Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi’r sector Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu

Mae Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru yn gynllun ariannu i gefnogi twf amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy yn niwydiant bwyd môr Cymru ac annog cymunedau arfordirol Cymru i ffynnu.

Mae’r canllawiau a nodir yn y ddogfen hon i’w hystyried ar y cyd â Chynllun Morol a Physgodfeydd Cymru: Dogfen ganllaw gyffredinol.

Adran A: Cyflwyniad

Mae’r Nodiadau Canllaw hyn yn esbonio nodau cylch Effeithlonrwydd Ynni a Lliniaru Newid Hinsawdd a’r broses ymgeisio. Darllenwch nhw’n ofalus. Os byddwch wedyn yn ystyried y gallai eich cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys i gael cymorth o dan y cynllun hwn, gweler ‘y Broses Ymgeisio’ yn Adran D.

Bydd y cyfnod Datgan Diddordeb yn agor ar 10 Ionawr 2023 ac yn cau ar 6 Chwefror  2023.

Bydd cylch Effeithlonrwydd Ynni a Lliniaru Newid Hinsawdd y cynllun yn cefnogi’r nodau a’r amcanion strategol canlynol o fewn y sector morol a physgodfeydd:

  • Ymchwil o ran deall, sefydlu llinellau sylfaen a lleihau allyriadau carbon (a nwyon tŷ gwydr eraill).
  • Gwella effeithlonrwydd ynni.
  • Lliniaru effeithiau newid hinsawdd ac addasu iddynt.

 Gall Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru gefnogi (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Effeithlonrwydd ynni ac archwiliadau carbon.
  • Ymchwil i gael data/tystiolaeth newydd.
  • Dadansoddiad o ddata newydd neu ddata sy’n bodoli eisoes.
  • Archwilio dichonoldeb technegol neu economaidd cynhyrchion a/neu brosesau arloesol sy’n meithrin defnydd cynaliadwy o adnoddau (gan gynnwys meddalwedd).
  • Casglu tystiolaeth er mwyn llywio datrysiadau ar gyfer hinsawdd/datgarboneiddio, e.e. ynni adnewyddadwy morol, dal ac adfer carbon gwymon.
  • Astudiaethau dichonoldeb:
    1. Ar gyfer amnewid neu foderneiddio prif beiriannau neu beiriannau ategol sy’n cynnig gwelliant amgylcheddol sylweddol a/neu ddatgarboneiddio.
    2. I asesu cyfraniad gyriannau amgen / systemau tanwydd ecogyfeillgar/ dyluniadau cyrff llongau ar gyfer effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio llongau morol a llongau pysgota sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru.
    3. I ymchwilio i enillion effeithlonrwydd ynni a thrawsnewid mentrau dyframaethu i ffynonellau ynni adnewyddadwy.
    4. I hwyluso cydleoli a/neu gydfodolaeth gyda gweithgareddau morol eraill.
    5. I hwyluso dulliau cynhyrchu cynaliadwy newydd.
    6. Atebion sy’n seiliedig ar natur.

Mae cylch Effeithlonrwydd Ynni a Lliniaru Newid Hinsawdd y cynllun yn un refeniw yn unig.

Darllenwch reolau a chanllawiau’r cynllun hwn cyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb.

Os dewiswyd, rhaid i chi allu cwblhau’r prosiect a hawlio’n llawn erbyn 31 Mawrth 2024.

Gallwch gyflwyno sawl hawliad drwy gydol eich prosiect fesul cam, wrth i’ch prosiect fynd yn ei flaen.

Bydd swm y grant a gynigir yn dibynnu ar amgylchiadau unigol, a bydd bob amser y swm lleiaf sydd ei angen i ganiatáu i’r buddsoddiadau fynd rhagddo

Bydd unrhyw newidiadau i’r rheolau/canllawiau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.

Adran B: Pwy sy’n cael gwneud cais

Mae’r cynllun hwn ar gyfer ymgeiswyr y mae eu menter wedi’i chofrestru a’i lleoli yng Nghymru yn unig. Dylai ymgeiswyr sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru wneud cais i weinyddwyr eu priod gynllun.

Er mwyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb, rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi derbyn Cyfeirnod Cwsmer (CRN). Darllenwch y canllawiau ar sut i gofrestru ar wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.

Rydych yn gymwys i wneud cais os:

  • Bydd yr arian grant rydych yn gwneud cais amdano o fudd i Gymru yn uniongyrchol,

Ac rydych yn:

  • Fenter forol, bwyd môr neu dyframaethu Cymreig[1] sydd naill ai’n:
    • BBaCh-Endid micro preifat, (Mae endid micro yn fusnes sydd ag unrhyw ddwy o’r nodweddion canlynol: a) trosiant o £632,000 neu lai; b) £316,000 neu lai ar ei fantolen; neu c) 10 o weithwyr neu lai.)
    • BBaCh preifat nad yw’n endid micro. (Busnes sydd ag unrhyw ddwy o’r nodweddion canlynol yw BBaCh: a) trosiant o lai na £36 miliwn; b) £18 miliwn neu lai ar ei fantolen; ac c) 250 o weithwyr neu lai)
    • Fenter nad yw’n BBaCh
    • Sefydliadau o ddefnyddwyr morol sy’n gweithredu mewn modd cyfunol er budd sawl menter neu sector.
  • Menter sydd â’i phrif gyfeiriad wedi’i chofrestru yng Nghymru.
  • Menter y mae ei phrif weithgarwch yn cael ei gynnal yng Nghymru.

Neu yn:

  • Gorff Cyfraith Gyhoeddus (gan gynnwys y Byd Academaidd)
  • Corff y trydydd sector.

Pan fo prosiectau yn seiliedig ar ymchwil, yn ymwneud â data tystiolaeth a dadansoddi, neu pan fyddant yn archwilio dichonoldeb technegol neu economaidd cynhyrchion a/neu brosesau arloesol byddant yn cael eu cynnal gan gyrff gwyddonol neu dechnegol a gydnabyddir gan y DU, neu mewn cydweithrediad â hwy. Bydd y corff gwyddonol neu dechnegol yn dilysu canlyniadau prosiectau o’r fath.

Bydd yn ofynnol i brosiectau sy’n ymwneud ag Ymchwil, casglu tystiolaeth neu ddata a dadansoddi neu astudiaethau dichonoldeb lunio adroddiad gwerthuso terfynol i gadarnhau’r canlyniadau a’r gwersi a ddysgwyd o’r prosiectau. Mae’n bosibl y bydd yr adroddiadau yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Cymhwystra ar y Cyd

At ddibenion y cylch ariannu hwn, cais ar y cyd yw lle mae’r ymgeiswyr yn ddwy fenter neu fwy yn dod at ei gilydd ar gyfer un prosiect neu weithgaredd. Rhaid i’r prosiect fod o fudd i’r ddwy fenter neu gael ei ystyried ‘er budd y cyhoedd’. Er mwyn gwneud hynny, rhaid i bob ymgeisydd sy’n cynnwys y grŵp fodloni’r holl feini prawf cymhwystra. Hefyd, rhaid i’r grŵp fod wedi’i gofrestru gyda Llywodraeth Cymru a bydd gan y grŵp Gyfeirnod Cwsmer (CRN). Rhaid cyflwyno’r Datganiad o Ddiddordeb o dan y CRN a roddwyd ar gyfer y grŵp.

Nid ydych yn gymwys os ydych:

  • Wedi eich cael yn euog o dwyll o dan unrhyw gynllun grant arall.
  • Wedi torri mesurau cadwraeth neu reoli yn ddifrifol o fewn y 12 mis blaenorol.
  • Wedi eich rhestru gan Wladwriaeth y faner, y Blaid sy’n rhoi cymhorthdal, y Sefydliad Bwyd ac Amaeth[2] (FAO) neu Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd Rhanbarthol perthnasol, neu Drefniant ar gyfer pysgota anghyfreithlon, heb ei gofnodi a heb ei reoleiddio (IUU) yn unol â rheolau a gweithdrefnau’r Wladwriaeth, y Blaid, y sefydliad, neu’r trefniant hwnnw ac yn unol â chyfraith ryngwladol; neu
  • Wedi eich cael yn euog o drosedd sy’n cael ei hystyried yn ‘dor-cyfraith ddifrifol’ (gan gynnwys unrhyw bysgota anghyfreithlon, heb ei gofnodi, heb ei reoleiddio neu dwyll), yn y 12 mis cyn gwneud cais.

Costau cymwys

Pob cost refeniw mewn perthynas â’r prosiect.  Er enghraifft, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Costau rhedeg y prosiect fel costau staff allweddol.
  • Ffioedd ymgynghorwyr, ffioedd technegol a phroffesiynol eraill; ffioedd a ysgwyddwyd am ganiatâd, trwyddedau a chydsyniadau statudol.
  • Defnyddiau traul (eitemau sydd fel arfer yn cael eu dileu o fewn blwyddyn) sy’n angenrheidiol ar gyfer y prosiect ac yn uniongyrchol gysylltiedig â chyflawni’r prosiect.

Costau Anghymwys

Mae’r eitemau canlynol yn enghreifftiau o wariant nad yw’n gymwys am gymorth grant. Nid yw hon yn rhestr ddiffiniol, a bydd pob un o’r eitemau gwariant yn cael eu hystyried fesul achos:

  • Eitemau Cyfalaf.
  • Unrhyw offer a sicrhawyd dan gytundeb hurbwrcasu neu logi ar brydles.
  • Eitemau y mae’n ofynnol iddynt gyrraedd safonau rheoleiddio.
  • Gweithgareddau sy’n disgyn y tu allan i amserlen cyllid y grant.
  • Costau gweithredu.
  • TAW y gellir ei hadennill.
  • Prynu stoc masnachu.
  • Costau sy’n gysylltiedig â chwblhau ffurflenni cais Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru, gan gynnwys talu ymgynghorwyr i ddarparu cymorth wrth gwblhau’r ffurflenni cais.
  • Costau cynnal a chadw ataliol neu wedi’u trefnu ar gyfer llongau ac offer ac ar gyfer adeiladau, planhigion neu offer presennol, gan gynnwys costau cynnal a chadw cerbydau.
  • Eich costau cyfarpar a llafur eich hun.
  • Cyfnewid peiriannau neu gyfarpar am rai newydd yr un fath.
  • Cyfarpar hamdden (er efallai y gallai setiau teledu, taflunyddion etc at ddibenion addysgol neu fusnes fod yn gymwys).
  • Gwaith tirweddu, gwaith addurniadol, a darparu cyfleusterau hamdden.
  • Cyfarpar a dodrefn swyddfa cyffredinol heblaw am ddesgiau, cadeiriau, cyfarpar ffôn, cyfrifiaduron a chyfarpar TG arall, meddalwedd a thele-argraffyddion, cyfarpar labordai a darlithfeydd sy’n hanfodol ar gyfer cyflawni’r prosiect.
  • Hyfforddiant i gyfarwyddwyr a staff allweddol.
  • Treuliau cyfarwyddwyr allanol.
  • Costau sy’n gysylltiedig â chontract lesio fel elw leswyr, costau cyllido llog, gorbenion a thaliadau yswiriant.
  • Costau trefnu cyfleusterau gorddrafft, benthyciadau neu gyfleusterau cymorth ariannol eraill, gan gynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig neu daliadau eraill.
  • Gorbenion sy’n cael eu dyrannu neu eu dosrannu ar gyfraddau llawer uwch na’r rhai a ddefnyddir ar gyfer gwaith tebyg a gyflawnir gan yr ymgeisydd.
  • Gwariant tybiannol.
  • Taliadau ar gyfer gweithgarwch o natur grefyddol a/neu wleidyddol.
  • Rhwymedigaethau digwyddiadol.
  • Hapddigwyddiadau / darpariaethau.
  • Elw a wneir gan yr ymgeisydd.
  • Difidend.
  • Taliadau Llog.
  • Taliadau gwasanaeth sy’n codi ar brydlesau cyllid, llogi pryniant a threfniadau credyd.
  • Costau sy’n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr.
  • Costau sy’n deillio o ddirwyn cwmni i ben.
  • Taliadau am ddiswyddo annheg.
  • Taliadau i gynlluniau pensiwn preifat.
  • Taliadau ar gyfer pensiynau sydd heb eu hariannu.
  • Digollediad am golli swydd.
  • Digollediad am gostau ychwanegol yr aed iddynt a/neu incwm rhagdybiedig.
  • Drwgddyledion sy’n deillio o fenthyciadau i gyflogeion, perchenogion, cyfarwyddwyr, partneriaid, gwarantwyr, cyfranddalwyr neu berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain.
  • Taliadau am anrhegion a rhoddion.
  • Adloniant personol (yn cynnwys alcohol).
  • Costau yn gysylltiedig â’r gofynion sy’n deillio o gamau gorfodi statudol.
  • Dirwyon a chosbau statudol.
  • Trethi statudol (ac eithrio TAW na ellir ei hadennill).
  • Dirwyon ac iawndal troseddol.
  • Treuliau cyfreithiol yn ymwneud â chyfreitha.
  • Prynu cerbydau ar gyfer cludo allanol (fel lorïau, bysiau, faniau, bysiau mini neu unrhyw fath arall o gerbyd a ddefnyddir i gludo nwyddau neu bobl).
  • Gorbenion.

Mae costau ond yn gymwys i gael cymorth grant pan fydd y gost wedi cael ei thalu’n gywir gan yr hawlydd cyn cyflwyno cais.

Teithio a Chynhaliaeth

Dim ond costau teithio a chynhaliaeth sy’n ymwneud â chyflawni’r prosiect ac sy’n gyson â chanllawiau Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi ar gostau teithio busnes cyflogeion fydd yn gymwys.

Mae costau llety ac unrhyw gostau cynhaliaeth arall yn gymwys, fodd bynnag, nid yw costau cysylltiedig sy’n ymwneud ag eitemau fel diodydd alcoholig yn gymwys. Rhaid ystyried yr holl gostau fel rhai rhesymol o ran natur a gwerth (h.y. ddim yn ormodol o ran maint neu gost).

Rydych yn gyfrifol am sicrhau a thystiolaethu eich bod wedi defnyddio’r dull mwyaf effeithiol, economaidd a chynaliadwy o deithio gan ystyried:

• Costau teithio,

• Costau cynhaliaeth,

• Arbed amser swyddogol,

• Ymarferoldeb y daith, a’r;

• Llwybr byrraf i gyrraedd eich cyrchfan busnes

Costau Staff Prosiect Allweddol

Mae costau cyflogau staff ar gyfer pobl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni’r prosiect, ar sail amser llawn neu ran-amser, yn gymwys.

Bydd model cyfradd safonol yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu costau staff. Mae cyfraddau ar gyfer rolau prosiect cyffredin wedi’u cyfrifo yn seiliedig ar gostau cyfeirio, a byddant ar gael i bob prosiect lle mae costau staff yn wariant prosiect cymwys

Mae’r cyfraddau isod wedi cael eu darparu a’u cadarnhau gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru ac yn seiliedig ar ddadansoddiadau gan ddefnyddio’r ‘Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion’ (ASHE). Am y costau a gyflwynir isod, cymerwyd data o ddata lefel Cymru a gyfrifwyd gan yr Is-adran Ystadegau Economaidd ar gyfer y flwyddyn 2020. Mae’r cyfraddau fesul awr wedi cael eu codi i dalu am gostau gorbenion. 

Rôl Swydd

Cyfradd yr awr

Gweithwyr Rheoli Busnes a Phrosiectau Ariannol

£             37.76

Gweithwyr Busnes a Gweithwyr Proffesiynol Ymchwil perthnasol

£             28.16

Galwedigaethau Gweinyddol Eraill

£             17.02

Masnachau Elfennol, Gweinyddiaeth a Galwedigaethau Gwasanaeth

£             16.25

Uchafswm ac Isafswm Cyfradd Grant

Uchafswm y grant yw £100,000 y prosiect a’r isafswm yw £500 y prosiect.

Trothwy uchaf y grant

Mae uchafswm cyfradd Trothwy/Ymyrraeth Grant yn ddibynnol ar y math o ymgeisydd (gweler y bocs isod)

 

Ymgeisydd/Math o Brosiect

Cyfradd ymyrraeth uchaf

BBaCh-endid micro preifat

Busnes sydd ag unrhyw ddwy o’r nodweddion canlynol yw endid micro: a) trosiant o £632,000 neu lai; b) £316,000 neu lai ar ei fantolen; neu c) 10 gweithiwr neu lai ar adeg ymgeisio.

 

 

80%

BBaCh preifat (BBaCh nad yw’n endid micro)

Busnes sydd ag unrhyw ddwy o’r nodweddion canlynol yw BBaCh: a) trosiant o lai na £36 miliwn; b) £18 miliwn neu lai ar ei fantolen; ac c) 250 o weithwyr neu lai ar adeg ymgeisio.

 

 

50%

Preifat (heb fod yn BBaCh)

30%

Preifat –  sefydliadau defnyddwyr morol sy’n gweithredu mewn modd cyfunol

75%

Cyrff Cyfraith Gyhoeddus

100%

Prosiectau o fudd cyhoeddus drwy rannu canlyniadau. Gallai enghreifftiau o fudd cyhoeddus gynnwys prosiectau sy’n cyfrannu at uchelgais 2050 Cymru Sero Net a lliniaru effeithiau newid hinsawdd ee, arloesi, rhoi mynediad i’r cyhoedd i ganlyniadau, buddiolwyr ar y cyd (ee budd ledled y diwydiant neu fudd i sawl fuddiolwr yn hytrach nag un endid), etc.  Gallai hyn olygu cydweithio rhwng cyrff cyfraith gyhoeddus, endidau preifat, cyrff trydydd sector, etc.

 

 

100%

Gallwch wneud cais am swm sy’n fwy na’r uchafswm, ond os yw’n cael ei ddewis, bydd yr hawliad cysylltiedig yn cael ei gapio i’r uchafswm o £100,000.

[1]           Mae’r fenter Dyframaethu yn cynnwys magu neu dyfu organebau dyfrol. Er enghraifft, gall y rhain gynnwys pysgod asgellog, pysgod cregyn ac algâu.

[2] Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig.

Adran C: Gofynion Allweddol

Rhaid cwblhau’r gweithgaredd, ysgwyddo’r gwariant a’i hawlio erbyn 31 Mawrth 2024.

Ni fyddai’r Prosiect yn mynd yn ei flaen heb gymorth y grant.

Bod allbynnau’r prosiect o fudd uniongyrchol i Gymru.

Caniatâd, cydsyniadau cynllunio a thrwyddedau

Os oes angen caniatâd cynllunio ar eich buddsoddiad, rhaid i chi gael unrhyw gydsyniad cynllunio angenrheidiol a chadw at unrhyw ofynion statudol perthnasol eraill. Rhaid i ymgeiswyr sicrhau nad yw eu cynigion yn torri unrhyw is-ddeddfau, yn rhwystro hawliau tramwy, yn effeithio ar bibau nwy neu olew etc, a rhaid iddynt osgoi unrhyw ddifrod i’r amgylchedd neu beri llygredd.

Mae Llywodraeth Cymru yn deall, mewn rhai achosion, na fydd modd i ymgeiswyr gael rhain yn eu lle pan fyddant yn gwneud cais, felly, yn yr achos hwn, derbynnir ceisiadau cyn cael y cytundebau sydd eu hangen. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol nodi’r cytundebau hyn yn y cais a bydd yn ofynnol eu cael cyn i’r prosiect ddechrau. Gall methiant i gael y trwyddedau a’r cytundebau angenrheidiol sydd mewn lle arwain at dynnu dyfarniad grant yn ôl.

Ni fydd taliad unrhyw grant yn cael ei wneud nes y bydd y dogfennau cymeradwyo gwreiddiol ar gyfer y drwydded a/neu gytundeb wedi dod i law ac wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru neu os yw’r prosiect wedi ei ystyried gan yr awdurdod cynllunio i beidio â gofyn am ganiatâd cynllunio, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth gan yr awdurdod cynllunio.

Adran D: Gwneud cais o dan Gynllun Morol a Physgodfeydd Cymru: Mesur Effeithlonrwydd Ynni a Lliniaru Newid Hinsawdd

RPW Ar-lein

Rhaid i bob Ymgeisydd fod wedi cofrestru ar RPW Ar-lein gan fod yn rhaid cyflwyno’r Datganiad o Ddiddordeb (EoI) drwy RPW Ar-lein, a bydd pob gwahoddiad i Gais Llawn yn cael ei wneud drwy RPW Ar-lein.

Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun – Gwener 9:00am – 4.00pm) a rhoi’ch CRN i’r cysylltydd. Caiff Cod Defnyddio newydd ei anfon atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein. Cyfeiriwch at y canllawiau sut i gofrestru am fanylion pellach. Mae modd gwneud y rhan helaeth o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Ond mae’n bosib y bydd angen rhagor o fanylion ar Lywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar RPW Ar-lein neu am Ddatgan Diddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu’ch cynghori a rhoi gwybod ichi am y cymorth digidol sydd ar gael i chi.

Cewch fwy o fanylion am RPW Ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru.

Y broses asesu dau gam

Bydd dau gam i’r broses ymgeisio – Datganiad o Ddiddordeb a chais llawn.

Bydd Datganiadau sy’n cael eu dethol yn cael eu gwahodd i gwblhau cais llawn, a fydd ar gael drwy RPW Ar-lein, ac i gyflwyno’r holl ddogfennaeth ategol.

Bydd pob Datganiad o Ddiddordeb yn cystadlu’n uniongyrchol â’i gilydd.

Caiff pob Datganiad o Ddiddordeb ei asesu ar ei werth posib i economi Cymru, i ba raddau y mae’r buddsoddiad yn cyflawni Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru: Nodau Effeithlonrwydd Ynni a Lliniaru Newid Hinsawdd a’r potensial ar gyfer cynaliadwyedd mwy hirdymor y farchnad/sector a/neu’r busnes.

Bydd y Datganiadau o Ddiddordeb sy’n sgorio uchaf yn cael eu dewis yn nhrefn eu teilyngdod hyd nes bod y cyllid sydd ar gael yn y cylch hwnnw wedi’i ddyrannu.

Byddwn yn rhoi gwybod ichi a yw’ch Datganiad o Ddiddordeb wedi ei ddewis ai peidio drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. 

Os caiff ei ddewis, bydd y cais yn mynd yn ei flaen i Gam 2 lle bydd gofyn i gais llawn gael ei gyflwyno sy’n cynnwys rhagor o fanylion a thystiolaeth ategol.

Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb

Ffurflen Datgan Diddordeb. Sicrhewch eich bod yn cwblhau’r ffurflen yn llawn.

Mae’r canllawiau isod yn rhoi gwybodaeth ar sut i gwblhau adran yr asesiad ar gyfer dethol y Datganiad o Ddiddordeb a dylid eu darllen ar y cyd â Chynllun Morol a Physgodfeydd Cymru: Llyfryn Canllaw cyffredinol.

Ar ôl ei gwblhau, dylid cyflwyno’r Datganiad o Ddiddordeb drwy eich negeseuon ar eich cyfrif RPW ar-lein. Wrth ei gyflwyno, nodwch y ‘Teitl i’r neges hon’ fel ‘Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru - Effeithlonrwydd Ynni a Lliniaru Newid Hinsawdd’. Cyfeiriwch at ‘RPW Ar-lein – arweiniad i gwsmeriaid: sut i ddefnyddio negeseuon’.

Datganiad o Ddiddordeb – Asesiad ar gyfer Dethol

Bydd Datganiadau o Ddiddordeb yn cael eu hasesu yn erbyn set o feini prawf dethol a’u sgorio gan ddefnyddio graddfa sgorio o 0 – 3 neu 0 – 4, yna wedi’i luosi â’r ffactor pwyso cysylltiedig i roi cyfanswm sgôr.

Caiff y ceisiadau eu rhoi yn nhrefn eu teilyngdod. Caiff eu dewis yn eu trefn tan na fydd arian ar ôl neu tan y byddwn wedi cyrraedd uchafswm nifer y ceisiadau. Ni allwn warantu y caiff yr holl arian ei neilltuo, na chwaith y caiff uchafswm nifer y prosiectau eu dewis ar gyfer cam 2 y broses – cyflwyno’r Cais Llawn.

Dyma’r meini prawf dethol.

Yr Adran Cynllun Prosiect/Busnes i’w asesu

Sgôr

Pwysoliad

Cyweddu Strategaethau

0 – 3

X 3

Cyflawnadwyedd

0 – 4

X 3

Gwerth am arian

0 – 4

X 4

  • Ni chaiff yr un cais fynd yn ei flaen heb gael sgôr o 17 o leiaf.
  • Bydd sgôr o 0 (sero) yn unrhyw un o’r meini prawf dethol yn atal y cais rhag cael ei ystyried i gael ei ddewis.

Ar gyfer pob maen prawf, bydd yr asesiad yn seiliedig ar yr wybodaeth a’r esboniadau y byddwn wedi’u cael.

Bydd sgôr uwch am esboniadau cynhwysfawr sy’n cael eu cefnogi gan enghreifftiau o weithgareddau arfaethedig a manylion ynglŷn â sut bydd y gweithgareddau hynny’n cael eu rheoli.

Rhoddir sgôr is am esboniadau sydd fawr gwell na datganiad syml o fwriad, er enghraifft “byddwn yn cynnal cyfarfodydd â rhanddeiliaid yn rheolaidd gydol y prosiect”.

Cwestiynau cais a meini prawf asesu Datganiadau o Ddiddordeb:

Cyweddu strategaethau

Er mwyn i brosiect fodloni gofynion Cyweddu Strategaethau y cynllun, bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut y bydd y buddsoddiad arfaethedig yn cyfrannu at nodau ac amcanion strategol y cynllun a dangos pam mae angen y buddsoddiad

Bydd ymgeiswyr sy’n gallu dangos cysylltiadau clir rhwng y buddsoddiad a’r budd a geir fel y nodir yn y cylch ariannu berthnasol yn cael sgôr uwch.

 

Sgôr

 

3

Rhoddir esboniad clir, gan gynnwys tystiolaeth, o sut mae’r buddsoddiad a ragwelir yn cyflawni nodau ac amcanion y cynllun/cylch ariannu. Mae’n arwain at welliannau sylweddol ym meysydd effeithlonrwydd ynni a lliniaru newid yn yr hinsawdd. 

2

Darperir esboniad a pheth tystiolaeth i ddangos sut mae’r buddsoddiad disgwyliedig yn cyflawni un neu fwy o nodau ac amcanion y cynllun/cylch ariannu. Mae’n arwain at rai gwelliannau ym meysydd effeithlonrwydd ynni a lliniaru newid yn yr hinsawdd.

1

Mae rhywfaint o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i nodau ac amcanion y cynllun

0

Nid oes unrhyw dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad yn bodloni nodau ac amcanion y cynllun.

 

Cyflawnadwyedd

 

Er mwyn i brosiect fodloni’r asesiad cyflawnadwyedd, bydd angen i ymgeiswyr ddangos y gellir darparu eu prosiect yn realistig ac o fewn yr amserlen

 

Sgôr

 

4

Mae esboniad clir a thystiolaeth gref sy’n dangos bod y prosiect wedi cael ei ystyried a’i gynllunio’n drylwyr, mae’r amserlen a ddarperir yn realistig gyda lwfansau yn rhan ohoni ac mae digon o amser i gyflawni’r prosiect o fewn yr amserlen.

3

Darperir tystiolaeth gref ac esboniadau sy’n dangos bod amserlenni’r prosiect wedi’u hystyried, gan ddangos bod lwfans ar gyfer llithriad amser a wedi’i hystyried ac y gellir cyflawni’r prosiect o fewn yr amserlen.

2

Esboniad a pheth tystiolaeth a ddarparwyd er mwyn dangos amserlenni’r prosiect mewn modd ystyriol a bod modd darparu’r cynnig yn realistig o fewn y terfynau amser a ganiateir.

1

Darperir esboniad i ddangos dealltwriaeth sylfaenol o’r amserlenni sy’n rhan o’r prosiect, ond mae’r prosiect yn risg uchel i’w gyflwyno fel y’i disgrifir o fewn yr amserlen a ganiateir ac yn annhebygol o gael ei gyflawni oherwydd cynllun anghyflawn.

