Ein cynlluniau ar gyfer y GIG, gofal cymdeithasol a chymunedau i reoli feirysau anadlol.
Cynnwys
Diben
Mae'r cyhoeddiad hwn yn nodi'r canlynol:
- y cyd-destun iechyd cyhoeddus wrth inni symud i dymor yr hydref a'r gaeaf 2023 i 2024
- ein dull o ymateb i feirysau anadlol yng Nghymru
Yn ganolog i'n dull gweithredu mae ein hamcan i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas rhag salwch difrifol. Mae mesurau Atal a Rheoli Heintiau (IPC) yn parhau i fod yn elfen allweddol o ymarfer i leihau trosglwyddiad COVID-19 a heintiau eraill, megis y ffliw, feirws syncytiol anadlol (RSV) a norofirws, mewn lleoliadau iechyd a gofal.
Diben y cyhoeddiad hwn yw:
- tynnu sylw at feysydd ffocws â blaenoriaeth i helpu i liniaru'r pwysau acíwt ar y system
- nodi disgwyliadau clir ar y system iechyd a gofal cymdeithasol wrth ymateb i feirysau anadlol
- nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r system iechyd a gofal cymdeithasol i ymateb yn effeithlon ac yn effeithiol
- nodi sut y gallwn baratoi ein cymunedau ar gyfer hydref/gaeaf a allai fod yn heriol
Cyd-destun a modelu
Rhagwelwn gynnydd tymhorol mewn feirysau anadlol dros yr hydref a'r gaeaf, ochr yn ochr â thonnau pellach o haint COVID-19.
Rydym hefyd yn disgwyl rheoli brigiadau o achosion drwy'r trefniadau sydd gennym ar waith o dan y cynllun rheoli brigiadau o achosion, a byddwn yn parhau i fonitro amrywiolion COVID-19, gan gynnwys BA.2.86. Os oes risg o drosglwyddadwyedd a difrifoldeb uwch, byddwn yn ystyried mesurau rhagofalus priodol sy'n canolbwyntio ar amddiffyn y rhai mwy agored i niwed, gan gynnwys lefel uwch o fesurau atal a rheoli heintiau, profion wedi'u targedu'n well, adolygu cynlluniau brechu a chyhoeddi canllawiau cryfach i'r cyhoedd ar fesurau y gallant eu cymryd i amddiffyn eu hunain ac eraill.
Ffliw
Yn dilyn lefel isel gymharol gyson o dderbyniadau ffliw a niwmonia rhwng gwanwyn 2020 a haf 2022, gwelodd tymor gaeaf 2022 i 2023 frig mewn derbyniadau, tua 1.5 gwaith yn fwy na'r lefelau a welwyd fel arfer cyn y pandemig COVID-19.
Roedd hyn yn debyg i un o'r senarios a gynhyrchwyd gennym ar gyfer gaeaf 2022 i 2023 a oedd yn seiliedig ar fodelu gan Brifysgol Warwig a awgrymodd y gallai'r tymor ffliw cyntaf ar ôl y pandemig, pan fyddai lefelau ffliw’n ailgodi, fod 50-100% yn uwch na thymor nodweddiadol. Fodd bynnag, roedd cyfanswm gwirioneddol y derbyniadau a welwyd gydol y tymor ychydig yn is na'r lefelau cyn COVID-19. Gostyngodd y brig yn gyflym yng nghanol mis Rhagfyr, gyda’r amseru’n debyg i sawl tymor cyn y pandemig COVID-19, ond bu gostyngiad cyflymach nag arfer yng nghromlin yr epidemig.
Mae senarios ar gyfer ffliw a niwmonia yn cael eu cynhyrchu ar gyfer gaeaf 2023 i 2024 sydd â'r un math o dymor ffliw ag a welwyd cyn COVID, neu dymor ffliw mwy difrifol. Mae'n anodd rhag-weld tymhorau ffliw, ac mae'r nifer sy'n derbyn brechlyn ac i ba raddau mae brechlyn yn cyfateb i is-deipiau'r feirws sy'n mynd ar led yn ffactorau pwysig.
RSV
Ar gyfer RSV, dychwelodd cyfanswm y derbyniadau RSV ar draws y tymor cyfan i lefel sy'n agos at lefelau cyn COVID-19 yn 2021 i 2022, er y daeth y don hon yn gynnar. Y llynedd (2022 i 2023), gwelwyd rhaniad o ran gweithgarwch, gyda thon lai o faint yn yr haf a thon fwy o faint yn y gaeaf, ond gyda chyfanswm y gweithgarwch yn debyg iawn i dymor cyn COVID-19. Ar hyn o bryd, mae gweithgarwch RSV yn isel ond mae gennym senarios o don yn yr haf a thon yn y gaeaf sy'n debyg i'r llynedd, ac un don yn y gaeaf.
COVID-19
Mae COVID-19 hefyd yn anodd ei rag-weld. Mae gennym sawl senario wahanol - y gaeaf diwethaf, gwelsom ddwy don yn union ar ôl ei gilydd, sy'n batrwm a barhaodd tan tua gwanwyn 2023; ers hynny, mae gweithgarwch COVID-19 wedi bod yn isel, er iddo gynyddu'n araf tan fis Awst 2023. Bydd lefel y gweithgarwch ysbyty ar gyfer COVID-19 yn dibynnu i raddau ar y nifer sy'n manteisio ar frechiadau atgyfnerthu mewn grwpiau agored i niwed, yn ogystal ag ymddangosiad amrywiolion newydd - ar ddechrau mis Medi 2023, XBB1.16 yw'r amrywiolyn amlycaf o hyd, gan gyfrif am 37.6% o'r holl achosion, ond mae EG.5.1. yn cynyddu fel cyfran o'r achosion. Mae gan yr amrywiolyn newydd BA.2.86 a nodwyd ddiwedd mis Awst nifer uchel o fwtaniadau, ac mae'n enetig bell o'i hynafiad tebygol BA.2, ac o'r amrywiolion sy'n deillio o XBB sy'n mynd ar led ar hyn o bryd. Mae'r amrywiolyn yn cael ei fonitro'n ofalus ond, ar hyn o bryd, mae'r effaith ar drosglwyddadwyedd a difrifoldeb yn ansicr. Gall ymddangosiad BA.2.86 hefyd effeithio ar y senario ganolig ar gyfer gaeaf tebyg i 2022 i 2023 gan y gallai arwain at don gynharach yr hydref hwn.
Pwysau Cyfunol
Mae risgiau cydamserol megis ffliw, COVID-19, RSV, clefyd ymledol streptococws grŵp A (iGAS), tywydd oer a gweithredu diwydiannol sy'n digwydd ar unwaith, fel y digwyddodd y gaeaf diwethaf, yn debygol iawn o roi pwysau sylweddol ar wasanaethau. Mae'r senario fwyaf tebygol yn cyrraedd brig o tua 150 o dderbyniadau y dydd ar gyfer COVID-19, ffliw a niwmonia, a bronciolitis oherwydd RSV yn ystod gaeaf 2023/24, gyda lefelau brig o tua 1,000 - 1,100 o welyau, sef tua 10-11% o gyfanswm nifer y gwelyau mewn ysbytai yn GIG Cymru.
Y llynedd, roedd y cynnydd mewn salwch oherwydd strep A, a gafodd ei chwyddo gan sylw yn y cyfryngau i farwolaethau oherwydd iGAS, yn golygu cynnydd mawr mewn gweithgarwch o amgylch symptomau strep A. Efallai y bydd clefydau eraill megis y frech goch yn gweld brigiadau o achosion y gaeaf hwn. Efallai y bydd pryderon hefyd ynghylch ffliw adar neu fathau newydd eraill o ffliw mewn pobl.
Ein nod yw cyhoeddi modelu pellach i hysbysu partneriaid am y senarios hyn ar gyfer gaeaf 2023 i 2024.
Camau allweddol
Gwyliadwriaeth
Mae cadw gwyliadwriaeth ar glefydau anadlol yn effeithiol a rheolaidd yn nodwedd bwysig o’r system diogelu iechyd yng Nghymru. Bydd yr wybodaeth a gasglwn yn helpu i lywio penderfyniadau buddsoddi a dewisiadau polisi y bydd angen eu gwneud y gaeaf hwn.
Ein nod yw darparu system wyliadwriaeth gyfun effeithiol sy'n darparu gwybodaeth amserol i gynorthwyo penderfyniadau asesu risg a rheoli risg effeithiol i leihau niwed yn sgil COVID-19 a feirysau anadlol eraill.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn gweithredu cynllun gwyliadwriaeth anadlol integredig, yn unol ag egwyddorion gwyliadwriaeth a argymhellir gan Sefydliad Iechyd y Byd a Chanolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop. Mae’r cynllun yn ystyried y feirws pandemig SARS-CoV-2 ochr yn ochr â phathogenau anadlol eraill ac yn asesu effaith y pathogenau hyn ar wahanol lefelau, o achosion asymptomatig i achosion difrifol lle mae angen i bobl gael gofal ysbyty.
Mae'r wyliadwriaeth hon yn cynnwys sawl system a llwybr adrodd, ynghyd â microbioleg a genomeg arbenigol ac yn gysylltiedig â data arall megis brechiadau a derbyniadau ysbyty. Lle bo'n bosibl, byddwn yn defnyddio data sy'n bodoli eisoes, wedi'i wella gan ddulliau cysylltiadau a gwyddor data.
Mae gwaith wedi'i wneud i integreiddio adroddiadau gwyliadwriaeth ar wahân ar gyfer COVID-19 a’r ffliw yn gyfres integredig o allbynnau sy'n cwmpasu pob lefel o ddifrifoldeb clefyd a'r math o wyliadwriaeth. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn datblygu casgliadau o adroddiadau sy'n canolbwyntio ar grwpiau poblogaethau penodol, gan ddechrau gyda phlant.
Bydd crynodeb deongliadol wythnosol (gan gynnwys uchafbwyntiau o’r wyliadwriaeth ryngwladol sydd ar gael), sy'n ymdrin â phwyntiau allweddol o bob system wyliadwriaeth, yn cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys:
- gwyliadwriaeth gymunedol sentinel meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol
- cadw gwyliadwriaeth ar SARI mewn ysbytai sy'n cwmpasu derbyniadau a gwelyau Unedau Gofal Dwys sy'n cael eu defnyddio oherwydd heintiau anadlol acíwt
- data marwolaethau achosion penodol a thymhorol
- adroddiadau dilyniannu/genomeg ar amrywiolion SARS-CoV-2 a chytrasau ffliw
- niferoedd sy'n manteisio ar frechlynnau COVID-19 a ffliw.
- adroddiadau ar degwch brechu sy'n ymwneud â rhaglen pigiad atgyfnerthu'r hydref COVID-19
- data ar achosion eraill heintiau anadlol acíwt, megis streptococws Grŵp A, clwy'r pennau a phertwsis
Yn ogystal â'r uchod, cynhelir gwyliadwriaeth/gwerthusiad uwch ar effeithiolrwydd brechlynnau, RSV a baich clefydau anadlol.
Er mwyn sicrhau dehongliad amserol a chywir o'n data gwyliadwriaeth, rydym yn bwriadu parhau i ddefnyddio gwybodaeth leol a gesglir o'n rhwydweithiau proffesiynol sefydledig. Bydd nifer o grwpiau diogelu iechyd a diogelu'r cyhoedd amlddisgyblaethol cenedlaethol yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd i ystyried gwybodaeth leol a rhanbarthol.
Rydym yn parhau i fod â threfniadau monitro a goruchwylio ar waith i adolygu'r data gwyliadwriaeth a gwybodaeth am feirysau anadlol. Mae hyn yn adeiladu ar y dull a fabwysiadwyd gydol y pandemig i gyfuno ystod ehangach o dystiolaeth a dadansoddiad gwyddonol o wahanol ddisgyblaethau ochr yn ochr â deallusrwydd a gwyliadwriaeth leol.
Brechu
Mae brechu yn ddull hanfodol o helpu i liniaru effeithiau feirysau anadlol sy’n mynd ar led yn y gymuned, gan amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed a chefnogi gwytnwch y GIG a systemau gofal. Mae rhaglenni brechu blynyddol sy'n targedu ffliw tymhorol wedi bod yn nodwedd o ofal iechyd yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ac mae eu cwmpas wedi ehangu'n araf dros y cyfnod hwnnw. Yn fwy diweddar, datblygwyd rhaglen frechu yn erbyn COVID-19 mewn ymateb i'r bygythiad a achoswyd gan y pandemig. Er ei bod yn parhau i ddatblygu ac ymateb i newid, mae'r rhaglen COVID-19 yn dod yn fwyfwy rheolaidd ac mae ei chwmpas wedi'i mireinio.
Yr hydref diwethaf, cafodd Rhaglen Frechu'r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ei chyflwyno drwy uno rhaglenni brechu COVID-19 a’r ffliw. Drwy wneud hyn, roedd modd i fyrddau iechyd gynnig gwell profiad i gleifion. Cafodd dros 1.1 miliwn o bobl bigiad atgyfnerthu COVID-19 a chafodd dros filiwn o frechlynnau ffliw eu rhoi yn ystod y rhaglen. Serch hynny, er gwaethaf y llwyddiant cyffredinol hwn, bu gostyngiad yn nifer y bobl o rai grwpiau cymwys a fanteisiodd ar y brechlynnau hyn. Er enghraifft, mae'r nifer sy'n manteisio ar y rhaglen brechu rhag y ffliw mewn plentyndod wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ystod y tymhorau diwethaf ac roedd gwahaniaethau o hyd yn y nifer a oedd yn manteisio ar y rhaglen, o safbwynt statws economaidd-gymdeithasol ac ethnigrwydd, a gwelwyd gwahaniaethau rhanbarthol hefyd.
Ar gyfer 2023 i 2024, bydd y Rhaglen Genedlaethol Imiwneiddio rhag y Ffliw a'r rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID-19 yn cael eu huno unwaith eto i greu un Rhaglen Frechu'r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol (WRVP 2023 i 2024). Bydd y rhaglen hon yn cael ei hategu gan yr egwyddorion allweddol canlynol:
- Diogelu'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf.
- Diogelu plant a phobl ifanc.
- Diogelu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.
- Diogelu'r GIG.
Bydd WRVP 2023 i 2024, ac yn benodol pwy sy'n gymwys i gael brechlyn, yn cael ei harwain gan y dystiolaeth glinigol a gwyddonol ddiweddaraf a chan y cyngor diweddaraf gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a Phrif Swyddog Meddygol Cymru.
Y flaenoriaeth fydd sicrhau bod cymaint â phosibl o'r rhai sy'n gymwys yn manteisio ar y brechlynnau ffliw a COVID-19. Bydd disgwyl i fyrddau iechyd gynyddu eu hymdrechion ymhellach i sicrhau bod pobl yn gallu cael eu brechu'n ddidrafferth a datblygu cynlluniau i leihau rhwystrau sy'n achosi annhegwch.
Ar gyfer WRVP 2023 i 2024, mae'r uchelgeisiau a'r disgwyliadau canlynol wedi'u nodi mewn perthynas â chynigion a'r nifer sy'n manteisio:
- dylid cynnig brechiad atgyfnerthu COVID-19 i bawb sy'n gymwys erbyn 30 Tachwedd 2023
- dylid cynnig y brechlyn ffliw i bawb sy'n gymwys, cyn gynted â phosibl. Nodir y disgwyliadau o ran y nifer sy'n manteisio yn y tabl isod:
Ffliw | COVID-19 | |
---|---|---|
Gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen | 75% | Pob aelod o staff rheng flaen i gael cynnig brechlyn cyn gynted â phosibl. |
Oedolion cymwys eraill | 75% | 75% |
Disgwylir i fyrddau iechyd leihau'r bwlch yn y cyfraddau sy’n manteisio ar y rhaglen frechu rhwng y cymunedau lleiaf a mwyaf difreintiedig yn ardal eu bwrdd iechyd (yn erbyn lefelau a gyflawnwyd yn ystod rhaglen WRVP 2022 i 2023).
Disgwylir i fyrddau iechyd ddatblygu cynlluniau i gyrraedd lefelau manteisio ar y rhaglen o 75% ar gyfer plant 2 a 3 oed, ac yn y rhaglenni ysgolion, erbyn diwedd tymor 2025 i 2026. Disgwylir i bob bwrdd iechyd allu dangos bod y gwelliant hwn wedi dechrau yn ystod tymor 2023 i 2024.
Bydd ffocws o'r newydd hefyd yn WRVP 2023 i 2024 ar y grwpiau canlynol:
Plant 2 ac 3 oed
Yn ogystal â diogelu'r plant ifanc iawn hyn rhag salwch difrifol, mae brechu'r grŵp oedran hwn hefyd yn helpu i ddiogelu eu gofalwyr, rhieni, neiniau a theidiau a'r gymuned ehangach, gan leihau lefelau trosglwyddo cyffredinol.
Menywod beichiog
Menywod beichiog, a fydd yn cael eu hannog i gael eu brechu i helpu i ddiogelu eu hunain a'u babanod. Mae tystiolaeth yn dangos bod menywod beichiog yn fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau os ydynt yn cael ffliw neu COVID-19, yn enwedig yng nghamau olaf beichiogrwydd.
