Neidio i'r prif gynnwy

1. Prif bwyntiau

Mae’r briff tystiolaeth hwn yn cymharu iechyd derbynwyr cynlluniau effeithlonrwydd ynni cartref Cartrefi Clyd Nyth a Chartrefi Clyd Arbed.

Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud â derbynwyr Nyth ar gyfer 2011-17, ac eir ati i gymharu derbynwyr Nyth ac Arbed ar gyfer 2011. Dewiswyd canolbwyntio ar 2011 gan fod y rhan fwyaf o gartrefi Arbed wedi cael eu mesurau yn 2011.

Bydd dadansoddiad pellach, a fydd yn ystyried canlyniadau ychwanegol, yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol.

Aethom ati i gymharu canlyniadau iechyd ar gyfer derbynwyr Nyth 2011-17 ac ar gyfer Nyth ac Arbed 2011 gyda grwpiau rheoli nad oedden nhw wedi cael mesurau.

Dangosodd yr astudiaeth ni wnaeth y naill gynllun na’r llall effeithio ar ba un a oedd gan dderbynwyr gyflwr iechyd yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, ar gyfer pobl sydd eisoes yn dioddef digwyddiadau anadlol neu ddigwyddiadau haint, canfuwyd y canlynol:

  • Ar gyfer Nyth ac Arbed, gwelwyd gostyngiad yn nifer yr achosion o fynd at Feddyg Teulu oherwydd problemau anadlol o gymharu â’r grwpiau rheoli perthnasol. Er nad oes ganddo arwyddocâd ystadegol bob tro, mae’r patrwm cyson lle gwelir gostyngiadau ar draws y cynlluniau’n awgrymu bod y ddau gynllun yn gwella iechyd anadlol. Fel y gellid disgwyl, ymddengys fod yr effaith hon yn fwy ymhlith derbynwyr cynllun Nyth, sy’n seiliedig ar alw.
  • Yn ôl y disgwyl, ni chafodd y naill gynllun na’r llall effaith sylweddol ar nifer cyfartalog y presgripsiynau am Asthma. Mae hyn i’w ddisgwyl, oherwydd caiff y rhan fwyaf o bresgripsiynau am asthma eu rhoi er mwyn atal y cyflwr, a bydden nhw’n debygol o barhau ni waeth be fo nifer yr achosion acíwt.
  • Fodd bynnag, ar gyfer y rhai sydd yn cael mwy nag un presgripsiwn gan Feddyg Teulu am haint, rydym yn amcangyfrif effaith gadarnhaol yn sgil Nyth ac Arbed. O bosibl oherwydd y niferoedd bach, ni chyrhaeddodd yr un o’r casgliadau hyn lefel ystadegol arwyddocaol. Ond mae’r patrwm cyson ar draws y cynlluniau’n awgrymu eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar roi presgripsiynau am haint ar gyfer unigolion sydd â heintiau mynychu neu fwy difrifol.

Ceir gwybodaeth fanylach yn yr 'Adroddiad technegol' am y dulliau a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth.

2. Cyflwyniad i Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn bartneriaeth arloesol newydd sy’n dwyn ynghyd thimau arbenigol, arbenigwyr gwyddor data ac ystadegwyr. Mae’n bartneriaeth rhwng Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd, a Llywodraeth Cymru. Gyda’i gilydd, maen nhw’n datblygu tystiolaeth newydd sy’n ategu strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, sef Ffyniant i Bawb.

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn defnyddio Cronfa Ddata SAIL Prifysgol Abertawe i gysylltu â dadansoddi data dienw. Mae’n rhoi cipolwg i Lywodraeth Cymru ar y berthynas rhwng gwahanol feysydd darparu gwasanaethau cyhoeddus a phrofiad pobl o wahanol wasanaethau. Mae hyn yn ategu datblygiad polisi cydweithredol ac integredig i wella bywydau trigolion Cymru.
 

3. Cefndir y polisi

Yng Nghymru, ystyrir bod aelwyd yn dioddef tlodi tanwydd os yw’n gorfod gwario mwy na 10% o’i hincwm net ar danwydd yr aelwyd er mwyn cael gwres digonol. Mae tlodi tanwydd yn her arbennig yng Nghymru oherwydd y stoc dai wael a geir mewn sawl ardal a natur wledig rhan helaeth o’r wlad.

Awgryma’r llenyddiaeth ymchwil fod byw mewn cartref oer neu laith yn cynyddu’r risg o ddioddef amrywiaeth o broblemau iechyd. Mae’r problemau a thystiolaeth yn cynnwys annwyd a dolur gwddf i gyflyrau cardiofasgwlaidd ac anadlol.

Fel rhan o’i strategaeth i leihau tlodi tanwydd yng Nghymru, datblygodd Llywodraeth Cymru gynlluniau Cartrefi Clyd. Mae’r cynlluniau’n cyflwyno gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref ar gyfer y rhai sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi tanwydd, yn cynnwys aelwydydd incwm isel ac agored i niwed. Mae gwelliannau yn cynnwys inswleiddio tai neu osod boeler mwy effeithlon. Cynllun seiliedig ar alw yw Cartrefi Clyd Nyth, sy’n cyflwyno gwelliannau i aelwydydd incwm isel ac agored i niwed ers 2011. Cafodd Cartrefi Clyd Arbed ei sefydlu yn 2009 i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi mewn ardaloedd incwm isel a bennwyd gan ddarparwyr tai cymdeithasol. Cafodd cam cyntaf cynllun Arbed ei roi ar waith yn 2010 a 2011.

Prif nod cynlluniau Cartrefi Clyd yw lleihau neu ddileu tlodi tanwydd. Fodd bynnag, roedd gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn unrhyw effeithiau cadarnhaol y gallai’r cynlluniau eu cael ar iechyd a llesiant y preswylwyr. Mae’r erthygl hon yn crynhoi casgliadau prosiect i archwilio effeithiau iechyd cynlluniau Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru. Yr astudiaeth hon yw’r gyntaf i cymharu’n uniongyrchol effeithiau iechyd cynllun effeithlonrwydd ynni seiliedig ar alw a chynllun effeithlonrwydd ynni seiliedig ar ardal. Bydd y casgliadau’n cyfarwyddo cynlluniau tlodi tanwydd yn y dyfodol yng Nghymru.
 

4. Dulliau

Roedd rhan fwyaf (70%) o gartrefi Arbed wedi cael eu mesurau yn 2011. Felly dewiswyd cymharu effeithiau Nyth ac Arbed ar gyfer aelwydydd a gafodd eu mesurau yn 2011. Aethom ati i gymharu digwyddiadau iechyd derbynwyr yn ystod gaeaf 2010-2011 gyda digwyddiadau yn ystod gaeaf 2011-2012. Roedd nifer y derbynwyr Nyth yn 2011 (‘Nyth-2011’) yn gymharol fach, felly cyflwynir ffigurau ar gyfer derbynwyr Nyth 2011-17 (‘Nyth yn gyffredinol’) hefyd. Felly, mae patrwm ar gyfer Nyth neu Arbed 2011, sy’n gyson â’r patrwm ar gyfer Nyth 2011-17 yn rhoi mwy o hyder inni yn y canlyniadau.

Defnyddiwyd y dull dadansoddi a gafodd ei ddatblygu ar gyfer ein dadansoddiad blaenorol o effeithiau iechyd cynllun Nyth. Mae’r dull yn ystyried sut mae nifer y digwyddiadau iechyd yn newid rhwng y gaeaf cyn i’r aelwydydd gael mesur, a’r gaeaf wedyn. Rydym yn cymharu’r derbynwyr gyda grwpiau rheoli sy’n cynnwys pobl debyg nad ydyn nhw wedi cael mesurau. Mae grwpiau rheoli yn ein galluogi i ddod i'r casgliad bod unrhyw wahaniaethau a gawn rhwng y derbynwyr a’r grwpiau rheoli yn fwyaf tebygol o gael eu priodoli i’r cynllun.

Cawsom ddata’n ymwneud ag achosion o fynd at Feddyg Teulu a derbyniadau brys i’r ysbyty. Aethom ati i ystyried nifer y derbyniadau brys i’r ysbyty ar gyfer clefydau anadlol a chlefydau cardiofasgwlaidd. Ar gyfer y ddau clefyd, rydym wedi adrodd o’r blaen fod y data’n awgrymu bod y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar gyfer Nyth yn gyffredinol. Fodd bynnag, nid yw derbyniadau i’r ysbyty’n digwydd yn aml. Ar gyfer grwpiau llai Nyth-2011 ac Arbed, nid oedd digon o dderbyniadau i’w cael i’w dadansoddi. Felly, rydym wedi canolbwyntio’n unig ar ddata’n ymwneud â Meddygon Teulu.

Ar gyfer Nyth ac Arbed, edrychwyd ar y canlynol:

  • nifer yr achosion o fynd at Feddyg Teulu oherwydd problemau anadlol (ac eithrio presgripsiynau)
  • nifer yr achosion o fynd at Feddyg Teulu oherwydd asthma (ac eithrio presgripsiynau)
  • nifer y presgripsiynau am feddyginiaeth asthma
  • nifer y presgripsiynau’n ymwneud â haint e.e. haint anadlol, haint yn y glust neu haint ffwng.

Edrychwyd ar ddigwyddiadau iechyd mewn dwy ffordd:

  • cyfran y bobl â phob math o ddigwyddiad – mewn geiriau eraill, a oedd ganddyn nhw gyflwr iechyd yn y lle cyntaf
  • dim ond ar gyfer y rhai a oedd â chyflwr iechyd a gofnodwyd gan Feddyg Teulu, edrychwyd ar nifer y digwyddiadau iechyd a gawson nhw. Mewn geiriau eraill, edrychwyd ar eu hanes meddygol i weld a oedd nifer y digwyddiadau’n gostwng ynteu’n cynyddu. Gall hyn fod yn arwydd o ba mor ddifrifol yw cyflyrau iechyd pobl.

Mae Nyth yn seiliedig ar alw h.y. mae aelwydydd unigol yn ystyried eu bod angen mesurau. Mewn gwrthgyferbyniad, mae Arbed yn seiliedig ar ardal, ac o’r herwydd gall gynnwys aelwydydd nad oedden nhw mewn angen uniongyrchol. Felly, bydden ni’n disgwyl i unrhyw effeithiau iechyd fod yn fwy ar gyfer Nyth.

Gweler yr 'Adroddiad technegol' i gael gwybodaeth fanylach am y dulliau a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth.

5. Effaith cynlluniau Cartrefi Clyd ar iechyd

Wrth ystyried a oedd derbynwyr yn dioddef digwyddiad iechyd yn y lle cyntaf, ni chafodd y naill gynllun na’r llall unrhyw effaith. Nid oedd bod â chyflwr iechyd yn barod, neu fod mewn perygl o ddatblygu un, yn faen prawf ar gyfer cynnwys pobl yn y naill gynllun na’r llall. Er bod byw mewn cartref oer neu laith yn cynyddu’r risg o ddioddef problemau iechyd, ni fydd nifer o dderbynwyr yn datblygu problem iechyd. Mewn geiriau eraill, ni fydd pawb sydd â chartref oer yn mynd yn sâl. Hyd yn oed ar gyfer pobl a fydd yn datblygu problem iechyd, ni fyddan nhw o angenrheidrwydd yn ei datblygu’n syth. Yn syml iawn, gall pobl fyw mewn tŷ oer am sawl blwyddyn cyn mynd yn sâl, os byddan nhw’n mynd yn sâl o gwbl. Felly, fe fyddai disgwyl gweld effaith ataliol mewn un flwyddyn yn afrealistig. Mae’r adrannau a ganlyn yn adrodd ar nifer y digwyddiadau iechyd a brofwyd gan dderbynwyr y cynlluniau a ddioddefodd gyflwr iechyd.

Gan ystyried pobl a brofodd un neu fwy o ddigwyddiadau iechyd, edrychodd yr astudiaeth ar ba un a gafodd y cynlluniau effaith ar nifer y digwyddiadau hynny.  Yn syml, edrychon i weld a welwyd gostyngiad ynteu gynnydd yn yr achosion o fynd at Feddyg Teulu o ganlyniad i gael mesur.

Dengys Ffigur 1 effaith amcangyfrifedig pob cynllun ar bob digwyddiad iechyd. Dangosir hyn fel ‘gwahaniaeth canran’ rhwng y grŵp a gymerodd ran yn yr astudiaeth a’r grŵp rheoli. Er enghraifft, gallai'r ddau grŵp cynyddu, ond mae'n bosibl bod un grwp wedi cynyddu llai.

Yn yr un modd, gallai'r ddau grŵp gostwng, ond mae’n bosibl bod un grwp wedi gostwng mwy. Mae ‘gwahaniaeth canran negyddol’ yn un sydd islaw’r llinell lorweddol ganol.  Mae’n golygu bod y gostyngiad amcangyfrifedig mewn achosion o fynd at Feddyg Teulu ymhlith y derbynwyr yn fwy o gymharu â’r grŵp rheoli. Mewn geiriau eraill, mae’n golygu yr amcangyfrifir bod y cynllun yn cael effaith gadarnhaol trwy leihau nifer y digwyddiadau iechyd.

Y rhai a farciwyd * yw'r rhai lle mae'r gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol. Er hynny mae'n werth nodi patrymau canfyddiadau nad ydynt yn cyrraedd lefel ystadegol arwyddocaol ond sy'n gyson ar draws cynlluniau. Cofnodwyd trwy ddefnyddio’r ymadrodd ‘mae’r data’n awgrymu’; felly, dylid eu dehongli’n ofalus.
Sylwer: gweler yr 'Adroddiad technegol' i gael esboniad manylach o’r dadansoddiad a gyflwynir yn Ffigur 1.
Ffigur 1: Effaith y cynlluniau ar ddigwyddiadau'n ymwneud â Meddygon Teulu

Effaith ar ddigwyddiadau anadlol a gofnodwyd gan Feddygon Teulu

Mae'r adran hon yn adrodd canfyddiadau ar gyfer y rhai lle cofnododd eu Meddyg Teulu o leiaf un broblem anadlol ar eu cyfer yn y lle cyntaf. Gwelodd ostyngiad amcangyfrifedig yn nifer cyfartalog y digwyddiadau anadlol ar gyfer derbynwyr Nyth-2011 o 12.5% a Nyth yn gyffredinol o 11.0% o’u cymharu â’r grwpiau rheoli. Gwelwyd bron dim newid amcangyfrifedig yn nigwyddiadau anadlol derbynwyr Arbed. Roedd y gostyngiad ar gyfer ‘Nyth yn gyffredinol’ yn ystadegol arwyddocaol. Er bod gostyngiad i’w weld ar gyfer Nyth-2011, ni chyrhaeddodd lefel ystadegol arwyddocaol, o bosibl oherwydd y niferoedd bach.

Gwelodd ostyngiad amcangyfrifedig yn nifer cyfartalog y digwyddiadau asthma ar gyfer derbynwyr Nyth-2011 o 7.6% a Nyth yn gyffredinol o 12.4% o’u cymharu â’r grwpiau rheoli. Ar gyfer Arbed, gwelwyd gostyngiad amcangyfrifedig o 6.5% yn nifer cyfartalog y digwyddiadau asthma. Roedd y gostyngiad ar gyfer ‘Nyth yn gyffredinol’ yn ystadegol arwyddocaol. Ond nid oedd y gostyngiadau ar gyfer Nyth-2011 ac Arbed yn ystadegol arwyddocaol, o bosibl oherwydd y niferoedd bach.

I grynhoi, gwelwyd gostyngiad mewn achosion o fynd at Feddygon Teulu oherwydd problemau anadlol ar gyfer Nyth ac Arbed o’u cymharu â’u grwpiau rheoli. Er nad yw bob amser yn cyrraedd lefel ystadegol arwyddocaol, mae’r patrwm cyson mewn gostyngiadau’n awgrymu bod y ddau gynllun yn gwella iechyd anadlol ond. Fel y gellid disgwyl, ymddengys fod yr effaith hon yn fwy ymhlith derbynwyr Nyth, sef y cynllun seiliedig ar alw.

Effaith ar bresgripsiynau a roddir gan Feddygon Teulu

Ni welwyd unrhyw effaith sylweddol ymhlith y naill gynllun na’r llall ar nifer cyfartalog y presgripsiynau am asthma. Roedd hyn i’w ddisgwyl, oherwydd caiff y rhan fwyaf o bresgripsiynau am asthma eu rhoi er mwyn atal y cyflwr, a bydden nhw’n debygol o barhau ni waeth be fo nifer yr achosion acíwt.

Mae ein gwaith cynharach yn awgrymu y gallai cynllun Nyth yn gyffredinol fod wedi cael effaith gadarnhaol ar gyfer y rhai a gafodd bresgripsiwn am haint. 

Gan edrych yn fanylach, gwelir bod oddeutu 60% o’r bobl ym mhob grŵp wedi cael un presgripsiwn am haint ym mhob un o gyfnodau’r gaeaf. Fodd bynnag, ni welwyd newid sylweddol yng nghyfran y bobl a oedd angen un presgripsiwn yn unig o’r naill aeaf i’r llall ar gyfer unrhyw grŵp. Rydym wedi damcaniaethu, felly, fod yr effaith awgrymedig wedi deillio o newidiadau yn yr unigolion hynny a oedd angen mwy nag un presgripsiwn. Mewn geiriau eraill, efallai fod yr ymyriad yn cael effaith ar heintiau mynychu neu fwy difrifol.

Er mwyn ymchwilio i hyn, cynhaliwyd ein dadansoddiad ar yr unigolion hynny sy'n derbyn mwy nag un presgripsiwn am haint mewn gaeaf yn unig. Cafodd y ddau gynllun effaith gadarnhaol ymhlith y rhai a gafodd fwy nag un presgripsiwn am haint. Amcangyfrifwyd effaith gadarnhaol o 3.5% ar gyfer Nyth yn gyffredinol, 2.8% ar gyfer Nest-2011 a 5.0% ar gyfer Arbed. Ni chyrhaeddodd yr un o’r effeithiau hyn lefel ystadegol arwyddocaol, oherwydd niferoedd bach o bosibl, ac felly ni allwn ddod i gasgliad ynglŷn ag unrhyw effaith bendant. Fodd bynnag, mae’r patrwm yn awgrymu bod yr ymyriadau wedi cael effaith gadarnhaol ar bresgripsiynau a roddir gan Feddygon Teulu i unigolion sydd â heintiau mynychu neu fwy difrifol. Rydym yn argymell y dylid cynnal ymchwiliad pellach i hyn pan fydd data ychwanegol, e.e. ar gyfer ymyriadau neu flynyddoedd ychwanegol, ar gael.

6. Datganiadau yn y dyfodol

Y bwriad yw cyhoeddi’r briff tystiolaeth nesaf ar gyfer y Prosiect Cysylltu Data Tlodi Tanwydd erbyn Nadolig 2019. Bydd yn adrodd ar ganlyniadau iechyd meddwl derbynwyr y cynlluniau.

7. Gwybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg

Gweler yr 'Adroddiad technegol' i gael gwybodaeth fanylach am y dulliau a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth, ac unrhyw gyfyngiadau.

8. Cydnabyddiaeth

Siân Morrison-Rees (Prifysgol Abertawe) oedd yr awdur arweiniol. Bu’n gweithio ar y cyd ag aelodau eraill tîm Ymchwil Data Gweinyddol Cymru i lunio’r erthygl hon.

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn rhan o’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU) a ariennir gan Ymchwil Data Gweinyddol y DU.

9. Manylion cyswllt

Ymchwilydd: Sarah Lowe
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
Ebost: UYDG.Cymru@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu unrhyw adborth mewn perthynas ag unrhyw elfen o'r adroddiad hwn. Anfonwch eich adborth trwy e-bost i UYDG.Cymru@llyw.cymru.

Adroddiad ymchwil rhif: 45/2019

ADR Wales logoGSR logo