Daeth yr ymgynghoriad i ben 26 Ionawr 2026.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 224 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar bennu Bae Ffont-y-Gari, y Rhws, Bro Morgannwg yn Ddŵr Ymdrochi Dynodedig.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Nod yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar ein cynnig i ddynodi Bae Ffont-y-Gari, y Rhws, Bro Morgannwg yn ddŵr ymdrochi o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar gyfer tymor ymdrochi 2026.
Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru nodi dyfroedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru, monitro ansawdd y dŵr a rhoi gwybodaeth i ymdrochwyr am ansawdd y dŵr yn y safleoedd hyn a nodwyd. Yng Nghymru, mae’r tymor ymdrochi’n para o 15 Mai tan 30 Medi.
Un o'r gofynion o dan y Rheoliadau yw bod Gweinidogion Cymru yn adolygu a chyhoeddi'r rhestr o'r dyfroedd ymdrochi wedi'u nodi yng Nghymru bob blwyddyn.
Dogfennau ymgynghori
Help a chymorth
Am fwy o wybodaeth amdano’r ymgynghoriad hwn, e-bostiwch dŵr@llyw.cymru
