Dynodi Dyfroedd Ymdrochi 2026
Ymgynghoriad ynghylch pennu Bae Ffont-y-Gari, y Rhws, Bro Morgannwg yn Ddŵr Ymdrochi Dynodedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Nod yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar ein cynnig i ddynodi Bae Ffont-y-Gari, y Rhws, Bro Morgannwg yn ddŵr ymdrochi o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar gyfer tymor ymdrochi 2026.
Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru nodi dyfroedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru, monitro ansawdd y dŵr a rhoi gwybodaeth i ymdrochwyr am ansawdd y dŵr yn y safleoedd hyn a nodwyd. Yng Nghymru, mae’r tymor ymdrochi’n para o 15 Mai tan 30 Medi.
Un o'r gofynion o dan y Rheoliadau yw bod Gweinidogion Cymru yn adolygu a chyhoeddi'r rhestr o'r dyfroedd ymdrochi wedi'u nodi yng Nghymru bob blwyddyn.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 26 Ionawr 2026.
Ymatebwch i'r ymgynghoriad hwn drwy lenwi'r holiadur neu ateb y cwestiynau yn y ffurflen ymateb. Gellir cyflwyno ffurflenni ymateb drwy:
Email: dwr@llyw.cymru
Neu Drwy'r post:
Y Gangen Dŵr (Ymgynghoriad Dŵr Ymdrochi)
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Mae'r ymgynghoriad a'r holiadur ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn, anfonwch e-bost at dwr@llyw.cymru
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Mae fersiynau print bras a Braille o'r ddogfen hon ar gael ar gais ynghyd â chopïau mewn ieithoedd eraill.
Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg / This document is also available in English
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddan nhw'n dibynnu arnyn nhw i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut maen nhw'n arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch aton ni yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith dadansoddi ar ymatebion i ymgyngoriadau, mae'n bosibl y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwnnw. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb.
Dylech fod yn ymwybodol hefyd o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi yn rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hynny a gyhoeddir yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata arall sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael ei gadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'i weld
- i ofyn inni gywiro unrhyw ddata anghywir
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
- i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- cludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd y mae’n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Cyflwyniad
Diben yr Ymgynghoriad
Nod yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ynghylch ein cynnig i bennu Bae Ffont-y-Gari, y Rhws, Bro Morgannwg yn ddŵr ymdrochi dynodedig o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 (y Rheoliadau) ar gyfer tymor ymdrochi 2026.
Mae'r Rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru nodi'r holl ardaloedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru bob blwyddyn. Nod y Rheoliadau yw diogelu iechyd ymdrochwyr rhag llygredd carthion a darparu gwybodaeth i’r cyhoedd er mwyn iddyn nhw wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am ble a phryd i ymdrochi.
Nifer disgwyliedig yr ymdrochwyr yw'r meini prawf perthnasol o dan y Rheoliadau wrth ystyried a yw'n briodol dynodi safle. Wrth benderfynu a ellir disgwyl nifer fawr o ymdrochwyr ar safle penodol ai peidio, gellir ystyried unrhyw seilwaith neu gyfleusterau a ddarperir, neu fesurau eraill wedi'u rhoi ar waith i hyrwyddo ymdrochi ar y safle, ynghyd â thueddiadau'r gorffennol.
Y sefyllfa bresennol
Mae Cyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi 2006/7/EC, sy'n rhoi rhwymedigaeth ar waith i nodi dyfroedd ymdrochi yn y DU, yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir yng Nghymru. Mae Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 yn nodi'r gofynion statudol sy'n gysylltiedig â rheoli dyfroedd ymdrochi yng Nghymru.
Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru nodi ardaloedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru bob blwyddyn. Amcan y Rheoliadau yw diogelu iechyd ymdrochwyr a hysbysu ymdrochwyr am beryglon iechyd posibl sy'n gysylltiedig ag ansawdd dŵr gwael.
Ar hyn o bryd mae 112 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru. Ar ôl i ddŵr ymdrochi gael ei ddynodi, mae ansawdd y dŵr yn cael ei brofi gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gefnogi'r tymor ymdrochi, sy'n para o 15 Mai i 30 Medi. Mae dyfroedd ymdrochi dynodedig yn cael eu categoreiddio yn rhagorol, yn dda, yn ddigonol neu'n wael yn dibynnu ar ganlyniadau samplu ansawdd dŵr. Mae'r categorïau ansawdd dŵr ymdrochi yn seiliedig ar ddau baramedr microbiolegol: enterococci'r coluddyn ac E.coli.
Cyhoeddir canlyniadau dyfroedd ymdrochi dynodedig unigol yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae dyfroedd ymdrochi yn werthfawr am y cyfleoedd hamdden y maen nhw'n eu darparu i bobl Cymru, i'r economi leol ac i dwristiaeth. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden, gan atgyfnerthu monitro ansawdd dŵr er mwyn galluogi dyfroedd mewndirol i gyrraedd yr un safonau uchel wedi'u cyflawni gan draethau Cymru.
Ffurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad
Eich enw:
Sefydliad (os yw’n berthnasol):
Cyfeiriad e-bost / rhif ffôn:
Eich cyfeiriad:
Mae ymatebion i ymgynghoriadau'n debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os yw'n well gennych fod eich ymateb yn ddienw, ticiwch yma:
☐
Cais i ddynodi Bae Ffont-y-Gari, y Rhws, Bro Morgannwg yn ddŵr ymdrochi
Rydyn ni wedi derbyn cais gan aelod o'r cyhoedd i Fae Ffont-y-Gari, y Rhws, Bro Morgannwg (ST 05100 65800) gael ei ystyried i'w ddynodi'n ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2026.
Pwynt B: Llanw uchel
Pwynt C: Llanw isel
Tystiolaeth a gwybodaeth a roddwyd gan yr ymgeisydd i ategu'r cais dros Fae Ffont-y-Gari
Nifer yr Ymdrochwyr
Roedd y cais wedi darparu arolwg o ddŵr ymdrochi ar gyfer Bae Ffont-y-Gari, a luniwyd gan yr ymgeisydd. Roedd y cais yn cynnwys arolwg defnyddwyr, a oedd yn rhoi data ar nifer yr ymdrochwyr, gan nodi cyfanswm o 2162 o ymdrochwyr dros 31 diwrnod. Cofnodwyd dros 100 o ymdrochwyr bob dydd ar naw diwrnod ar wahân, gyda chyfartaledd dyddiol o 70 o ymdrochwyr.
Lluniwyd data'r arolwg gan yr ymgeisydd dros y tymor ymdrochi (15 Mai – 30 Medi).
Cyfleusterau
Roedd y cais yn rhoi gwybodaeth am gyfleusterau ar y safle neu gerllaw, gan gynnwys toiledau cyhoeddus, caffi a pharcio.
Tystiolaeth o gefnogaeth
Cyflwynwyd tystiolaeth o ymgynghori lleol a chefnogaeth i'r dynodi arfaethedig gan unigolion a grwpiau lleol.
Cwestiwn 1
A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’n cynnig i ddynodi Bae Ffont-y-Gari yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2026?
☐ Cytuno
☐ Anghytuno
Cwestiwn 2
A ydych yn cytuno bod y dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad sy'n ymwneud â nifer yr ymdrochwyr, cyfleusterau a chefnogaeth yn y gymuned yn gywir ac yn darparu sail ddigonol i ddynodi'r safle hwn yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor 2026? Os ydych yn anghytuno, esboniwch pam a chynnwys tystiolaeth ategol yn eich ymateb i Gwestiwn 3.
☐ Cytuno
☐ Anghytuno
Cwestiwn 3
Pa dystiolaeth a mesurau rydych wedi'u gweld sy'n nodi ac yn hyrwyddo ymdrochi ar y safle? (e.e. nifer yr ymdrochwyr, arwyddion, gwefan, cyfryngau cymdeithasol ac ati). Os ydych yn anghytuno â'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad, esboniwch pam a chynnwys unrhyw dystiolaeth ategol.
Cwestiwn 4
Beth yw eich barn chi ar y cynnig, a beth yw'r rhesymeg y tu ôl i'ch barn?
Nodwch yma:
Cwestiwn 5
Rydyn ni wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech godi unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi.
Barn ynghylch estyniad cenedlaethol ar gyfer y tymor dŵr ymdrochi 2026
Yn dilyn newidiadau i'r Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi yn 2025, mae gan Lywodraeth Cymru bellach y pŵer i bennu tymhorau ymdrochi – yn genedlaethol ac ar gyfer safleoedd penodol.
Mae'r tymor ymdrochi presennol yn para o 15 Mai i 30 Medi bob blwyddyn.
Rydyn ni'n gwahodd pobl i roi eu barn ar ein cynnig i estyn y tymor ymdrochi cenedlaethol yng Nghymru. O dan y cynnig hwn, byddai'r tymor yn dechrau bythefnos ynghynt ac yn para o 1 Mai i 30 Medi, gan ddechrau yn 2026. Mae'r newid hwn yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael a cheisiadau yn y gorffennol sy'n awgrymu bod Mai, o bosibl, yr un mor brysur i ymdrochwyr â Mehefin a Medi. Ar hyn o bryd mae cyfyngu monitro i ganol mis Mai ymlaen yn peri risg o golli pwysau cynnar y tymor ac yn gadael ymdrochwyr heb yr un amddiffyniadau sydd ar gael yn ddiweddarach yn y tymor. Drwy gynnwys y mis cyfan, gan gynnwys Gŵyl y Banc ar Ddechrau Mai, yn hytrach na dechrau yng nghanol y mis, gallwn ddarparu darlun cyflawn a chynrychioliadol o ansawdd dŵr, atgyfnerthu prosesau diogelu iechyd y cyhoedd a rhoi hyder i gymunedau bod safonau'n berthnasol yn gyson drwy gydol y cyfnod hwn.
Mae hwn yn gam cymedrol ond ystyrlon sy'n sicrhau rheoleiddio ar gyfer mis calendr cyfan o samplu a goruchwylio, yn hytrach nag am ran o'r mis yn unig lle y gellid colli gweithgareddau cynnar y tymor. Mae'n sicrhau bod ymdrochwyr yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu hamddiffyn un unol â'r un safonau sydd ar gael yn ddiweddarach yn y tymor, gan wella tegwch a chysondeb ar draws y tymor ymdrochi. Mae hefyd yn darparu amserlen hirach ar gyfer cynnal arolygon o nifer yr ymdrochwyr i gefnogi ceisiadau newydd i ddynodi dŵr ymdrochi.
Rydyn ni'n cydnabod nad yw pob corff o ddŵr ymdrochi'n cael ei ddefnyddio yn yr un ffordd neu am yr un cyfnod o amser. Ochr yn ochr â'r newid arfaethedig i'r tymor ymdrochi cenedlaethol, byddwn yn parhau i ddatblygu dull cadarn, seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer tymhorau ymdrochi safle-benodol. Gallai'r gwaith hwn hefyd arwain at adolygiad o'r tymor cenedlaethol i sicrhau ei fod yn adlewyrchu patrymau defnyddio ac yn diwallu anghenion ymdrochwyr ledled Cymru. I gefnogi hyn, rydyn ni'n bwriadu ceisio barn fwy manwl y cyhoedd yn 2026.
Cwestiwn 6
A ydych yn cytuno â'r cynnig i estyn y tymor ymdrochi cenedlaethol yng Nghymru am bythefnos, gan newid y dyddiadau i 1 Mai – 30 Med yn hytrach na 15 Mai – 30 Medi?
☐Ydw
☐ Nac ydw
☐Ddim yn siŵr
Y Gymraeg
Cwestiwn 7
Hoffen ni wybod eich barn ar effeithiau posibl y cynigion ar y Gymraeg, yn enwedig ynglŷn â chyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg a sicrhau nad yw'r iaith yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Pa effeithiau rydych yn eu rhagweld a sut y gellid addasu'r cynigion hyn i wella effeithiau cadarnhaol neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar y Gymraeg?
Y camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad
Bydd yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu dadansoddi a'u hystyried a bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion.
