Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

O dan ddarpariaethau Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024, caiff Llywodraeth Cymru bennu ffi'r drwydded ar gyfer cyfnod y drwydded i dalu'r gost o weinyddu a rheoli'r bysgodfa.

Rydym yn cynnig yr addasiad canlynol i ffi'r drwydded ar gyfer cyfnod trwyddedu 2026/27:

  • cynyddu ffi'r drwydded i £600 sy'n cynrychioli tua 71% o waith adennill costau rheoli pysgodfeydd cysylltiedig amcangyfrifedig

Mae'r cynnig hwn yn golygu y byddai Llywodraeth Cymru yn talu tua 29% o gostau 2026/27 i ddarparu cyfnod pontio er mwyn i ddeiliaid trwyddedau addasu i'r cynnydd. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn deiliaid trwyddedau a rhanddeiliaid perthnasol eraill ar y cynnydd arfaethedig i ffi'r drwydded drwy ymgynghoriad pythefnos o hyd a gynhelir rhwng 26 Ionawr a 9 Chwefror 2026.

Ffi trwyddedau pysgota am gocos

Amlinellodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i godi ffi am drwyddedau cocos yn yr ymgynghoriad ar Fesurau Rheoli Pysgodfeydd Cocos 2022. O ganlyniad, cynhwyswyd darpariaethau ar gyfer codi ffi yng Ngorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024. Mae'r tâl yn adlewyrchu costau gweinyddu a rheoli'r bysgodfa, gan gynnwys arolygon asesu stoc, ond heb gynnwys gwaith gorfodi.

Mae adennill costau a ysgwyddir gan Lywodraeth Cymru wrth reoli'r bysgodfa gocos yn unol ag egwyddorion Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru 2016. 

Y fethodoleg i bennu'r ffi am drwydded pysgota am gocos

Yn ystod cyfnod y drwydded gyntaf (24/25), gwnaeth Llywodraeth Cymru godi ffi o £250 am drwydded gocos. Cafodd y ffi ei chyfrifo ar sail gweithgarwch trwyddedu a rheoli yn y gorffennol. Yn ystod y cyfnod hwn cofnododd swyddogion gostau ochr yn ochr â chyflwyno system drwyddedu ddigidol newydd. 

Ar gyfer cyfnod trwydded 25/26, cynyddodd Llywodraeth Cymru ffi'r drwydded gocos i £350 yn dilyn ymgynghoriad pythefnos o hyd gyda deiliaid trwyddedau a rhanddeiliaid y diwydiant.

Wrth benderfynu ar ffi'r drwydded flynyddol, rydym yn ystyried gwariant sy'n deillio o'r canlynol: 

  • rheoli'r gwelyau cocos
  • arolygon gwyddonol neu asesiadau amgylcheddol sy’n ymwneud â’r gwelyau cocos
  • gweinyddu ceisiadau am drwyddedau
  • dadansoddi ffurflenni dalfeydd dyddiol, ac
  • unrhyw wariant perthnasol arall

Rydym yn cynnig ffi o £600 ar gyfer y drwydded yng nghyfnod trwydded 2026/27, gan gynyddu o £350 am y rhesymau canlynol:

  • trefnu arolygon asesu stoc drwy gontract allanol gyfer ardal De Cymru
  • costau blynyddol sy'n gysylltiedig â gweithredu'r system drwyddedau digidol newydd
  • gwelliannau i’r dull a ddefnyddir i gyfrifo costau staff

Mae'r ffactorau a amlinellir uchod yn arwain at gostau sy'n fwy na'r ffi arfaethedig o £600. Er mwyn cefnogi deiliaid trwyddedau, bydd Llywodraeth Cymru yn talu oddeutu 29% o gostau 2026/27, gan roi amser i bysgotwyr addasu i'r cynnydd.

Mae'r prif gynnydd yn y costau ar gyfer cyngor gwyddonol ac arolygon asesu stoc yn Ne Cymru sydd bellach yn cael eu darparu drwy gontractwr allanol yn hytrach na chael eu cynnal gan staff gorfodi Llywodraeth Cymru. Mae'r newid hwn wedi rhyddhau staff Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar waith gorfodi'r bysgodfa. Disgwylir i arolygon asesu stoc Gogledd Cymru gael eu rhoi ar gontract allanol o 2026 ymlaen a byddant yn cael eu cynnwys yn yr asesiad ar gyfer ffioedd 2027/27.

Mae ffi'r drwydded wedi'i gosod i adlewyrchu gwariant a ragwelir ac ansicrwydd sy'n gysylltiedig â nifer y trwyddedau, wedi'i lywio gan dystiolaeth o flynyddoedd blaenorol.

Yn ystod cyfnod trwyddedu 2026–27 bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y costau'n cael eu cyfrifo'n gywir a'u bod yn gymesur. Byddwn yn ceisio adennill mwy o gostau yn 2027/28, gan hefyd geisio nodi arbedion effeithlonrwydd a lleihau costau i bysgotwyr.

Cyfrifir ffioedd yn y dyfodol yn seiliedig ar y galw a'r costau a byddan nhw'n cael eu haddasu yn unol â hynny.

Sut i ymateb

Os ydych chi am roi sylwadau ar y cynigion hyn, anfonwch e-bost at Lywodraeth Cymru yn pysgodfeydd@llyw.cymru.

Anfonwch eich sylwadau erbyn 9 Chwefror 2026 os gwelwch yn dda.

Yr Is-adran Pysgodfeydd

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill. 

Mae’r ddogfen yma hefyd ar gael yn Saesneg / This document is also available in English.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb. 

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn:

0303 123 1113