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, a fydd yn cael eu hannog i fanteisio ar y brechlyn ffliw cyn gynted â phosibl. Bydd y diogelwch a gynigir gan frechiadau yn helpu i atal gweithwyr rheng flaen rhag mynd yn sâl a bydd hefyd yn diogelu gwytnwch y system iechyd a gofal cymdeithasol rhag cael ei llethu.
Cleifion COPD
Cleifion COPD, a ddylai gael cynnig y ddau frechlyn cyn gynted â phosibl oherwydd yr effaith ddifrifol y gall salwch anadlol ei chael ar y cleifion hyn.
Er mwyn gweithredu WRVP 2023 i 2024 yn effeithiol, gofynnwyd i fyrddau iechyd gynllunio ar gyfer un rhaglen gydlynol a chydgysylltiedig ar gyfer y ddau frechlyn. Lle bynnag y bo'n bosibl, dylid alinio modelau cyflawni i ganiatáu ar gyfer cydweinyddu, i helpu i sicrhau’r arbedion mwyaf o ran effeithlonrwydd a lleihau annhegwch brechu. Bydd disgwyl i gynlluniau'r bwrdd iechyd nodi sut y byddant yn cyflawni'r targedau manteisio ar y rhaglen a pherfformiad sydd wedi'u pennu, drwy lywodraethu Rhaglen Frechu Cymru.
Mae gweithgarwch dal i fyny ar gyfer brechiadau i blant - gan gynnwys y brechiad MMR - wedi bod ar y gweill dros fisoedd yr haf mewn ymgais i frechu'r rhai sydd wedi colli allan dros y blynyddoedd diwethaf. Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i sicrhau amddiffyniad ehangach wrth i’r gaeaf agosáu. Ar yr un pryd, mae gwaith ymgysylltu ar y gweill gydag arweinwyr ysgolion i nodi'r rhwystrau o ran manteisio ar y rhaglen mewn lleoliadau ysgol a help i'w goresgyn.
Eir i’r afael â’r gostyngiadau diweddar yn y lefelau manteisio ar y rhaglen ymhlith menywod beichiog drwy ymgysylltu â bydwragedd ac mae pwysigrwydd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn manteisio ar y brechlyn ffliw yn cael sylw drwy roi pwyslais o'r newydd arno mewn cyfathrebiadau â byrddau iechyd a'r sector gofal cymdeithasol a thrwy'r holl ymgyrchoedd cyfathrebu.
Byddwn yn parhau i adolygu ein rhaglen frechu yn ystod yr hydref mewn ymateb i'r wyliadwriaeth ar feirysau anadlol sy'n mynd ar led, gan gynnwys amrywiolion sy'n dod i’r amlwg.
Profi
Y gaeaf diwethaf, roedd profion ar gyfer COVID-19 a feirysau anadlol eraill yn cwmpasu ystod o leoliadau. Yn ogystal â rheolaeth glinigol a chefnogi digwyddiadau a brigiadau o achosion, argymhellwyd profion symptomatig rheolaidd ar gyfer sawl carfan. Dros yr haf, canolbwyntiodd y profion ar gefnogi rheolaeth glinigol cleifion a nodi unigolion agored i niwed a fyddai'n elwa ar driniaeth wrthfeirol benodol ar gyfer COVID-19 neu ffliw, yn ogystal â chefnogi gweithgareddau rheoli heintiau a rheoli digwyddiadau neu frigiadau o achosion mewn lleoliadau caeedig.
Mae'r dull profi yr hydref a'r gaeaf hwn yn seiliedig ar y rhagdybiaeth ein bod yn disgwyl gweld brig mewn feirysau anadlol, ond nad oes arwyddion pendant ar hyn o bryd y bydd y rhain yn arbennig o ddifrifol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i fonitro'n agos ymddangosiad yr amrywiolyn BA.2.86 newydd ac unrhyw amrywiolion COVID-19 eraill a allai achosi effeithiau iechyd sylweddol, neu os bydd achosion o gyd-heintio, er enghraifft gyda’r ffliw, yn datblygu’n bryder mawr. Os bydd angen mesurau rhagofalus ychwanegol, bydd y strategaeth brofi yn cael ei hadolygu.
Er ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o salwch difrifol, i'r rhan fwyaf o bobl rydym yn parhau i argymell y dylent reoli eu symptomau heb yr angen i brofi Cyngor iechyd y cyhoedd ar gyfer y cyhoedd | LLYW.CYMRU.
Ar gyfer hydref a gaeaf 2023 i 2024, argymhellir y dylid profi fel a ganlyn:
- Ar gyfer unigolion symptomatig sy'n gymwys i gael triniaethau gwrthfeirol. Mae hyn yn cynnwys pobl yn y gymuned a/neu mewn lleoliadau caeedig megis cartrefi gofal, ysgolion arbennig preswyl a charchardai.
- I nodi a chefnogi'r gwaith o reoli brigiadau o achosion mewn lleoliadau caeedig.
Ar hyn o bryd, mae 3 rhaglen o wyliadwriaeth weithredol sy'n cynnwys profi:
- Gwyliadwriaeth SARI - Cleifion sy'n ymgyflwyno i ofal eilaidd gyda salwch anadlol acíwt – profion amlddadansoddiad anadlol.
- Gwyliadwriaeth sentinel meddygon teulu - Cleifion sy'n ymgyflwyno i ofal sylfaenol gyda salwch tebyg i ffliw – profion amlddadansoddiad anadlol.
- Gwyliadwriaeth fferyllfa - Unigolion sy'n ymgyflwyno i fferyllfeydd gyda salwch tebyg i ffliw – profion amlddadansoddiad anadlol.
Nid yw profi staff iechyd a gofal cymdeithasol symptomatig yn cael ei argymell fel mater o drefn (oni bai eu bod yn agored i niwed ac y byddai therapi gwrthfeirol yn briodol). Dylai staff symptomatig gael eu gwahardd o'r gwaith yn seiliedig ar symptomau a dilyn canllawiau Cyngor i staff iechyd a gofal ar feirysau anadlol gan gynnwys COVID-19: canllawiau | LLYW.CYMRU. Gellir defnyddio profion fel rhan o'r gwaith o reoli digwyddiadau penodol.
Nid yw sgrinio cyn derbyn i'r ysbyty yn cael ei argymell oni bai bod tystiolaeth glir bod risg wedi’i nodi i unigolyn sy'n gysylltiedig â thriniaeth gydamserol a gynlluniwyd (gan gynnwys cemotherapi) a haint COVID-19.
Ar hyn o bryd, nid yw profion cyn derbyn ar gyfer preswylwyr cartrefi nyrsio neu ofal yn cael ei argymell gan fod y risg o gyflwyno COVID-19 i leoliadau o'r fath yn cael ei lleihau'n sylweddol yn sgil cyfraddau imiwneiddio uchel.
Fodd bynnag, rydym yn monitro'n ofalus ymddangosiad unrhyw amrywiolion COVID-19 newydd megis BA.2.86 a byddwn yn diwygio'r cyngor hwn os bydd angen mesurau profi rhagofalus ychwanegol.
Triniaeth Wrthfeirol
Ffliw
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell defnyddio:
- y meddyginiaethau gwrthfeirol oseltamivir a zanamivir ar gyfer trin y ffliw
- a phroffylacsis ffliw mewn oedolion a phlant dros 1 oed sy'n wynebu risg arbennig o gael haint ffliw ac sy'n perthyn i un neu fwy o'r grwpiau risg clinigol a ddiffinnir ac a ddiweddarir bob blwyddyn gan y Prif Swyddog Meddygol.
Gall meddygon teulu ragnodi triniaeth ar gyfer pobl mewn grŵp sy'n wynebu risg sydd â salwch tebyg i ffliw, ond rhaid iddi ddechrau o fewn 48 awr i ddechrau'r symptomau. Mae'n amod rhagnodi bod y Prif Swyddog Meddygol wedi hysbysu meddygon teulu bod y feirws ffliw yn mynd ar led yn y gymuned; ei fod wedi'i bennu yn unol â chynllun gwyliadwriaeth feirolegol yn y gymuned fod ffliw yn mynd ar led yn yr ardal lle mae'r claf yn byw neu'n bresennol neu lle’r oedd yn bresennol ar yr adeg yr oedd y feirws yn mynd ar led; neu fod brigiad o achosion o ffliw pandemig.
Mae patrymau rhagnodi mewn gofal sylfaenol yn cyd-fynd yn agos â digwyddedd ffliw (ffigur 12), ond mae angen i fyrddau iechyd fod â threfniadau ar waith sy'n sicrhau bod cyflenwadau digonol o gyffuriau gwrthfeirol ffliw ar gael ar gyfer rhagnodi cyffredinol ar gyfer trin ffliw, ac mewn symiau mwy ar gyfer proffylacsis sy'n angenrheidiol ar gyfer rheoli brigiadau o achosion mewn sefydliadau gofal preswyl. Byddwn yn cymryd camau i hwyluso rhagnodi cyffuriau gwrthfeirol ffliw yn brydlon gan feddygon teulu, gan gynnwys y tu allan i oriau, gyda ffocws penodol ar wella mynediad i bobl sy'n byw mewn gofal preswyl. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod ganddynt drefniadau cadarn ar gyfer cyflenwi symiau digonol o gyffuriau gwrthfeirol o fewn yr amserlenni sy'n ofynnol er mwyn iddynt fod yn effeithiol.
Ffigur 11. Presgripsiynau meddygon teulu ar gyfer oseltamivir a zanamivir (pob paratoad) fesul chwarter o fis Ebrill 2016 i fis Mawrth 2023.
COVID-19
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell defnyddio'r feddyginiaeth wrthfeirol nirmatrelvir-ritonavir ar gyfer trin COVID-19 mewn oedolion sy'n wynebu risg uwch o glefyd difrifol fel y'i diffinnir gan y cleifion risg uwch sy'n gymwys i gael triniaethau COVID-19: grŵp cynghori annibynnol. Mae'r therapi gwrthgorff monoclonaidd sotrovimab hefyd yn cael ei argymell ar gyfer trin COVID-19 yn yr un garfan, ond dim ond lle mae gan glaf wrtharwydd i nirmatrelvir-ritonavir.
Ar hyn o bryd, darperir triniaeth gan wasanaethau gwrthfeirol ym mhob bwrdd iechyd. Mae'r driniaeth yn dibynnu ar gadarnhad o haint COVID-19 drwy brawf llif unffordd (LFD) positif, a dylai ddechrau o fewn pum diwrnod i ddechrau'r symptomau. Derbyniodd mwy na 6,000 o bobl gymwys driniaeth wrthfeirol neu wrthgorff monoclonaidd yn 2022 i 2023 (ffigur 12). Nid yw cyffuriau gwrthfeirol COVID-19 yn cael eu hargymell ar gyfer defnydd proffylactig.
Disgwylir i fyrddau iechyd gynnal trefniadau ar gyfer darparu cyffuriau gwrthfeirol COVID-19 i bobl gymwys yn y gymuned ac i fod â chynlluniau cadarn i gynyddu capasiti pe bai galw cynyddol neu unrhyw ehangiad i'r garfan gymwys dros gyfnod y gaeaf.
Mae profion LFD ar gael i'r garfan gymwys drwy gludiant uniongyrchol cyn y gaeaf. Yn y tymor hwy, rydym yn archwilio cynlluniau i sicrhau bod profion yn parhau i fod ar gael ar ôl cau sianel gartref UKHSA yn ddiweddarach eleni. Rydym hefyd yn ystyried pa drefniadau sydd angen bod ar waith i gefnogi gwell mynediad at gyffuriau gwrthfeirol drwy'r geg mewn gofal sylfaenol o 2023 i 2024.
Ffigur 12. Pobl gymwys sy'n cael eu trin am COVID-19 yn y gymuned fesul wythnos o fis Rhagfyr 2021 i fis Mawrth 2023.
Negeseuon a chyfathrebiadau iechyd cyhoeddus
Unigolion a'r cyhoedd
Gall heintiau anadlol ledaenu'n hawdd rhwng pobl. Gall galluogi a hyrwyddo ymddygiadau unigol i amddiffyn ein hunain, ein gilydd ac yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed fod â manteision sylweddol o ran lleihau trosglwyddiad feirysau anadlol. Bydd parhau â'r ymddygiadau amddiffynnol rydym i gyd wedi ymgyfarwyddo â nhw yn helpu i leihau effaith tonnau coronafeirws yn y dyfodol, gan leihau effeithiau heintiau anadlol eraill ar yr un pryd.
Y neges allweddol yw amddiffyn eich hun, eich teulu ac eraill y gaeaf hwn drwy fanteisio ar y cynnig brechu, os ydych chi'n gymwys, a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am eich brechiadau COVID-19 a ffliw.
Mae ymddygiadau amddiffynnol cyffredinol yn cynnwys:
- cael eich brechu
- aros gartref os ydych chi'n sâl a chyfyngu ar eich cysylltiad ag eraill
- cynnal hylendid dwylo da
- gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoedd dan do neu gaeedig prysur, gan gynnwys lleoliadau iechyd a gofal
- cyfarfod â phobl eraill yn yr awyr agored
- pan fyddwch chi dan do, gadael awyr iach i mewn lle bo hynny'n bosibl
Mae ein cyngor i bobl sydd â symptomau haint anadlol fel a ganlyn:
- gofalwch eich bod yn cael digon o orffwys ac yfwch ddŵr i’ch cadw wedi’ch hydradu
- defnyddiwch feddyginiaethau megis paracetamol i helpu gyda symptomau; nid yw gwrthfiotigau'n cael eu hargymell ar gyfer heintiau anadlol feirol gan na fyddant yn lleddfu symptomau nac yn cyflymu adferiad
- arhoswch gartref a cheisiwch osgoi cyswllt ag eraill tan y bydd eich tymheredd uchel wedi diflannu a’ch bod yn teimlo'n well; gallech ofyn i ffrindiau, teulu neu gymdogion fynd i nôl bwyd a hanfodion eraill ichi
- gweithiwch gartref lle bynnag y bo modd; os na allwch chi weithio gartref, siaradwch â'ch cyflogwr am opsiynau
- os gofynnwyd ichi fynychu apwyntiad meddygol neu ddeintyddol wyneb yn wyneb, dywedwch wrthynt am eich symptomau
- dywedwch wrth bobl rydych chi wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn ddiweddar eich bod yn teimlo'n sâl; mae hyn yn golygu y gallant fod yn ymwybodol o arwyddion neu symptomau
- os ydych chi'n poeni am eich symptomau, os ydynt yn gwaethygu, neu os na allwch chi ymdopi gartref mwyach, gofynnwch am gyngor meddygol drwy gysylltu â'ch meddyg teulu neu GIG 111; mewn argyfwng, deialwch 999.
Lleoliadau allweddol
Iechyd
Gwyddom fod gaeaf 2022 i 2023 wedi bod yn heriol iawn, gyda brigiadau mewn salwch anadlol a phwysau ar y system yn digwydd yn gynt na'r arfer, ynghyd â risgiau cydamserol eraill megis gweithredu diwydiannol a thywydd oer. Rydym hefyd wedi gweld galw aruthrol o uchel mewn pediatreg, gyda'r pwysau heb leihau dros fisoedd yr haf.
Mae cynllunio GIG Cymru ar gyfer y gaeaf wedi'i integreiddio i drefniadau cynllunio presennol, sydd wedi'u nodi yn Fframwaith Cynllunio'r GIG ar gyfer 2023 i 2026. Cyhoeddwyd y fframwaith hwn yn ystod hydref 2022 a dechreuodd y gwaith cynllunio fisoedd lawer yn ôl i sicrhau gwytnwch gydol gaeaf 2023 i 2024. Mae cynllunio ar gyfer brigiadau tymhorol yn y galw ar draws y system ar waith gydol y flwyddyn. Mae gwytnwch y system ar gyfer gofal brys a gofal argyfwng wedi bod yn allweddol i gefnogi gwelliannau o ran llif cleifion mewn ysbytai a threfniadau rhyddhau. Mae ffocws parhaus ar leihau'r achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, cynyddu capasiti yn y system yn ystod cyfnodau prysur a chryfhau'r cymorth i wella prosesau rhyddhau.
Mae'r rhai sydd â salwch anadlol yn wynebu risg arbennig. Y gaeaf hwn, bydd GIG Cymru yn canolbwyntio ar reoli cleifion anadlol ledled Cymru, gan ddefnyddio'r pecyn cymorth triniaeth anadlol a chymhwyso nifer o lwybrau cenedlaethol clefydau anadlol (COPD, asthma, bronciectasis, bronciolitis ac RSV) i helpu pobl i gadw'n iach a rheoli achosion o'r salwch yn gwaethygu gan helpu i leihau derbyniadau diangen.
Mae'r argyfwng costau byw, costau ynni uwch a phwysau arall ar incwm pobl hefyd yn peri risg, a all gyfrannu at aeaf anodd ac aflonyddgar. Byddwn yn cynllunio ar gyfer hyn gan gydnabod bod pwysau ar wasanaethau yn llawer mwy eithafol nag a welwyd cyn y pandemig COVID-19.
Mae Canllawiau Atal a Rheoli Heintiau COVID-19 presennol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi mesurau Atal a Rheoli Heintiau i atal trosglwyddiadau COVID-19 mewn lleoliadau iechyd a gofal yng Nghymru. Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau Cenedlaethol Cymru, sy'n cynnwys canllawiau ar reoli feirysau eraill y gaeaf.
Mae'r fframwaith profi cleifion yn nodi canllawiau cenedlaethol ar gyfer profi, gan gynnwys unigolion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty a chartrefi gofal. Mae'r canllawiau'n seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol, iechyd cyhoeddus ac arbenigol orau sydd ar gael, ond mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd gwneud penderfyniadau lleol ynghylch ble neu pryd y gallai fod angen cynyddu neu leihau profion yn dibynnu ar gyfraddau nosocomial, cyfraddau trosglwyddo cymunedol neu fregusrwydd cleifion.
Mae rhaglenni brechu ar gyfer COVID-19 a ffliw tymhorol yn parhau i fod yn rhan hanfodol o'n cynlluniau atal a rheoli heintiau. Lefelau uchel o frechu ymhlith y gweithlu i gynnal iechyd a lles ein gweithlu, ac i atal haint rhag cael ei drosglwyddo ymlaen i gleifion a chydweithwyr. Bydd hyn hefyd yn helpu i gynnal ein lefelau staffio drwy leihau salwch y gellir ei osgoi, gan osgoi cynyddu'r pwysau ar gydweithwyr sy'n dal i fod yn y gwaith. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol i annog brechu ar draws ein gweithlu.
Yng ngoleuni ymddangosiad BA.2.86, anfonodd y Prif Swyddog Nyrsio a'r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol lythyr systemau i’r GIG ar 1 Medi yn nodi'r angen i ystyried cynllunio ar gyfer llwybr ar wahân ar gyfer feirysau anadlol/heintus gyda'r nod o gyfyngu ar ledaeniad heintiau a brigiadau o achosion o fewn y llwybrau derbyn pan fydd cyfraddau yn y cymunedau yn uwch. Cyfeiriodd hefyd at bwysigrwydd cefnogi brechu ar gyfer staff iechyd a gofal, canllawiau Atal a Rheoli Heintiau ac y gallai hefyd fod yn briodol ailgyflwyno gwisgo masgiau o fewn y llwybrau hyn a sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd wedi'u hyfforddi'n llawn i ddefnyddio eu masg, eu cyfarpar diogelu’r wyneb a mathau eraill o PPE i baratoi ar gyfer rheoli heintiau anadlol yr hydref hwn.
Gofal cymdeithasol
Wrth inni ddychwelyd i statws busnes fel arfer o ran COVID-19, rydym yn cydnabod bod y risgiau bellach yn llai o gymharu â brig y pandemig, ond rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus wrth ei ystyried ochr yn ochr â heintiau anadlol eraill. Yn gyffredinol, roedd brigiadau achosion o COVID-19 mewn cartrefi gofal ar lefel isel yn 2022 i 2023, ac roedd nifer y marwolaethau wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig, gan nodi effaith gadarnhaol brechu i'r rhai sy'n derbyn gofal gartref neu mewn lleoliad gofal, ac i staff gofal, yn ogystal â chydymffurfiaeth dda â mesurau atal a rheoli heintiau.
Byddwn yn parhau i hyrwyddo canllawiau PPE a chydymffurfiaeth â nhw, gyda chyllid Llywodraeth Cymru i alluogi Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i brynu a dosbarthu PPE i Awdurdodau Lleol i'w hailddosbarthu yn cael ei ymestyn hyd at ddiwedd mis Mawrth 2024.
Yr hydref a'r gaeaf hwn, byddwn yn parhau i gefnogi gofal cymdeithasol, gan gynnwys cartrefi gofal a gofal cartref mewn perthynas â mesurau atal a rheoli heintiau. Bydd hyn yn cynnwys parhau i ddarparu cyfarpar diogelu personol am ddim (PPE) a mynediad at brofion fel y nodir uchod. Yn ogystal, byddwn yn parhau i fonitro data brigiadau o achosion a data cyfraddau manteisio ar frechiadau yn ofalus ac yn parhau i ymgysylltu â'r sector dros yr hydref a'r gaeaf i ddarparu cymorth lle bo angen. Anfonwyd llythyr at bartneriaid gofal cymdeithasol ar 1 Medi yn nodi pwysigrwydd mesurau, gan gynnwys atal a rheoli heintiau a brechu.
Dylai ymwelwyr â chartrefi gofal gael eu croesawu, eu hannog a'u galluogi pan nad oes brigiad o achosion mewn cartref gofal. Dylai trefniadau ymweld fod mor agored a hyblyg â phosibl. Gyda phrofion asymptomatig rheolaidd yn cael eu gohirio ar gyfer lleoliadau gofal cymdeithasol, ni fydd angen i ymwelwyr gymryd prawf llif unffordd (LFT) mwyach cyn ymweld â chartref gofal.
Cynghorir unrhyw aelod o staff sy’n gweithio gyda chleifion/defnyddwyr gwasanaeth ac sydd â symptomau haint anadlol gan gynnwys COVID-19 a/neu dymheredd uchel i aros gartref a rhoi gwybod i’w cyflogwr cyn gynted â phosibl.
Pan fyddant yn teimlo’n well ac nad oes ganddynt dymheredd uchel a’u bod yn barod i ddychwelyd i'r gwaith, mae’n bosibl y byddant am drafod ffyrdd o leihau unrhyw risg â’u cyflogwr. Y rheswm am hyn yw y gallai rhai pobl fod yn heintus o hyd. Gallai hyn gynnwys cynnal asesiad risg os yw’r aelod o staff yn gweithio gyda chleifion y mae eu system imiwnedd yn golygu eu bod yn wynebu risg uwch o salwch difrifol, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi cael eu brechu.
