Daeth yr ymgynghoriad i ben 9 Chwefror 2026.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 195 KB
PDF
195 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ar newidiadau arfaethedig i ffi’r drwydded gocos ar gyfer tymor trwyddedu 2026-2027.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar gynnydd arfaethedig yn y ffi drwyddedu ar gyfer pysgota am gocos yng Nghymru o £350 i £600. Mae hyn yn gyfystyr ag adennill 71% o’r costau amcangyfrifol sy’n gysylltiedig â rheoli pysgodfa.
O dan y cynnig hwn, byddem:
- yn talu 29% o’r costau rhwng 2026 a 2027
- sefydlu cyfnod pontio fel y gall deiliaid trwyddedau addasu i’r cynnydd
