb, sy’n cael eu hategu gan nifer o gamau gweithredu mesuradwy sy’n ymwneud â chwe maes ‘A yw Cymru’n Decach?’ (2018).

Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru: Cyhoeddwyd y Cynllun ym mis Mawrth 2020, a’i nod yw mynd i’r afael ag anghydraddoldebau systemig o
ran rhywedd. Mae hyn yn helpu i gyflawni yn unol â’r weledigaeth a’r argymhellion ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru a nodir yn ‘Gwneud nid Dweud’47 by Chwarae Teg.

Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru Wrth-hiliol: a oedd yn arfer cael ei alw’n ‘Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol’. Cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu hwn ym mis Mehefin 2022 ac mae’n amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Cafodd y Cynllun ei ddatblygu ar y cyd ag ymchwilwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, yn ogystal â swyddogion polisi, cymunedau a rhanddeiliaid hil allweddol eraill. Mae ‘Grŵp Atebolrwydd’ allanol a ‘Grŵp Cefnogi a Herio’ mewnol wedi cael eu sefydlu i gyflawni’r cynllun a monitro ei ganlyniadau.

Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru: Cyhoeddwyd y Cynllun ym mis Chwefror 2023 ar ôl ymgynghori helaeth. Mae’n amlinellu sut rydym yn bwriadu hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant ar gyfer pobl LHDTC+, er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau, rhagolygon a chanlyniadau pobl LHDTC+, heddiw ac yn y dyfodol. Rydym am sicrhau mai Cymru yw’r wlad fwyaf cyfeillgar i Bobl LHDTC+ yn Ewrop.

Tasglu Hawliau Pobl Anabl: Amlygwyd yr effaith wirioneddol a gafodd pandemig COVID-19 ar bobl anabl yn glir mewn adroddiad a oedd yn deillio o drafodaethau yn Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl Llywodraeth Cymru: Drws ar glo: datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19. Mae pum prif bennod
i’r adroddiad, sef y Model Cymdeithasol o anabledd yn erbyn y Model Meddygol o anabledd; Hawliau dynol; Iechyd a Llesiant; Anfanteision economaidd-gymdeithasol ac Allgáu, Hygyrchedd a Dinasyddiaeth.

Mewn ymateb i’r canfyddiadau: Drws ar Glo: datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19: ymateb Llywodraeth Cymru, rydym wedi sefydlu Tasglu Hawliau Pobl Anabl i benderfynu pa gamau pellach y mae angen eu cymryd i ddileu’r anghydraddoldebau y mae pobl anabl yn eu hwynebu. Mae meysydd blaenoriaeth wedi’u nodi, sy’n cynnwys mynediad at wasanaethau, tai fforddiadwy a hygyrch, cyflogaeth ac incwm, byw’n annibynnol (gan gynnwys iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol) a gwell dealltwriaeth o’r Model Cymdeithasol o Anabledd.

5.3 Y Model Cymdeithasol o Anabledd

Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y Model Cymdeithasol o Anabledd am y tro cyntaf yn 2002 ac mae wedi’i ymgorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn datgan bod “anabledd yn deillio o’r rhyngweithio rhwng pobl â namau a rhwystrau mewn agweddau ac amgylcheddau sy’n ei gwneud hi’n anodd iddynt gymryd rhan lawn ac effeithiol mewn cymdeithas ar yr un sail ag eraill”.

Mewn geiriau eraill, mae’n cydnabod bod pobl anabl yn anabl oherwydd gweithredoedd ein cymdeithas ac nid oherwydd eu namau. Pobl, a’r systemau y maent yn eu creu a’u rhoi ar waith, sy’n gwneud pobl yn anabl. Gall y gweithredoedd hyn sy’n eich anablu gael eu sbarduno gan ddiwylliant sefydliadol, anwybodaeth, rhagfarn neu ddifaterwch syml.

Maent yn golygu bod pobl anabl yn cael eu heithrio neu eu gwthio i’r cyrion o sawl rhan o fywyd. Pe bai’r Model Cymdeithasol yn cael ei wireddu’n llawn, byddai’n trawsnewid cymdeithas, gan chwalu rhwystrau a byddai’n golygu y byddai pobl anabl yn gallu cymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r holl randdeiliaid yng Nghymru i wireddu hyn. Gan mai’r sector gweithgynhyrchu yw ein cyfrannwr economaidd mwyaf, mae gan y sector y potensial i helpu i sbarduno newid sylweddol go iawn yng Nghymru a byddwn yn cydweithio â diwydiant a’n partneriaid cymdeithasol i chwilio am arferion gorau, eu dathlu a’u hyrwyddo.

Astudiaeth achos: Dow Silicones UK Ltd, Prosiect SEARCH

Mae Dow Silicones UK Ltd yn gwmni cynhyrchu siliconau modern a thechnegol iawn. Mae’n delio â deunyddiau a allai fod yn beryglus ac mae angen gweithdrefnau iechyd a diogelwch helaeth ar y cwmni. Mae iechyd a diogelwch yn cael ei ddefnyddio’n aml fel rheswm dros beidio â chyflogi pobl anabl. Ond nid felly Dow Silicones UK Ltd, sy’n defnyddio’r model cymdeithasol o anabledd yn ei waith bob dydd. Mae’r cwmni’n gwneud addasiadau rhesymol i gael gwared ar rwystrau fel mater o drefn. Dyma’r bedwaredd garfan o interniaid a gefnogir gan Brosiect SEARCH. Pobl ifanc ag anableddau dysgu a / neu awtistiaeth yw’r interniaid ac mae dros 70% ohonynt yn dod o hyd i waith ar ôl eu cyfnod ar interniaeth.

Os gall Dow Silicones UK Ltd wneud hyn mewn ffordd ddiogel ac effeithiol, yna gall unrhyw gwmni gweithgynhyrchu wneud hynny.

5.4 Y Gymraeg

Mae’r Gymraeg yn unigryw i ni ac mae’n rhan hanfodol o’n hunaniaeth genedlaethol a’n treftadaeth ddiwylliannol yma yng Nghymru. Rhaid i ni sicrhau bywiogrwydd a gwaddol hirdymor ein hiaith, ac mae hyn yn golygu bod angen arwain drwy esiampl a gosod uchelgeisiau heriol i ni ein hunain. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ni fod yn systemig yn ein dull gweithredu, gan sicrhau ein bod yn ystyried y Gymraeg ym mhopeth a wnawn, o greu polisïau, i gymorth busnes, i ddeddfwriaeth a hyd yn oed sut rydym yn cydweithio â’n rhanddeiliaid. Mae Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr yn amlinellu ein gweledigaeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a’r camau rydym yn eu cymryd, ac y byddwn yn parhau i’w cymryd, i gyflawni’r nod heriol hwn. Yn fras, rydym yn canolbwyntio ar dri nod strategol: Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a chreu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun.

Rydym am adeiladu ar gryfder ein cymunedau Cymraeg, gan sicrhau bod gan bobl swyddi o ansawdd da gyda busnesau’n hyrwyddo ac yn defnyddio’r Gymraeg fwyfwy. Mae hefyd yn golygu ehangu’r ddarpariaeth ddysgu ledled Cymru fel bod mwy o bobl yn gallu dysgu Cymraeg a’i defnyddio yn eu bywydau bob dydd. Rydym am weld cynnydd mewn trosglwyddo’r iaith o fewn y teulu, cyflwyno’r Gymraeg yn gynnar i bob plentyn, system addysg sy’n darparu sgiliau Cymraeg i bawb, a gwerthfawrogi sgiliau Cymraeg yn y gweithle yn well.

Rydym yn cydnabod bod yr economi yn ffactor hanfodol wrth greu’r amodau iawn er mwyn i’r iaith ffynnu. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ein cymunedau Cymraeg –
gan alluogi siaradwyr Cymraeg i aros yn eu cymunedau neu ddychwelyd i’r cymunedau hynny. Mae rhai o’r camau rydym yn eu cymryd yn cynnwys buddsoddi £11m yn Rhaglen ARFOR. Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan bartneriaid awdurdodau lleol Ynys Môn, Caerfyrddin, Ceredigion a Gwynedd i helpu i gryfhau cydnerthedd economaidd cymunedau Cymraeg. Mae Rhaglen ARFOR yn cynnwys amrywiaeth o ymyriadau economaidd sy’n gallu rhoi gwell dealltwriaeth i ni o sut gall gweithgarwch economaidd gefnogi’r Gymraeg. Yn ei dro, byddwn yn defnyddio canfyddiadau gwerthusiad ARFOR a’r gwersi a ddysgwyd
i chwilio am gyfleoedd i brif ffrydio’r iaith i raglenni economaidd eraill.

Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi pobl ifanc i barhau i ddatblygu eu sgiliau dwyieithog. I’r perwyl hwn, rydym yn buddsoddi yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gynyddu cyfran y prentisiaethau a’r cyrsiau addysg bellach cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16–25 oed. Yn unol â’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru rydym hefyd yn ymgynghori ar Fil Addysg y Gymraeg newydd, a fydd yn helpu pob disgybl yng Nghymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus erbyn 2050. Mae’r Gymraeg hefyd yn rhan allweddol o’n Contract Economaidd lle mae unrhyw un sy’n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu’r camau y byddant yn eu cymryd i gefnogi ein huchelgeisiau cenedlaethol o ran y Gymraeg.

Rydym yn gwybod bod sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu erbyn 2050 yn ymdrech genedlaethol a byddwn yn mabwysiadu dull gweithredu cydlynol ac yn gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol a’r diwydiant i sicrhau, gyda’n gilydd, ein bod yn diogelu ac yn tyfu’r hyn sydd wir yn un o’n hasedau cenedlaethol mwyaf gwerthfawr.

Astudiaeth achos: Bragdy Mona

Sefydlwyd Bragdy Mona yn y Gaerwen, Ynys Môn yn 2018 gan grŵp o ffrindiau a oedd â diddordeb mewn cwrw crefft da, ymhlith pethau eraill. Mae’r bragdy bellach wedi tyfu’n sylweddol, ac mae’r cwrw a gynhyrchir yn cael ei werthu ledled Cymru a thu hwnt. Er gwaethaf y twf, mae’r ethos gwreiddiol o gynhyrchu mewn sypiau bach i sicrhau ansawdd a chysondeb, bod yn gynaliadwy a rhoi llwyfan i’r Gymraeg yn parhau i fod yn ganolog i’r busnes.

Mae’r Gymraeg a’i diwylliant yn chwarae rhan amlwg yn y bragdy, o enwau’r cwrw, y labeli dwyieithog i strategaeth farchnata gwbl ddwyieithog. Mae’r iaith wedi bod yn ffordd o sicrhau bod y cynnyrch yn sefyll allan mewn maes hynod gystadleuol. Nid dim ond gwneud i’r bragdy sefyll allan yn y farchnad yw diben y Gymraeg. Cymraeg yw iaith naturiol y busnes o ddydd i ddydd, a chyda’r bragdy’n parhau i dyfu ac esblygu a bellach yn cynnig cyfleoedd gwaith yn lleol, mae’r criw’n falch o weld bod Bragdy Mona yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.

Ble byddwn ni’n canolbwyntio:
  • Sefydlu llinell sylfaen a monitro grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector gweithgynhyrchu yn barhaus, gyda chynnydd yn erbyn metrigau allweddol.
  • Defnyddio ein rhwydweithiau i nodi a hyrwyddo arferion gorau a manteision partneriaeth gymdeithasol, gwaith teg, cydraddoldeb a chynhwysiant ar draws sectorau gweithgynhyrchu.
  • Gwneud y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yn rhan annatod o ddatganiad Polisi Caffael Cymru fel bod pob sefydliad yn y sector cyhoeddus yn rhoi sylw dyledus iddo yn ei weithgarwch caffael.
  • Gweithio gyda chontractwyr mawr yn y sector cyhoeddus i sicrhau bod y
    gofynion sy’n ymwneud â’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yn llifo drwy’r gadwyn gyflenwi.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i gynyddu ymwybyddiaeth a chyfranogiad ymysg pobl o gefndiroedd amrywiol mewn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â STEM.
  • Cefnogi’r gwaith o gyflwyno Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr drwy adeiladu ar gryfderau ein cymunedau Cymraeg
  • Gweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i wella mynediad at ddarpariaeth ddysgu ar draws pob rhan o Gymru.

6. Rhoi cymorth busnes ar waith i alluogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i ateb y galw am gynnyrch sy’n bwysig yn strategol yn y dyfodol.

Nawr yn fwy nag erioed, ac yng nghyd-destun amgylchedd byd-eang heriol, gydag effaith y rhyfel yn Wcráin ar gadwyni cyflenwi, cost gadael yr UE a phrisiau ynni’n cynyddu, rydym yn gwybod na allwn ni wneud popeth. Felly, rhaid i ni ddefnyddio dull mwy penodol o ddefnyddio ein hadnoddau ar yr hyn sydd bwysicaf i Gymru, gan fynd i’r afael â’n heriau mwyaf a manteisio ar ein cyfleoedd mwyaf.

Bydd defnyddio ein cymorth busnes a chaffael cyhoeddus fel ysgogiadau yn ymateb ar draws yr holl amcanion strategol a amlinellir yn y Cynllun hwn. Yn hyn o beth, rydym yn cydnabod yn benodol bwysigrwydd cefnogi’r economi sylfaenol, sicrhau a lleoleiddio cadwyni cyflenwi, gan deilwra ein dull gweithredu ar gyfer natur unigryw gwahanol rannau o Gymru ar draws sectorau sylfaenol fel Iechyd, Bwyd a Diod, Ynni, Tai, Trafnidiaeth a Diogelwch. Y neges allweddol sy’n sail i’n dull gweithredu yw nad yw metrigau syml fel creu swyddi neu fuddsoddi yn ddigon ar eu pen eu hunain.

Rhaid i ymyriadau sy’n cefnogi’r rhain sicrhau mai dyma’r swyddi iawn, sy’n darparu’r sgiliau iawn, sy’n sefydlu egwyddorion gwaith teg ac yn sicrhau buddsoddiad hirdymor cynaliadwy mewn meysydd rydym yn eu blaenoriaethu.
Rydym yn cynnig set fwy hyblyg o feini prawf sy’n cael cydbwysedd rhwng ansawdd swyddi a thwf, gan ystyried lefel Gwerth Ychwanegol y tu hwnt i’r niferoedd economaidd yn unig. Rhaid i’r rhain ystyried, er enghraifft, sut rydym yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros garbon, nid yn unig ar ein tir ond o fewn cadwyn gyflenwi fyd-eang. Gellir ymestyn hyn i ystyried sgiliau tymor hirach a datblygu arloesedd neu angori sgiliau lefel uchel.

Mae hyn yn newid ein ffordd o feddwl, ond mae eisoes wedi’i ymgorffori yn ein Contract Economaidd a bydd yn helpu i sicrhau ein bod yn cael y gorau o’n hymyriadau, boed hynny ar gyfer prosiectau penodol, cymorth uniongyrchol i
gwmnïau neu fuddsoddi mewn seilwaith.

6.1 Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i helpu unigolion i ddatblygu cyfleoedd i ddechrau busnes, ynghyd â chymorth i entrepreneuriaid presennol, microfusnesau a busnesau bach a chanolig i ddatblygu eu harferion busnes, gwella cynhyrchiant ac ysgogi twf busnes, mewn ffordd gynhwysol a chynaliadwy. Ers 2016, mae Busnes Cymru wedi cefnogi dros 6,500 o unigolion i ddechrau busnes ac wedi helpu busnesau presennol i greu dros 30,000 o swyddi. Mae 16% ohonynt yn dod o dan y categori sectorau gweithgynhyrchu uwch a gweithgynhyrchu bwyd.

