Neidio i'r prif gynnwy

1. Beth yw pwnc yr ymgynghoriad hwn?

​​​​​1.1 Diben yr ymgynghoriad hwn yw clywed eich barn am y Fframwaith Canlyniadau newydd ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd (EHOF)

1.2 Pwrpas bras Fframwaith Canlyniadau yw cynnig ffordd strwythuredig o ddiffinio a mesur y canlyniadau y bwriedir i raglen, polisi neu fenter esgor arnynt ac i adrodd arnynt. Mae'n nodi'r canlyniadau neu'r newidiadau y mae rhaglen/polisi/menter yn anelu at eu cyflawni, yn ogystal â'r dangosyddion neu'r mesurau a ddefnyddir i fesur cynnydd at y canlyniadau hynny.

1.3 Datblygwyd yr EHOF i roi cyfeiriad strategol clir ar gyfer atal digartrefedd a rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru trwy nodi'r canlyniadau tymor hir a ddymunir a dangos y cynnydd at gyflawni'r canlyniadau hynny dros amser. 

1.4 Mae'r EHOF wedi'i gynllunio yn benodol i ddangos effaith y camau lefel uchel a nodir yn y Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd a’r hyn sy’n cael ei wneud i’w cymryd. Cafodd ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2021. Gweler Adran 2: Y Cefndir am fwy o wybodaeth am y Cynllun Gweithredu. 

1.5 Mae Llywodraeth Cymru yn eich gwahodd i ymateb i'r cwestiynau ymgynghori, i’n helpu i i lunio’r Fframwaith Canlyniadau terfynol ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd. 

2. Y Cefndir 

2.1Ystyr digartrefedd yw sefyllfa pan nad oes gan berson lety neu pan nad yw ei ddaliadaeth yn sicr. Gall digartrefedd, neu'r risg ohono, gael effaith enbyd ar unigolion a theuluoedd, gan effeithio ar eu hiechyd a'u lles corfforol a meddyliol, eu hynysu rhag eu cymunedau lleol a chael effaith negyddol ar gymdeithas.

2.2 Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth o Gymru lle mae gan bawb gartref diogel sy'n diwallu ei anghenion ac sy'n cynnal bywyd iach, llwyddiannus a llewyrchus.  Cymru lle rydym yn gweithio gyda'n gilydd i atal digartrefedd a phan na ellir ei atal, sicrheir ei fod yn brin, yn fyrhoedlog ac na fydd yn digwydd eto.

2.3 Cydnabyddir na all tai ar eu pen eu hunain atal digartrefedd na’n helpu i wireddu’r weledigaeth hon, a bod gan bob gwasanaeth cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru ei ran i’n helpu i wireddu’r weledigaeth.

Y Rhaglen Lywodraethu

2.4 Yn fersiwn ddiweddaraf Llywodraeth Cymru o’i Rhaglen Lywodraethu 2021-2026, ceir ymrwymiad i: Ddiwygio cyfraith tai a gweithredu argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol er mwyn canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu’n gyflym.

Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd

2.5 Mae datblygu’r Fframwaith Canlyniadau newydd ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yn gam allweddol (Cam 13) yng Nghynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021. Nod y Cynllun Gweithredu yw rhoi cyfarwyddyd lefel uchel ar gyfer y gwaith sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Sail y Cynllun Gweithredu yw Strategaeth ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd 2019 ac argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd o arbenigwyr yn ei adroddiadau ym mis Gorffennaf 2020. Dangosir yr esblygiad hwn yn Niagram 1 isod:

Diagram 1: Datblygiad y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd

Image
Diagram 1: Datblygiad y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd

 

3. Beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd ?

3.1 Ar hyn o bryd nid oes Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru.  Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i ddatblygu Fframwaith Canlyniadau ar gyfer rhoi diwedd ar ddigartrefedd. 

3.2 Er bod Llywodraeth Cymru yn casglu data i fonitro maint digartrefedd yng Nghymru, trwy Wybodaeth Reoli Fisol ac Ystadegau Digartrefedd Statudol blynyddol a gyhoeddir, nid oes fframwaith penodol sy'n dod â’r data sydd ar gael ynghyd mewn fformat hygyrch sy'n canolbwyntio'n llwyr ar y gwaith sy’n cael ei wneud i atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

3.3 Felly, nod y Fframwaith Canlyniadau hwn ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yw rhoi cyfeiriad strategol cliriach ar gyfer rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Gwna hynny drwy nodi'r canlyniadau hirdymor a ddymunir a dangos y cynnydd at gyflawni'r canlyniadau hynny dros amser, hynny trwy 'ddangosyddion data' sydd wedi'u dewis a’u cynnig i fesur y gwaith sy’n cael ei wneud i gyflawni’r canlyniadau a gynigir yn yr EHOF.     

Datblygiad y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd

3.4 Ym mis Tachwedd 2021, o dan gylch gwaith yr EHNAB, sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen Strategol ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd i gyd-gynhyrchu'r EHOF a gyflwynir ar gyfer yr ymgynghoriad hwn. Roedd y grŵp (gweler Atodiad A) yn cynnwys rhanddeiliaid allanol allweddol, gan gynnwys aelodau o'r EHNAB ac aelodau hanesyddol y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd. Gydol ei waith, gwnaeth y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Strategol ddiweddaru’r EHNAB ar brif gamau datblygu’r EHOF.

3.5 Ers ei sefydlu, mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi bod yn fforwm i aelodau drafod a chytuno ar y canlyniadau tymor hir a ddymunir ar gyfer pobl Cymru. Seiliwyd eu trafod gan y themâu allweddol, yr egwyddorion polisi a'r camau y cytunwyd arnynt - fel y'u diffinnir yng Nghynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd - sydd eu hangen ar draws y gwasanaethau digartrefedd a tai, y trydydd sector a’r gwasanaethau cyhoeddus ehangach yng Nghymru i roi diwedd ar ddigartrefedd.

3.6 Ochr yn ochr â hynny, cafodd y canlyniadau manwl hyn a gynigiwyd eu hystyried gan ddau Grŵp Gorchwyl a Gorffen arall sydd hefyd yn atebol i’r EHNAB:

  • Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ailgartrefu Cyflym wedi cynghori ar Ganlyniad Strategol 2: Byrhoedlog.
  • Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweithlu wedi cynghori ar Ganlyniad Strategol 4: Y Gweithlu

3.7 Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Strategol ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd wedi bod yn gyfrifol hefyd am nodi ystod o 'ddangosyddion data' i fesur pob canlyniad manwl. Awgrymwyd 'rhestr hir' o ddangosyddion data ganddynt. Cafodd honno ei mireinio wedi hynny gan swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a fu’n gweithio'n agos gyda chydweithwyr ystadegol. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i ffynonellau data eraill a dichonoldeb casglu data yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod y 'dangosyddion data' a gynigir yn hysbysu ac yn mesur cynnydd pob canlyniad manwl yn gywir.   

Prif egwyddorion y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd 

3.8   Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi mabwysiadu’r prif egwyddorion canlynol ar gyfer datblygu’r EHOF.

        Dylai’r canlyniadau:

  • fod yn gyson â phrif themâu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd
  • cael eu grwpio’n ganlyniadau cyffredinol ‘Strategol’ gyda chanlyniadau manwl yn sail iddynt
  • fod yn ganlyniadau tymor hir neu ‘derfynol’ ar gyfer pobl Cymru
  • Wedi’u mynegi mewn iaith syml a phlaen ac mewn ffordd bositif

        Dylai’r ‘dangosyddion data’:

  • fod â ffocws a bod yn benodol, er mwyn sicrhau ein bod yn mesur agweddau pwysicaf digartrefedd i ddeall y gwaith sy’n cael ei wneud mewn cysylltiad â phob canlyniad manwl
  • cyfateb i’w maint, gan adlewyrchu lefel y cymhlethdod sydd ynghlwm wrth fesur canlyniad manwl
  • defnyddio ffynonellau data cadarn os medrir, fel ystadegau swyddogol neu wybodaeth reoli
  • fod yn seiliedig ar fesuriadau data sy’n bod os medrir, ond gallant fod yn seiliedig ar fesuriadau data i’w casglu yn y dyfodol os nad ydynt yn bod eto.  

4. Sut caiff y Fframwaith Canlyniadau ei ddefnyddio?

4.1 Gan ddibynnu ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, ein gobaith yw cyhoeddi’r Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yn yr Gaeaf 2023 gyda’n hymateb i’r ymgynghoriad hwn.

Cynlluniau gweithredu

4.2 Rydym yn cynnig cychwyn rhoi’r Fframwaith Canlyniadau ar waith ddechrau 2024 trwy gyhoeddi adroddiad 'llinell sylfaen' i adlewyrchu'r 'dangosyddion data' terfynol y cytunir arnynt ac sy'n cael eu casglu ar hyn o bryd.

4.3 Wedi hynny, rydym yn bwriadu diweddaru’r adroddiad 'llinell sylfaen’ bob blwyddyn i fesur y cynnydd at gyflawni'r canlyniadau manwl.

Adolygu a Datblygiad yn y Dyfodol

4.4 Bydd y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yn rhoi naratif clir o’r gwaith rydym wedi’i wneud hyd y pwynt hwnnw i gyflawni’r canlyniadau tymor hir. Bydd felly yn sail i gynigion polisi yn y dyfodol ac yn ein helpu i weld ble nad oes data wedi’u casglu a datrys hynny.

4.5 Bydd yr EHOF felly’n esblygu dros amser, i sicrhau ei fod yn berthnasol i’r amgylchedd rydym yn gweithredu ynddo a'r data sydd ar gael ac yn ymateb i hynny. Bydd yr EHOF yn cael ei adolygu ar ôl y diwygiadau polisi a deddfwriaethol sydd yn yr arfaeth, yn unol â’r ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu 2021-2026, i sicrhau bod ein canlyniadau'n parhau i ddangos ein cynnydd at roi diwedd ar ddigartrefedd ledled Cymru.

5. Y Fframwaith Canlyniadau a gynigir ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd

Cysyniad y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd

5.1 O ystyried ehangder y Cynllun Gweithredu ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd, a'r ystod eang o ganlyniadau sy’n rhan o’n nod tymor hir i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, rydym wedi trefnu’r Fframwaith Canlyniadau fel a ganlyn:

  • Canlyniadau Strategol – Nodi'r canlyniadau cyffredinol bras sy’n adlewyrchu prif themâu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd.
  • Canlyniadau Manwl – Fel sail i bob Canlyniad Strategol, ceir ystod o ganlyniadau manwl i ddiffinio'r canlyniadau penodol a ddymunir ar gyfer pobl Cymru.
  • Dangosyddion data – Mae gan bob canlyniad manwl o leiaf un 'dangosydd data' fydd yn cael ei ddefnyddio i fesur cynnydd dros amser at gyflawni’r canlyniad.

Dangosir hyn yn Niagram 2 isod:

Diagram 2: Darlun cysyniadol o’r modd y datblygwyd y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd

Image
Diagram 2: Darlun cysyniadol o’r modd y datblygwyd y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd

 

5.2 O ystyried pwysigrwydd sicrhau bod y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yn ateb y diben ac yn nodi prif ganlyniadau hirdymor ein nod cyffredinol i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, cyhoeddir y Fframwaith Canlyniadau llawn ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ochr yn ochr â'r ddogfen ymgynghori hon. Mae'n nodi'r Canlyniadau Strategol a'r canlyniadau manwl sy'n sail i bob Canlyniad Strategol. Mae hefyd yn cyflwyno'r 'dangosyddion data' sydd wedi'u dewis a’u cynnig i fesur cynnydd dros amser at gyflawni pob canlyniad manwl. Dylid darllen y ddogfen honno ochr yn ochr â'r ddogfen ymgynghori hon.

5.3 Ceisir eich barn am y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd. Dylid ystyried y Fframwaith yn ei gyfanrwydd, ond rydym hefyd yn croesawu eich barn am bob un o'r Canlyniadau Strategol unigol a gynigir (cwestiwn ymgynghori 1), a'r canlyniadau manwl ar gyfer pob un (cwestiynau ymgynghori 2 a), b) ac c).  Lle bo'n berthnasol, gofynnwyd cwestiynau penodol am y 'dangosyddion data' a gynigir.

5.4 Mae'r adran nesaf yn cyflwyno'r cwestiynau ymgynghori, ochr yn ochr â'r rhesymau pam y mae‘r Canlyniadau Strategol wedi’u cynnig. Mae hefyd yn esbonio pam y mae’r canlyniadau manwl wedi’u cynnig ar gyfer eu Canlyniadau Strategol.