Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio pwy sy'n goruchwylio gwaith adeiladu yng Nghymru a sut i wirio cofrestrau arolygwyr a chymeradwywyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu yng Nghymru

Mae'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu (BSR) yn gwasanaethu fel prif gorff rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu yng Nghymru, gan weithredu ar ran Gweinidogion Cymru.

Mae'r BSR yn rheoleiddio arolygwyr adeiladu cofrestredig a chymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu yng Nghymru.

Nid yw'r BSR yn rheoleiddio’r gwaith rheolaeth adeiladu a wneir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Gweinidogion Cymru sy’n rheoleiddio awdurdodau lleol.

Nid yw'r BSR yn goruchwylio gwaith adeiladu yng Nghymru. Mae gwaith adeiladu yng Nghymru yn cael ei oruchwylio gan awdurdodau lleol neu gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu. Dim ond awdurdodau lleol sy'n cael goruchwylio gwaith adeiladu risg uwch newydd.

Sefydliadau rheolaeth adeiladu

Mae cyrff rheolaeth adeiladu yn helpu i sicrhau bod prosiectau adeiladu yn cydymffurfio â rheoliadau a safonau adeiladu. Maent yn gwneud gwaith hanfodol o ran cynnal ansawdd a diogelwch yr amgylchedd adeiledig trwy gyflawni swyddogaethau rheolaeth adeiladau rheoleiddedig. Gallant fod yn awdurdodau lleol neu gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu yn y sector preifat.

Dim ond awdurdodau lleol sy'n cael goruchwylio gwaith adeiladu risg uwch newydd. 

I weld timau rheolaeth adeiladu awdurdodau lleol a chymeradwywyr rheolaeth adeiladu cofrestredig, cliciwch yma: Dod o hyd i gorff rheoli adeiladu | LLYW.CYMRU

Gwybodaeth ar gyfer pob corff rheolaeth adeiladu

Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu

Mae arolygwyr cofrestredig adeiladu yn cynnal gweithgareddau rheolaeth adeiladu rheoleiddig, sef asesu cynlluniau, arolygu a rhoi cyngor i gyrff rheolaeth adeiladu sy'n cyflawni swyddogaethau rheoleiddiedig.