Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am ffyrdd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd ac ymddygiad oedolion sy'n byw yng Nghymru ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Ni ddylid cymharu canlyniadau â blynyddoedd cyn 2020-21 (pan oedd cyfweliadau dros y ffôn yn disodli cyfweliadau wyneb yn wyneb).

Prif bwyntiau

  • Dywedodd 13% o oedolion eu bod yn ysmygu ar hyn o bryd.
  • Dywedodd 16% o oedolion eu bod yn yfed mwy na'r canllaw wythnosol (hynny yw, mwy nag 14 uned yr wythnos ar gyfartaledd).
  • Dywedodd 30% eu bod yn bwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol.
  • Dywedodd 56% o oedolion eu bod wedi gwneud o leiaf 150 munud weithgarwch corfforaethol yn yr wythnos flaenorol.
  • Dywedodd 36% o oedolion eu bod yn bwysau iach.
  • Dywedodd 93% o oedolion eu bod yn dilyn 2 neu fwy o'r 5 ymddygiad iach.

Roedd oedolion yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf yn llai tebygol o adrodd am ymddygiad ffordd iach o fyw na'r rhai yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf, roedd hyn yn wir am bob ymddygiad ac eithrio yn yfed mwy na'r canllaw.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Cath Roberts

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.