Neidio i'r prif gynnwy

Sut bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn prosesu data personol ar ran Gweinidogion Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y Cefndir

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i gytundeb gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ("HSE") i ymgymryd â swyddogaethau rheoleiddio Rheolaeth Adeiladu Gweinidogion Cymru a gyflwynwyd gan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022, drwy ddiwygio Deddf Adeiladu 1984, ac eithrio rheoleiddio gwaith Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol.

Bydd y cytundeb hwn yn ei gwneud yn ofynnol i HSE brosesu data personol ar ran Gweinidogion Cymru. Gweinidogion Cymru fydd y Rheolydd Data, ac mae'r tabl isod yn dangos manylion y gwaith prosesu i'w gynnal gan HSE wrth gyflawni'r swyddogaethau.

Y math o ddata personol a brosesir

Dyma'r wybodaeth bersonol a chategori arbennig a fydd yn cael ei chasglu:

Ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu, bydd y data personol canlynol yn cael eu prosesu

Manylion Personol

  • Enw
  • Cyfeiriad/Cyfeiriadau e-bost 
  • Dyddiad geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol 
  • Cyfeiriad cartref
  • Rhif(au) ffôn

Dosbarth Arolygydd Adeiladu

  • Dewis Dosbarth Cofrestru
  • Gweithgarwch cyfyngedig 
  • Categorïau gwaith
  • Gwlad lle maent yn gweithio 

Cymhwysedd

  • Statws Asesu Annibynnol 
  • Sefydliad asesu
  • Rhif tystysgrif asesu
  • Dyddiad yr asesiad 

Aelodaeth broffesiynol a chyflogaeth

  • Aelodaeth o gorff proffesiynol
  • Enw'r corff proffesiynol 
  • Rhif aelodaeth
  • Lefel aelodaeth
  • Pryd cyflawnwyd y lefel bresennol o aelodaeth 
  • Math o gyflogaeth (sector cyhoeddus/sector preifat/ymgynghorydd neu fath arall o gyflogaeth/di-waith)
  • Enw'r cyflogwr 
  • Cyfeiriad y cyflogwr 

Datganiad:

  • Rhestr o flychau ticiau y mae angen i unigolyn gydnabod yr angen i gydymffurfio â hwy
    Talu a chyflwyno:
  • Manylion talu

Ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu, bydd y data personol canlynol yn cael eu prosesu


Prif Gyswllt

  • Teitl  
  • Enw
  • Cyfeiriad cyswllt
  • Rhif ffôn cyswllt
  • E-bost Gwaith
  • Swydd yn y busnes

Strwythur y Cwmni ac unrhyw Wrthdaro Buddiannau o ran Personél Allweddol

  • Enwau perchnogion/cyfarwyddwyr presennol
  • Rhestr o unrhyw gwmnïau perthnasol eraill y mae'r perchnogion/cyfarwyddwyr yn gyfarwyddwyr arnynt neu'n dal unrhyw fuddiannau ynddynt
  • Enw(au) unrhyw berchnogion/cyfarwyddwyr sydd wedi'u cofrestru fel arolygwyr cofrestredig adeiladu dosbarth 4

Euogfarnau troseddol

  • Manylion unrhyw euogfarnau troseddol perthnasol sydd gan y perchnogion/cyfarwyddwyr neu'r busnes

Datganiad Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu

  • Rhestr o Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu a gyflogir gan RBCA

Nodi dosbarthiad daearyddol prosiectau

  • Cadarnhad o ardaloedd daearyddol y mae'r cwmni yn gweithio ynddynt

Beth ydyn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth chi?

Yn ein cylch gwaith fel y rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth a ddaw i law at y dibenion isod. Mae'r dibenion hyn yn angenrheidiol er mwyn ein galluogi i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Adeiladu 1984 i gadw cofrestrau o arolygwyr adeiladu a chymeradwywyr rheolaeth adeiladu a rheoleiddio'r proffesiwn rheoli adeiladu yng Nghymru. Bydd HSE yn defnyddio'r wybodaeth, ar ran Llywodraeth Cymru, i gofrestru a rheoleiddio'r proffesiwn rheoli adeiladu.

Dibenion y gwaith prosesu

Mae'r prosesu ar gyfer cofrestru a rheoleiddio'r proffesiwn rheoli adeiladu yng Nghymru i'r graddau y dynodir swyddogaethau i HSE gan Gytundeb yr Asiantaeth dyddiedig 19 Ionawr 2024. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Gweithredu cofrestr o Arolygwyr Rheolaeth Adeiladu
  • Cynnal ymchwiliadau i gamymddwyn proffesiynol posibl gan Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu 
  • Rhoi sancsiynau am gamymddwyn proffesiynol ac ymateb i apeliadau
  • Erlyn troseddau o weithredu fel, neu esgus bod, yn Arolygydd Cofrestredig Adeiladu 
  • Cynnal cofrestr o Gymeradwywyr Rheolaeth Adeiladu
  • Cynnal ymchwiliadau i achosion posibl o dorri rheolau ymddygiad proffesiynol ("PCRs") a/neu'r rheolau safonau gweithredol ("OSRs").
  • Cyflwyno sancsiynau am fynd yn groes i'r PCRs a/neu'r OSRs ac ymateb i apeliadau
  • Erlyn troseddau o weithredu fel, neu esgus bod, yn Gymeradwywr Rheolaeth Adeiladu Cofrestredig
  • Cyflwyno hysbysiadau gwella a hysbysiadau tramgwyddo difrifol.
  • Erlyn troseddau'n ymwneud â darparu gwybodaeth (Adrannau 58Z1 a 58Z2 o Ddeddf Adeiladu 1984)

Er mwyn eglurder ni fydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cyflawni ar ran Gweinidogion Cymru y swyddogaethau sy'n ymwneud â'r rheolau safonau gweithredol mewn perthynas ag unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru.

Gyda phwy yr ydym yn rhannu'ch gwybodaeth

Gellir rhannu gwybodaeth a gedwir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar ran Gweinidogion Cymru am arolygwyr adeiladu a chymeradwywyr rheolaeth adeiladu gyda'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu o dan Adran 58Z9 o Ddeddf Adeiladu 1984.

Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Bydd y data'n cael ei gadw am 15 mlynedd oni bai bod gofyn iddynt gael eu cadw'n hirach o dan y gyfraith. Yna bydd y data yn cael eu dinistrio'n ddiogel.

Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth

Mae gennych:

  • y hawl i gael gafael ar y data personol rydym yn eu prosesu amdanoch chi; 
  • yr hawl i'w gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny; 
  • yr hawl i wrthwynebu prosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol);
  • yr hawl i ofyn bod eich data yn cael eu 'dileu'; 
  • yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cysylltu

I wybod mwy am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10  3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru

Prif Gynllunydd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10  3NQ
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF.

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth