Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ar 27 Chwefror 2023, codwyd lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i lefel 5, sef mesurau arbennig. Roedd y penderfyniad hwn yn adlewyrchu’r ymateb i bryderon difrifol a oedd wedi bodoli ers tro ynghylch effeithiolrwydd y bwrdd, diwylliant sefydliadol, ansawdd gwasanaethau ac ad-drefnu, llywodraethiant, diogelwch cleifion, cyflawni gweithredol, arweinyddiaeth a rheolaeth ariannol.

Lefel 5 (mesurau arbennig) yw’r lefel uwchgyfeirio uchaf yn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio’r GIG. Caiff ei chymhwyso pan fydd sefydliadau yn wynebu problemau difrifol a phan fydd pryderon na allant wneud y gwelliannau angenrheidiol heb gymorth allanol.  Maent yn cynnwys cyfres o ymyriadau sydd wedi’u cynllunio i ddatrys y problemau o fewn amserlen resymol.  Bydd cymorth bob amser wedi’i gynllunio a’i gyflawni yn y cyd-destun sefydliadol perthnasol a chaiff anghenion cymorth penodol eu hadolygu drwy gyfarfodydd goruchwylio rheolaidd a threfniadau goruchwylio manylach ychwanegol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â chamau gweithredu ac ymyriadau uniongyrchol a’u cydgysylltu er mwyn cynorthwyo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gryfhau ei allu i ysgogi gwelliannau.

Hanes yr uwchgyfeirio

Rhagfyr 2013

Gosodwyd y bwrdd iechyd mewn prosesau monitro uwch yn sgil pryderon am ansawdd a diogelwch gwasanaethau iechyd meddwl a phryderon ehangach ynghylch cyllid, perfformiad o ran targedau, gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau.

Tachwedd 2014

Cafodd y bwrdd iechyd ei uwchgyfeirio o brosesau monitro uwch i ymyrraeth wedi’i thargedu. Roedd hyn yn sgil pryderon yn ymwneud â newidiadau sylweddol yn y cynllun ariannol ar gyfer 2014 i 2015 a phryderon am allu’r sefydliad i ddarparu cynllun diwygiedig; pryderon sylweddol ynghylch darpariaeth, diogelwch ac ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl; a rheolaeth a gweithdrefnau rheoli cynlluniau cyfalaf, cynllunio cyfalaf a rheoli arian parod cyfalaf.  Yn ogystal, codwyd pryderon am berfformiad y sefydliad yn erbyn targedau perfformiad gwasanaethau Llywodraeth Cymru.

Mehefin 2015

Cafodd y bwrdd iechyd ei uwchgyfeirio o ymyrraeth wedi’i dargedu i fesurau arbennig. Nodwyd bod 5 maes allweddol i’w gwella sef:

  • llywodraethiant
  • arweinyddiaeth a goruchwylio
  • gwasanaethau iechyd meddwl
  • gwasanaethau mamolaeth
  • gofal sylfaenol (yn arbennig gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau)
  • ymgysylltu â’r cyhoedd

Chwefror 2018

Cafodd gwasanaethau mamolaeth eu hisgyfeirio o destun pryder mesurau arbennig penodol.

Chwefror 2019

Cafodd gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau eu hisgyfeirio o destun pryder mesurau arbennig penodol.

Tachwedd 2020

Cafodd y bwrdd iechyd ei isgyfeirio o fesurau arbennig i ymyrraeth wedi’i dargedu.

Chwefror 2023

Gosodwyd y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig (lefel 5).

Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru

Mae Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru yn amlinellu proses Llywodraeth Cymru ar gyfer goruchwylio cyrff y GIG a chael sicrwydd drwy’r system gyfan. Mae’n disgrifio’r broses uwchgyfeirio, isgyfeirio ac ymyrryd, y pum lefel uwchgyfeirio a’r parthau y caiff pob corff iechyd ei asesu yn eu herbyn. 

Yn ystod prosesau uwchgyfeirio, bydd yr ymyriadau:

  • yn gydweithredol: byddwn yn ceisio lleihau achosion o ddyblygu drwy gydweithio â phwyllgorau, grwpiau a rhaglenni cenedlaethol eraill
  • ar y cyd: byddwn yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth a rennir drwy rannu dulliau gweithredu, adnoddau a chanllawiau cyffredin
  • yn canolbwyntio ar effaith: byddwn yn archwilio ac yn ceisio tystiolaeth ynghylch y modd y mae sefydliadau’n cael sicrwydd ynglŷn â’r broses o roi camau gweithredu ar waith a’u heffaith
  • yn cael eu cynnal mewn modd agored a thryloyw, gydag ymddiriedaeth a pharch ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd, Llywodraeth Cymru a Pherfformiad a Gwella GIG Cymru

Pan fydd y bwrdd iechyd yn destun uwchgyfeirio:

  • bydd trefniadau rheoli perfformiad arferol yn parhau drwy gyfarfodydd Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig a chyfarfodydd y Tîm Gweithredol ar y Cyd. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu hategu gan gyfarfodydd cyswllt mesurau arbennig
  • caiff cyfarfodydd uwchgyfeirio chwarterol eu cadeirio gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar a Prif Weithredwr GIG Cymru. Pan fo hynny’n bosibl, bydd y rhain yn cael eu cyfuno â chyfarfodydd y Tîm Gweithredol ar y Cyd
  • bydd cadeirydd y bwrdd iechyd yn cynnal cyfarfod adolygu rheolaidd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • caiff cyfarfodydd rheolaidd eu cynnal i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud o ran y gwasanaethau y ceir pryder yn eu cylch
  • cytunir ar gyfarfodydd cyswllt ynghylch cyllid, strategaeth a chynllunio â Perfformiad a Gwella GIG Cymru. Bydd y rhain yn archwilio’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn erbyn y cofnodlyfr gweithredu, yn adolygu tystiolaeth ac yn cytuno ar allbynnau i’w cynnwys yn y cyfarfodydd uwchgyfeirio a arweinir gan Lywodraeth Cymru
  • bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cyhoeddi adroddiad chwarterol ar gynnydd

Isgyfeirio

Mae’r fframwaith hwn yn nodi’r disgwyliadau mewn perthynas ag isgyfeirio ar gyfer pob maes a pharth uwchgyfeirio. Lle y bo modd, mae’r meini prawf isgyfeirio hyn yn gyson â sefydliadau iechyd eraill sy’n destun uwchgyfeirio.

Ni chaiff sefydliad ei isgyfeirio fwy nag un lefel ar y tro, a bydd llai o oruchwylio ac ymyrraeth ar bob cam o’r broses isgyfeirio. Fel arfer, bydd sefydliad yn cael ei isgyfeirio o lefel 3 (monitro uwch) i lefel 1 (trefniadau arferol).

Er mwyn cael ei ystyried ar gyfer isgyfeirio, rhaid i sefydliad ddangos ei fod yn gwneud cynnydd tuag at fodloni’r meini prawf isgyfeirio.

Ceir 2 ddull isgyfeirio:

  • bydd Llywodraeth Cymru yn cydgysylltu gweithgarwch i fonitro’n agos, herio ac adolygu’r cynnydd sydd wedi’i wneud gan sefydliad y GIG. Os gall sefydliad y GIG ddarparu tystiolaeth o welliant digonol ac amserol, yna bydd Llywodraeth Cymru a chyrff adolygu allanol yn rhannu gwybodaeth i’w galluogi i ystyried a yw’n briodol isgyfeirio’r trefniadau ymyrryd a roddwyd ar waith ar gyfer sefydliad y GIG. Er mwyn i’r isgyfeirio ddigwydd, efallai na fydd corff y GIG wedi bodloni’r holl feini prawf isgyfeirio, ond bydd angen iddo ddangos gwelliannau parhaus, a chynllun gwella credadwy i gynnal gwelliannau.
  • caiff y meysydd hynny â chanlyniadau a thargedau meintiol fel perfformiad a chanlyniadau eu hisgyfeirio pan fydd y meini prawf isgyfeirio wedi’u bodloni a’u cynnal am y cyfnod o amser y cytunwyd arno. Os bydd sefydliad y GIG yn bodloni’r meini prawf isgyfeirio ar gyfer parth neu is-barth penodol, yna bydd yn cael ei isgyfeirio i’r lefel nesaf ar y raddfa uwchgyfeirio. Bydd yr isgyfeirio hwn yn digwydd yn awtomatig y tu allan i’r cylch uwchgyfeirio arferol, a bydd y sefydliad yn cael cadarnhad ysgrifenedig yn ei gylch.

Ar gyfer sefydliadau mewn mesurau arbennig, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried isgyfeirio’r sefydliad yn llawn i lefel 4 pan fydd wedi’i bodloni bod cynnydd rhesymol yn cael ei wneud ar draws yr holl barthau. Fel arall, gellir ystyried isgyfeirio’n rhannol i lefel 4 ar gyfer un neu ragor o barthau pan fo cynnydd rhesymol yn y parthau sy’n cael eu hadolygu.

Rolau a chyfrifoldebau

Mae rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:

  • penodi cymorth lefel uwch ar gyfer agweddau amrywiol ar yr ymyriad ac uwch-swyddog cyfrifol arweiniol.
  • cefnogi strwythur ffurfiol ar gyfer adolygu ac adrodd ar gynnydd
  • cyfeirio at arferion gorau, canllawiau a fframweithiau perthnasol
  • gweithredu fel cyfaill beirniadol a bwrdd seinio ar arferion presennol a datblygiadau newydd.
  • adolygu cynhyrchion a ddatblygwyd a rhoi adborth arnynt
  • rhoi gallu dadansoddol ychwanegol i’r bwrdd iechyd ddatblygu, cynnal a rhannu gwaith dadansoddi perthnasol a chynnal archwiliadau dwfn o ddata lleol a chenedlaethol
  • cyfarwyddo Perfformiad a Gwella GIG Cymru i ddarparu cymorth wedi’i dargedu i feysydd y ceir pryder yn eu cylch er mwyn helpu’r bwrdd iechyd i wneud mwy o gynnydd yn erbyn amcanion rhaglenni, gan gynnwys arwain dau asesiad cefnogol ac integredig i gwmpasu gwelliannau gweithredol a rheoli ansawdd a llywodraethiant
  • gweithio gyda’r bwrdd iechyd ar ffactorau galluogi allweddol yn ymwneud â chynllunio rhanbarthol, ailddylunio gwasanaethau clinigol a seilwaith (digidol ac adeiladau)
  • galluogi dulliau gweithredu a rennir ar gyfer ymdrin â materion cenedlaethol allweddol mewn sefydliadau yng Nghymru a hyrwyddo prosesau dysgu a rennir

Mae rolau a chyfrifoldebau’r bwrdd iechyd fel a ganlyn:

  • penodi Uwch-swyddog(ion) Cyfrifol ar gyfer y broses uwchgyfeirio gyffredinol ac ar gyfer pob parth os ystyrir bod angen gwneud hynny ynghyd ag arweinwyr prosiect priodol
  • sicrhau bod fframwaith clir ar waith sy’n rhoi tystiolaeth amserol i’r Bwrdd ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at isgyfeirio. Dylai’r fframwaith hefyd alluogi’r Bwrdd i gymryd lefel briodol o berchenogaeth a goruchwyliaeth o’r maes hwn
  • cytuno ar y cynllun neu gynlluniau mesurau arbennig a neilltuo digon o adnoddau i sicrhau y cyflawnir yr elfennau gofynnol
  • rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru drwy adroddiadau cynnydd rheolaidd
  • atgyfnerthu’r gweithdrefnau adolygu ffurfiol i gefnogi’r gallu i weithredu ar frys gan sicrhau hyder a gwelliant o ran y sefyllfa bresennol

Cyllid, strategaeth a chynllunio

Cyllid

Mae’r ffocws a’r ymyrraeth o ran cyllid ar lefel 5 yn cwmpasu’r meysydd a ganlyn.

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu i gryfhau ei amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol yn ogystal â dangos:

  • bod fframwaith llywodraethiant ariannol yn y bwrdd iechyd yn gadarn o ran cynllun a gweithrediad, gan gynnwys hunanasesiad yn erbyn fframweithiau arferion gorau
  • bod strwythur y pwyllgor ariannol wedi’i gyfleu yn glir a’i fod yn mynd i’r afael â risgiau allweddol.
  • bod adroddiadau ariannol a chyflwyniadau ategol yn cynnwys y dadansoddiad a’r esboniad naratif sy’n ofynnol er mwyn galluogi’r rheolwyr a’r bwrdd i gyflawni eu dyletswyddau
  • bod rheoliadau ariannol yn y bwrdd iechyd yn gadarn o ran cynllun a gweithrediad, gan gynnwys asesiad aeddfedrwydd o drefniadau llywodraethiant ariannol a sicrhau bod rheolaethau digonol ar waith i sicrhau llwyddiant y newidiadau a roddir ar waith drwy’r broses mesurau arbennig. Dylid ystyried a oes angen adolygiad annibynnol arall
  • bod y camau gweithredu a’r canfyddiadau y cytunwyd arnynt o’r adolygiad caffael a rheoli contractau wedi’u rhoi ar waith
  • bod gan y swyddogaeth gyllid yr adnoddau a’r gallu angenrheidiol i gefnogi anghenion y sefydliad ehangach
  • y caiff deiliaid cyllidebau a rheolwyr eu dwyn i gyfrif am gyflawni eu cynlluniau ariannol ac maent yn cydymffurfio â chynlluniau dirprwyo ac atebolrwydd clir
  • yn sgil yr uchod, bod y bwrdd iechyd yn parhau i ddatblygu cwmpas y cynllun gweithredu i wella’r amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd ddangos dealltwriaeth o’r diffyg presennol a’r ffactorau allweddol, yn ogystal â sicrhau:

  • bod dealltwriaeth glir o’r ffactorau sy’n rheoli costau a’r penderfyniadau buddsoddi sy’n gyfrifol am y cynnydd yn y diffyg ym mhob rhan o’r sefydliad, gan gynnwys dadansoddiad penodol yn ôl maes gwasanaeth allweddol a ffactor sy’n rheoli costau
  • ei fod wedi adolygu buddsoddiadau’r flwyddyn flaenorol i asesu a yw’r buddiannau a gynlluniwyd wedi cael eu cyflawni
  • bod proses gadarn ar gyfer herio diffygion sylfaenol a gofnodwyd ar lefelau is-adrannol lleol.
  • y caiff y ffactorau a’r penderfyniadau buddsoddi sy’n gyfrifol am dwf y gweithlu eu deall yn llawn, eu hadolygu am werth parhaus a’u monitro
  • bod dealltwriaeth lawn o’r buddsoddiad mewn gofal a gynlluniwyd ynghyd â’r defnydd o gyllid craidd a chaiff ei driongli ar draws y gwasanaethau a ddarperir, y gweithgarwch a gyflawnir a’r gweithlu
  • yn sgil yr uchod, bod dulliau trionglog ar gyfer nodi a chyflawni camau gweithredu er mwyn gwella effeithlonrwydd a gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd ganolbwyntio ar ddatblygu cyfleoedd a’u gwireddu, a rhaid iddo sicrhau:

  • bod ganddo broses a dull gweithredu clir ym mhob rhan o’r sefydliad er mwyn cefnogi’r broses o nodi, cyflawni a monitro’r holl gynlluniau arbedion
  • ei fod yn datblygu fframwaith cyfleoedd cynhwysfawr gyda llif cyson o gyfleoedd, a sefydlu rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer datblygu cyfleoedd yn gynlluniau arbedion a chyflawni’r cynlluniau arbedion hyn o ganlyniad i hynny
  • y caiff cyfleoedd cenedlaethol a nodir drwy’r Bwrdd Gwerth a Chynaliadwyedd eu trosi’n arbedion lleol.
  • bod polisïau a phrosesau clir ar waith i alluogi deiliaid cyllidebau a rheolwyr i wireddu a chyflawni cynlluniau arbedion a nodwyd
  • bod egwyddorion gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth wedi’u hymgorffori ym mhob rhan o’r sefydliad

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd ddatblygu a chyflawni strategaeth a chynllun ariannol clir a rhaid iddo ddangos:

  • cynllun blynyddol integredig a thrionglog, sy’n cynnwys tybiaethau cynllunio clir a realistig i gyflawni sefyllfa (reolaidd) o fantoli’r cyfrifon dros y tymor canolig, gyda map trywydd clir a cherrig milltir allweddol ar gyfer cyflawni
  • cynllun ymgysylltu clir i gyfleu’r angen am welliannau ariannol ym mhob rhan o’r sefydliad
  • dull gweithredu clir ar gyfer gweithredu’n fwy strategol i ddyrannu a defnyddio adnoddau i sicrhau canlyniadau gwell i’r boblogaeth dros y tymor canolig drwy ddull gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth

Yn unol â chyflawni ei gynllun ariannol, bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd ddangos: 

  • ei fod yn cyflawni gwelliant clir yn y gwaith o gyflawni’r llwybr ariannol a gynlluniwyd (Er enghraifft, cynnydd sylweddol tuag at gyflawni’r cyfanswm rheoli targed), gan gynnwys cynnydd pellach tuag at nodi a chyflawni cyfleoedd rheolaidd

Meini prawf isgyfeirio

Er mwyn isgyfeirio’r bwrdd iechyd i’r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni’r meini prawf isod:

  • rhaid i’r bwrdd iechyd ddangos gwelliant a thystiolaeth o amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol cadarn
  • sicrhau cynnydd sylweddol o ran cyflawni’r cynllun gweithredu ar gyfer y mesurau arbennig, gan gynnwys camau gweithredu, i wella dealltwriaeth y sefydliad o’r diffyg presennol a’r ffactorau ysgogi allweddol a datblygu a gwireddu cyfleoedd
  • datblygu cynllun blynyddol gyda chymeradwyaeth y bwrdd gan ddangos llwybr gwelliant ariannol sylweddol er mwyn cyflawni’r cyfanswm rheoli targed o leiaf

Strategaeth a chynllunio 

Mae’r ffocws a’r ymyrraeth o ran strategaeth a chynllunio ar lefel 5 yn cwmpasu’r meysydd a ganlyn. 

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd ddangos ei fod yn cyflawni gwaith cynllunio integredig gwell drwy:

  • weithredu’r argymhellion yn yr asesiad annibynnol o ddulliau a phrosesau cynllunio integredig
  • cynnal hunanasesiad blynyddol yn erbyn y matrics cynllunio integredig a darparu dogfennaeth asesu, gan geisio cyrraedd o leiaf lefel 2 y matrics
  • darparu adroddiadau chwarterol i’r Bwrdd yn ymwneud â chynnydd o ran cyflawni’r cynllun blynyddol

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd gyflwyno a chyflawni cynllun cymeradwy a dangos:

  • ei fod wedi cyflawni cynllun blynyddol credadwy fel cam tuag at gynllun tymor canolig integredig llawn sy’n gytbwys yn ariannol
  • ei fod wedi sicrhau cynnydd tuag at gyflawni’r targedau gweinidogol, y meini prawf atebolrwydd a’r gofynion lefel 5 (mesurau arbennig)

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd ddangos cynnydd yn y meysydd a ganlyn:

  • datblygu strategaeth gwasanaethau clinigol y sefydliad o fewn amserlen y cytunwyd arni
  • dangos sut y mae’r strategaeth gwasanaethau clinigol yn llywio’r penderfyniadau a wneir ym mhob rhan o’r sefydliad

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd ddangos cynnydd o ran darparu gwasanaethau rhanbarthol yn ogystal â gwneud y canlynol:

  • adolygu’r hyn a ddysgwyd o’r ymyriad orthopedig gan Lywodraeth Cymru a Perfformiad a Gwella GIG Cymru, gan ddangos gwaith partneriaeth effeithiol i gyflawni model orthopedig rhanbarthol sydd o fudd i boblogaethau pob sefydliad o dan sylw
  • cyflawni achos busnes orthopedig Llandudno
  • pennu cwmpas a datblygu cyfleoedd rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau offthalmoleg ledled y rhanbarth.
  • pennu cwmpas a datblygu cyfleoedd rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau wroleg ledled y rhanbarth
  • cytuno ar y weledigaeth gynaliadwy hirdymor ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd

Meini prawf isgyfeirio

Er mwyn isgyfeirio’r bwrdd iechyd i’r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni’r meini prawf isod:

  • cyflwyno cynllun blynyddol cymeradwy yn unol â fframwaith cynllunio GIG Cymru
  • dangos tystiolaeth o wella gwaith cynllunio integredig ym mhob rhan o’r sefydliad sy’n cefnogi’r broses o ddatblygu cynllun blynyddol cydlynol a chyflawnadwy
  • sicrhau eglurder y bwrdd ynghylch y weledigaeth strategol ar gyfer y sefydliad
  • dangos tystiolaeth o fap trywydd clir yn ogystal â rhoi cynllun gwasanaethau clinigol amlbroffesiynol y bwrdd iechyd ar waith
  • cyflawni ymrwymiadau a nodwyd yn y cynllun blynyddol, yn arbennig mewn perthynas â’r blaenoriaethau gweinidogol
  • sicrhau gwelliannau parhaus wrth gyflawni’r cynllun drwy gydol y flwyddyn
  • cyflawni lefel 2 ar draws pob agwedd ar hunanasesiad y bwrdd iechyd yn erbyn y matrics aeddfedrwydd cynllunio

Perfformiad a chanlyniadau

Mae’r ffocws a’r ymyrraeth o ran perfformiad a chanlyniadau ar lefel 5 yn cwmpasu’r meysydd a ganlyn.

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd sefydlu llinell sylfaen a chytuno ar gynlluniau gwella ar gyfer darparu gwasanaethau yn ogystal â:

  • llunio adroddiad o’r sefyllfa bresennol i dynnu sylw at y llinell sylfaen a chyfleoedd. Ailadroddir hyn ar gerrig milltir y cytunwyd arnynt er mwyn rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd bod cynnydd yn cael ei wneud neu pan fydd angen ymyriadau pellach
  • at ddibenion sicrwydd, adolygu’r cynnydd a wnaed gan y bwrdd iechyd yn erbyn adolygiadau allanol a mewnol blaenorol a chynlluniau gweithredu sy’n canolbwyntio ar berfformiad
  • cyfuno adolygiadau perfformiad a chynlluniau gwella blaenorol mewn un ddogfen graidd, gan leihau’r risg o ddyblygu, a cheisio ychwanegu gwerth i sicrhau llwybr clir ar gyfer y dyfodol
  • sicrhau bod cynlluniau adfer a gwella ar waith a bod blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn cael eu rhoi ar waith, yn unol ag ymarfer ar sail tystiolaeth a gofynion cenedlaethol

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd weithredu cynlluniau gwella yn ogystal â:

  • gwella perfformiad gofal brys a gofal mewn argyfwng er mwyn sicrhau bod gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng diogel, amserol ac effeithiol yn glinigol ar gael i gleifion, gan leihau amseroedd aros, achosion o oedi a gwella ansawdd
  • gwella mynediad at ofal a gynlluniwyd gan leihau amseroedd aros yn unol â gofynion cenedlaethol
  • gwella amseroldeb mynediad at wasanaethau canser a dangos cydymffurfiaeth well â’r llwybr canser a amheuir, gan flaenoriaethu gwelliant yn y lleoliadau tiwmor lle y ceir y risg fwyaf
  • sicrhau bod yr ôl-groniad o achosion canser yn gostwng i lefelau y cytunwyd arnynt a bod cynlluniau lleoliad penodol ar waith ar gyfer lleoliadau tiwmor sy’n peri pryder
  • rhoi ar waith gynllun trawsnewid y cytunwyd arno ar gyfer cleifion sy’n annog newid tuag at ofynion y rhaglen gofal a gynlluniwyd
  • cyflawni gweithgarwch yn unol â llwybrau y cytunwyd arnynt a rhoi unrhyw newidiadau angenrheidiol ar waith pan fydd perfformiad yn gostwng islaw’r llwybrau disgwyliedig
  • dangos sut y mae’r bwrdd iechyd yn ymateb i bryderon, cwynion, digwyddiadau ac adborth am brofiad cleifion o ran gofal brys a gofal mewn argyfwng, a sut y mae’n ymdrin â nhw

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd weithio gyda rhaglenni cenedlaethol ac ymateb i adolygiadau allanol, yn ogystal â:

  • gweithio gyda rhaglenni cenedlaethol a rhoi eu hargymhellion ar waith, gan gynnwys, ymhlith rhai eraill, y Rhaglen Gofal Sylfaenol Strategol, y Rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal Mewn Argyfwng, y Rhaglen Gwella Gofal a Gynlluniwyd a’r Rhaglenni Diagnostig ac Endosgopi Cenedlaethol
  • cefnogi’r broses o roi cyfleoedd a nodir gan GIRFT (Cael Pethau’n Iawn y Tro Cyntaf) ac adolygiadau o raglenni cenedlaethol ar waith a’u gwireddu
  • datblygu dull integredig ar gyfer trefnu amserlenni a rheoli theatrau a’i roi ar waith, gan weithio gyda rhaglen GIRFT i ddatblygu metrigau adrodd theatrau y cytunwyd arnynt a’u rhoi ar waith bob pythefnos
  • rhoi ar waith gynlluniau y cytunwyd arnynt mewn ymateb i adolygiadau ac argymhellion arbenigol GIRFT
  • sicrhau ymateb prydlon i arolygiadau dirybudd gan AGIC, argymhellion Archwilio Cymru a’r Coleg Brenhinol, gan ddatblygu a chyflawni cynlluniau gweithredu sy’n dangos tystiolaeth gynaliadwy

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd ddangos dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu gwell yn ogystal â:

  • sicrhau bod cynlluniau ar waith ar gyfer yr holl gleifion sydd wedi bod yn aros ers amser hir gan gynnwys strategaeth gyfathrebu glir a chymorth priodol i’w cadw’n iach
  • rhoi gofynion y polisi tri A ar waith ar gyfer gofal a gynlluniwyd
  • sicrhau bod gan gleifion ddealltwriaeth glir ynghylch ble y gallant a ble y dylent gael cymorth, gan eu cyfeirio oddi wrth wasanaethau mewn argyfwng
  • sicrhau bod buddiannau llwybrau newydd fel profi yn syth, rheoli gofal sylfaenol, hunanreoli a sylw yn ôl symptomau yn cael eu cyfleu’n effeithiol

Meini prawf isgyfeirio

Er mwyn isgyfeirio’r bwrdd iechyd i’r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni’r meini prawf isod:

  • perfformiad o 55% yn erbyn y targed llwybr canser a amheuir, a’i gynnal am bedwar mis yn olynol
  • sicrhau bod gan 98% o lwybrau agored i gleifion allanol amseroedd aros o lai na 52 o wythnosau, a chynnal hynny am bedwar mis yn olynol
  • cyflawni gwelliant parhaus tuag at sicrhau bod gan 97% o’r holl lwybrau agored amseroedd aros o lai na 104 o wythnosau a chynnal hynny neu ei wella am bedwar mis yn olynol
  • gostyngiad parhaus yn nifer y cleifion sy’n wynebu oedi o 100% ar gyfer eu hapwyntiadau dilynol
  • sicrhau bod 75% o gleifion sy’n aros am brawf diagnostig yn aros am lai nag 8 wythnos, a chynnal hynny am bedwar mis yn olynol
  • sicrhau bod 80% o gleifion sy’n aros am therapïau yn aros am lai na 14 o wythnosau, a chynnal hynny am bedwar mis yn olynol
  • gostyngiad parhaus o 17% o leiaf yn nifer y trosglwyddiadau ambiwlans sy’n cymryd mwy nag awr a chynnal hynny am bedwar mis yn olynol
  • ni ddylai’r amser canolrifol, o’r adeg y bydd claf yn cyrraedd adran achosion brys i’r adeg y caiff asesiad gan uwch benderfynwr clinigol fod yn fwy na 60 munud
  • gwelliant misol parhaus tuag at sicrhau nad oes mwy na 10% o gleifion yn aros am fwy na 12 awr ar bob safle unigol ac ym mhob rhan o’r bwrdd iechyd
  • gostyngiad parhaus o 5% o ran oedi yn achos llwybrau gofal am dri mis yn olynol, ac yna chynnal hynny am bedwar mis yn olynol
  • cynnal 65% o asesiadau iechyd meddwl Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y daw’r atgyfeiriad i law a chynnal hynny am bedwar mis yn olynol (Rhan 1a)
  • dechrau 65% o ymyriadau therapiwtig i oedolion yn dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl cael asesiad gan y Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol a chynnal hynny am bedwar mis yn olynol (Rhan 1b)
  • sicrhau bod gan 65% o breswylwyr y bwrdd iechyd sy’n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd gynllun gofal a thriniaeth dilys am bedwar mis yn olynol (Rhan 2)
  • cynnal 75% o asesiadau iechyd meddwl Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y daw’r atgyfeiriad i law am bedwar mis yn olynol (Rhan 1a)
  • dechrau 60% o ymyriadau therapiwtig ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad gan y Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol am bedwar mis yn olynol (Rhan 1b)
  • sicrhau bod gan 75% o breswylwyr y bwrdd iechyd sydd o dan 18 oed ac sy’n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd gynllun gofal a thriniaeth dilys am bedwar mis yn olynol (Rhan 2) 

Bydd y metrigau uchod ac adroddiadau misol yn sail i asesiad Llywodraeth Cymru a Perfformiad a Gwella GIG Cymru o ran lefelau hyder ynghylch gallu’r bwrdd iechyd i gynnal gwelliannau.

Gwasanaethau clinigol

Bydd ffocws y mesurau arbennig lefel 5 o ran gwasanaethau clinigol yn newid dros amser am ei bod yn debygol y bydd gan wasanaethau eraill feysydd sy’n peri pryder o bosibl yn ystod amserlen yr uwchgyfeirio lefel 5 (mesurau arbennig). Bydd y ffocws cychwynnol yn cwmpasu’r meysydd sy’n peri pryder a ganlyn: 

  • fasgwlaidd
  • dermatoleg
  • plastig
  • wroleg
  • orthodonteg
  • orthopedeg
  • offthalmoleg
  • oncoleg
  • iechyd meddwl

Ar gyfer pob gwasanaeth, bydd dogfen gryno yn nodi’r materion sy’n peri pryder, disgwyliadau a’r meini prawf isgyfeirio.

