Adnabod y risg ddiweddaraf i'ch dofednod a'ch adar anwes a'r camau y mae'n ofynnol i chi eu cymryd.
Parth Atal Ffliw Adar – Diweddariad
Yn dilyn yr asesiad diweddaraf o'r risg i ddofednod o ran ffliw adar, cyhoeddodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru ar 11 Ebrill, y bydd y mesurau gorfodol i gadw dofednod ac adar caeth dan do yn dod i ben ledled Cymru. Mae hyn yn golygu o 00:01 ar y 18 Ebrill 2023 gall ceidwaid, os ydynt yn dewis, ganiatáu i'w hadar fod y tu allan.
Bydd Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) yn parhau mewn grym ledled Cymru nes bydd rhybudd pellach. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bob ceidwad adar yng Nghymru (p'un a oes ganddynt adar anwes, haid fasnachol neu iard gefn) barhau i gadw at y mesurau bioddiogelwch gorfodol a chwblhau'r Rhestr wirio hunan-asesu gorfodol hyd nes y clywir yn wahanol.
Er bod y lefelau risg wedi lleihau, mae'n bosibl y bydd yr haint yn dal yn bresennol yn yr amgylchedd. Dylai pob ceidwad adar gymryd mesurau rhagweithiol i baratoi ardaloedd y tu allan cyn i'w hadar gael eu rhyddhau'n ddiogel. Darllenwch ein harweiniad ar sut i baratoi ar gyfer pryd y gallwch adael eich adar tu allan eto.
Lansio ymgynghoriad ar reolau cofrestru newydd i geidwaid adar ym Mhrydain Fawr
Mae ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos i’r DU gyfan wedi’i lansio. Mae’n ceisio barn am reolau cofrestru newydd i bawb sy’n cadw adar ym Mhrydain Fawr. Mae’r rheolau arfaethedig yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i geidwaid adar eu cofrestru a chadw eu gwybodaeth yn gyfredol. Mae’r newidiadau arfaethedig yn rhan o waith y llywodraeth i fynd i’r afael â ffliw adar.
Gallwch ddod o hyd i fanylion yr ymgynghoriad hwn yn Ymgynghoriad ar ofynion cofrestru arfaethedig pob ceidwad adar ym Mhrydain Fawr (ar gov.uk).
Cyfnod gwahardd symud wedi cyflwyno am adar hela wedi’u dal
Yn dilyn asesiad risg trwyadl, mae mesurau rhagofalus ychwanegol wedi’u gyflwyno ynglŷn â symudiad adar hela wedi’u dal, yn ardaloedd lle mae ffliw adar yn bresennol. Fydd hon yn helpu lleihau risg lledaenu’r clefyd a chynnal ein safonau bioddiogelwch uchel. Mae’r mesurau newydd yma yn golygu ni fedrwch symud adar wedi’u dal yn ddiweddar am 21 diwrnod. Am drwyddedu symudiad adar hela unwaith ei bod nhw wedi’u dal, mae hefyd gofyniad bod gwiriadau milfeddygol yn cael eu cynnal ar yr adar a bod yr adar ddim yn cael eu hanfon i sawl safle.
Mesurau cadw dan do a bioddiogelwch gorfodol i ddiogelu rhag ffliw’r adar
O edrych ar sefyllfa’r ffliw adar, mae’r dystiolaeth yn awgrymu y bydd risg Ffliw Adar yng Nghymru yn cynyddu dros fisoedd y gaeaf. Felly, o ddydd Gwener, 2 Rhagfyr, mae mesurau cadw dan do a bioddiogelwch gorfodol newydd wedi eu cyflwyno ar gyfer dofednod ac adar caeth yng Nghymru.
Mae’n ofyn cyfreithiol ar bawb sy’n cadw adar i gadw eu hadar dan do neu wedi’u gwahanu mewn ffordd arall oddi wrth adar gwyllt. Rhaid i bob ceidwad adolygu hefyd y mesurau bioddiogelwch ar y safle lle cedwir yr adar a gweithredu ar hynny. Diben hyn yw cadw’r feirws rhag mynd i siediau’r adar, gan fod y feirws yn farwol i lawer o adar. Mae’r mesurau hyn yn ychwanegol at y rheini ym Mharth Atal Ffliw Adar Cymru, sy’n parhau’n hynod bwysig.
Cynghorir ceidwaid i ofyn barn eu milfeddyg os oes angen cyngor arnynt.
