Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

1. Cefndir

1.1 Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae'n rhoi pwyslais ar ymyrryd yn gynnar, atal, a darparu cymorth i deuluoedd. Mae'r rhaglen yn hyrwyddo mwy o weithio amlasiantaethol i sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael cymorth cyfannol pan fydd ei angen arnynt. Bwriad y rhaglen yw cynnig cymorth amserol i helpu i atal problemau o fewn teuluoedd rhag gwaethygu.

1.2 Dyma brif elfennau Teuluoedd yn Gyntaf:

  • Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF) sy'n darparu gwerthusiad cynhwysfawr ar sail cryfderau o anghenion teuluoedd.
  • Y Tîm o Amgylch y Teulu sy'n dwyn ynghyd ystod eang o weithwyr proffesiyno i weithio gyda theulu er mwyn eu helpu i fynd i'r afael â heriau.
  • Prosiectau a gomisiynir yn strategol mewn ymateb i anghenion lleol a chymunedol a nodwyd.
  • Ffocws ar anabledd.  Disgwylir i ddyraniad o gyllid gael ei wario ar gymorth i deuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan anabledd. 

1.3 Mae'r awdurdodau lleol yn casglu'r data gan ddefnyddio templed gan Lywodraeth Cymru ac yn eu hadrodd i Lywodraeth Cymru yn flynyddol. Mae'r data hyn yn cwmpasu cyfnod o 5 mlynedd ac felly'n cynnwys pandemig COVID-19 yn ogystal â blynyddoedd ar ôl y pandemig. Dylid nodi bod rhai o'r ffigurau wedi gostwng yn 2020/21.  Yn ystod y cyfnod hwn, roedd llawer o wasanaethau'n gweithredu ar lefel is ac yn fwy hyblyg er mwyn eu galluogi i ymdopi â'r gofynion newidiol a ddaeth yn sgil COVID-19.

1.4 Yn ystod pandemig COVID-19, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau diwygiedig ar gyfer rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf i helpu gwasanaethau i barhau i weithredu i'r graddau yr oedd y trefniadau gweithio'n caniatáu. Diweddarwyd y canllawiau sawl gwaith drwy gydol y pandemig i sicrhau bod rhaglenni'n gallu addasu i'r newidiadau yn y sefyllfa iechyd cyhoeddus yng Nghymru. 

1.5 Cafodd y gwaith casglu data ar gyfer y rhaglen ei oedi yn ystod 2019/20 a 2020/21 er mwyn helpu i ryddhau gwasanaethau i ganolbwyntio ar gefnogi anghenion eu cymunedau yn ystod cyfnod digynsail ac anodd. Casglwyd data ar gyfer y cyfnod hwn yn ôl-weithredol

2. Y prif bwyntiau

Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd a'r Tîm o Amgylch y Teulu

2.1 Mae nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF) wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn (ar wahân i 2020/21, lle welwyd gostyngiad i 12,405), o 13,745 o atgyfeiriadau ledled Cymru yn 2018/19 i'r nifer uchaf o atgyfeiriadau a gofnodwyd erioed (19,685) yn 2022/23, sy'n gynnydd o 43%. 

2.2 Arweiniodd tua hanner yr atgyfeiriadau JAFF at deuluoedd yn cwblhau asesiad JAFF bob blwyddyn. Mae nifer yr asesiadau JAFF a gwblhawyd hefyd wedi cynyddu, o 7,645 yn 2018/19 i 11,095 yn 2022/23. Dyma'r nifer uchaf erioed o asesiadau JAFF a gofnodwyd ac mae'n gynnydd o 45% ers 2018/19. Yn ystod 2020/21 gostyngodd nifer yr asesiadau JAFF ychydig i 7,215, yn unol â'r gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau.

2.3 Mae nifer y Cynlluniau Gweithredu Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) sydd wedi'u llofnodi wedi codi bob blwyddyn ers 2018/19, o 5,540 yn 2018/19 i 9,620 yn 2022/23, sef y nifer uchaf erioed, sy'n gynnydd o 74% dros y cyfnod hwnnw.

2.4 Mae nifer y Cynlluniau Gweithredu TAF a gaewyd dros yr un cyfnod wedi codi bob blwyddyn ar wahân i gwymp bach yn 2020/21. Cafodd 5,370 o Gynlluniau Gweithredu TAF eu cau yn 2018/19, o'i gymharu ag 8,945 yn 2022/23, sef y nifer uchaf a gofnodwyd erioed. 

2.5 Gwelwyd tueddiad tebyg o ran nifer y Cynlluniau Gweithredu TAF a gaewyd gyda chanlyniad llwyddiannus, gyda'r nifer yn codi o 3,280 yn 2018/19 i'r nifer uchaf erioed o 5,560 yn 2022/23. Yn 2022/23 caewyd tua 62% o Gynlluniau Gweithredu TAF gyda chanlyniad llwyddiannus. Mae hyn wedi parhau'n gymharol gyson, gyda rhwng 57% a 63% o Gynlluniau Gweithredu TAF wedi'u cau gyda chanlyniad llwyddiannus bob blwyddyn ers 2014/15. 

Mesurau perfformiad cenedlaethol

2.6 Mae gan y rhaglen gyfres o Fesurau Perfformiad Cenedlaethol i helpu i ddarparu rhagor o dystiolaeth o effaith y rhaglen ar draws Cymru, yn enwedig mewn perthynas â'r prosiectau strategol. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol adrodd ar mesurau hynny sy'n berthnasol i gyflawni'r rhaglen yn eu hardal nhw yn unig.

2.7 Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu diffiniadau o'r Mesurau Perfformiad Cenedlaethol a rhai enghreifftiau o dystiolaeth ar gyfer marcio unigolion yn llwyddiannus yn eu herbyn.  Nid yw'r enghreifftiau hyn yn gynhwysfawr ac felly mae'r mesurau o lwyddiant yn erbyn y Mesurau Perfformiad Cenedlaethol yn oddrychol i bob awdurdod lleol ac nid yw pob awdurdod lleol yn adrodd yn erbyn pob mesur perfformiad, a gellir adrodd ar unigolion yn erbyn mwy nag un mesur perfformiad. 

2.8 Rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2023, gwelwyd tuedd ar i lawr yng nghanran y cyfranogwyr llwyddiannus a adroddwyd yn erbyn y Mesurau Perfformiad Cenedlaethol. Fodd bynnag, mae o leiaf 50% o'r rhai a adroddwyd yn erbyn pob mesur perfformiad wedi'u hadrodd yn gyfranogwyr llwyddiannus. 

2.9 Mae nifer y bobl mae Teuluoedd yn Gyntaf yn eu hadrodd yn erbyn y Mesurau Perfformiad Cenedlaethol hyn bellach ar ei uchaf erioed yn ôl ein cofnodion, ar ychydig dros 163,000 yn 2022/23. Sylwch y gellir adrodd ar unigolion yn erbyn mwy nag un mesur perfformiad. Felly, gall y ffigur hwn gynnwys elfen o gyfrif ddwywaith, ond mae'n dal i ddangos yn effeithiol gyrhaeddiad sylweddol y rhaglen.

2.10 Yn 2022/23 y Mesur Perfformiad Cenedlaethol gyda'r nifer uchaf o gyfranogwyr llwyddiannus oedd gwell llesiant emosiynol/meddyliol, ar 23,292. Y mesur perfformiad gyda'r gyfran uchaf o lwyddiant oedd rhieni sy'n elwa ar ymyrraeth rhianta (86%).

2.11 Mae'r ffigur isod yn dangos nifer y cyfranogwyr a gymerodd ran a nifer y cyfranogwyr llwyddiannus a adroddwyd yn erbyn pob mesur perfformiad cenedlaethol yn 2022/23. Caiff y rhain eu dangos o'r mesur perfformiad sydd â'r nifer uchaf o gyfranogwyr llwyddiannus i'r mesur â'r nifer isaf o gyfranogwyr llwyddiannus.

Image
Ffigur 1.0 – Graff o gyfranogwyr yn erbyn Mesurau Perfformiad Cenedlaethol Teuluoedd yn Gyntaf, 2022/23
Ffigur 1.0 – Graff o gyfranogwyr yn erbyn Mesurau Perfformiad Cenedlaethol Teuluoedd yn Gyntaf, 2022/23

Materion ansawdd data

2.12 Cafodd y gwaith o gasglu data monitro Teuluoedd yn Gyntaf ei oedi ym mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig COVID-19, a chasglwyd data ar gyfer 2019/20 a 2020/21 yn ôl-weithredol. O ganlyniad, nid oedd modd i bob awdurdod lleol gasglu pob eitem ddata yn gallu gan bob awdurdod lleol. Mae'r gwerthoedd coll yn y tablau cysylltiedig yn cael eu dynodi gan [x]. Dylid dehongli'r ffigurau o'r blynyddoedd hyn yn ofalus. 

2.13 Oherwydd newidiadau / problemau gyda systemau casglu data, nid oedd pob awdurdod lleol wedi gallu casglu gwybodaeth am elfen proffil anabledd rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf.

2.14 Cesglir data ychwanegol ar unigolion sy'n cyrchu prosiectau a gomisiynwyd gan y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Nid yw'r data hyn wedi'u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn oherwydd pryderon ynghylch ansawdd y data.