Bydd ein gwaith 'Ymhellach, yn Gyflymach' yn parhau i fuddsoddi mewn gofal cymunedol i sicrhau bod mwy o nyrsys clinigol arbenigol a gweithwyr cymorth gofal iechyd ar gael dros gyfnod y gaeaf i gefnogi gofal yn nes at y cartref, neu yn y cartref.
Lleoliadau Addysg a Gofal Plant
Mae'r cyngor Addysg a gofal plant: coronafeirws | Is-bwnc | LLYW.CYMRU yn cynnig hyblygrwydd i benderfynu beth sydd ei angen i reoli risgiau. Mae'n bwysig o hyd i leoliadau addysg a gofal plant ystyried yr hyn y gallant ei wneud i leihau lledaeniad feirysau anadlol, gan gynnwys COVID-19, ac amddiffyn eu dysgwyr a'u staff, gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau ychwanegol i'r rhai sy'n fwy agored i niwed. Drwy barhau i weithredu mesurau rheoli iechyd y cyhoedd, bydd ysgolion a lleoliadau yn helpu i gadw lledaeniad y feirws yn isel, yn hybu hyder y cyhoedd a staff ac yn lleihau'r potensial o aflonyddwch pellach.
Mae cyngor ychwanegol ar gael i staff a disgyblion ysgolion addysgol arbennig, yn seiliedig ar yr amcan o amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed a lleihau'r risg o drosglwyddo'r feirws i'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o ganlyniadau andwyol ac mewn lleoliadau caeedig.
Mae'r canllawiau i leoliadau addysg a gofal plant ar gynllunio at argyfyngau ac ymateb iddynt | LLYW.CYMRU yn darparu cyngor ar sut y dylai lleoliadau addysg a gofal plant gynllunio ar gyfer argyfyngau ac ymateb iddynt, gan gynnwys digwyddiadau iechyd cyhoeddus sylweddol a thywydd garw.
Carchardai
Disgwylir i fyrddau iechyd sy’n darparu gwasanaethau iechyd mewn carchardai gynnwys gwasanaethau iechyd carchardai o fewn eu trefniadau cynllunio ar gyfer y gaeaf. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gynnig cymorth, drwy gynhyrchu adroddiadau gwyliadwriaeth, i ddarparu gwybodaeth am ddigwyddiadau a brigiadau o achosion, a bydd yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â phob carchar i gynnig cymorth a chyngor yn ôl yr angen.
Bydd angen i fyrddau iechyd sicrhau bod digon o adnoddau’n cael eu neilltuo i dimau gofal iechyd carchardai mewn carchardai remand, gan y bydd angen i’r rhain barhau i frechu drwy gydol y gaeaf oherwydd eu trosiant cyflym o ran derbyniadau.
Busnesau a chyflogwyr
Rydym yn cynghori pob busnes, cyflogwr a threfnydd digwyddiadau i barhau i weithredu mesurau rheoli iechyd y cyhoedd. Bydd y rhain yn helpu i ddiogelu gweithwyr, contractwyr, ymwelwyr a chwsmeriaid rhag dod i gysylltiad â choronafeirws, ac atal ei ledaeniad. Y ffordd fwyaf effeithiol o atal unrhyw glefyd trosglwyddadwy rhag lledaenu mewn unrhyw safle yw atal y feirws rhag bod yn bresennol yn y lle cyntaf.
Dylai cyflogwyr ystyried pa gamau y dylent eu cymryd os bydd aelod o staff yn arddangos unrhyw symptomau o glefyd trosglwyddadwy (megis ffliw, COVID-19 neu norofeirws) neu wedi profi'n positif am goronafeirws. Bydd yr hyn sy'n rhesymol yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys a yw'n ymarferol i'r gwaith gael ei wneud gartref.
Lle bynnag y bo'n bosibl, byddai Llywodraeth Cymru yn annog cyflogwyr i drafod a chytuno ar unrhyw newidiadau i brosesau rheoli absenoldeb gyda'r gweithlu a chydag undebau llafur cyn gweithredu unrhyw newidiadau.
Ymgyrch gyfathrebu'r gaeaf
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i gomisiynu i gyflwyno ymgyrch proffil uchel i annog ymddygiadau ataliol ar gyfer feirysau anadlol y gaeaf hwn, yn seiliedig ar ymddygiadau y cytunwyd arnynt a mewnwelediad cynulleidfaoedd. Bydd yr ymgyrch wedi'i dylunio i fod yn hyblyg i ymateb i fygythiadau a materion sy'n dod i'r amlwg, a bydd yn targedu ystod eang o'r boblogaeth gan ganolbwyntio ar gynyddu gwybodaeth a chymell y cyhoedd i fabwysiadu ymddygiadau ataliol dros y gaeaf pan fydd mwy o risg y bydd heintiau yn lledaenu. Bydd yn canolbwyntio ar greu normau cymdeithasol ac arferion bob dydd i'n helpu i gadw'n iach a lleihau cyfraddau marwolaethau ac afiachedd. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgysylltu â'r GIG yn ehangach i sicrhau bod negeseuon cyson ledled Cymru a bod deunyddiau'n cael eu rhannu.
Ochr yn ochr â'r ymgyrch ymddygiadau ataliol, ac yn cyd-fynd â hi, cynhelir Ymgyrch Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol. Bydd yn hyrwyddo brechiad rhag y ffliw a brechiad atgyfnerthu COVID-19 yr hydref i gynulleidfaoedd cymwys yng Nghymru. Bydd yr ymgyrch ar waith tan fis Rhagfyr 2023, gyda gweithgarwch cwblhau ar waith ym misoedd Ionawr/Chwefror 2024. Bydd yr ymgyrch frechu yn cynnwys negeseuon allweddol wedi'u targedu ynghylch y brechlynnau ffliw a COVID-19 i oedolion, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, rhaglen brechu ffliw plentyndod a menywod beichiog.