0

Ni ddarperir tystiolaeth nac esboniad i ddangos sut bydd y cynnig yn cael ei gyflawni.

 

Gwerth am arian

 

Bydd prosiectau sy’n ceisio darparu manteision hirdymor, eang i Gymru gyfan ac sy’n bwriadu lledaenu a rhannu’n llawn ganlyniadau prosiectau casglu data yn sgorio’n uwch yn y meini prawf hwn.

 

Bydd prosiectau sy’n gatalyddion ar gyfer buddsoddiadau neu ymchwil pellach i effeithlonrwydd ynni neu liniaru newid hinsawdd yn cael sgôr uwch yn enwedig lle caiff allbynnau’r prosiect eu cyhoeddi yn agored ac yn llawn fel y gall mentrau eraill yng Nghymru barhau gyda’r gwaith. Os oes buddsoddiad yn rhan o gynllun buddsoddi fesul cam, mae angen nodi hynny.

 

Sgôr

 

4

Rhoddir esboniad clir, gan gynnwys tystiolaeth gref, o’r modd y bydd y buddsoddiad a ragwelir yn darparu budd hirdymor i Gymru a sut y bydd allbynnau’r prosiect yn cael eu rhannu’n agored ac yn llawn. Bydd yr ymgeisydd hefyd yn dangos sut y bydd y buddsoddiad yn gatalydd ar gyfer datblygiad pellach yn ei faes penodol

3

Darperir tystiolaeth gref sy’n rhoi manylion sut y gall y buddsoddiad a ragwelir roi budd i Gymru a sut y bydd allbynnau’r prosiect yn cael eu rhannu. Bydd yr ymgeisydd hefyd yn dangos sut y gallai’r buddsoddiad fod yn gatalydd ar gyfer datblygiad pellach.

2

Darperir rhywfaint o dystiolaeth sy’n manylu ar sut y gall y buddsoddiad a ragwelir roi budd i Gymru a sut y bydd allbynnau’r prosiect yn cael eu rhannu. Prin yw’r dystiolaeth i ddangos sut y gallai’r buddsoddiad fod yn gatalydd i’w ddatblygu ymhellach.

1

Mae’r tystiolaeth sy’n manylu ar sut y gall y buddsoddiad disgwyliedig roi budd i Gymru yn wan neu’n fach iawn. Nid yw’r prosiect yn arwain at gatalydd i’w ddatblygu ymhellach.

0

Does dim tystiolaeth yn cael ei ddarparu i ddangos bod y buddsoddiad yn rhoi budd i Gymru.

 

Mae tri chanlyniad posibl i’r Cam Datgan Diddordeb: 

  1. Nid yw eich cais yn gymwys am grant.
  2. Nid yw eich cais wedi cyflawni’r sgôr meincnod i’ch gwahodd i gyflwyno cais llawn.
  3. Mae eich cais yn llwyddiannus ar y cam hwn a byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno cais llawn.

Os nad yw eich Datganiad o Ddiddordeb yn bodloni meini prawf cymhwystra’r cynllun neu os na chaiff ei ddewis, rhoddir gwybod i chi ar eich cyfrif ar-lein.

Byddwch yn cael eich hysbysu o fewn 6 wythnos ar ganlyniad eich Datganiad o Ddiddordeb drwy eich cyfrif RPW Ar-lein os bydd yn llwyddiannus.

Datganiadau o Ddiddordeb sydd wedi’u dewis – Cadarnhau’ch bod yn derbyn

Os caiff eich Datganiad o Ddiddordeb ei ddewis, rhoddir gwybod i chi drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Rhaid ichi naill ai dderbyn neu wrthod y cynnig drwy lenwi Atodiad y Cais fydd wedi’i gynnwys gyda’r llythyr yn eich hysbysu’ch bod wedi’ch dewis, a’i anfon i Lywodraeth Cymru drwy’ch cyfrif ar-lein erbyn y dyddiad fydd wedi’i nodi ar eich llythyr. Bydd y cais llawn ar gael i chi pan fydd y llythyr dethol yn cael ei gyhoeddi.

Byddwn yn rhoi nodyn atgoffa i chi drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr.

Nid yw’r ffaith eich bod wedi cael llythyr yn eich hysbysu’ch bod wedi’ch dewis yn golygu y cewch ddechrau gweithio ar y Prosiect. Ni allwch ddechrau unrhyw waith hyd nes y byddwch yn derbyn Contract drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Ni fydd unrhyw brosiect sy’n torri’r rheol hon yn gymwys am gymorth.

Os na fyddwch wedi derbyn y cynnig neu os na fyddwch yn ateb Llywodraeth Cymru erbyn y dyddiad yn y llythyr, ni chaiff eich Datganiad o Ddiddordeb fynd ymhellach a chaiff y cynnig i’ch dewis ei dynnu’n ôl.

Datganiad o Ddiddordeb sydd wedi’i ddewis – Cyflwyno cais llaw

Os caiff eich Datganiad ei ddewis, bydd y cais llawn yn ymddangos ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Rhaid i geisiadau yn yr ail gam fod yn gyson â’r cynnig a amlinellwyd yn y Datganiad o Ddiddordeb a gymeradwywyd. Bydd y cais llawn ar gael i chi pan fydd y llythyr dethol yn cael ei gyhoeddi. Bydd ffurflen gais Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru:  Effeithlonrwydd Ynni a Lliniaru Newid Hinsawdd ar gael yn adran "Ceisiadau a Hawliadau" eich cyfrif ar-lein. 

Byddwch yn cael 12 wythnos i gyflwyno eich cais llawn a dogfennau ategol drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.

Yn y cais llawn, bydd angen i ymgeiswyr ateb cwestiynau am:

  • Cyweddu Strategaethau.
  • Addasrwydd y buddsoddiad.
  • Cyflawni’r Prosiect.
  • Risg a Rheoli Risg.
  • Rheoli Prosiectau.
  • Cynaliadwyedd hirdymor.
  • Gwerth am arian.

Dyma’r dangosyddion a’r canlyniadau a fydd yn cael eu monitro yn sgil y buddsoddiad:

  • Lefel disgwyliedig arbedion effeithlonrwydd ynni yn y sector targed wedi’i fesur, er enghraifft Cilowat/Awr (kW awr) y flwyddyn neu Litrau o danwydd/Tunelli o ddalfa wedi’u glanio.
  • Canran (%) disgwyliedig y gostyngiad mewn allyriadau carbon (a nwyon tŷ gwydr eraill) mewn tunelli CO2 y flwyddyn ar gyfer y sector targed.
  • Nifer yr astudiaethau effeithlonrwydd ynni/archwiliadau carbon/dichonoldeb sydd wedi’u cwblhau.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr gyfiawnhau eu rhesymeg dros gyflawni’r targedau hyn yn rhan o strategaeth ymadael ar gyfer y prosiect.

Bydd y cais hefyd yn gofyn i ymgeiswyr egluro sut y dylai eich prosiect gyfrannu at un neu ragor o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r amcanion llesiant:

  • Hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg
  • Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn
    • Adeiladu dyfodol cynaliadwy i’n porthladdoedd môr allweddol.
    • Cefnogi arloesi mewn technoleg ynni adnewyddadwy newydd.
    • Sefydlu cynllun wedi’i dargedu i hyrwyddo gwaith adfer cynefinoedd morwellt a morfa heli ar hyd ein harfordir.
    • Ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru i lefel dros 100MW erbyn 2026.
  • Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol
    • Datblygu Her Morlyn Llanw a chefnogi syniadau a all wneud Cymru yn ganolfan fyd-eang o dechnolegau llanw newydd.
  • Cyllid a Llywodraeth Leol
    • Hyrwyddo prynu cynnyrch a gwasanaethau a wnaed yng Nghymru.

Yn ogystal â chwblhau’r cais llawn ar-lein bydd angen i chi gyflwyno’r dogfennau cefnogi canlynol ar-lein i’w gwerthuso gan Lywodraeth Cymru o fewn 12 wythnos i’ch hysbysiad dethol:

  • Cynllun Busnes tair blynedd.
  • Tair blynedd o Gyfrifon Ardystiedig.
  • Tafluniadau ariannol Tair Blynedd.
  • Tystiolaeth o arian cyfatebol ar gael (benthyciad banc, gorddrafft, etc) lle bo hynny’n berthnasol.
  • Caniatâd Cynllunio os yw’n briodol ac unrhyw gymeradwyaeth/ cydsyniadau eraill.
  • Unrhyw ddyfynbrisiau a dderbynnir sy’n rhan o’r cais llawn.

Ar gyfer ceisiadau gan fentrau nad ydynt wedi bod yn weithredol am o leiaf 3 blynedd, bydd y cyfrifon sydd ar gael yn cael eu hystyried.

Cynllun busnes

Dylai’r cynllun busnes roi manylion llawn am y busnes. Dylai’r cynllun gwmpasu’r 3 blynedd nesaf o leiaf a chynnwys y canlynol:

•         Manylion y Busnes.

•         Crynodeb Gweithredol.

•         Cynllun Gweithgareddau.

•         Cynlluniau Ariannol.

•         Rheoli Risg.

Ni fydd yr asesiad yn dechrau nes bod y cais a’r HOLL ddogfennau ategol yn dod i law Llywodraeth Cymru. Gallwch ddarparu dogfennau a thystiolaeth arall yn ogystal â’r uchod er mwyn cefnogi’ch cais.

Arfarnu’r Cais Llawn

Caiff y cais ei arfarnu yn unol â Chanllawiau’r Cynllun a’r rheolau cymhwystra. Caiff archwiliadau ac arfarniad llawn o ran diwydrwydd dyledus eu cynnal (os oes angen), a dim ond bryd hynny y caiff penderfyniad terfynol ei wneud i gynnig grant neu i wrthod y cais. Nid oes gwarant y caiff cynnig am brosiect ei gymeradwyo ar gyfer grant. Ein nod yw arfarnu’r cais o fewn 90 diwrnod i ddiwedd y cyfnod ymgeisio. Efallai y bydd angen mwy o amser os yw’r cais yn un cymhleth ac os byddwch yn oedi cyn ateb ceisiadau am ragor o wybodaeth caiff y cais ei wrthod.

Sgoriau Asesiadau Cam 2

Bydd yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei hasesu ar sail y meini prawf sgorio canlynol ac ar sail hynny y penderfynir rhoi cymorth grant i’r prosiect:

       Uchel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl o ran yr holl dystiolaeth y gofynnir amdani

       Canolig: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl o ran y rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnir amdani

       Isel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu annigonol o ran un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnir amdani

Y trothwy ansawdd yw sgôr Canolig ym mhob un o’r categorïau.

Sylwch, rydym yn eich cynghori i ddilyn y canllawiau’n ofalus er mwyn sicrhau’ch bod yn darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani gyda’r cais.

Mae dau ganlyniad posibl i arfarniad cais llawn:

  1. Nid yw eich prosiect yn gymwys ac nid yw wedi’i gymeradwyo am ddyfarniad grant. Fe’ch hysbysir am y rhesymau pam nad oedd eich cais yn llwyddiannus trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Gallwch wneud cais am yr un prosiect eto os oes cyfnodau ymgeisio eraill ar gael yn y dyfodol (gan ddiwygio’r cais os ydych yn dymuno), ond dim ond os nad ydych wedi dechrau ar y gwaith.
  2. Mae eich prosiect yn gymwys ac mae’n cael ei gymeradwyo am ddyfarniad. Bydd contract yn cael ei gyflwyno i chi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein gan nodi telerau ac amodau’r grant. Gofynnir i chi ei dderbyn o fewn 30 niwrnod i ddangos eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau hynny. Bydd y contract yn rhoi’r awdurdod i chi ddechrau ar y gwaith. Bydd angen i chi dderbyn neu wrthod cynnig y contract o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch wedi derbyn y contract o fewn y 30 niwrnod, caiff y contract ei dynnu’n ôl.

 

Byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y cynnig.

Caiff manylion llawn pryd y bydd yn rhaid ichi dderbyn y contract a phryd y bydd yn rhaid ichi brynu’r eitemau a’u hawlio eu nodi yn eich contract.

Os ydych yn derbyn eich cynnig o gontract, bydd gofyn i chi hefyd gwblhau proffil dosbarthu i gadarnhau pryd y byddwch yn gwneud eich hawliadau a’r gwerth.

Ar ôl ichi gael eich dewis, os byddwch chi’n penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’ch contract neu os na fyddwch wedi derbyn y cynnig o fewn yr amser a ganiateir, ni chewch wneud cais o dan Gynllun Morol a Physgodfeydd Cymru mewn unrhyw gyfnod ymgeisio arall yn y dyfodol. Os byddwch chi’n dewis gadael y contract cyn cwblhau’r gwaith neu os na fyddwch yn cwblhau’r holl waith a gymeradwywyd yn eich contract, ni chewch wneud cais o dan Gynllun Morol a Physgodfeydd Cymru mewn unrhyw gyfnod ymgeisio arall, ac efallai y bydd gofyn ichi ad-dalu unrhyw arian sydd wedi’i dalu ichi.

Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004: bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Dechrau gwaith

Peidiwch â dechrau’r gwaith nes eich bod wedi derbyn y contract. Os byddwch yn dechrau gwaith, mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthod y gwaith a wnaed neu ddiddymu’r contract ac adennill unrhyw daliadau a wnaed.

Adran E: Amodau’r grant

Rhaid ichi gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a osodir ac â chyfraith y DU.

