Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn cysylltu â Llywodraeth Cymru ac yn rhoi’ch gwybodaeth bersonol i ni.
Cynnwys
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn casglu, defnyddio, a diogelu unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych wrth lenwi'r holiadur Eiriolaeth Plant – Pecyn Cymorth Ystod a Lefel.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol a gesglir drwy'r holiadur hwn.
Y rheswm pam yr ydym yn casglu eich data personol
Mae Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth drwy'r holiadur hwn i ddeall barn ar berthnasedd, defnydd, a dyfodol y Pecyn Cymorth ar gyfer Ystod a Lefel - Eiriolaeth Plant.
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i wneud y canlynol:
- deall sut mae'r Pecyn Cymorth yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn ymarferol
- archwilio barn ynghylch a ddylid diwygio, crynhoi, neu ddisodli'r Pecyn Cymorth
- llywio trafodaethau a'r broses o wneud penderfyniadau ar y camau nesaf ar gyfer y Pecyn Cymorth
Mae cymryd rhan yn yr holiadur yn wirfoddol.
Pa ddata personol a gesglir gennym?
Gall yr holiadur gasglu'r wybodaeth ganlynol:
- eich rôl a'ch sefydliad
- eich barn broffesiynol a'ch adborth ar y Pecyn Cymorth Ystod a Lefel
- unrhyw wybodaeth ychwanegol yr ydych yn dewis ei darparu mewn ymatebion testun rhydd
Nid yw'n ofynnol ichi ddarparu data personol y tu hwnt i'r hyn sy'n angenrheidiol i ymateb i'r cwestiynau.
Y sail gyfreithlon dros brosesu eich gwybodaeth
Rydym yn prosesu eich data personol o dan Erthygl 6(1)(e) o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU), gan fod y prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol Llywodraeth Cymru.
Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth?
Bydd yr ymatebion yn cael eu dadansoddi gan swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bolisi Eiriolaeth Plant.
Bydd gwybodaeth o'r holiadur:
- yn cael ei safio'n ddiogel gan Lywodraeth Cymru
- yn cael ei thrafod yn y Fforwm Darparwyr Eiriolaeth Cenedlaethol a Grwpiau Gorchwyl a Gorffen perthnasol sydd eisoes wedi'u sefydlu
- yn cael ei defnyddio i gefnogi penderfyniadau ar gyfeiriad y Pecyn Cymorth Ystod a Lefel yn y dyfodol
Bydd canfyddiadau'n cael eu defnyddio i lywio'r gwaith o ddatblygu polisi a'r camau nesaf. Ni fydd ymatebion yn cael eu rhannu y tu allan i'r fforymau llywodraethu presennol hyn.
Pwy fydd yn cael gweld eich data?
Bydd mynediad at yr wybodaeth a ddarperir gennych yn gyfyngedig i swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar bolisi Eiriolaeth Plant ac aelodau o'r grwpiau llywodraethu sefydledig a nodir uchod.
Ni fydd eich data personol yn cael eu rhannu ag unrhyw drydydd parti arall, oni bai ei bod yn ofynnol yn gyfreithiol i Lywodraeth Cymru wneud hynny.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
Dim ond cyhyd ag y bydd eu hangen at ddibenion y gwaith hwn y bydd eich data personol yn cael eu cadw.
Bydd ymatebion yn cael eu cadw yn unol ag amserlenni cadw a gwaredu Llywodraeth Cymru, ac yna byddant yn cael eu dileu'n ddiogel.
Eich hawliau
O dan GDPR y DU mae gennych chi hawl i wneud y canlynol:
- gweld y data personol yr ydym yn eu cadw amdanoch
- gofyn bod data anghywir yn cael eu cywiro
- gofyn bod eich data yn cael eu cyfyngu neu eu dileu (o dan rai amgylchiadau)
- gwrthwynebu prosesu eich data, lle bo'n berthnasol
Sut i gysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, neu am sut y mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, gallwch gysylltu â'r canlynol:
Ymholiadau Diogelu Data
Ebost: Dataprotectionqueries@gov.wales
Gwneud cwyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad isod:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru.
Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.
Hysbysiad preifatrwydd corfforaethol Llywodraeth Cymru
Mae rhagor o wybodaeth am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu data personol ar gael yn Hysbysiad Preifatrwydd Llywodraeth Cymru ar LLYW.CYMRU.
