Neidio i'r prif gynnwy

Gallech barhau i fod yn gymwys am y Cynnig Gofal Plant os ydych ar wyliau â thâl neu wyliau di-dâl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae absenoldeb â thâl yn golygu unrhyw fath o amser y byddwch chi’n ei gymryd i ffwrdd o'r gwaith ond sy’n cael ei dalu.  Mae'n cynnwys gwyliau blynyddol, absenoldeb salwch, absenoldeb mamolaeth/tadolaeth, a gwyliau cyhoeddus.

Mae absenoldeb heb dâl yn cyfeirio at unrhyw amser y byddwch chi’n ei gymryd o'r gwaith pan na fyddwch yn derbyn cyflog am hyd yr absenoldeb.

Efallai y byddwch chi’n dal i fod yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant tra byddwch chi ar absenoldeb â thâl neu absenoldeb heb dâl os oes gennych chi lythyr oddi wrth eich cyflogwr i ddangos eich bod yn gyflogedig.  I wneud cais am y Cynnig o dan yr amgylchiadau hyn, bydd angen i chi ddweud wrthym ni beth oedd eich enillion cyn y cyfnodau hyn o absenoldeb.