Mae’r cynnig o grant Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru yn cael ei wneud yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi yn llawn yn eich contract, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u nodi isod. Bydd hyd y contract yn ddibynnol ar y cylch ariannu a bydd o’r dyddiad y cyhoeddir y contract. Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu i chi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau:

  1. Mae’r dyfarniad yn cael ei wneud ar sail y datganiadau a wnaed gennych chi neu’ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais ac mewn gohebiaeth ddilynol. Mae’r manylion rydych wedi’u rhoi yn eich cais ac unrhyw ddogfennau ategol, hyd eithaf eich gwybod a’ch cred, yn wir, yn gywir ac yn gyflawn. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.
  2. Bydd angen i chi dderbyn neu wrthod cynnig y contract o fewn 30 diwrnod.
  3. Ni ddylech ddechrau gweithio ar y prosiect hyd nes y byddwch wedi cael awdurdod ysgrifenedig i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru. Rhaid i chi fod wedi prynu’r offer (os yn berthnasol) a chysylltu â RPW drwy RPW Ar-lein neu drwy’r post erbyn y dyddiad cau hawlio yng nghynnig y contract.
  4. Rhaid ichi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol megis Iechyd a Diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu’r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau a fydd yn gymwys yn ystod cyfnod y prosiect hwn.
  5. Rhaid ichi gytuno i gadw at unrhyw newidiadau ar ôl cael gwybod amdanynt gan Weinidogion Cymru.
  6. Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn atebol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â’r cais, ac mai chi sy’n llwyr gyfrifol am bob penderfyniad busnes a wneir.
  7. Os gwelir bod gwaith wedi dechrau cyn derbyn grant Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru: Effeithlonrwydd Ynni a Lliniaru Newid Hinsawdd, bydd Llywodraeth Cymru naill ai’n gwrthod y gwaith a ddechreuwyd ac yn caniatáu i’r ymgeisydd barhau gyda rhan gymwys y cais neu wrthod y cais cyfan a’r gymeradwyaeth.

Mae enghreifftiau o ddechrau’r gwaith yn cynnwys y canlynol:
i) Mynd i mewn i gontract sy’n gyfreithiol rwymol (h.y. gyda chyflenwyr, etc).
ii) Prynu offer/deunyddiau – derbyn darpariaeth o’r un peth.
iii) Bydd talu dyddodion/gwariant nad oes rhaid talu blaendal mewn perthynas â’r cais arfaethedig i gyd yn cael ei weld gan Lywodraeth Cymru fel dechrau ar y gwaith cyn cael ei gymeradwyo gan y grant.

  1. Os na fyddwch wedi cysylltu ag RPW erbyn hynny, caiff y cynnig grant ei wrthod.
  2. Ni chewch newid y prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgarwch, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.
  3. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yn Nodiadau Cyfarwyddyd y Cynllun.
  4. Rhaid cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech amrywio hynny heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
  5. Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno drwy ddefnyddio ffurflen gais hawliadau Grantiau RPW Ar-lein a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau sy’n angenrheidiol o dan y cynllun.
  6. Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a nodir yn y contract. Rhaid ichi beidio ag amrywio’r amserlen y cytunwyd arni na gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
  7. Dim ond ar gyfer gwariant sydd wedi’i dalu y gellir rhoi’r grant, hynny yw, taliadau sydd wedi clirio o gyfrif banc.
  8. Rhaid prynu pob eitem yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.
  9. Rhaid i chi gadarnhau nad oes unrhyw rai o’r eitemau sy’n rhan o’r cais yn eitemau a brynwyd yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant.
  10. Mae’n rhaid i chi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall ar gyfer y prosiect hwn (boed hynny o ffynonellau’r Undeb Ewropeaidd neu’r Deyrnas Unedig). Os daw’n amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.
  11. Fel rhan o’ch cais, bydd angen i chi ddarparu manylion am unrhyw arian cyhoeddus y mae eich menter wedi’i dderbyn o fewn y flwyddyn ariannol hon a’r ddwy flynedd ariannol flaenorol.
  12. Rhaid cadw cofnodion yn ymwneud â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf saith mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect.
  13. Mae’n rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Ar gais, rhaid i chi ganiatáu iddynt weld gwybodaeth a/neu ddogfennau gwreiddiol mewn perthynas â’r prosiect.
  14. Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennau ategol yn destun gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Diogelu Data 2018.
  15. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.
  16. Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn ddarostyngedig i’r Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
  17. Os byddwch yn euog o drosedd a ystyrir yn ‘dor-cyfraith ddifrifol (Gan gynnwys unrhyw bysgota anghyfreithlon heb ei gofnodi a heb ei reoleiddio, neu dwyll), o fewn 12 mis o dderbyn y taliad grant terfynol yna mae’n bosib y byddwn yn ceisio adennill y taliadau a wnaed.

Adran F: Tendro cystadleuol a chaffael

Rhaid i chi ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a gofynion y Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol ar gyfer Caffael a Thendro Cystadleuol drwy’r canlynol:

Nodiadau Canllaw Technegol ar Dendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus

Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus - Cofrestr a Chofnod

 

Adran G: Taliadau

Hawliadau

Dim ond drwy dudalen ffurflen Hawlio’r Contract ar eich cyfrif RPW Ar-lein y gellir hawlio o dan y Cynllun hwn; bydd taliadau’n cael eu gwneud yn dilyn dilysiad llwyddiannus o’ch cais. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru’n fodlon fod y gwariant perthnasol wedi digwydd y bydd hawliadau’n cael eu talu a bod y gwaith wedi ei gwblhau yn ôl y cynllun. Bydd y taliad yn cael ei wneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Er mwyn cael eich talu, rhaid ichi:

  • Fod wedi derbyn y cynnig o gontract Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru o fewn 30 niwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig a byddwch yn cadw at yr holl ofynion.
  • Dim ond yr eitemau sydd wedi’u rhestru yn eich contract y byddwch yn eu prynu, a hynny dim ond ar ôl ichi dderbyn y cynnig o gontract.
  • Sicrhau eich bod wedi prynu’r holl eitemau neu wasanaethau yn unol â’r amserlen fel y rhestrir yn eich contract.
  • Sicrhau bod yr holl eitemau yn cael eu prynu yn unol â gofynion Tendro Cystadleuol a Chaffael Llywodraeth Cymru.
  • Dylid cyflwyno ceisiadau terfynol am dalu grant trwy dudalen ffurflen Hawlio’r Contract ar eich cyfrif RPW Ar-lein cyn gynted â phosibl ar ôl i’r gwaith ar y prosiect gael ei gwblhau. Rhaid i bob hawliad terfynol ddod i law erbyn 31 Mawrth 2024 er mwyn i Lywodraeth Cymru allu gwneud y taliad. Os byddwch chi’n methu â chyflwyno hawliadau, efallai y bydd y grant a dalwyd yn cael ei adennill.
  • Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.
  • Cyflwyno anfonebau ar gyfer yr holl eitemau neu wasanaethau sy’n cael eu hawlio
  • Cyflwyno tystiolaeth bod y gwariant wedi cael ei wneud ar gyfer pob eitem sy’n destun hawliad.
  • Cyflwyno tystiolaeth o ganiatâd cynllunio os oes angen.

Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn hawliad dilys oni bai ei fod wedi’i gyflwyno drwy’r dudalen Hawlio Grantiau gyda’r holl ddogfennau ategol.

Tystiolaeth ddogfennol

Mae’n rhaid i chi gyflwyno anfoneb ar gyfer pob eitem o gyfarpar yn eich contract.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno cyfriflenni banc fel tystiolaeth bod gwariant wedi’i wneud ar gyfer pob eitem o gyfarpar yn eich contract.

Gallwch gyflwyno’r anfonebau a’r cyfriflenni banc drwy eu sganio a’u hanfon drwy “Fy negeseuon” yn eich cyfrif RPW Ar-lein.

Ni fydd taliad yn cael ei wneud os oes tystiolaeth annigonol yn cael ei darparu.

