Steve Drowley, Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru
Teilyngwr
Mae Steve Drowley, Cadeirydd Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru, wedi helpu i lunio dyfodol gwaith ieuenctid ledled Cymru drwy sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth orau bosibl gan weithlu medrus a hyderus.
Trwy ei arweinyddiaeth, mae gweithwyr ieuenctid yn cael hyfforddiant o ansawdd uchel, cymwysterau newydd, a chyfleoedd i dyfu.
Mae Steve wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu rhaglenni arweinyddiaeth ar gyfer gweithwyr ieuenctid a llunio Academi Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid newydd i Gymru. Mae ei waith wedi helpu i greu mannau lle gall ymarferwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd, meithrin sgiliau, a chynyddu eu gallu i gefnogi anghenion pobl ifanc wrth i’r rheini ddatblygu’n barhaus.
Chwaraeodd Steve ran allweddol wrth dyfu’r Rhaglen Datblygu’r Gweithlu, gan ei throi’n fenter genedlaethol sy’n cryfhau recriwtio, yn gwella cyfraddau cadw gweithwyr, ac yn adeiladu sector gwaith ieuenctid cryfach, mwy cydgysylltiedig.
Roedd y beirniaid o’r farn bod Steve wedi dangos gweledigaeth, ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol a dylid ei ganmol am ei gyfraniad at sicrhau bod gwaith ieuenctid yng Nghymru yn wydn, yn gynhwysol ac yn canolbwyntio ar y dyfodol.
Dywedodd Tim Opie o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
“Mae gwybodaeth Steve am waith ieuenctid heb ei ail ac mae hyn, ochr yn ochr â’i agwedd agored werthfawr, ei allu i gyfathrebu ar bob lefel a’i ddull cytbwys, ystyriol wedi sicrhau bod ei gyfnod fel Cadeirydd Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru wedi bod yn gynhyrchiol ac yn effeithiol. Mae cyfnodau cythryblus a heriol yn galw am arweinyddiaeth gref ac effeithiol, ac mae Steve wedi dangos hynny mewn pob math o ffyrdd. Bydd yn anodd canfod ei debyg.”
