Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Urdd Gobaith Cymru

Fe wnaeth gweithwyr ieuenctid o Urdd Gobaith Cymru gydweithio â grŵp o bobl ifanc yn Ysgol Uwchradd Penarlâg fel rhan o brosiect i greu comig digidol. Gan weithio gyda’i gilydd mewn clwb amser cinio, defnyddiodd pobl ifanc gyfuniad o greadigrwydd, technoleg ac iaith i greu comig a ddaeth â chwedlau Cymreig yn fyw. 

Mae’r prosiect wedi cael effaith bwerus ar y bobl ifanc a gymerodd ran, gan ddatblygu eu hyder, cryfhau eu sgiliau Cymraeg a rhoi ymdeimlad gwirioneddol o berchnogaeth iddynt dros eu gwaith. Arweiniodd pobl ifanc bob cam o’r broses, o ddatblygu cymeriadau a llinellau stori i lunio’r cynnyrch terfynol, gan sicrhau bod eu lleisiau yn ganolog drwy gydol y gwaith. I lawer ohonynt, mae hyn wedi ysgogi balchder newydd yn eu hunaniaeth Gymreig a chred yn eu potensial creadigol eu hunain.

Roedd y beirniaid o’r farn bod y prosiect hwn yn dangos pŵer gwaith ieuenctid i greu ymdeimlad o berthyn. Roedd y prosiect wedi galluogi pobl ifanc i feithrin cysylltiad â diwylliant a hunaniaeth Gymreig a’u grymuso i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth mewn gweithgaredd a wnaeth ddatblygu eu hyder eu hunain a’u cyfoedion.