Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r astudiaeth ansoddol hon yn archwilio sut mae ysgolion yn cynllunio a chreu cwricwlwm addas yn bedagogaidd ac yn ddatblygiadol ar gyfer dysgu sylfaenol sy’n cefnogi dysgwyr.

Nod gwerthusiad ffurfiannol Cwricwlwm i Gymru yw darparu darlun eang, ansoddol a meintiol, o sut mae’r diwygiadau’n gweithio, sut mae arferion yn newid, a sut mae’r newidiadau hyn yn cael eu profi gan ymarferwyr, dysgwyr a’u teuluoedd.

Roedd yr astudiaeth ansoddol hon yn cynnwys gwaith maes gyda 47 o gyfranogwyr, a oedd yn ymwneud â rolau sy’n berthnasol i ddysgu sylfaen. Tynnwyd y sampl o 19 o ysgolion cynradd, gan gynrychioli croestoriad yn ôl rhanbarth, math o ysgol, a chyfrwng iaith.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau ar y canlynol:

  • sut mae ysgolion yn dylunio ac yn cynllunio eu cwricwlwm dysgu sylfaen
  • sut mae ysgolion yn rhoi arferion addysgeg briodol ar waith, yn unol â dysgu sylfaen
  • sut mae ysgolion yn ymdrin â dilyniant ac asesu mewn dysgu sylfaen
  • sut mae ysgolion yn cael mynediad at ganllawiau, cymorth a dysgu proffesiynol sy’n ymwneud â dysgu sylfaen

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried canfyddiadau’r adroddiad ac wedi cyhoeddi ymateb.

Adroddiadau

Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 545 KB

PDF
545 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ymchwil Ysgolion

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.