Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Amira Begum, Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange

Mae Amira Begum yn sbardun ar gyfer newid yn ei chymuned a arweinir gan bobl ifanc. 

Fel Cyfarwyddwr Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange a chynrychiolydd pobl ifanc ar Fwrdd Pafiliwn Grange, mae Amira yn gweithio wrth wraidd mentrau sy’n creu cyfleoedd i bobl ifanc ar draws Grangetown yng Nghaerdydd. 

Mae Amira yn cyflwyno gweithdai, yn trefnu digwyddiadau a theithiau a hefyd yn mentora pobl ifanc, gan gynnig cynhesrwydd a gofal ynghyd ag arweiniad ymarferol.

Yn ogystal, mae gan Amira rôl eirioli allweddol fel cynrychiolydd pobl ifanc ar Fwrdd Pafiliwn Grange i sicrhau bod gwasanaethau lleol yn adlewyrchu anghenion a dyheadau pobl ifanc, gan ddatblygu cysylltiadau â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed. O godi arian cymunedol ar gyfer achosion byd-eang i greu mannau ar gyfer mynegiant a chyfranogiad, mae Amira yn helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau, hyder, ac ymdeimlad o bwrpas.

Dywedodd un o’r bobl ifanc o Bafiliwn Grange 

“Mae hi’n rheswm mawr pam rydw i wedi magu hyder ac yn teimlo fy mod i’n gallu siarad am bethau sy’n bwysig i mi... mae ei charedigrwydd a’i chefnogaeth wedi newid fy mywyd.”