Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad ar ddylunio cynnwys a sut yr ydym yn ei ddefnyddio i lunio cynnwys LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dylunio cynnwys, nid creu copi

Mae gan y Llywodraeth dueddiad i gyhoeddi cynnwys sydd yn canolbwyntio mwy ar yr hyn y mae eisiau ei ddweud yn hytrach na’r hyn y mae’r defnyddiwr angen ei wybod. Mae hyn yn gwneud cynnwys yn anodd ei ddeall a’i weithredu.

Mae dylunio cynnwys da yn galluogi pobl i wneud yr hyn y maent angen ei wneud, neu ddod o hyd i’r wybodaeth y maent ei hangen gan y llywodraeth yn syml ac yn gyflym. Mae hyn yn seiliedig ar ymddygiad defnyddwyr, dadansoddeg ac adborth.

Mae dylunio cynnwys bob amser yn dechrau gydag anghenion defnyddwyr

Dylunio cynnwys yw pan rydym yn cymryd anghenion defnyddwyr, ac yn eu cyflwyno ar LLYW.CYMRU yn y modd gorau posibl.

Anghenion defnyddwyr yw’r anghenion sydd gan y cyhoedd, busnesau a phartneriaid ac y gellir eu hateb gan Lywodraeth Cymru.

Cyn cyhoeddi ar LLYW.CYMRU, mae angen ichi wybod beth yw anghenion eich defnyddwyr a dylunio eich cynnwys o’u cwmpas.

Dylunio drwy ysgrifennu cynnwys gwych

Mae ysgrifennu cynnwys mewn iaith glir yn helpu pobl i ddeall, a dod o hyd i’r wybodaeth maent ei hangen yn gyflym ac yn ddi-drafferth.

Rhaid inni ysgrifennu cynnwys sy’n sicrhau bod LLYW.CYMRU yn hygyrch i bawb. Mae gan ein defnyddwyr alluoedd darllen gwahanol ac maent yn edrych ar LLYW.CYMRU ar ystod o ddyfeisiadau.

Dylunio er mwyn osgoi dyblygu

Mae dylunio cynnwys hefyd yn golygu sicrhau bod modd dod o hyd i’r cynnwys ar safleoedd mawr.

Mae cynnwys sydd wedi’i ddyblygu yn achosi canfyddiadau chwilio gwael, yn drysu’r defnyddiwr ac yn niweidio hygrededd LLYW.CYMRU. Mae defnyddwyr wedyn yn defnyddio sianeli all-lein, fel ffonio llinell gymorth gan nad ydynt yn siŵr a oes ganddynt yr wybodaeth gywir.

Strategaeth cynnwys a dylunio

Yn ddibynnol ar beth yw anghenion eich defnyddiwr, efallai bydd angen ichi:

  • leihau faint o gynnwys rydych yn bwriadu ei gyhoeddi
  • newid fformat y cynnwys
  • dileu cynnwys o’r safle
  • cyhoeddi eich cynnwys yn rhywle arall, er enghraifft ar gyfryngau cymdeithasol

Mae gweithredu’r holl egwyddorion dylunio cynnwys hyn yn golygu ein bod yn gwneud y gwaith caled ar ran y defnyddiwr.

Os oes gennych gynnwys newydd ar gyfer LLYW.CYMRU, cysylltwch â’ch rheolwr y we neu’r Tîm Digidol Corfforaethol cyn gynted â phosibl i gael cyngor ar ddylunio cynnwys.