Rhestr wirio hunan-asesu gorfodol
Statws Diweddaraf: Parth Atal Ffliw Adar wedi Datgani
Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi datganu Parth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan o 17 Hydref 2022. Bydd y Parth Atal yn effeithio ar Gymru’n gyfan a bydd rhaid i holl geidwaid adar glynu wrth fesurau bioddiogelwch, sydd wedi’u manyli yn a datganiad.
Newid i reolau casglu adar
O’r 8 Tachwedd 2021, ni all crynoadau o
- galifform (gan gynnwys ffesantod, petris, sofliarod, ieir, twrciod, ieir gini) ac
- anserifform (gan gynnwys hwyaid, gwyddau, elyrch)
ddigwydd mwyach. Mae hyn yn dilyn cynnydd yn y risg o ffliw adar.
Y feirws Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI)
Mae’r risg o’r feirws HPAI (ffliw adar) yn cynyddu yn ystod y gaeaf. Rydym wedi nodi ei bod hi’n debygol mai adar y dŵr a gwylanod mudol sy’n gyfrifol am yr HPAI. (Mae adar y dŵr mudol yn cynnwys hwyaid, gwyddau ac elyrch.) Mae hyn yn seiliedig ar brofiad dros y ddau aeaf diwethaf, ynghyd â barn wyddonol a milfeddygol.
Ffliw Adar mewn adar gwyllt
Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn cynnal gwyliadwriaeth o ffliw adar drwy gydol y flwyddyn ar adar gwyllt marw a gyflwynir drwy adroddiadau cyhoeddus a gwaith wardeiniaid.
Cafwyd nifer o ganfyddiadau diweddar o HPAI H5N1 mewn adar gwyllt o safleoedd ledled Prydain Fawr. I gael rhagor o fanylion, gweler yr adroddiad (wedi'i ddiweddaru'n wythnosol) o ganfyddiadau HPAI mewn adar gwyllt ym Mhrydain Fawr a'n hasesiadau o achosion.
Os dewch o hyd i adar y dŵr gwyllt marw (elyrch, gwyddau neu hwyaid) neu adar gwyllt marw eraill, fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylech hysbysu llinell gymorth Defra (03459 335577).
Peidiwch â chyffwrdd na chodi unrhyw adar gwyllt sydd wedi marw neu sy'n amlwg yn sâl y dewch o hyd iddynt.
Bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn casglu rhai o'r adar hyn ac yn eu profi i'n helpu i ddeall sut mae'r clefyd yn cael ei ddosbarthu'n ddaearyddol ac mewn gwahanol fathau o adar.
Mae rhagor o wybodaeth ar adrodd a gwaredu aderyn marw.
Mae rhagor o wybodaeth am ddull Defra a Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â ffliw adar ar gael yn y Strategaeth Liniaru ar gyfer Ffliw Adar mewn Adar Gwyllt.
Achosion a gadarnhawyd
Mae ffliw adar wedi'i gadarnhau mewn adar mewn safleoedd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Achosion yng Nghymru
Mae'r achos canlynol o ffliw adar pathogenig iawn (HPAI) H5N1 wedi'i gadarnhau ar safle yng Nghymru.
Mae mwy o wybodaeth a statws cyfoes isod.
- ger Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn, Powys (27 Ebrill 2023)
- ger Trefaldwyn, Powys, Cymru (23 Ebrill 2023)
- trydydd safle ger Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn, Powys (13 Ebrill 2023)
- wedi’i gadarnhau ar ail safle ger Y Drenewydd, Powys (12/02/2023)
- ger Y Drenewydd, Powys
- ger Bwcle, Sir y Fflint
- ger Amlwch, Ynys Môn
- ger Dwyran, Ynys Môn
- ger Aberdaugleddau, Sir Benfro
- ger Arthog, Gwynedd
- ger Y Trallwng, Sir Drefaldwyn, Powys
- ger Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn, Powys
- ger Y Waun, Wrecsam, Cymru (ieir buarth ac adar gwyllt)
- ger Gaerwen, Ynys Môn, Cymru
- ger Crickhowell, Powys, Cymru
Achosion yn Lloegr sy'n effeithio ar Gymru
- ger Tattenhall, Swydd Gaer, Lloegr (9 Tachwedd 2022)
- ger Tattenhall, Swydd Gaer, Lloegr (13 Ionawr 2022)
- ger Clifford, Henffordd a De Swydd Henffordd, Swydd Henffordd, Lloegr
- ger Swydd Amwythig, Lloegr
- ger Leominster, Gogledd Henffordd, Lloegr
Achosion yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
- Lloegr – gwefan DEFRA
- Yr Alban – gwefan Llywodraeth yr Alban
- Gogledd Iwerddon – gwefan yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Gogledd Iwerddon (DAERA)
Ffliw Adar: Cymru (wedi’i gadarnhau ger Trefaldwyn, Powys)
Statws diweddaraf: 30/05/2023 – Codi’r Parth Gwarchod (Ffliw Adar).
Cafodd Ffliw Adar ei gadarnhau ar safle ger Trefaldwyn, Powys ar 27 Ebrill.
Mae Parth Gwarchod 3km o amgylch y safle wedi cael ei godi. Mae Parth Gwyliadwriaeth 10km o amgylch y safle heintiedig yn parhau i fod ar waith. Mae manylion y mesurau sydd ar waith yn y parth hwn yn y datganiad.
Ffliw Adar: Cymru (Wedi cadarnhau ger Trefaldwyn, Powys)
Diweddaru Statws 07/06/2023 – Codi’r parthau (ffliw’r adar)
Cafodd Ffliw Adar ei gadarnhau ar dri safle ger Y Drenewydd, Powys, ar 13 April, 23 Ebrill ar 27 Ebrill.
Yn dilyn cwblhau gweithgareddau rheoli’r clefyd yn y parth yn llwyddiannus, mae’r parth gwyliadwriaeth wedi’i ddirymu.
Statws diweddaraf: 17/05/2023 – Codi’r Parth Gwarchod (Ffliw Adar).
Cafodd Ffliw Adar ei gadarnhau ar safle ger Trefaldwyn, Powys ar 23 Ebrill.
Mae Parth Gwarchod 3km o amgylch y safle wedi cael ei godi. Mae Parth Gwyliadwriaeth 10km o amgylch y safle heintiedig yn parhau i fod ar waith. Mae manylion y mesurau sydd ar waith yn y parth hwn yn y datganiad.
Ffliw Adar: Cymru (wedi’i gadarnhau ger Trefaldwyn, Powys)
Statws diweddaraf: 30/05/2023 – Codi’r Parth Gwarchod (Ffliw Adar).
Mae Ffliw Adar wedi’i gadarnhau ar safle ger Y Drenewydd, Powys ar 13 Ebrill.
Cafodd Ffliw Adar ei gadarnhau ar safle ger Trefaldwyn, Powys ar 13 Ebrill.
Mae Parth Gwarchod 3km o amgylch y safle wedi cael ei godi. Mae Parth Gwyliadwriaeth 10km o amgylch y safle heintiedig yn parhau i fod ar waith. Mae manylion y mesurau sydd ar waith yn y parth hwn yn y datganiad.
Diweddaru Statws 13/03/2023 – Codi’r parthau (ffliw’r adar)
Cafodd achos o ffliw’r adar ei gadarnhau ar safle ger y Drenewydd, Powys ar 12 Chwefror.
Yn dilyn cynnal gweithgareddau rheoli clefyd yn y parth yn llwyddiannus, mae’r Parth Adar Caeth (Monitro) wedi’i ddirymu.
Statws diweddaraf: 12/02/2023 – Mae Ffliw Adar wedi’i gadarnhau ar ail safle ger Y Drenewydd, Powys.
Mae Ffliw Adar wedi’i gadarnhau ar safle ger Y Drenewydd, Powys ar 12 Chwefror.
Mae Parth Adar (Monitro) 3km wedi'i roi ar waith o amgylch yr adeilad heintiedig. Gallwch ddarganfod manylion y mesurau sydd yn gweithredu yn y parth yn y datganiad.
Gwelwch lle mae parthau rheoli clefyd wedi’u sefydlu ac os rydych mewn parth ar y map rhyngweithiol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Ffliw Adar: Cymru (Wedi cadarnhau ger Y Drenewydd, Powys)
Diweddaru Statws 13/03/2023 – Codi’r parthau (ffliw’r adar)
Cafodd achos o ffliw’r adar ei gadarnhau ar safle ger y Drenewydd, Powys ar 6 Chwefror.
Yn dilyn cynnal gweithgareddau rheoli clefyd yn y parth yn llwyddiannus, mae’r Parth Adar Caeth (Monitro) wedi’i ddirymu.
Statws diweddaraf: 06/02/2023 – Mae Ffliw Adar wedi’i gadarnhau ar safle ger Y Drenewydd, Powys.
Mae Ffliw Adar wedi’i gadarnhau ar safle ger Y Drenewydd, Powys ar 6 Chwefror.
Mae Parth Adar (Monitro) 3km wedi'i roi ar waith o amgylch yr adeilad heintiedig. Gallwch ddarganfod manylion y mesurau sydd yn gweithredu yn y parth yn y datganiad.
Gwelwch lle mae parthau rheoli clefyd wedi’u sefydlu ac os rydych mewn parth ar y map rhyngweithiol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
Ffliw Adar: Lloegr (Wedi cadarnhau ger Tattenhall, Swydd Gaer)
Statws diweddaraf: 09/02/2023 – Parthau wedi’i ddirymu (Ffliw Adar).
Cafodd achos o Ffliw Adar ei gadarnhau ar safle ger Tattenhall, Swydd Gaer ar 8 Tachwedd.
Ar ôl cynnal gweithgareddau rheoli clefyd a gwyliadwriaeth lwyddiannus yn y parth, mae’r Parth Gwarchod a’r Parth Gwyliadwriaeth wedi’i dirymu.
Ffliw Adar: Cymru (Wedi cadarnhau Bwcle, Sir y Fflint, Cymru)
Statws diweddaraf: 20/12/2022 – Parth wedi’i ddirymu (Ffliw Adar).
Cafodd Ffliw Adar ei gadarnhau ar safle ger Bwcle, Sir y Fflint ar 7 Tachwedd.
Yn dilyn cwblhad llwyddianus gweithgareddau rheoli clefyd yn y parth, mae’r Parth Adar Caeth (Monitro) wedi’i ddirymu.
Ffliw Adar – Cymru (Wedi cadarnhau ger Amlwch, Ynys Môn)
Statws diweddaraf: 25/11/2022 – Parthau wedi’i ddirymu (Ffliw Adar).
Cafodd achos o Ffliw Adar ei gadarnhau ar safle ger Amlwch, Ynys Môn ar 23 Hydref 2022.
Ar ôl cynnal gweithgareddau rheoli clefyd a gwyliadwriaeth lwyddiannus yn y parth, mae’r Parth Gwarchod a’r Parth Gwyliadwriaeth wedi’i dirymu.
Ffliw Adar – Cymru (Wedi cadarnhau ger Dwyran, Ynys Môn)
Statws diweddaraf: 23/11/2022 – Parthau wedi’i ddirymu (Ffliw Adar)
Cafodd achos o Ffliw Adar ei gadarnhau ar safle ger Dwyran, Ynys Môn ar 16 Hydref 2022.
Ar ôl cynnal gweithgareddau rheoli clefyd a gwyliadwriaeth lwyddiannus yn y parth, mae’r Parth Gwarchod a’r Parth Gwyliadwriaeth wedi’i dirymu.
Ffliw Adar – Cymru (Wedi cadarnhau ger Aberdaugleddau, Sir Benfro)
Statws diweddaraf: 31/10/2022 - Mae'r Parth Gwyliadwriaeth wedi'i dirymu.
Roedd achos o Ffliw Adar wedi’i gadarnhau ar safle ger Aberdaugleddau, Sir Benfro ar 9 Medi 2022.
Ar ôl cynnal gweithgareddau rheoli clefyd a gwyliadwriaeth lwyddiannus yn y parth, ar 31 Hydref, mae’r Parth Gwyliadwriaeth wedi’i dirymu.
Ffliw Adar – Cymru (Wedi cadarnhau ger Arthog, Gwynedd)
Statws diweddaraf: 07/10/2022 - Mae'r Parth Gwyliadwriaeth wedi'i dirymu.
Roedd achos o Ffliw Adar wedi’i gadarnhau ar safle ger Arthog, Gwynedd ar 5 Medi 2022.
Ar ôl cynnal gweithgareddau rheoli clefyd a gwyliadwriaeth lwyddiannus yn y parth, ar 7 Hydref, mae’r Parth Gwyliadwriaeth wedi’i dirymu.
Statws diweddaraf: 30/03/2022 - Mae'r Parth Gwyliadwriaeth a'r Parth Cyfyngedig wedi'u dirymu.
Roedd achos o Ffliw Adar wedi’i gadarnhau ar safle Ger Drenewydd, Powys ar 21 Chwefror 2022.
Ar ôl cynnal gweithgareddau rheoli clefyd a gwyliadwriaeth llwyddiannus yn y parth, ar 30 Mawrth, mae’r Parth Gwyliadwriaeth a’r Parth Cyfyngedig bellach wedi’i ddirymu.
Achos wedi'i gadarnhau ger Y Trallwng, Powys
Statws diweddaraf: 30/03/2022 - Mae'r Parth Gwyliadwriaeth a'r Parth Cyfyngedig wedi'u dirymu.
Roedd achos o Ffliw Adar wedi’i gadarnhau ar safle Ger Trallwng, Powys ar 21 Chwefror 2022.
Ar ôl cynnal gweithgareddau rheoli clefyd a gwyliadwriaeth llwyddiannus yn y parth, ar 30 Mawrth, mae’r Parth Gwyliadwriaeth a’r Parth Cyfyngedig bellach wedi’i ddirymu.
Achos wedi'i gadarnhau yng Swydd Gaer, Lloegr
Statws diweddaraf: 29/03/2022 - Mae'r Parth Gwyliadwriaeth a'r Parth Cyfyngedig wedi'u dirymu.
Mae Ffliw Adar wedi’i gadarnhau ar safle ger Tattenhall yng Swydd Gaer, Lloegr ar 13 Ionawr.
Ar ôl cynnal gweithgareddau rheoli clefyd a gwyliadwriaeth llwyddiannus yn y parth, ar 29 Mawrth, mae’r Parth Gwyliadwriaeth a’r Parth Dan Gyfyngiadau bellach wedi’i ddirymu.
Achos wedi'i gadarnhau ar Ynys Môn, Cymru
Statws diweddaraf: 27/12/2021 - Mae'r Parth Gwyliadwriaeth a'r Parth Cyfyngedig wedi'u dirymu.
Mae achos o Ffliw Adar wedi’i gadarnhau mewn ieir buarth ar Ynys Môn ar 25 Tachwedd 2021. Yn dilyn profion pellach mae wedi ei gadarnhau fel ffliw adar pathogenaidd uchel ar 26 Tachwedd 2021.
Ar ôl cynnal gweithgareddau rheoli clefyd a gwyliadwriaeth llwyddiannus yn y parth, ar 27 Rhagfyr, mae’r Parth Gwyliadwriaeth a’r Parth Dan Gyfyngiadau bellach wedi’i ddirymu.
Achos wedi'i gadarnhau yn Swydd Amwythig, Lloegr
Statws diweddaraf: 09/02/2022 – Mae’r Parth Gwarchod, Parth Gwyliadwriaeth a’r Parth Cyfyngedig wedi’u ddiddymu.
Roedd Ffliw Adar wedi’i gadarnhau ar safle yn Swydd Amwythig, Lloegr ar 15 Rhagfyr 2021.
Yn dilyn gweithgareddau rheoli clefyd ac arolygu llwyddiannus yn y parth, o’r 9 Chwefror 2022, mae’r parthau rheoli clefyd yn Lloegr a’r Parth Gwyliadwriaeth a'r Parth Cyfyngedig yng Nghymru wedi'u ddiddymu.
Achos wedi'i gadarnhau ger Clifford, Swydd Henffordd, Lloegr
Statws diweddaraf: 25/01/2022 – Mae’r Parth Gwarchod, Parth Gwyliadwriaeth a’r Parth Cyfyngedig wedi’u ddiddymu.
Roedd Ffliw Adar wedi’i gadarnhau ar safle yn Swydd Henffordd, Lloegr ar 10 Rhagfyr 2021.
Yn dilyn cwblhad llwyddiannus gweithgareddau rheoli clefyd a gwyliadwriaeth yn y parth, ar 25 Ionawr 2022, mae’r parthau rheoli clefyd yn Lloegr a’r Parth Gwyliadwriaeth a'r Parth Cyfyngedig yng Nghymru wedi'u ddiddymu.
Achos wedi'i gadarnhau ger Crucywel, Powys
Statws diweddaraf: 10/01/2022 - Mae'r Parth Gwyliadwriaeth a'r Parth Cyfyngedig wedi'u dirymu.
Cafodd achos o Ffliw Adar ei gadarnhau mewn safle ger Crucywel, Powys ar 3 Rhagfyr 2021.
Yn dilyn cwblhad llwyddiannus gweithgareddau rheoli clefyd a gwyliadwriaeth yn y parth, ar 10 Ionawr 2022, mae’r Parth Gwyliadwriaeth a’r Parth Dan Gyfyngiadau bellach wedi’i ddirymu.
Achos wedi'i gadarnhau ger Leominster, Swydd Henffordd, Lloegr
Statws diweddaraf: 14/01/2022 - Mae'r Parth Gwyliadwriaeth a'r Parth Cyfyngedig wedi'u dirymu.
Cafodd achos o Ffliw Adar ei gadarnhau mewn safle ger Swydd Henffordd, Lloegr ar 2 Rhagfyr.
Yn dilyn cwblhad llwyddiannus gweithgareddau rheoli clefyd a gwyliadwriaeth yn y parth, ar 14 Ionawr 2022, mae’r parthau rheoli clefyd yn Lloegr a’r Parth Gwyliadwriaeth a'r Parth Cyfyngedig yng Nghymru wedi'u dirymu.
Achos wedi'i gadarnhau yn Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymru
Statws diweddaraf: 03/12/2021 – Mae’r Parth Gwyliadwriaeth a’r Parth Cyfyngedig wedi’u ddirymu.
Mae achos o Ffliw Adar wedi’i gadarnhau mewn ieir buarth yn Wrecsam ar 1 Tachwedd 2021. Yn dilyn profion pellach mae wedi ei gadarnhau fel ffliw adar pathogenaidd uchel ar 2 Tachwedd 2021.
Ar ôl cynnal gweithgareddau rheoli clefyd a gwyliadwriaeth llwyddiannus yn y parth, ar 3 Rhagfyr, mae’r Parth Gwyliadwriaeth a’r Parth Dan Gyfyngiadau bellach wedi’i ddirymu.
Ardaloedd Risg Uwch (HRAs)
Mae adar y dŵr a gwylanod mudol yn peri bygythiad gan y gallent gyflwyno’r feirws i eiddo lle mae dofednod, adar hela, adar anwes neu adar caeth eraill yn cael eu cadw. Gallai hyn fod trwy gysylltiad uniongyrchol neu gysylltiad anuniongyrchol, megis drwy faw adar. Rydym wedi nodi ardaloedd ym Mhrydain sy’n wynebu risg uwch o adar y dŵr gwyllt yn cyflwyno’r feirws HPAI i ddofednod ac adar a gedwir. Rydym yn cyfeirio at y rhain fel ‘Ardaloedd Risg Uwch’ (HRAs).
Er bod yr ardaloedd hyn yn wynebu risg uwch, dylech nodi bod pob math o ddofednod yn dal i wynebu risg o adar gwyllt, gan gynnwys:
- adar hela
- dofednod a gedwir fel anifeiliaid anwes
Cwestiynau Cyffredin (FAQs) am Ardaloedd Risg Uwch (HRAs)
Pa fesurau sy'n ofynnol mewn HRA?
Rydym yn defnyddio HRAs i:
- dargedu rhaglenni gwyliadwriaeth statudol ac adar gwyllt
- nodi’r ardaloedd ym Mhrydain sy’n wynebu’r risg fwyaf o ffliw adar yn bresennol mewn adar gwyllt
Efallai y byddwn yn ystyried bioddiogelwch ychwanegol trwy ddatgan Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ). Byddai datgan parth o’r fath yn seiliedig ar risg.
Ni fyddai’r gofyniad i gadw adar maes mewn cytiau/siediau yn cael ei gyflwyno mewn HRAs yn unig o reidrwydd. Byddai unrhyw benderfyniad i gadw adar mewn cytiau/siediau mewn unrhyw ran o Brydain yn unol ag ystyriaethau risg.
Os ydych chi’n cynllunio uned ddofednod newydd, dylech ystyried y risg o HPAI yn yr ardal honno.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n cadw dofednod neu adar caeth?
Os ydych chi’n cadw dofednod, gan gynnwys adar hela, adar anwes neu adar caeth eraill mewn unrhyw ran o Brydain, dylech adolygu eich bioddiogelwch. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi mewn ardal risg uwch neu’n agos at ardal risg uwch. Rydym yn annog pob ceidwad i ddilyn ein cyngor bioddiogelwch. Mae’n cynnig arfer gorau, waeth a oes gennych chi gasgliadau masnachol, casgliadau llai o faint, adar hela neu adar anwes.
A yw fy naliad mewn/yn ymyl Ardal Risg Uwch?
Ystyrir eich bod chi mewn HRA os yw eich eiddo, neu ran o’ch eiddo, yn yr HRA.