Fersiynau diwygiedig o'r safonau, y rheolau a'r codau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu (WGC 005/2025)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ar ei gwefan fersiynau wedi'u diweddaru o'r codau, y safonau a'r rheolau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu. Mae'r Cylchlythyr hwn yn disgrifio'r newidiadau sydd wedi'u gwneud.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cylchlythyr rheoliadau adeiladu
Rhif y cylchlythyr: WGC 005/2025
Dyddiad cyhoeddi: 11/07/2025
Statws: Er gwybodaeth
Teitl: Fersiynau diwygiedig o'r safonau, y rheolau a'r codau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu
Cyhoeddwyd gan: Julia Ashford - Polisi Diogelwch Adeiladu/ Rheoliadau Adeiladu
Wedi'i gyfeirio at:
Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Adrannau Rheolaeth Adeiladu'r Awdurdodau Lleol
Cymdeithas y Cymeradwywyr Rheolaeth Adeiladu
I'w anfon ymlaen at:
Swyddogion Rheolaeth Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau Senedd Cymru
Crynodeb:
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ar ei gwefan fersiynau wedi'u diweddaru o'r codau, y safonau a'r rheolau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu. Mae'r Cylchlythyr hwn yn disgrifio'r newidiadau sydd wedi'u gwneud.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r:
Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Caerdydd
CF10 3NQ
Llinell Uniongyrchol: 0300 062 5223
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan: adeiladu a chynllunio
Cylchlythyr
Hysbysiad am safonau, codau a rheolau diwygiedig ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu
- Fe'm cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i'ch hysbysu bod fersiynau diwygiedig o'r safonau, y codau a'r rheolau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu wedi'u cyhoeddi. Sef yw’r rheini:
- Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (BICOF) Cymru
- Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (Cymru) 2024
- Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Rheolaeth Adeiladu Cofrestredig (Cymru)
- Rheolau Safonau Gweithredol (Cymru)
- OSR: Trefniadau Monitro (Cymru)
Cwmpas y cylchlythyr hwn
- Mae'r cylchlythyr hwn yn berthnasol i'r proffesiwn rheolaeth adeiladu yng Nghymru.
Hysbysiad am safonau, codau a rheolau diwygiedig ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu
- Gellir gweld fersiynau diwygiedig o'r dogfennau safonau, codau a rheolau ar gyfer Cymru yn adran Adeiladu a chynllunio gwefan Llywodraeth Cymru yma.
- Bydd unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar yr un wefan a chyhoeddir hysbysiad.
- Mae'r Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (Cymru) wedi'i ddiweddaru fel ei fod yn nodi bod dosbarth 3H yn cynnwys pob adeilad, nid adeiladau risg uwch yn unig. Mae'r geiriad bellach yn gyson â'r fframwaith cymhwysedd arolygwyr cofrestredig adeiladu.
- Mae newidiadau bach iawn wedi'u gwneud i Reolau Safonau Gweithredol (Cymru) nad ydynt yn effeithio ar y rheolau na'r ffordd y cânt eu cymhwyso.
- Hefyd, mae teitlau pob safon, cod a dogfen rheolau wedi cael eu diwygio er mwyn cysondeb, ond ni fydd hyn yn cael unrhyw effaith ar eu heffaith.
- Mae'r mwyafrif o'r diweddariadau a wnaed i'r Rheolau Safonau Gweithredol: Trefniadau Monitro (Cymru) yn fân newidiadau i'r geiriad er mwyn eglurder a chysondeb. Argymhellir bod pob RBCA yn darllen y dogfennau diwygiedig, ac mae copïau gyda'r holl newidiadau wedi'u tracio yn Gymraeg a Saesneg ar gael o ofyn amdanynt.
Ymholiadau
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn, dylech eu hanfon at:
Rheoliadau Adeiladu, 2il Lawr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Yn gywir
Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu
