Rayya Bocus, Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru
Teilyngwr
Mae Rayya Bocus yn wirfoddolwr gyda Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru (NYAS Cymru), ac mae ei gwaith wedi creu newid ystyrlon a pharhaol i bobl ifanc ledled Cymru sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Fel aelod o Grŵp Cynghori Pobl Ifanc NYAS Cymru, mae Rayya wir yn sefyll allan yn y ffordd y mae’n gallu defnyddio ei phrofiadau bywyd ei hun i lywio polisi, dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, herio anghydraddoldeb a sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed ar yr adegau mwyaf priodol. Mae pobl ifanc yn disgrifio Rayya yn gyson fel ffynhonnell o ysbrydoliaeth a chefnogaeth.
Mae Rayya wedi chwarae rôl ganolog wrth weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol i drawsnewid arferion, dylanwadu ar ddeddfwriaeth a sicrhau bod profiadau pobl ifanc yn llywio sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu. Mae ei gwaith wedi bod yn allweddol i lunio hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n derbyn gofal.
Ar ran NYAS Cymru, arweiniodd Rayya y gwaith o gasglu ymatebion pobl ifanc i’r ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid. Fe wnaeth hefyd helpu i gyd-ysgrifennu maniffesto cenedlaethol NYAS Cymru cyn etholiad y Senedd yn 2026.
Mae ymroddiad, dewrder ac effaith Rayya yn ei gwneud hi’n wirfoddolwr rhagorol ac yn fodel rôl i bobl ifanc ledled Cymru.
Dywedodd un o weithwyr cyfranogiad NYAS, Kacey Schulz:
“Mae Rayya yn llygedyn o heulwen ac mae ei gwaith gwirfoddol i NYAS Cymru yn rhyfeddol; mae wedi ymroi i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc eraill. Un diwrnod mae hi eisiau bod yn Brif Swyddog Gweithredol NYAS Cymru a byddem yn falch iawn o’i chefnogi i gyflawni’r nod hwn.”