Drwy ddefnyddio adnoddau’n effeithlon a chymorth cyflogaeth a chydraddoldeb, mae 4,700 o fusnesau wedi gwella arferion neu wedi mabwysiadu dulliau newydd o ymdrin â chynaliadwyedd a chydraddoldeb. Mae
Busnes Cymru yn darparu cymorth i fusnesau gweithgynhyrchu drwy bum dull craidd:

  1. Mae gwasanaeth llinell gymorth a digidol yn bwynt cyswllt cwbl ddwyieithog sy’n cynnig ystod lawn o wybodaeth ac arweiniad i fusnesau. Mae’n darparu gwybodaeth ac adnoddau diduedd wedi’u teilwra’n arbennig i helpu i ganfod cymorth busnes. Mae porth caffael GwerthwchiGymru yn hyrwyddo cyfleoedd i fusnesau gael gafael ar gontractau sector cyhoeddus a’u hennill.
  2. Mae cynllun Cefnogi Entrepreneuriaid a Dechrau Busnes Busnes Cymru yn ysbrydoli ac yn datblygu gallu entrepreneuriaid drwy hyrwyddo diwylliant o entrepreneuriaeth a dechrau busnes yng Nghymru. Mae’n estyn allan at bobl ifanc mewn addysg a’r rheini o dan 25 oed, oedolion sy’n ystyried dechrau eu busnes eu hunain, ac allgymorth wedi’i dargedu ar gyfer unigolion sy’n cael eu tangynrychioli mewn busnesau newydd a chymdeithas.
  3. Mae Cymorth Datblygu a Chyngor Busnes Cymru yn darparu gwasanaethau cyngor, cymorth arbenigol a rheoli cysylltiadau’n benodol i helpu busnesau i greu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth, cael gafael ar gyllid, chwilio am farchnadoedd newydd a gwella arferion busnes a’u cynhyrchiant.
  4. Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn darparu gwasanaethau cymorth busnes wedi’i deilwra, rheoli cysylltiadau a hyfforddiant arbenigol ar gyfer busnesau cyn-refeniw dethol a busnesau sefydledig sy’n gallu dangos y dyhead a’r potensial i sicrhau twf uchel.
  5. Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn darparu gwasanaeth arbenigol pwrpasol a chydweithredol ar gyfer mentrau cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar gyflawni’r canlyniadau fel yr amlinellir yn y Weledigaeth a’r Cynllun Gweithredu deng mlynedd, “Trawsnewid Cymru drwy fentrau cymdeithasol”. Mae hyn yn cynnwys cymorth busnes un i un i fusnesau cymdeithasol newydd a thwf cymwys, cymorth pwrpasol ar gyfer Perchnogaeth gan y Gweithwyr a chymorth mentora cymheiriaid.

Wrth symud ymlaen, bydd Busnes Cymru yn parhau i gyflawni blaenoriaethau polisi ac yn darparu cymorth arbenigol sy’n berthnasol i’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Gwella cadwyni cyflenwi drwy weithio gyda phrynwyr yn y sector cyhoeddus i alluogi busnesau i sicrhau cyfran uwch o wariant y sector cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys cyngor caffael i helpu busnesau i wneud cais am gontractau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan ganolbwyntio’n benodol ar yr economi sylfaenol, cwmnïau sydd wedi’u gwreiddio a chlystyrau busnes.
  • Cryfhau arferion cyflogaeth, cydraddoldeb yn y gweithle, hyrwyddo manteision Gwaith Teg i fusnesau a chysylltu â chynnig sgiliau Llywodraeth Cymru “Recriwtio a Hyfforddi Busnes Cymru”. Bydd Busnes Cymru yn darparu cyngor ar gyflogaeth ac adnoddau dynol, yn hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o egwyddorion Gwaith Teg ac yn ymgysylltu’n frwd â busnesau i wella dulliau gweithredu ac arferion er mwyn cymryd camau rhagweithiol i ddatblygu gweithlu cynhwysol, teg ac amrywiol.
  • Fel rhan o’n hymrwymiad i’r Cynllun Cymru Sero Net, bydd Busnes Cymru yn gweithio gyda busnesau yng Nghymru (yn enwedig busnesau bach a chanolig) i ymgorffori effeithlonrwydd ynni, defnyddio adnoddau’n effeithlon a thechnolegau carbon isel newydd yn eu mannau gwaith a’u cyfleusterau gweithgynhyrchu a datblygu ffyrdd newydd o weithio.
  • Bydd Syniadau Mawr Cymru, sy’n rhan o wasanaeth Busnes Cymru, yn hyrwyddo diwylliant o greadigrwydd a menter gyda’r genhedlaeth nesaf, gan gryfhau ei ddull
    o helpu pobl ifanc i ddysgu am fusnes a menter, a’u cefnogi i ddechrau busnes fel rhan o’r Warant i Bobl Ifanc. 

6.2 Banc Datblygu Cymru

Mae Banc Datblygu Cymru yn rhan allweddol o’n strategaeth economaidd ac mae’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ariannu busnesau sydd â chynlluniau
busnes cadarn ond sy’n ei chael yn anodd cael gafael ar gyllid o’r farchnad. Mae darparu mynediad at gyllid yn golygu bod busnesau’n gallu dechrau, datblygu a thyfu, gan weithio ar y cyd â Busnes Cymru a buddsoddi ar y cyd â darparwyr cyllid preifat.

Mae gan y Banc Datblygu enw da am gefnogi a gweithio gyda’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae’r banc yn gweithredu amrywiaeth eang o gronfeydd sy’n berthnasol
i fusnesau ar wahanol gamau yn eu datblygiad a’u twf, a gall ddarparu benthyciadau neu fuddsoddiadau ecwiti sy’n amrywio o £1,000 i £10 miliwn a chyda hyd at 15 mlynedd o gyfnod ad-dalu. Yn y cynnig hwn, mae’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn cynnig pecyn cymorth i alluogi busnesau Cymru i fynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni a gweithredu ar ddatgarboneiddio.

Ers 2018, mae’r banc wedi gwneud dros 320 o fuddsoddiadau penodol mewn cwmnïau gweithgynhyrchu sy’n werth dros £62m, gan greu neu ddiogelu dros 4,300 o swyddi.

6.3 Cronfa Dyfodol yr Economi

Ym mis Mai 2018, fe wnaethom lansio Cronfa Dyfodol yr Economi a oedd yn cyfuno nifer o gynlluniau cyllido presennol mewn un Gronfa i gynnig dull gweithredu cyson. Roedd yn symleiddio’r broses i fusnesau ac yn caniatáu i ni fod yn fwy hyblyg o ran sut rydym yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i ni er mwyn diwallu anghenion busnes yn y ffordd orau bosibl.

Y cynlluniau a gafodd eu cyfuno oedd Buddsoddiad Cyfalaf a chymorth ar gyfer creu swyddi; Cynllun Diogelu’r Amgylchedd; Cyllid Cynhyrchu Creadigol; Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth (sydd bellach wedi cau), wedi’i ddisodli gan Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru, Cronfa Ad-daladwy ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig, a SMART Cymru (sydd bellach wedi cau).

6.4 Y Contract Economaidd

Ein Contract Economaidd yw conglfaen cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau Cymru o hyd. Mae’r Contract yn seiliedig ar ein Cenhadaeth Economaidd ac mae’n ceisio hybu arferion busnes cymdeithasol gyfrifol.

Ers ei gyflwyno, dyma’r ymgorfforiad mwyaf adnabyddus o’n dull ‘rhywbeth am rywbeth’ o ran cymorth busnes ac mae’n un o ofynion cymorth o’r fath, gan gynnwys Cronfa Dyfodol yr Economi. Rydym yn parhau i wella’r Contract ac yn ei wneud yn arf hyd yn oed yn fwy pwerus a gwerthfawr i hybu gwerth cymdeithasol o fuddsoddiad cyhoeddus. Cyflwynwyd Contract Economaidd diwygiedig ym mis Ionawr 2022 gyda diwygiadau i’r pedair colofn allweddol sy’n cefnogi ein huchelgeisiau ehangach ar gyfer economi llesiant. Rhaid i fusnesau sy’n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru roi manylion am y camau y byddant yn eu cymryd i gefnogi ein hamcanion ehangach er budd Cymru gyfan ar draws y pedair colofn: economi hyblyg a chryf; gwaith teg; hyrwyddo llesiant a charbon isel a gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.

6.5 Cynllun Gweithredu Allforio i Gymru

Mae gweithgynhyrchwyr yn cyfrif am gyfran sylweddol o’n hallforion ac maen Cynllun gweithredu Cymru ar gyfer Allforios yn amlinellu’r mesurau rydym yn eu cymryd i hyrwyddo manteision Masnach Ryngwladol. Mae hyn yn cynnwys darparu amrywiaeth gynhwysfawr o raglenni allforio i gefnogi busnesau ar eu taith allforio, o dan bedair thema allweddol: ysbrydoli busnesau i allforio meithrin gallu ar gyfer allforio; dod o hyd i gwsmeriaid a chyrraedd y farchnad.

Yn ystod 2022-23, tynnwyd sylw at 24 o allforwyr llwyddiannus ledled Cymru (‘Esiamplau Allforio’) i ysbrydoli busnesau eraill i ddechrau allforio; ac uchafbwynt ail garfan y Rhaglen Allforwyr Newydd oedd ymweliad llwyddiannus â’r farchnad yn yr Iseldiroedd. Rydym hefyd wedi cefnogi ein busnesau drwy gynadleddau unigryw Archwilio Allforio Cymru yng Ngogledd a De Cymru. Er mwyn helpu i feithrin gallu, rydym wedi gwella ein cymorth ar-lein i allforwyr drwy’r Hyb Allforio, llwyfan digidol wedi’i ariannu’n llawn sy’n cael ei gynnal gan Busnes Cymru, sy’n cynnig mynediad at wybodaeth ac adnoddau cynhwysfawr i gwmnïau. Ar ben hynny, mae ein tîm o Gynghorwyr Masnach Ryngwladol yn parhau i weithio gyda chwmnïau i feithrin eu gallu i allforio. Yn ystod y cyfnod hyd at ddiwedd mis Chwefror 2023, cynhaliwyd dros 1,200 o gyfarfodydd gyda chwmnïau i ddatblygu eu busnes allforio. Roedd chwe chlwstwr allforio gyda dros 280 o gwmnïau sy’n aelodau yn gwbl weithredol, yn datblygu gwybodaeth allforio busnesau, yn galluogi cymheiriaid i gael cymorth gan gymheiriaid ac yn adeiladu rhwydweithiau effeithiol mewn sectorau allweddol.

I helpu cwmnïau i ddod o hyd i gwsmeriaid tramor newydd a chyrraedd y farchnad, rydym wedi cefnogi dros 230 o brosiectau allforio drwy’r rhaglen Datblygu Masnach Ryngwladol, y rhaglen Cyfleoedd Masnach Ryngwladol a’r rhaglen Ymweliadau Datblygu Busnes Dramor yn ogystal â darparu 24 o deithiau masnach tramor o San Francisco yn y gorllewin i Japan yn y dwyrain. Rydym hefyd yn mynd ati’n frwd i gysylltu busnesau Cymru â chyfleoedd allforio drwy ein rhwydwaith swyddfeydd tramor a’n partneriaid yn y farchnad, gan gynnwys yr Adran Busnes a Masnach a’r Siambrau Masnach.

6.6 Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota

Drwy Raglen Clystyrau Darbodus Toyota, rydym yn datblygu’r gallu i arwain ac yn cefnogi cwmnïau i wneud gwelliannau mesuradwy mewn cynhyrchiant, drwy rannu a rhoi hyfforddiant egwyddorion rheoli darbodus. Mae’r rhaglen hon yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â Chanolfan Rheoli Darbodus Toyota yng Nglannau Dyfrdwy.

Yn ystod 2022, aeth deg cwmni (38 o gyfranogwyr) drwy sesiynau ymwybyddiaeth, sef ‘Cyflwyniad’. Erbyn hyn rydym wedi dechrau ar y drydedd garfan ‘Cychwyn Darbodus’ gydag wyth cwmni, wyth prosiect a chyfanswm o 24 o gyfranogwyr. Mae deg cwmni newydd gwblhau 11 prosiect fel rhan o’u hymgysylltiad yn ail garfan y cynllun Cychwyn Darbodus. Mae tri chwmni wedi manteisio ar y cyfle i gael rhagor o gefnogaeth drwy fanteisio ar gam nesaf y rhaglen: ‘Darbodus Plws’. Yn 2023, daeth dros 80 o gyfranogwyr i ddigwyddiad cyntaf Rhwydwaith De Cymru, ac roedd y cwrs Cyflwyniad ym mis Chwefror yn llawn, gyda phedwar o gwmnïau’n cael eu cynrychioli. Mae hyn yn golygu bod dros 160 o gyfranogwyr a 50 o gwmnïau wedi bod drwy’r rhaglen gyfredol hon.

Astudiaeth achos: Rototherm Group

Mae Rototherm Group yn dylunio ac yn gweithgynhyrchu datrysiadau offer manwl yn gynaliadwy ar gyfer llif, lefel, tymheredd a gwasgedd. Mae’n gweithio mewn diwydiannau ardystiedig a beichus iawn, gan gynnwys ynni, amddiffyn, diodydd, dŵr a deunydd fferyllol.

Drwy Raglen Clwstwr Darbodus Toyota, ei nodau oedd:

  • Gwella cadernid ei system i ddarparu lefelau uchel o wasanaeth i gwsmeriaid mewn amgylchedd twf uchel.
  • Datblygu ei alluoedd i ddatrys problemau.
  • Creu gweithdrefnau safonol ar gyfer technoleg newydd.
  • Gwella lefel y penderfyniadau sy’n cael eu sbarduno gan ddyddiadau a ffeithiau er mwyn gwella llif gwaith.
  • Cynyddu’r gwaith cynhyrchu bum gwaith er mwyn bodloni’r galw.

Drwy’r rhaglen Clwstwr Darbodus, treuliodd Toyota amser yn deall busnes a phobl Rototherm, gan deilwra’r hyn roedd wedi’i ddysgu i alluogi Rototherm i gyflawni ei nod. Roedd y sesiynau, gyda’i gilydd, yn rymusol iawn i aelodau’r tîm. Helpodd y sesiynau i gefnogi’r arweinwyr a’r rheolwyr yn well, ac fe wnaethant arwain at gamau gweithredu clir i weithio arnynt, a thrafodwyd y rhain yn fanylach yn y sesiwn nesaf.

Rhoddwyd offer newydd ar waith gyda’r tîm, a oedd yn eu helpu i reoli eu cynhyrchiant a’u hansawdd yn well, gan roi gwell dealltwriaeth iddynt i sicrhau bod y sylfaen newydd yn
cael ei chynnal ymhell ar ôl i’r cwrs ddod i ben. Datblygodd Rototherm offeryn arbennig a oedd yn arafu amseroedd ond yn gwella ansawdd, a arweiniodd at lai o ddiffygion mewn cynnyrch. Cafodd y cyfarfodydd dyddiol eu hailwampio a’u gwella i fod ar sail data fel bod camau’n cael eu cymryd yn seiliedig ar ffeithiau yn hytrach na barn.

O ganlyniad i’r camau gweithredu hyn, gwelodd Rototherm gynnydd o 300% mewn allbynnau oherwydd arbedion amser yn y strwythur cynhyrchu a sefydliadol, a gostyngiad o 50% mewn diffygion. Mae’r cwmni wedi gweld:

  • Arweinyddiaeth fwy effeithiol a chymorth i aelodau’r tîm; mae aelodau’r tîm yn braf ac yn gyfforddus yn eu rolau gan fod strwythur gwell i bob diwrnod.
  • Er mwyn dal ati i ddatblygu, mae Rototherm wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen Darbodus Plws erbyn hyn. Mae’r rhaglen hon yn dilyn Cychwyn Darbodus ac mae’n caniatáu ar gyfer cychwyn a chael arweiniad ar gyfer prosiectau darbodus mwy a thrawsnewidiol.

6.7 Cefnogi Cymru mewn digwyddiadau Masnach

Rydym yn darparu cyfleoedd i hyrwyddo Cymru drwy gefnogi cwmnïau i fynychu digwyddiadau Masnach allweddol yn y DU, gan gynyddu ein cynigion a’n negeseuon allweddol i gynulleidfaoedd perthnasol a helpu i ddechrau sgyrsiau â buddsoddwyr a phartneriaid allweddol. Gall cwmnïau
ddefnyddio eu presenoldeb ar bafiliwn Cymru i lansio cynnyrch newydd, cael gwybodaeth am y farchnad a datblygu busnes yn y marchnadoedd yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae hefyd yn gyfle unigryw i Gymru hyrwyddo rhai o’n hasedau gorau. Mae’r rhain wedi cynnwys pethau fel AMRC Cymru, y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’r Cymoedd Technoleg.

Yn 2022-2023, fe wnaethom gynnal naw digwyddiad yn y DU, gan gynnal a chefnogi dros 40 o gwmnïau sy’n manteisio ar werth oddeutu £22m o gyfleoedd busnes. Roedd y digwyddiadau hyn mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys awyrofod, y gofod, carbon isel, y môr a’r rheilffyrdd. Mae rhaglen debyg o ddigwyddiadau ar y gweill ar gyfer 2023-2024 a fydd yn parhau â’r gefnogaeth hon i gwmnïau ac yn hyrwyddo Cymru mewn sectorau allweddol ledled y byd.

6.8 Datganiad Polisi Caffael Cyhoeddus

Gall caffael yn y sector cyhoeddus chwarae rôl ganolog o ran cyflawni blaenoriaethau polisi blaengar, gan amrywio o ddatgarboneiddio i werth cyhoeddus a buddion cymunedol, yr Economi Gylchol a’r Economi Sylfaenol. Mae cyflawni’r uchelgeisiau hyn yn dibynnu ar broffesiwn caffael sydd â’r sgiliau a’r capasiti sydd eu hangen i wireddu ein nodau.
Ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, rhoddodd Gweinidogion Cymru ganiatâd i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan ar reoliadau caffael y sector cyhoeddus. Roedd hyn er mwyn cefnogi dull gweithredu cyson, gan sicrhau parhad i gyflenwyr y gall busnes trawsffiniol â Lloegr barhau heb ddryswch na chostau ychwanegol. Un o nodau allweddol Bil Caffael y DU yw symleiddio’r Rheoliadau Caffael presennol a chreu system sy’n fwy syml, tryloyw, teg a chystadleuol.
Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru i sicrhau bod eu safbwyntiau’n cael eu cynrychioli. Maent yn parhau i ymgysylltu’n rheolaidd ledled Cymru drwy ddogfennau cyfarwyddyd, diweddariadau rheolaidd dros e-bost, sesiynau gweminar rhithiol a
chyflwyniadau wyneb yn wyneb. Mae Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU yn darparu rhaglen Dysgu a Datblygu gynhwysfawr wedi’i hariannu i gefnogi pawb sy’n gweithredu o fewn y drefn gaffael newydd. Mae dysgu a chanllawiau dwyieithog yn cael eu darparu i awdurdodau contractio a chyflenwyr yng Nghymru, gan gynnwys sesiynau dwys wyneb yn wyneb.

Roeddem hefyd wedi comisiynu ymchwil ar draws sector cyhoeddus Cymru gyda’r diben o adolygu’r dirwedd gwerth cymdeithasol a chyflwyno argymhellion ar gyfer bwrw ymlaen â gweithredu gwerth cymdeithasol yn ymarferol. Mae gweithgor yn canolbwyntio ar gyflawni’r argymhellion a gyhoeddwyd yn Adroddiad Gwerth Cymdeithasol Cwmpas (2022). Cadarnhaodd hyn, o safbwynt caffael, fod angen diffinio gwerth cymdeithasol Cymru yn glir mewn cyd-destun Cymreig a dylai’r diffiniad hwn gynnwys elfennau cymdeithasol (gan gynnwys gwaith teg), economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Cadarnhaodd hefyd mai Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yng Nghymru yw’r sbardun deddfwriaethol yn hytrach na’r Ddeddf Gwerth Cymdeithasol (yn Lloegr). Dyma sut dylid ystyried gwerth cymdeithasol, sy’n cyd-fynd â Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).

Gall canolbwyntio ar gyfleoedd i’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru yn y gadwyn gyflenwi ein helpu i wireddu ein huchelgais ar gyfer caffael yn y sector cyhoeddus, a dyma fydd un o’r prif feysydd ar gyfer y gwaith rydym yn ei wneud ar fapio’r gadwyn gyflenwi.

Where we will focus:
  • Dadansoddi gwariant presennol y sector cyhoeddus yng Nghymru i ganfod cyfleoedd i leoleiddio cadwyni cyflenwi ar gyfer eitemau hanfodol fel y nodir drwy waith mapio’r gadwyn gyflenwi yn fanwl.
  • Datblygu diffiniad cliriach ar gyfer ‘Gwerth Cymdeithasol’ yng nghyd-destun Cymru ochr yn ochr â methodoleg gyson i fesur ac adrodd ar werth cymdeithasol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
  • Rhoi ein cymorth busnes ar gyfer gweithgynhyrchu ar waith o amgylch nifer o gynhyrchion critigol wedi’u targedu sy’n
    arwyddocaol yn strategol i ffyniant hirdymor Cymru.
  • Yn unol â’r Cynllun Gweithredu Allforio i Gymru, byddwn yn gweithio gyda
    gweithgynhyrchwyr Cymru i greu sector allforio cryf, bywiog a chynaliadwy drwy amrywiaeth o raglenni cymorth busnes a chyngor i feithrin capasiti a gallu allforio yng Nghymru.
  • Adeiladu ar lwyddiant Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota, gan wneud egwyddorion rheoli darbodus a gwelliannau cynaliadwy yn rhan annatod o gystadleurwydd.

Monitro effaith y cynllun hwn

Mae sut rydym yn mynd ati i gefnogi a diogelu’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru at y dyfodol yn golygu bod angen i ni gydweithio go iawn â’r diwydiant, y sector cyhoeddus a’n partneriaid cymdeithasol, gan gynnwys y Trydydd Sector ac Undebau Llafur. Yn unol â’n gweledigaeth ar gyfer ein sector gweithgynhyrchu, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni drawsnewid a chefnogi’r gwaith o drawsnewid ein cymuned gweithgynhyrchu o ran gweithgareddau ‘gwerth ychwanegol’. Yn benodol, bod y sector yn cyfrannu at weithgareddau o’r fath sy’n cael effaith gymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol gadarnhaol, yn lleol ac yn genedlaethol. Mae hyn yn golygu na allwn ddiffinio ‘cynnydd’ yn syml o ran creu swyddi neu gynyddu gwerth ychwanegol gros. Mae’n rhaid i ni ystyried sut mae gweithgynhyrchu fel sector yn cyfrannu at ein dyheadau cenedlaethol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Nid yw ein dull gweithredu yn ymwneud â chefnogi’r sector gweithgynhyrchu ar ei ben ei hun. Yn hytrach, mae’n ymwneud â deall rôl y sector gweithgynhyrchu wrth gyflawni ein dyheadau ar gyfer Cymru fel gwlad a chanolbwyntio ein hymyriadau a’n cefnogaeth ehangach yn y meysydd hynny sy’n ychwanegu’r gwerth mwyaf wrth gyflawni’r canlyniadau hynny. Bydd y chwe amcan strategol a amlinellir yn sail i ddeialog gyson a pharhaus gyda diwydiant a phartneriaid i sicrhau ein bod yn parhau i asesu effaith y cynllun hwn ar y sector, yn ogystal ag effaith y sector ar Gymru.

Mae’r amcanion hyn hefyd wedi’u strwythuro mewn ffordd sy’n mapio ar draws nifer o’r deg amcan llesiant a amlinellir yn ein Rhaglen Lywodraethu:

  1. Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel.
  2. Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi.
  3. Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed.
  4. Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.
  5. Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
  6. Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu.
  7. Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl.
  8. Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.
  9. Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
  10. Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang.

Wrth symud ymlaen, bydd cyfraniad y sector gweithgynhyrchu yn cefnogi’r amcanion hyn yn cael ei olrhain drwy ein Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol. Ond nid yw hyn yn ddigon. Mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu ecosystem fwy bywiog, cysylltiedig a chydweithredol sy’n galluogi ein cymuned gweithgynhyrchu i ffynnu. Byddwn yn ystyried y dulliau mwyaf priodol o wneud hynny.

Troednodiadau

[1] workforce jobs by industry - Nomis - Official Census and Labour Market Statistics (nomisweb.co.uk)

[2] Gross Value Added by area and industry (gov.wales)

[3] Manufacturing future for Wales: framework | GOV.WALES

[4] Regional economic frameworks | GOV.WALES

[5] GDP output approach – low-level aggregates - Office for National Statistics (ons.gov.uk)

[6] Levelling Up: Bridging the gap between policy and progress | Make UK

[7] Executive Survey 2023: Cost, Competitiveness and Confidence | Make UK

[8] Business enterprise research and development, UK (designated as official statistics) - Office for National Statistics (ons.gov.uk)

[9] VACS02: Vacancies by industry - Office for National Statistics (ons.gov.uk)

[10] Regional gross value added (balanced) by industry: all ITL regions - Office for National Statistics

[11] Briefing: sustained tax burden at highest level since 1951 - TaxPayers' Alliance (taxpayersalliance.com)

[12] Gross Value Added by area and industry (gov.wales)

[13] Net Zero Wales | GOV.WALES

[14] Net Zero Wales Carbon Budget 2 (2021 to 2025) | GOV.WALES

[15] Welsh Government Net Zero strategic plan | GOV.WALES

[16] SWIC | South Wales Industrial Cluster

[17] Ellen MacArthur Foundation (2019) Completing the Picture: How the Circular Economy tackles Climate Change

[18] Beyond recycling | GOV.WALES

[19] Llwybr Newydd: the Wales transport strategy 2021 | GOV.WALES

[20Optimised RetroFit Programme | GOV.WALES

[21Ch3_Trade_2022.pdf (forestresearch.gov.uk)

[22Microsoft Word - HGH Project Report (LG).docx (woodknowledge.wales)

[23Gross Value Added in Wales by industry (gov.wales)