Meini prawf isgyfeirio

Er mwyn isgyfeirio’r bwrdd iechyd i’r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo wneud y canlynol:

  • dangos tystiolaeth bod gan y bwrdd iechyd y dull gweithredu priodol ar gyfer deall y ffactorau ysgogi y tu ôl i wasanaeth bregus drwy driongli pwyntiau data allweddol, gan gynnwys lefelau staffio, adborth gan staff a chleifion, pryderon, digwyddiadau, adborth gan randdeiliaid (AGIC, Archwilio Cymru, Crwneriaid EF, y Colegau Brenhinol, yr Awdurdod Meinweoedd Dynol, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, Llais ac ati), adolygiadau marwolaethau, y ddyletswydd gofal/gonestrwydd, atal a rheoli heintiau, perfformiad, ac arweinyddiaeth glinigol a meddygol
  • bodloni’r dystiolaeth a ganlyn ar gyfer pob gwasanaeth clinigol:
    • a oes gan y staff yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddarparu gofal a thriniaeth ddiogel i bobl?
    • sut y caiff canlyniadau gofal a thriniaeth pobl eu monitro a sut maent yn cymharu â gwasanaethau tebyg eraill?
    • sut y mae’r gwasanaeth yn sicrhau bod gan staff y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad i ddarparu gofal, cymorth a thriniaeth effeithiol?
    • pa mor dda y mae staff, timau a gwasanaethau yn cydweithio o fewn ac ar draws sefydliadau i ddarparu gofal a thriniaeth effeithiol?
    • sut y caiff cydsyniad i ofal a thriniaeth ei geisio yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau?
    • prosesau clir ac effeithiol ar waith ar gyfer rheoli risgiau, problemau a pherfformiad
    • ceir arweinyddiaeth glinigol gref, gan gynnwys cynllun gwella integredig, strwythur rheoli prosiectau a chymorth trawsnewid effeithiol
    • caiff ymatebion effeithiol i argymhellion y Colegau Brenhinol, AGIC ac adolygiadau eraill eu rhoi ar waith a naill ai eu dilysu, eu darparu, neu eu hamserlennu ar gyfer eu cyflawni o fewn cynllun gwella tymor hwy y bwrdd iechyd
  • tystiolaeth bod y Bwrdd yn canolbwyntio ar wasanaethau clinigol a bod ganddo ymateb cadarn i’r materion hyn y mae’r bwrdd iechyd yn ymdrin â nhw

Llywodraethiant ac arweinyddiaeth

Llywodraethiant

Mae’r ffocws a’r ymyrraeth o ran llywodraethiant ar lefel 5 yn cwmpasu’r meysydd a ganlyn:

  • cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol
  • ymateb i reoleiddwyr a chydweithio â nhw yn effeithiol
  • ymateb effeithiol ac amserol i adroddiadau archwilio mewnol a lle y bo angen, rhoi argymhellion archwilio mewnol ar waith
  • ymateb effeithiol ac amserol i adroddiadau Archwilio Cymru, gan gynnwys yr asesiad strwythuredig blynyddol a’r adolygiad o effeithiolrwydd y bwrdd, a lle y bo angen, rhoi argymhellion archwilio allanol ar waith.
  • ymateb effeithiol ac amserol i adroddiadau AGIC a’r Colegau Brenhinol
  • gwella ac atgyfnerthu’r fframwaith llywodraethiant a sicrwydd a’r prosesau gwneud penderfyniadau ym mhob rhan o’r bwrdd iechyd. Sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau a dogfennau rheoli ysgrifenedig eraill yn bodloni’r gofynion statudol ac yn adlewyrchu arferion da
  • eglurder ynglŷn â rolau a chylch gwaith y pwyllgorau, y Weithrediaeth a’r Bwrdd gan gynnwys sicrhau bod prosesau uwchgyfeirio ac adrodd clir ar waith
  • gweithredu Fframwaith Datblygu’r Bwrdd sy’n ceisio mynd i’r afael â bylchau ac anghenion dysgu a datblygu er mwyn gwella effeithiolrwydd cyffredinol y bwrdd

Meini prawf isgyfeirio

Er mwyn isgyfeirio’r bwrdd iechyd i’r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo ddangos:

  • gweledigaeth, strategaeth gredadwy a chynlluniau ategol i gyflawni blaenoriaethau sefydliadol sydd wedi’u hategu gan ddiwylliant o ofal cynaliadwy o safon
  • bod systemau llywodraethiant a sicrwydd clir ar waith gyda materion o ran perfformiad (ansawdd, adnoddau, gweithgarwch a canlyniadau) yn cael eu huwchgyfeirio’n briodol drwy strwythurau a phrosesau clir, sy’n cynnwys goruchwyliaeth effeithiol gan y bwrdd a fframwaith perfformiad a chyflawniad clir sy’n ysgogi gwelliant.
  • bod prosesau goruchwylio a chraffu effeithiol yn cael eu darparu’n gyson gan y Bwrdd a/neu’r Pwyllgor priodol gyda thystiolaeth glir, argymhellion, risgiau a chyfleoedd yn cael eu hamlinellu ym mhapurau’r Pwyllgor a’r Bwrdd.
  • fframwaith rheoli risg cadarn ar gyfer nodi, cofnodi a rheoli risgiau ym mhob rhan o’r sefydliad. Mae’r Bwrdd a’r Pwyllgor perthnasol yn canolbwyntio ar risgiau strategol y sefydliad a meysydd sy’n peri pryder yn rheolaidd.
  • prosesau i sicrhau bod y Bwrdd a’r Pwyllgorau perthnasol yn cael adroddiadau rheolaidd ar berfformiad er mwyn cynnal lefel briodol o oruchwyliaeth ac fel y gallant graffu’n effeithiol.
  • bod hunanasesu rheolaidd ar waith yn erbyn y fframwaith llywodraethiant y cytunwyd arno er mwyn nodi risgiau a chyfleoedd a sicrhau gwelliant parhaus. 

Arweinyddiaeth, gallu a diwylliant

Mae’r ffocws a’r ymyrraeth o ran arweinyddiaeth, gallu a diwylliant ar lefel 5 yn cwmpasu’r meysydd a ganlyn.

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd sefydlogi ei weithlu a’i strwythur a rhaid iddo wneud y canlynol:

  • adolygu cwmpas ac ehangder cyfrifoldebau, adolygu effeithiolrwydd y strwythur er mwyn cynnig gofal a phrofiad diogel o ansawdd uchel i gleifion a’u teuluoedd a gofalwyr
  • adolygu bylchau o ran gweithwyr meddygol, nyrsio a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd allweddol a’u gallu ar gyfer pob grŵp clinigol sy’n gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol
  • canolbwyntio ar gynllunio’r gweithlu yn strategol a gwneud y gorau o sgiliau’r staff presennol.
  • datblygu a gweithredu dull effeithiol ar gyfer recriwtio a chadw staff er mwyn helpu i sicrhau gweithlu cynaliadwy a hyblyg o ansawdd uchel
  • sicrhau bod pob rhan o’r sefydliad yn glir ynghylch atebolrwydd a disgwyliadau ar bob lefel er mwyn sicrhau cyflawni llwyddiannus. Grymuso unigolion i wneud penderfyniadau effeithiol a chanolbwyntio’n gyson ar wella perfformiad
  • annog y gwaith o ddatblygu polisi ar gyfer cynllunio swyddi o ran meddygon ymgynghorol, meddygon SAS a, lle y bo’n briodol, uwch-glinigwyr eraill

