Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Imogen Watkins, Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân

Mae Imogen Watkins, gweithiwr ieuenctid sesiynol yng Nghanolfan Pobl Ifanc Cwmbrân, yn dangos ymroddiad, tosturi a gallu naturiol i gysylltu â phobl ifanc. Fe wnaeth y beirniaid ystyried bod ei chyflawniadau yn fwy anhygoel fyth o ystyried pa mor ifanc yw hi – mae Imogen eisoes wedi cyflawni cymaint ac mae wir yn seren y dyfodol. 

Mae Imogen yn dod â dawn go iawn i’w gwaith lle mae’n datblygu dulliau a syniadau newydd sy’n dal diddordeb pobl ifanc. Wrth wneud hyn, mae wedi gallu adeiladu perthynas eithriadol o gryf gydag amrywiaeth eang o bobl ifanc. Mae ei hymroddiad i ddarparu darpariaeth gynhwysol, diddorol a grymus wedi helpu llawer o bobl ifanc i ddatblygu hyder, gwydnwch a chysylltiadau cymdeithasol cadarnhaol. 

Er ei bod yn ifanc, mae’n dangos dealltwriaeth gref o ddiogelu ac yn ei chymhwyso’n gyson yn ymarferol. Mae Imogen yn cynnal ffiniau proffesiynol priodol ond yn agored ac yn gynnes hefyd, gan greu amgylchedd diogel a chynhwysol lle mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi. 

Cryfder Imogen yw ei gallu i gysylltu’n naturiol â’i chyfoedion. Fel rhywun sy’n agos o ran oedran i’r bobl ifanc y mae’n eu cefnogi, mae’n cynnig persbectif unigryw y gallant uniaethu ag ef sy’n ei galluogi i feithrin ymddiriedaeth y bobl ifanc.

Mae ei dull tawel a chyson wedi creu amgylchedd diogel a chroesawgar gan alluogi llawer o bobl ifanc i ymgysylltu â darpariaeth ieuenctid, yn aml am y tro cyntaf.