Hawliadau anghywir a chosbau

Mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys ac yn gywir, ei fod ar gyfer gwariant sydd wedi’i wneud yn unig (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc), bod yr holl eitemau a chostau’n gymwys a bod yr hawliad yn cael ei gyflwyno yn brydlon.

Mae’n rhaid i’r holl fuddsoddiadau a gymeradwywyd fod wedi eu cwblhau ar ôl derbyn y contract.

Byddwch wedi cam hawlio os:

  • Rydych wedi prynu eitemau cyn i’r contract gael ei dderbyn
  • Nid ydych wedi prynu’r holl eitemau a restrir yn y contract
  • Nid ydych wedi cyflwyno cais na dogfennau ategol erbyn y dyddiad cau hawlio.

Os yw’r hawliad yn anghywir, bydd eich hawliad yn cael ei leihau i’r cyfanswm cymwys a bydd y grant i’w dalu yn cael ei gyfrifo yn unol â hynny.

Os oes gennych unrhyw amheuon am unrhyw beth y bydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect, mae’n hanfodol eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig o’i gymhwystra cyn i chi ysgwyddo’r costau.

Adran H: Newidiadau i Reolau’r Cynllun

Newidiadau mewn Deddfwriaeth (Gan gynnwys Newid Dehongliad)

Caiff deddfwriaeth ei newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt.

Newidiadau i Reolau neu Gontract y Cynllun

Mae’n bosibl y bydd angen i ni newid rheolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau yn y rhaglen. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran I: Rheoli, monitro a chadw cofnodion

Mesurau Rheoli

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru.

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn talu’r grant ichi neu ar ôl talu’r grant i chi.

Bydd yr holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad a’r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’r cais a’r hawliad yn cael eu gwirio.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n methu â rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl na fydd eich hawliad yn cael ei dalu, gallwn adennill taliadau ac fe allwch gael eich erlyn.

Monitro a Gwerthuso

Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes ar ôl cwblhau’r prosiect.

Rhaid i chi ganiatáu i swyddogion o Lywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr, archwilio’r eitemau (lle bo hynny’n berthnasol) a brynwyd o fewn y cyfnod o bum mlynedd hwn a chael mynediad at waith papur cysylltiedig e.e., anfonebau, tystysgrifau, caniatâd etc.

Bydd ymweliadau safle’n cael eu gwneud ar ganran o’r prosiectau gafodd eu cymeradwyo o fewn pum mlynedd ar ôl talu’r cais terfynol i sicrhau bod y busnes yn perfformio yn ôl y disgwyl lle bo hynny’n berthnasol.

Rhaid i chi gydweithredu ag unrhyw werthusiad ôl-weithredu o’ch prosiect a’r cynllun yn ei gyfanrwydd.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am chwe mlynedd.

Bydd gofyn ichi hefyd:

  • Ddarparu unrhyw wybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich contract Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru yn unol â’r amserlen a bennir gan Lywodraeth Cymru.
  • Darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur yn ymwneud â’ch contract Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru i Lywodraeth Cymru, ei phersonau awdurdodedig neu ei hasiantwyr.
  • Bydd gofyn ichi ganiatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono.

Adran J: Y Drefn Apelio a Chwyno

Y drefn apelio

Does dim sail i apelio ar y cam Datgan Diddordeb. Bydd unrhyw apeliadau sy’n cael eu cyflwyno yn cael eu ffeilio ac ni chymerir unrhyw gamau.

Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad mewn perthynas â’ch cais llawn, yna rhaid cyflwyno apeliadau yn cynnwys tystiolaeth ategol, drwy RPW Ar-lein cyn pen 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr yn amlinellu’r penderfyniad yr ydych am apelio yn ei erbyn.

Ni fydd amgylchiadau arbennig nac anghytuno ag unrhyw agwedd ar feini prawf cymhwystra’r cynllun yn sail i apelio.

Bydd swyddog apêl sy’n annibynnol o’r penderfyniad gwreiddiol yn ystyried yr apêl. Yna bydd y swyddog apêl yn gwneud penderfyniad terfynol ac yn hysbysu’r apelydd ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

Rydym ni’n croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg a byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg os mai dyna’ch dewis iaith. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.

Y Drefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost: cwynion@llyw.cymru

Gwefan : Cwynion am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed
CF35 5LJ
 

Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

Adran K: Hysbysiad Preifatrwydd: Cymorth ariannol Llywodraeth Cymru

Sut byddwn yn trin unrhyw ddata personol rydych chi’n eu rhoi mewn perthynas â’ch ffurflen gais neu’ch cais am gyllid grant

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid a gweinyddu’r grant.

Cyn i ni roi cyllid i chi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae’n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych chi eisoes yn ei gael.

Bydd cofnod o unrhyw risg gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

Er mwyn asesu cymhwystra, efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’ch cais gyda’r canlynol.

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Y Sefydliad Rheoli Morol
  • Gweinyddiaethau Morol a Physgodfeydd eraill Llywodraeth y DU
  • Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Gall Llywodraeth Cymru gyhoeddi manylion y sawl sy’n derbyn grantiau, symiau ac enw busnes ar gofrestr dryloywder lle mae’n rhaid i ni wneud hynny, er enghraifft, dan Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau’r grant, a phob taliad wedi’i wneud. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw’ch manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:

  • i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu i’ch data gael ei broses neu gyfyngu ar hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael ei ‘ddileu’
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru 

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan : https://ico.org.uk/ 

Adran L: Y Ddeddfwriaeth

Mae Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 yn creu ac yn gosod telerau Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

Ers gadael awdurdodaeth reoleiddio’r UE, mae gwariant ar bysgodfeydd a’r rhan fwyaf o bynciau cysylltiedig wedi gorfod cydymffurfio â chytundeb Sefydliad Masnach y Byd (WTO) ar gymorthdaliadau a mesurau gwrthweithio (ASCM) a rhwymedigaethau’r DU o dan Gytundeb Masnach a Chydweithredu’r DU-UE (TCA).

Derbyniodd Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022 Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2022. Bydd hyn yn gosod y rheolau ar gyfer cymorthdaliadau pan ddaw i rym.

Fe wnaeth y WTO gytundeb newydd i wahardd rhai cymorthdaliadau ar gyfer pysgota ym Mehefin 2022. Pan fydd mewn grym ni fydd Llywodraeth Cymru’n gallu rhoi arian ar gyfer pysgota stociau sy’n cael eu gor-bysgota. Mae cymorthdaliadau ar gyfer unrhyw un y canfyddir eu bod yn pysgota’n anghyfreithlon, heb ei gofnodi a heb ei reoleiddio (IUU)

Mae gofynion adrodd tryloywder gwahanol i WTO, Deddf Rheoli Cymhorthdal, cytundebau rhyngwladol eraill megis y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a phob cytundeb masnach. Efallai y bydd eich manylion yn cael eu cyhoeddi ar gofrestr o’r sawl sy’n derbyn cyllid cyhoeddus os yw’r cyllid yn bodloni’r meini prawf i’w datgelu i’r cyhoedd.

Adran M: Cysylltiadau

Ymholiadau – Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 i gael swyddogion Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau addas ar eich cyfer.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru