Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i ffioedd cytundeb tenantiaeth o 1 Medi 

Os ydych yn rhentu eich cartref gan landlord preifat neu asiant gosod eiddo, mae yna ffioedd penodol nad oes rhaid i chi eu talu. Os yw eich landlord neu eich asiant gosod eiddo yn gofyn i chi dalu'r ffioedd hyn, mae'n torri'r gyfraith a bydd yn cael dirwy.

Os wnaeth eich cytundeb tenantiaeth ddechrau cyn 1 Medi 2019

Os wnaeth eich tenantiaeth gyfredol ddechrau neu gael ei llofnodi cyn 1 Medi 2019, bydd angen i chi barhau i dalu'r ffioedd yn y denantiaeth hon.

Os yw eich cytundeb tenantiaeth yn dechrau ar ôl 1 Medi 2019

Os gwnaethoch chi gytuno ar gytundeb tenantiaeth ar ôl 1 Medi 2019, mae yna ffioedd penodol na fydd raid i chi eu talu.

Ffioedd na fydd rhaid i chi eu talu

  • llofnodi contract cytundeb tenantiaeth
  • adnewyddu cytundeb tenantiaeth
  • gofyn am restr wirio ynghylch cyflwr yr eiddo a'r eitemau ynddi cyn eich bod yn symud i mewn (a elwir yn ffi rhestr cynnwys a chyflwr)
  • ymweliadau yng nghwmni rhywun
  • ffi pan fyddwch yn symud i mewn (a elwir yn ffi symud i mewn)
  • ffi pan fyddwch yn symud allan (a elwir yn ffi symud allan)
  • ffioedd gweinyddol
  • ffioedd archwilio pan fyddwch yn symud allan

Taliadau y mae'n rhaid i chi eu talu

  • rhent
  • blaendaliadau sicrwydd (os bydd angen)
  • blaendaliadau i gadw eiddo (os bydd angen). Bydd y rhain yn ad-daladwy ac ni ddylech dalu mwy na wythnos o rent
  • talu rhent yn hwyr neu dorri cytundeb tenantiaeth (a elwir yn ddiffygdaliadau)  
  • treth gyngor (os yw'n rhan o'r cytundeb tenantiaeth)
  • cyfleustodau, er enghraifft dŵr, trydan (os yw'n rhan o'r cytundeb tenantiaeth)
  • trwydded teledu (os yw'n rhan o'r cytundeb tenantiaeth)
  • gwasanaethau cyfathrebu, er enghraifft rhyngrwyd, ffôn (os yw'n rhan o'r cytundeb tenantiaeth)