Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am ffyrdd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd ac ymddygiad oedolion sy'n byw yng Nghymru ar gyfer Ionawr i Fawrth 2021.

Addaswyd Arolwg Cenedlaethol 2020-21 oherwydd pandemig y coronafeirws (gyda chyfweliadau dros y ffôn yn disodli cyfweliadau wyneb yn wyneb a rhai newidiadau i’r cynnwys). Chwarter olaf 2020-21 (Ionawr i Fawrth 2021) oedd y chwarter cyntaf pan ofynnwyd cwestiynau am bob un o'r pum ymddygiad ffordd o fyw iach, ac adroddir ar y canlyniadau hyn yma.

Ni ddylid cymharu'r canlyniadau ar ffordd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd o 2020-21 â chanlyniadau rhifynnau blaenorol o Arolwg Cenedlaethol Cymru oherwydd y newid ym modd yr arolwg (ac, mewn rhai achosion, yr angen i addasu cwestiynau). Gall y pynciau hyn fod yn sensitif i newidiadau o'r fath. Bwriadwn edrych ar hyn yn fanylach yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Prif bwyntiau

  • Dywedodd 14% o oedolion eu bod yn ysmygu ar hyn o bryd.
  • Dywedodd 17% o oedolion eu bod yn yfed mwy na'r canllaw wythnosol (hynny yw, mwy nag 14 uned yr wythnos ar gyfartaledd).
  • Dywedodd 31% eu bod yn bwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol.
  • Dywedodd 51% o oedolion eu bod wedi gwneud o leiaf 150 munud weithgarwch corfforaethol yn yr wythnos flaenorol.
  • Dywedodd 37% o oedolion eu bod yn bwysau iach.
  • Dywedodd 7% o oedolion eu bod yn dilyn llai na 2 o'r 5 ymddygiad iach.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.