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd ddangos arweinyddiaeth a datblygiad effeithiol a rhaid iddo wneud y canlynol:

  • sicrhau bod y diwylliant a’r naws a grëir gan arweinwyr y sefydliad yn gynhwysol, yn agored ac yn dryloyw
  • sicrhau proses barhaus o feithrin sgiliau arwain a rheoli ar bob lefel/proffesiwn i atgyfnerthu gwaith craffu a sicrwydd ac aeddfedrwydd rheoli
  • sicrhau bod arweinyddiaeth glinigol yn weledol ac yn effeithiol, bod cymorth datblygu arweinyddiaeth ar waith ac yr ymgysylltir â’r corff meddygon ymgynghorol yn ei gyfanrwydd wrth ysgogi gwelliant yn y gwasanaeth
  • cwblhau adolygiad o arweinyddiaeth glinigol amlbroffesiynol ar bob lefel, gan gynnwys capasiti a gallu
  • asesu trefniadau gweithio amlbroffesiynol
  • cefnogi staff iau i gymryd rolau arweinyddiaeth
  • nodi hyrwyddwyr newid
  • cryfhau modelau arweinyddiaeth lleol

Meini prawf isgyfeirio

Er mwyn isgyfeirio’r bwrdd iechyd i’r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo ddangos:

  • bod cynllun olynu a datblygu cadarn ar waith i sicrhau capasiti a gallu digonol ym mhob rhan o’r sefydliad
  • bod strwythur sefydliadol clir o dan arweiniad tîm gweithredol effeithiol a chyflawn sydd â’r capasiti a’r gallu o ran arweinyddiaeth i ddarparu gofal cynaliadwy o ansawdd uchel
  • bod rhaglen arweinyddiaeth effeithiol ar waith i ategu proses barhaus o feithrin sgiliau arwain a rheoli ar bob lefel a proffesiwn i atgyfnerthu aeddfedrwydd rheoli
  • bod gwaith parhaus yn cael ei gynnal i ymgorffori fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau ym mhob rhan o’r sefydliad
  • bod gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd yn cael eu cofnodi, eu cyfleu a’u defnyddio i ysgogi gwelliannau
  • bod mwy o staff yn cymryd rhan yn arolygon GIG Cymru
  • bod cynlluniau ar waith ac yn cael eu gweithredu i leihau nifer y staff dros dro a’r staff asiantaeth
  • y caiff diwylliant o wrando, dysgu a gwella ei ymwreiddio ym mhob rhan o’r sefydliad ar sail gwaith triongli cynnar a chyflym yn ogystal â datrys materion ar sail amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys adborth gan gleifion, defnyddwyr a staff

Ansawdd Gofal

Mae’r ffocws a’r ymyrraeth o ran ansawdd gofal ar lefel 5 yn cwmpasu’r meysydd a ganlyn.

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd ddangos gwell llywodraethiant clinigol a rhaid iddo wneud y canlynol:

  • adolygu systemau a gweithdrefnau presennol i sicrhau gofal o ansawdd uchel, sy’n gyson â chanllawiau’r Ddyletswydd Ansawdd.
  • adolygu data ynghylch digwyddiadau, cwynion, Datix, digwyddiadau “byth” i ganfod patrymau ac ymchwilio i’r graddau y mae dysgu’n digwydd ym mhob rhan o’r sefydliad.
  • cynnal adolygiad ac asesiad o drefniadau llywodraethiant clinigol yn gyffredinol.
  • asesu gallu a llesiant cyffredinol y staff clinigol.
  • adolygu’r system rheoli ansawdd gan gysylltu prosesau rheoli ansawdd, sicrwydd, cynllunio a gwelliant, i gynnwys y broses o reoli cwynion, digwyddiadau, hawliadau, diogelu a gweithgareddau cysylltiedig eraill yn unol â chanllawiau y cytunwyd arnynt.
  • adolygu sut y caiff profiad cleifion ac adborth staff eu defnyddio i ategu prosesau rheoli ansawdd.
  • adolygu trefniadau diogelu.
  • sicrhau bod gweithdrefnau gweithredu safonol ar waith ar gyfer ymgymryd â’r materion a ganlyn ac ymateb iddynt:
    • asesiadau risg clinigol
    • adolygiadau o farwolaethau ac afiachedd
    • adrodd am ddigwyddiadau, ymchwiliadau a dysgu
    • ceisiadau a chwestau’r Crwner
    • materion o ran gallu a chapasiti
    • cadw cofnodion
    • deall materion o ran cydsynio, ynghyd â hanfodion ymarfer gofal 

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd ddangos gwell rheolaeth o gwynion a heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd a rhaid iddo wneud y canlynol:

  • goruchwylio’r broses Gweithio i Wella gan gynnwys prosesau cydymffurfiaeth Gweithio i Wella, cwestau a rheoli hawliadau, cwynion a digwyddiadau difrifol ac ymchwiliadau allanol
  • rhoi cynllun adfer ar waith i sicrhau yr ymatebir i gwynion yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru
  • sefydlogi’r llwybr cynyddol o achosion o heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd a thystiolaeth o welliant parhaus ynghyd â dull gweithredu a chynllun gwella ansawdd cadarn sy’n cael eu goruchwylio a’u monitro gan y Pwyllgor a’r Bwrdd Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad

Bydd yn ofynnol i’r bwrdd iechyd ddangos gwell prosesau cynllunio a rheoli gwasanaethau a rhaid iddo wneud y canlynol:

  • ailasesu’r strategaeth glinigol a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cynllun clinigol ar unwaith i arwain penderfyniadau’r dyfodol ynghylch cynllunio a buddsoddi
  • adolygu’r modelau ar gyfer gwasanaethau y cytunwyd arnynt gan gynnwys arweinyddiaeth glinigol, gallu, opsiynau trefnu rhanbarthol ac ar lefel gwasanaethau
  • asesu risgiau cleifion ar y llwybr offthalmoleg, asesu a yw risgiau clinigol yn cael eu rheoli’n dda ac asesu opsiynau ar gyfer model clinigol gwell
  • adolygu ac atgyfnerthu trefniadau comisiynu gan gynnwys datblygu gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer darparwyr allanol i sicrhau parhad gofal i gleifion i safon y cytunwyd arni
  • adolygu’r dull clinigol ar gyfer modelau cyflawni rhanbarthol

Meini prawf isgyfeirio

Er mwyn isgyfeirio’r bwrdd iechyd i’r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo ddangos:

  • bod system rheoli ansawdd integredig ac effeithiol ar waith ym mhob rhan o’r sefydliad.
  • bod gwaith yn cael ei gynnal i sefydlogi’r llwybr cynyddol o achosion o heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd a thystiolaeth o welliant parhaus ynghyd â dull gweithredu a chynllun gwella ansawdd cadarn sy’n cael eu goruchwylio a’u monitro gan y Pwyllgor a’r Bwrdd Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad.
  • bod gan y bwrdd iechyd gynllun gwella clir yn seiliedig ar ddadansoddiad o achosion sylfaenol er mwyn mynd i’r afael ag achosion o heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd sy’n dechrau mewn ysbyty, gan gynnwys:
    • C.diff: lleihau nifer yr heintiau C.diff sy’n dechrau yn yr ysbyty 15% a chynnal hynny am bedwar mis (o linell sylfaen o nifer cyfartalog o achosion yn chwarter 3 (o 13 o achosion i ddim mwy na 11 y mis)
    • E.Coli: lleihau nifer yr heintiau E.Coli sy’n dechrau yn yr ysbyty 15% a chynnal hynny am bedwar mis (o linell sylfaen o nifer cyfartalog o achosion yn chwarter 3 o 10 achos i ddim mwy na 8 y mis)
  • y caiff 68% o gwynion a gafodd ateb terfynol (Rheoliad 24) neu ateb dros dro (Rheoliad 26) eu cau o fewn llai na 30 o ddiwrnodau diwrnod gwaith i’r adeg y daw’r pryder i law a chynnal hynny am 3 mis.
  • ymateb effeithiol gan y bwrdd iechyd i adroddiadau ac adolygiadau allanol gan gynnwys y rhai gan Archwilio Cymru, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, y Colegau Brenhinol ac AGIC, sy’n arwain at welliannau cynaliadwy
  • sut y defnyddir profiad/cyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth a staff i wella prosesau ansawdd a llywio’r broses o ddatblygu gwasanaethau ym mhob rhan o’r sefydliad
  • y cynnydd a wnaed o ran rhoi gofynion y Ddyletswydd Gonestrwydd  a’r Ddyletswydd Ansawdd ar waith, gan gynnwys ymgorffori’r Safonau Gofal ac Ansawdd ym mhob rhan o’r sefydliad o’r Bwrdd i feysydd cyflawni gwasanaethau
  • bod gweithdrefnau goruchwylio trefniadau diogelu ar waith i sicrhau bod y Bwrdd yn cael sicrwydd digonol ac ystyrlon bod y sefydliad yn cyflawni o ran ei gyfrifoldebau diogelu statudol
  • ei fod yn defnyddio archwiliad clinigol cenedlaethol a rhaglen adolygu canlyniadau a dangosfyrddau Gwerth mewn Iechyd i ategu prosesau gwella ansawdd a mynd i’r afael ag amrywiadau na ellir eu cyfiawnhau mewn gofal (gan gynnwys defnyddio adborth cleifion a staff i ddylanwadu ar y broses o gynllunio gwasanaethau)

Iechyd y boblogaeth ac atal

Byrddau iechyd sy’n gyfrifol am iechyd y boblogaeth yn eu hardal ddaearyddol. Maent yn gyfrifol am gynllunio, datblygu a sicrhau darpariaeth gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal cymunedol, gofal mewn ysbytai a gwasanaethau arbenigol ar gyfer eu hardaloedd. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys gwasanaethau deintyddiaeth, optometreg, fferylliaeth ac iechyd meddwl. 

Maent hefyd yn gyfrifol am y canlynol: 

  • gwella canlyniadau iechyd corfforol ac iechyd meddwl
  • hyrwyddo llesiant
  • lleihau anghydraddoldebau iechyd ledled eu poblogaethau
  • comisiynu gwasanaethau gan sefydliadau eraill er mwyn diwallu anghenion eu preswylwyr

Mae’r ffocws a’r ymyrraeth o ran iechyd y boblogaeth ac atal ar lefel 5 yn ei gwneud yn ofynnol i’r bwrdd iechyd wneud y canlynol:

  • rhoi cynllun cadarn ar waith ar gyfer trawsnewid gofal sylfaenol gan wneud defnydd llawn o gyfleoedd cymunedol a chanolfannau gofal sylfaenol brys
  • datblygu’r ffordd y mae’r bwrdd iechyd yn ymdrin â phractisau a reolir gan y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol
  • sicrhau bod cynlluniau cadarn ar waith i gefnogi practisau bregus a reolir gan y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn ogystal â chynlluniau wrth gefn ar gyfer y nifer anghymesur o uchel o bractisau lle ceir un meddyg
  • ailgaffael a dyfarnu contractau ar gyfer contractau deintyddol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a’r Gwasanaethau Deintyddol Personol sydd wedi’u terfynu
  • sefydlu’r cyfleuster gwasanaethau deintyddol cymunedol yn Academi Ddeintyddol Bangor
  • datblygu cynllun clir ar gyfer comisiynu gwasanaethau deintyddol haen 2 ledled y Gogledd

Meini prawf isgyfeirio

Er mwyn isgyfeirio’r bwrdd iechyd i’r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo ddangos:

  • y caiff gofal sylfaenol a gofal cymunedol eu cynnal gan dîm arwain clinigol cryf, ar lefel Bwrdd ac ar lefel Weithredol, a chynllun gwella integredig effeithiol, strwythur rheoli prosiectau a chymorth trawsnewid effeithiol
  • tystiolaeth o weithgarwch wedi’i wella o ran cyfleoedd cymunedol a chanolfannau gofal sylfaenol brys
  • strategaeth a chynlluniau clir ar gyfer practisau a reolir gan y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, practisau bregus a reolir gan y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a darpariaeth ddeintyddol gymunedol
  • bod holl gontractau deintyddol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a’r Gwasanaethau Deintyddol Personol ar waith gyda chynllun clir ar gyfer comisiynu gwasanaethau deintyddol haen 2 ledled y Gogledd