Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Abdullah Shams Alrawas, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) Cymru

Mae Abdullah Shams Alrawas yn enghraifft ddisglair o bŵer trawsnewidiol gwaith ieuenctid. Ar ôl cyrraedd y DU fel ceisiwr lloches ifanc, mae wedi symud ymlaen o fod yn ddefnyddiwr gwasanaeth i fod yn wirfoddolwr a nawr yn Weithiwr Cymorth Ieuenctid ymroddedig gydag EYST Wrecsam, gan ddefnyddio ei brofiad bywyd i ysbrydoli ac annog eraill. 

Trwy arwain y Rhaglen Datblygu Chwaraeon Ieuenctid a’i waith gyda’r Clwb Gwaith Cartref, mae Abdullah wedi creu mannau diogel a chynhwysol lle y gall pobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol ffynnu. Mae ei fentrau, gan gynnwys cefnogaeth wedi’i deilwra i fenywod ifanc, yn chwalu rhwystrau i gyfranogiad, yn magu hyder ac yn agor mynediad at addysg, cyflogaeth a lles. 

Mae’r effaith y mae Abdullah yn ei chael yn mynd y tu hwnt i weithgareddau – mae’n adeiladu ymddiriedaeth, yn cryfhau cymunedau ac yn grymuso pobl ifanc i gredu yn eu potensial. Mae ei waith yn cefnogi mwy o ymgysylltu, mwy o gynhwysiant, a chysylltiadau cryfach i’r rhai a allai deimlo wedi’u hynysu fel arall.

Yn adnabyddus am ei egni, ei gynhesrwydd a’i allu i gysylltu, mae Abdullah yn ysbrydoli pawb o’i gwmpas. Mae ei daith yn adlewyrchu gwydnwch, tosturi ac ymrwymiad dwfn i roi yn ôl i’r gymuned a wnaeth ei gefnogi ef. 

Mae’r beirniaid o’r farn bod Abdullah yn seren y dyfodol, sy’n newid bywydau ac yn llywio dyfodol mwy disglair.