Dysgu Sylfaen yn y Cwricwlwm i Gymru: astudiaeth ansoddol (crynodeb)
Mae’r astudiaeth ansoddol hon yn archwilio sut mae ysgolion yn cynllunio a chreu cwricwlwm addas yn bedagogaidd ac yn ddatblygiadol ar gyfer dysgu sylfaenol sy’n cefnogi dysgwyr.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad a methodoleg
Mae'r adroddiad hwn yn rhan o'r gwerthusiad ffurfiannol o Gwricwlwm Cymru. Fel rhan o'r gwerthusiad, mae astudiaethau ansoddol sy'n seiliedig ar bwnc yn cael eu cynnal, gan archwilio elfennau penodol o Gwricwlwm Cymru. Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil ansoddol ar ddysgu sylfaen, dan arweiniad Arad Research gyda chefnogaeth Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Nodau'r astudiaeth hon oedd archwilio sut mae ysgolion yn:
- cynllunio ac yn gwireddu cwricwlwm sy'n briodol yn addysgegol ac yn ddatblygiadol ar gyfer dysgu sylfaen sy'n cefnogi dysgwyr mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru (Cwestiwn Ymchwil 1)
- defnyddio canllawiau a gweithgaredd dysgu proffesiynol i sicrhau bod y dulliau a ddefnyddir ganddynt yn addas yn addysgegol ac yn ddatblygiadol ar gyfer dysgu sylfaen - yn unol â gweledigaeth y Cwricwlwm i Gymru (Cwestiwn Ymchwil 2)
Roedd y fethodoleg ar gyfer yr astudiaeth hon yn cynnwys:
- cynllunio canllaw trafod lled-strwythuredig, wedi'i lywio gan adolygiad desg o ddogfennaeth Cwricwlwm i Gymru a thrafodaethau â swyddogion polisi Llywodraeth Cymru
- ymchwil ansoddol gyda sampl o 19 o ysgolion cynradd. Roedd y sampl yn cynnwys pedair ysgol cyfrwng Cymraeg, trawsdoriad o ysgolion gyda darpariaeth feithrin a heb ddarpariaeth feithrin ac un ysgol arbennig. Cymerodd ysgolion o bob un o'r pedwar rhanbarth yng Nghymru ran yn yr astudiaeth. Roedd canran y dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgolion yn y sampl yn amrywio o lai na 5% i dros 15%. Cymerodd 14 ysgol ran mewn trafodaethau manwl ar ddau adeg rhwng Hydref a Rhagfyr 2025: trafodaeth gychwynnol gydag aelod o'r uwch dîm arwain, ac yna ymweliad ysgol i siarad ag ymarferwyr eraill. Cymerodd pum ysgol arall ran mewn trafodaethau grŵp ar-lein. Roedd cyfanswm o 47 o gyfranogwyr yn rhan o drafodaethau neu grwpiau ffocws, gan gynnwys ymarferwyr mewn ystod o rolau sy'n berthnasol i ddysgu sylfaen (er enghraifft, Dirprwy Bennaeth, Arweinydd Dysgu Sylfaen, athrawon dosbarthiadau Meithrin a Derbyn)
- cwblhau gwaith dadansoddi fesul cam, yn cynnwys: adolygiad o drawsgrifiadau’r trafodaethau; llunio crynodebau ysgrifenedig o bob trafodaeth; gwaith codio er mwyn adnabod themâu a oedd yn codi’n rheolaidd; ymchwil bellach i’r themâu er mwyn deall y themâu mwyaf cyffredin fel sail ar gyfer strwythuro canfyddiadau ymchwil
Mae’r adroddiad yn amlygu nifer o gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r astudiaeth hon, sef:
- natur fach a hunanddewisol y sampl, sy’n golygu nad yw’r canfyddiadau yn rhai y mae modd eu cyffredinoli
- roedd rhai cyfranogwyr yn dal rolau uwch arweinyddiaeth a rolau addysgu ac nid oeddent yn gwahaniaethu yn eu hymatebion i gwestiynau a oeddent yn ateb o safbwynt uwch arweinydd neu ymarferydd
- oherwydd y cyfyngiadau ar yr amser oedd ar gael ar gyfer trafodaethau dwys (roedd cyfweliadau yn para rhwng 60 a 90 munud), ac oherwydd natur lled-strwythuredig y trafodaethau, roedd yn anodd sicrhau sylw cyflawn o'r holl bynciau a gynhwysir yn y canllaw pwnc (gweler Atodiad B yr adroddiad ymchwil llawn)
- mae'r ymchwil yn cyflwyno cipolwg ar ymarfer a safbwyntiau ar adeg pan fo gweithredu Cwricwlwm i Gymru yn parhau i fod yn broses iteraidd ac esblygol; cynhaliwyd trafodaethau yn ystod un tymor ysgol felly nid oedd yn bosibl archwilio unrhyw newidiadau dros gyfnod hirach
- ni chafodd ymarferwyr eu recriwtio'n uniongyrchol i'r astudiaeth ac mae posibilrwydd y gallai uwch arweinwyr fod wedi dewis staff a allai rannu naratif penodol am eu cwricwlwm ysgol
Prif ganfyddiadau
Dylunio a chynllunio'r cwricwlwm
Dywedodd pob ysgol fod cynllunio cwricwlwm ar gyfer dysgu sylfaen wedi'i nodweddu gan bwyslais ar ymarfer sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, wedi'i gyd-destunoli ac sy’n addas i'w datblygiad. Yn aml, roedd ysgolion yn seilio eu gwaith cynllunio ar y cyd-destun lleol, gan dynnu ar brofiadau cymunedol i gefnogi ymgysylltiad a pherthnasedd.
Tynnodd llawer o ymarferwyr sylw at werth defnyddio amgylcheddau lleol a phrofiadau byd go iawn i gryfhau dealltwriaeth a lles dysgwyr. Roedd dysgu sy’n seiliedig ar chwarae a dysgu dilys yn nodweddion canolog o'r ddarpariaeth, gydag ysgolion yn mabwysiadu dulliau hyblyg, wedi'u harwain gan arsylwadau, a oedd yn caniatáu i ymarferwyr ymateb i chwilfrydedd a diddordebau plant.
Dywedodd ysgolion eu bod yn defnyddio cymysgedd o ddulliau i gefnogi llythrennedd a rhifedd er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu sgiliau sylfaenol.
Ar gyfer y dysgwyr ieuengaf mewn addysg gynnar, ystyriwyd hyn yn hanfodol wrth gefnogi datblygiad holistaidd dysgwyr, yn enwedig o ganlyniad i’r cynnydd canfyddedig mewn oedi o ran datblygiad ac anghenion cyfathrebu ychwanegol. Adroddodd llawer o ymarferwyr fod cynllunio ar gyfer dysgu sylfaen yn esblygiad ‘naturiol’ o drefniadau o dan y Cyfnod Sylfaen blaenorol. Disgrifiodd ymarferwyr yn gyson y Cwricwlwm i Gymru fel rhywbeth a oedd yn ategu eu dulliau blaenorol, gan gyfrannu at ymdeimlad o barhad yn hytrach na newid sylweddol. Adroddodd llawer eu bod yn tynnu ar y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir i arwain dulliau mewn dosbarthiadau meithrin a derbyn.
Soniodd ysgolion am niferoedd cynyddol o ddysgwyr ag ADY ac anghenion mwy cymhleth, gan olygu bod angen addasu'r ddarpariaeth ymhellach, gan gynnwys defnyddio ymyriadau wedi'u targedu, gosod disgwyliadau sy'n addas i gamau datblygiadol dysgwyr, a mwy o gefnogaeth gan oedolion lle bo modd. Fodd bynnag, nodwyd cyfyngiadau staffio a chyfyngiadau cyllidebol fel rhwystrau parhaus i ysgolion gynnig darpariaeth lawn sy'n ymatebol yn ddatblygiadol ac yn gynhwysol i bob dysgwr.
Datgelodd tystiolaeth o nifer o ysgolion fod canfyddiadau o barodrwydd datblygiadol dysgwyr yn llywio penderfyniadau ynghylch cynllunio cwricwlwm. Dengys sylwadau bod rhai ymarferwyr yn teimlo bod dysgwyr yn datblygu neu'n symud ymlaen yn arafach na'r disgwyl anghysondeb rhwng y canfyddiadau hyn o gynnydd a chanllawiau statudol Cwricwlwm Cymru, sy'n pwysleisio dull sy'n addas i ddatblygiad.
Addysgeg
Datgelodd tystiolaeth o ysgolion fod addysgeg wedi esblygu o ymarfer blaenorol y Cyfnod Sylfaen, er bod ysgolion hefyd yn cydnabod bod llawer o debygrwydd a bod rhai o’r elfennau sylfaenol yn parhau. Mae chwarae yn parhau yn rhan ganolog o'r cwricwlwm, yn ogystal â phwyslais ar gefnogi dysgu drwy brofiad dysgu holistaidd. Adroddwyd bod dulliau addysgeg yn cael eu cynllunio'n fwy pwrpasol nag o dan y cwricwlwm blaenorol ac yn cael eu harwain gan ymarferwyr yn arsylwi dysgwyr yn fanwl.
Adroddwyd bod dulliau addysgeg mewn dysgu sylfaen yn cynnwys amgylcheddau dysgu wedi'u saernïo’n fwy gofalus, ffocws cliriach ar anghenion datblygiadol dysgwyr,, a newid nodedig yn y ffordd y mae ymarferwyr yn gweld eu rôl, o fod yn hyfforddwyr i fod yn hwyluswyr dysgu.
Cynnydd ac asesu
SManylodd rhai ysgolion ar newidiadau i’r trefniadau asesu i sicrhau cyfatebiaeth ag asesu mewn dysgu sylfaen o dan y Cwricwlwm i Gymru. Roedd rhai wedi defnyddio'r canllawiau cyhoeddedig ar drefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir a rhoddwyd enghreifftiau hefyd o offer asesu allanol a ddefnyddiwyd.
Cynhaliwyd asesiadau dechreuol fel mater o drefn yn ystod wythnosau cyntaf dysgwr yn yr ysgol er mwyn rhoi dealltwriaeth o anghenion dysgwyr a’u datblygiad, yn unol â gofynion statudol.
Disgrifiodd rhai uwch arweinwyr ac ymarferwyr sut y defnyddiwyd asesiadau i deilwra'r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr unigol. Defnyddiwyd asesiadau hefyd i gydnabod a chefnogi cynnydd dysgwyr ar adegau rheolaidd yn ystod y flwyddyn academaidd a thrwy gydol eu taith ysgol o'r dosbarth meithrin i Flwyddyn 6. Roedd arsylwadau yn ddull canolog o asesu er cafwyd rhai enghreifftiau o symud tuag at asesiadau mwy ffurfiol gan gynnwys symud i ffwrdd o arsylwadau ym Mlwyddyn 1 a 2 a dysgwyr yn defnyddio llyfrau gwaith.
Disgrifiodd uwch arweinwyr ac ymarferwyr mewn rhai ysgolion ddull holistaidd o asesu gan ystyried y 'plentyn cyfan' a'r llwybrau datblygiadol. Codwyd rhai pryderon ynghylch sut i gynnal asesiadau mewn dysgu sylfaen a sut i "fesur" dilyniant dysgwr. Cafwyd cyfeiriadau at ddiffyg "meincnodau" neu "safonau" clir yr oedd rhai ymarferwyr yn ystyried yn bwysig ar gyfer deall cynnydd dysgwyr.
Canllawiau a chymorth
Adroddwyd bod awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol (lle roedd trefniadau rhanbarthol wedi’u cynnal) yn ffynonellau gwerthfawr o gymorth i tua hanner yr ysgolion. Roedd enghreifftiau o gymorth yn cynnwys dogfennau canllaw yn cysylltu llwybrau datblygiadol â datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a disgrifiadau dysgu, hyfforddiant ar draws y clwstwr, sesiynau cyfnos ac annog rhannu arfer da. Yn ogystal, dywedodd rhai ysgolion eu bod yn gwerthfawrogi'r canllawiau Galluogi Dysgu a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd rhai ysgolion yn defnyddio’r rhain ar y cyd ag adnoddau ar Hwb er bod ambell ysgol wedi nodi pryderon ynghylch diffyg adnoddau penodol ar gyfer dysgu sylfaen.
Roedd rhai ysgolion yn defnyddio'r cwricwlwm nas cynhelir ar gyfer cynllunio, dylunio ac asesu. Fodd bynnag, cafwyd safbwyntiau amrywiol ar effeithiolrwydd a pherthnasedd y cwricwlwm hwn i gefnogi eu hymarfer, gan adlewyrchu canfyddiadau gwahanol o'i berthnasedd mewn gwahanol gyd-destunau.
Dywedodd rhai ysgolion am gydweithio rhwng ysgolion, a rhannu adnoddau a syniadau, a oedd yn cefnogi hyder ymarferwyr. Roedd enghreifftiau o gymorth ychwanegol yr oedd ei angen ar ymarferwyr yn cynnwys canllawiau mwy penodol ac adnoddau dysgu proffesiynol ar gyfer ymarfer ac asesu dysgu sylfaen, gan gynnwys asesiad dechreuol.
Dysgu proffesiynol
Dywedodd rhai ysgolion eu bod wedi cael mynediad at ddysgu proffesiynol trwy eu hawdurdod lleol neu drwy eu consortiwm rhanbarthol yn flaenorol. Tynnodd ysgolion eraill sylw at gyfleoedd dysgu proffesiynol a ddarperir drwy Hwb a sgyrsiau rhwydwaith cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, roedd lefel a chynnwys y dysgu proffesiynol hwn yn cael eu hystyried yn anghyson – dywedodd rhai ymarferwyr fod dysgu proffesiynol penodol i'r blynyddoedd cynnar yn gyfyngedig neu nad oeddent yn ymwybodol o gyfleoedd.
Mewn rhai ysgolion, felly, mae dibyniaeth ar gymorth gan gymheiriaid a deialog broffesiynol i gefnogi datblygiad proffesiynol. Mae hyn yn digwydd drwy rwydweithio clwstwr, hyfforddiant mewnol, arsylwi, a rhannu arfer ac adnoddau effeithiol i fynd i'r afael â meysydd lle mae angen rhagor o gymorth.
Tynnodd ymarferwyr sylw at fylchau mewn dysgu proffesiynol, yn enwedig mewn perthynas â ADY, dysgu awyr agored, datblygu cwricwlwm sy’n seiliedig ar chwarae, cefnogi addysgeg dan arweiniad dysgwyr, a datblygu sgiliau ymarferwyr o arsylwi. Roedd anghenion cymorth yn y dyfodol a nodwyd gan ysgolion yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o sut olwg sydd ar y Cwricwlwm i Gymru mewn ymarfer blynyddoedd cynnar o ddydd i ddydd, megis astudiaethau achos 'byd go iawn', fideos, ac enghreifftiau ar draws gwahanol gyd-destunau, yn enwedig i gefnogi hyder a chysondeb staff.
Casgliadau a meysydd i’w hystyried ymhellach
Casgliadau sy'n ymwneud â Chwestiwn Ymchwil 1
Cwestiwn Ymchwil 1: Sut y mae ysgolion yn cynllunio ac yn gwireddu cwricwlwm sy'n addas yn addysgegol ac yn ddatblygiadol ar gyfer dysgu sylfaen sy'n cefnogi dysgwyr mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru?
Mae'r dystiolaeth a gasglwyd drwy'r astudiaeth ansoddol hon yn tynnu sylw at sawl thema gyffredinol ynghylch sut mae ysgolion yn cynllunio, gwireddu a mireinio darpariaeth addysgegol a datblygiadol briodol ar gyfer dysgu sylfaen. Yn gyffredinol disgrifiodd ymarferwyr ddulliau sy'n canolbwyntio’n gryf ar y dysgwr, wedi'i gyd-destunoli ac wedi’u siapio gan ddealltwriaeth o fannau cychwyn datblygiadol. Defnyddiwyd asesiadau dechreuol fel ffordd o lywio cynllunio cwricwlwm, gan ffurfio rhan o broses iteraidd lle roedd arsylwi parhaus a barn broffesiynol yn dylanwadu ar addysgu, dysgu a chynllunio.
Disgrifiodd llawer o ymarferwyr y Cwricwlwm i Gymru fel esblygiad o arferion a sefydlwyd o dan gwricwlwm y Cyfnod Sylfaen blaenorol yn hytrach na newid sylweddol, gyda rhai yn integreiddio elfennau o’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir i gryfhau’r defnydd o lwybrau datblygiadol fel rhan o gynllunio ac asesu.
Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod rhai ysgolion yn parhau i ddehongli disgwyliadau ynghylch cynnydd trwy lens a siapiwyd gan drefniadau’r cwricwlwm blaenorol. Mae cyfeiriadau at ffaith bod dysgwyr “heb gyrraedd lle y dylent fod” yn dangos anghysondeb â'r pwyslais yn Fframwaith Cwricwlwm i Gymru ar gydnabod gwahanol gyflymder cynnydd yn hytrach na bod yn seiliedig ar ddeilliannau sydd wedi’u cyfyngu gan amser. Yn gysylltiedig â hyn, mae Blwyddyn 3 yn parhau i gael ei ystyried gan lawer fel “pwynt pontio” sy'n cynnwys symud tuag at "ddysgu mwy ffurfiol". Ymddengys bod y canfyddiad hwn yn dylanwadu ar ymarfer ym Mlwyddyn 2 ac mae'n awgrymu bod angen cefnogaeth barhaus i hyrwyddo dilyniant addysgeg ar draws y blynyddoedd cynradd yn unol â Chwricwlwm Cymru.
Ar draws y sampl, adroddwyd bod anghenion cynyddol dysgwyr, yn enwedig niferoedd uwch o ddysgwyr ag ADY neu ddysgwyr ar wahanol gamau datblygiadol, yn siapio penderfyniadau cwricwlwm. Teimlwyd bod y duedd hon, ynghyd â phwysau staffio a chyllidebol, yn cyfyngu ar allu ysgolion i wireddu darpariaeth a oedd yn llawn ymatebol i ddatblygiad dysgwyr.
Casgliadau sy'n ymwneud â Chwestiwn Ymchwil 2
Cwestiwn Ymchwil 2: Sut y mae ysgolion yn defnyddio canllawiau a dysgu proffesiynol i sicrhau bod y dulliau a ddefnyddir ganddynt yn addas yn addysgegol ac yn ddatblygiadol ar gyfer dysgu sylfaen - yn unol â gweledigaeth y Cwricwlwm i Gymru?
Mewn perthynas â chanllawiau a dysgu proffesiynol, adroddodd ysgolion eu bod wedi manteisio ar gymorth gan awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys adnoddau ar Hwb. Yn gyffredinol, ystyriwyd y rhain yn werthfawr wrth gefnogi dulliau sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac ymarfer cydweithredol ar draws ysgolion. Fodd bynnag, tynnodd ysgolion sylw hefyd at amrywioldeb yn argaeledd a pherthnasedd canllawiau ymarferol dysgu sylfaen, gan nodi anghysondeb yn y cyfleoedd i gael mynediad at ddysgu proffesiynol.
Mae tystiolaeth o ysgolion yn dangos bod gan ymarferwyr safbwyntiau gwahanol ar berthnasedd y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, gan adlewyrchu amrywiaeth o ran pa mor dda y canfyddwyd bod y canllawiau yn cyd-fynd â chyd-destunau lleol ac arferion presennol. Mae'r safbwyntiau cymysg hyn yn dangos bod angen parhaus am ganllawiau cliriach a mwy cyson i gefnogi addysgeg ac asesu sy'n addas yn ddatblygiadol ar draws ysgolion. Maent hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd gwella mynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar ymarfer dysgu sylfaen. Byddai cryfhau'r cymorth hwn yn helpu i fagu hyder ymarferwyr a hyrwyddo mwy o gydlyniant mewn dulliau o ddysgu sylfaen ar draws Cymru
Meysydd i’w hystyried
Ymgorffori llwybrau datblygiadol fel rhan o brosesau cynllunio cwricwlwm cydlynol
Mae tystiolaeth yn dangos bod ysgolion yn aml yn addasu’r broses o gynllunio’r cwricwlwm i adlewyrchu mannau cychwyn datblygiadol dysgwyr. Serch hynny, mae amrywiad o hyd yn y ffordd y mae ysgolion yn ymgorffori ac yn dehongli llwybrau datblygiadol. Gellid rhoi ystyriaeth bellach i sut y gellir cefnogi ysgolion i gynllunio ar gyfer dysgu sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, sy'n ymatebol i ddatblygiad ac sy'n briodol o ran addysgeg o 3 i 16 oed, gan sicrhau cyfatebiaeth â Fframwaith Cwricwlwm i Gymru.
Egluro’r disgwyliadau ynghylch addysgeg sy'n addas yn ddatblygiadol
Fel y nodwyd yn yr adroddiad hwn, roedd rhai ysgolion yn parhau i ystyried bod newid tuag at yr hyn a ddisgrifiwyd fel dysgu mwy ‘ffurfiol’ ym Mlwyddyn 3, a oedd yn dylanwadu ar ymarfer ac addysgeg, yn enwedig ym Mlwyddyn 2. Efallai y bydd angen cefnogi ysgolion i ddatblygu dulliau addysgeg sy’n sicrhau parhad yn eu darpariaeth addysg gynradd, gan helpu i symud ymlaen o ganfyddiadau neu ddisgwyliadau o ‘barodrwydd’ dysgwyr ar gyfer pwyntiau pontio nad ydynt yn rhan o’r Cwricwlwm i Gymru.
Cefnogi asesu mewn dysgu sylfaen
Dywedodd ysgolion fod ansicrwydd ynghylch sut i ddangos tystiolaeth o gynnydd yn absenoldeb meincnodau. Nodwyd hefyd rywfaint o densiwn rhwng asesu drwy arsylwi a disgwyliadau canfyddedig ar gyfer data meintiol yn ymwneud â chynnydd (a 'safonau'). Gallai canllawiau ac enghreifftiau ychwanegol gefnogi mwy o gysondeb wrth ddefnyddio'r pum llwybr datblygiadol fel rhan o ddulliau holistaidd o asesu cynnydd dysgwyr.
Ymateb i niferoedd cynyddol o ddysgwyr mewn dysgu sylfaen sydd angen cymorth ychwanegol
Dywedodd llawer o ysgolion eu bod yn gweld niferoedd cynyddol o ddysgwyr ag anghenion datblygiadol y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, ochr yn ochr â chyfyngiadau staffio a chyllidebol. Mae angen meddwl ymhellach am sut y gall cymorth cenedlaethol a rhanbarthol helpu ysgolion i ddylunio amgylcheddau, cwricwla a dulliau addysgeg sy'n parhau i fod yn gynhwysol ac yn ymatebol i ddatblygiad y dysgwyr.
Gwella mynediad at ddysgu a chymorth proffesiynol sy'n canolbwyntio ar ddysgu sylfaen
Dywedodd ysgolion fod anghysondebau yn argaeledd a pherthnasedd gweithgaredd dysgu proffesiynol sy'n canolbwyntio ar ddysgu sylfaen, yn enwedig mewn meysydd fel datblygiad plant, cefnogi dysgwyr ag ADY, asesu sy'n seiliedig ar arsylwi, ac addysgeg sy'n seiliedig ar chwarae. Gallai dysgu proffesiynol wedi'i deilwra a'i gyhoeddi'n dda helpu i gefnogi hyder ymarferwyr a barn broffesiynol, a hyrwyddo mwy o gysondeb ledled Cymru. Gallai hyn hefyd fod yn ffocws ar gyfer cydweithio rhwng ysgolion fel rhan o strategaethau gwella ysgolion cydweithredol.
Manylion cyswllt
Awduron yr adroddiad: Brett Duggan, Martin Jones, Dr Felicity Morris (Arad); Yr Athro David Egan (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Cangen Ymchwil Cwricwlwm
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: ymchwil.cwricwlwm@llyw.cymru
Rhif ymchwil cymdeithasol: 54/2026
ISBN digidol: 978-1-83745-372-6
