Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y cylchlythyr:    WGC 005/2024

Dyddiad cyhoeddi:    08/04/2024

Statws:    Er gwybodaeth

Teitl: Fersiynau diwygiedig o'r safonau, y rheolau a'r codau ar gyfer y proffesiwn rheoli adeiladu a gyhoeddwyd

Cyhoeddwyd gan:  Simon Jones, Rheolwr Cymhwysedd a Safonau Rheoli Adeiladu

Ar gyfer:    

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Cymdeithas yr Arolygwyr Cymeradwy Corfforaethol

I'w anfon ymlaen at:

Swyddogion Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol
Aelodau Senedd Cymru

Crynodeb:

Mae fersiynau terfynol wedi'u diweddaru o'r codau, y safonau a'r rheolau ar gyfer y proffesiwn rheoli adeiladu wedi'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r cylchlythyr hwn yn manylu ar y newidiadau sylweddol a wnaed.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
2il Llawr
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

Llinell uniongyrchol:   0300 060 4400

E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:   Adeiladu a chynllunio

Cyflwyniad

  1. Fe'm cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i'ch hysbysu o gyhoeddi fersiynau terfynol y safonau, codau a’r rheolau ar gyfer y proffesiwn rheoli adeiladu. Sef:
  • Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu Cymru 2024
  • Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu Cymru 2024
  • Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu Cymru 2024
  • Rheolau Safonau Gweithredol Cymru 2024 ("OSRs")
  • Trefniadau Monitro Rheolau Safonau Gweithredol Cymru
  • Cyd-destun strategol ar gyfer y fframwaith rheoleiddio Cymru

Cwmpas y Cylchlythyr hwn

  1. Mae'r cylchlythyr hwn yn berthnasol i'r proffesiwn rheoli adeiladu yng Nghymru. 

Hysbysiad am safonau, codau a rheolau newydd ar gyfer y proffesiwn rheoli adeiladu

  1. Gellir gweld fersiynau terfynol diwygiedig o'r dogfennau safonau, codau a rheolau ar gyfer Cymru yn adran Adeiladu a chynllunio gwefan Llywodraeth Cymru.
  2. Bydd unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar yr un wefan a chyhoeddir hysbysiad..
  3. Mae mwyafrif y diweddariadau a wneir i'r fersiynau drafft yn fân newidiadau i eiriad er mwyn eglurder a chysondeb. Ceir manylion am newidiadau sylweddol isod ac mae dogfennau gyda'r holl newidiadau wedi'u tracio yn Gymraeg a Saesneg ar gael ar gais.
  4. Ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Arolygydd Adeiladu, y newidiadau sylweddol yw:
  • Adolygu canllawiau i'r diwydiant ynghylch goruchwylio Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig ("RBIs") i ddarparu eglurder pellach ynghylch sut y gall Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig ennill profiad a chymhwysedd ar lefelau uwch o waith rheoli adeiladu nag y maent wedi'u cofrestru ar eu cyfer, tra'n aros o fewn eu ffiniau cyfreithiol.
  • Newid teitl RBIs Dosbarth 3 o 'Arolygydd Adeiladu Arbenigol' i 'Arolygydd Adeiladu'. Gwnaed y newid hwn yn dilyn adborth a gafwyd am ddryswch posibl gyda rolau eraill a ystyrir yn draddodiadol yn 'arbenigol' er enghraifft peirianwyr strwythurol.
  1. Ar gyfer y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer cymeradwywyr rheoli adeiladu cofrestredig, y newidiadau sylweddol yw:
  • Cyflwyno rheolau, amodau a chanllawiau cofrestru ar gyfer sicrhau bod Cymeradwywyr Rheoli Adeiladu Cofrestredig ("RBCAs") yn gweithredu o fewn cwmpas eu cofrestriad (Atodiadau 3, 4 a 5). Cyflwynwyd y rhain i alinio ein safonau â'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu ("BSR") nawr bod cofrestru ar gyfer y proffesiwn wedi dechrau.
  1. Ar gyfer y Cod Ymddygiad i arolygwyr adeiladau cofrestredig, y newidiadau sylweddol yw:
  • Mae rhai codau wedi'u newid i fod yn berthnasol i gontractwyr hunangyflogedig yn unig, yn hytrach na'r holl RBIs. Mae hyn er mwyn adlewyrchu y ffaith bod mwyafrif yr unigolion yn cael eu cyflogi gan gwmnïau mwy, ac felly ni fyddai'r bobl hynny yn gyfrifol am rai agweddau ar y codau megis gweithdrefnau cwynion.
  • Cyflwyno rheolau, amodau a chanllawiau cofrestru ar gyfer sicrhau bod RBCAs yn gweithredu o fewn cwmpas eu cofrestriad (Atodiadau 3, 4 a 5). Fel gyda'r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol mae'r rhain yn alinio ein safonau â BSR nawr bod cofrestru ar gyfer y proffesiwn wedi dechrau.
  1. Ar gyfer Trefniadau Monitro OSR, y newidiadau sylweddol yw:
  • Dileu cyfeiriadau at awdurdodau lleol. Mae hyn oherwydd nad yw rheoleiddio rheolaeth adeiladu awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael ei ddynodi i'r BSR. Yn hytrach, bydd hyn yn cael ei bennu o dan Gam 2 o'n gweithrediad o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022. Y bwriad yw y bydd rheoleiddio rheolaeth adeiladu awdurdodau lleol yn dechrau ym mis Ebrill 2025.
  • Manylion pryd y dylai RBCAs ddarparu data perfformiad chwarterol a blynyddol. 
  • Canllawiau ar drefniadau trosiannol ar gyfer adeiladau risg uwch. Noder bod y trefniadau hyn yn llunio rhan o Reoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2024. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn y Cylchlythyr.
  • Canllawiau estynedig ar gyfer y proffesiwn ar y gwahaniaeth rhwng adeiladau 'safonol' ac 'ansafonol' at ddibenion rheoleiddio'r proffesiwn a dosbarthu arolygwyr adeiladau cofrestredig.
  1. Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol i'r Rheolau Safonau Gweithredol (Cymru) na'r Cyd-destun Strategol ar gyfer y Fframwaith Rheoleiddio (Cymru) o'u fersiynau drafft a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Ymholiadau

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y cylchlythyr hwn at:

Rheoliadau Adeiladu, 
2il lawr, 
Llywodraeth Cymru, 
Parc Cathays, 
Caerdydd 
CF10 3NQ

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir

Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu