Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

1. Beth yw dyddiad cynnal y Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr?

Dyddiad y Stocrestr flynyddol yng Nghymru yw 1 Rhagfyr.

2. Pryd ca i gyflwyno fy stocrestr?

Gofynnir ichi gyflwyno’ch stocrestr defaid a/neu eifr nesaf ar 1 Rhagfyr 2025. Gallwch ei chyflwyno rhwng 1 Rhagfyr a 31 Rhagfyr.

3. Alla i gwblhau’r Stocrestr ar-lein?

Gallwch, fe allwch gwblhau eich Stocrestr Flynyddol ar-lein drwy fewngofnodi i’ch cyfrif EIDCymru yn eidcymru.org. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, cysylltwch â’r swyddfa ar 01970 636959.
Os ydych yn cadw defaid a/neu eifr ac nad oes gennych gyfrif, dylech gofrestru am un. Bydd staff swyddfa EIDCymru yn fwy na hapus i’ch helpu i gofrestru am gyfrif ar-lein ac ateb eich cwestiynau. Gallwch eu ffonio ar 01970 636959 neu e-bostiwch cymorth@eidcymru.org.

4. A ga i ddefnyddio fy nghyfrif EIDCymru at unrhyw ddiben arall?

Cewch. Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif EIDCymru ar-lein i:

  • gofnodi a derbyn symudiadau defaid ar-lein, heb orfod postio’r drwydded symud bapur
  • cadarnhau’ch cofnodion symud ar y fferm a’u cymharu â chofnodion EIDCymru

5. A gaiff ffurflen bapur ei hanfon ata i?

Y ffordd o anfon eich stocrestr atom fydd trwy’ch cyfrif EIDCymru ar-lein.
Rydyn ni’n sylweddoli bod hyn yn newid mawr i’r ffordd rydych yn gyfarwydd â hi o lenwi’r stocrestr. Rydyn ni’n eich cynghori i gysylltu ag EIDCymru cyn gynted â phosibl gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am y broses newydd.

6. Sut mae llenwi’r Stocrestr os na fydda i’n gallu cofrestru am gyfrif EIDCymru ar-lein?

Cyn i’r stocrestr agor, bydd llythyr yn cael ei anfon at bob ceidwad sydd heb gyfrif EIDCymru ar-lein gyda dolen arno i borth EIDCymru ar-lein. Bydd y ceidwaid yn gallu defnyddio’r ddolen i anfon eu stocrestr yn syth i EIDCymru heb orfod cofrestru am gyfrif. Os oes amgylchiadau eithriadol iawn, rydyn ni’n eich cynghori i gysylltu ag EIDCymru. Bydd staff swyddfa EIDCymru’n hapus i’ch helpu i fynd i’r porth ar-lein ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gallwch eu ffonio ar 01970 636959 neu drwy eu e-bostio ar cymorth@eidcymru.org.

7. Rwy’n ei chael hi’n anodd defnyddio systemau ar-lein. Sut fedrwch chi fy helpu?

Gallwch ffonio EIDCymru ar 01970 636959 a dewis o’r opsiynau i’ch helpu. 

8. A fydd angen i mi roi gwybodaeth wahanol?

Na fydd, yr un wybodaeth y byddwn yn gofyn amdani ag o’r blaen. Dylech lenwi’r stocrestr trwy nodi nifer y defaid a/neu eifr rydych yn berchen arnyn nhw ar 1 Rhagfyr. Cofnodwch nifer yr anifeiliaid wrth bob CPH y byddan nhw ynddo ar y dyddiad hwnnw. Dylai hynny gynnwys tir comin ac unrhyw CPH dros dro.

9. A fydd angen i fi gofnodi’r Stocrestr Flynyddol yn Llyfr Cofnodion fy Niadell? Mae fy Llyfr Diadell yn cyfeirio at 1 Ionawr, nid 1 Rhagfyr.

Bydd. Rhaid ichi gofnodi nifer y defaid a/neu’r geifr rydych yn berchen arnyn nhw ar 1 Rhagfyr yn eich “Cofnod Diadell”. Dylai fod union yr un peth â’ch stocrestr flynyddol. Mae fersiwn newydd o lyfr y ddiadell ar gael oddi wrth EIDCymru.

10. A oes rhaid i fi lenwi’r stocrestr flynyddol?

Oes. Mae gofyn o dan y gyfraith i bawb sy’n cadw defaid a/neu eifr lenwi Stocrestr Flynyddol o dan Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Cymru) 2015. 

11. Allwch chi ddefnyddio’r wybodaeth a roddais yn arolwg ym mis Mehefin?

Na. Mae’r wybodaeth sy’n ofynnol yn y stocrestr hon yn fanylach ar lefel y daliad nag arolwg mis Mehefin.

12. Ar 1 Rhagfyr, dw i’n berchen ar ddefaid a/neu eifr sy’n cael eu cadw dros y gaeaf/ar dac mewn lle arall. A ddylwn i gofnodi’r anifeiliaid ar fy stocrestr?

Dylech. Os mai chi yw’r perchennog a’ch bod wedi symud yr anifeiliaid i aeafu/ar dac mewn lle arall, yna rhaid cofnodi’r anifeiliaid hyn ar eich stocrestr chi. Cofnodwch yr anifail wrth y CPH lle maen nhw ar y dyddiad hwnnw ac fel sydd wedi’i gofnodi ar eich trwydded symud.

13. Ar 1 Rhagfyr, mae yna ddefaid a/neu eifr “ar dac” ar fy nhir. A ddylwn restru’r anifeiliaid hynny ar fy stocrestr?

Na ddylech gan nad chi yw perchennog yr anifeiliaid hynny. Cyfrifoldeb y perchennog yw cofnodi’r anifeiliaid hyn ar ei stocrestr ei hun.

14. Oes rhaid i mi restru pob rhif daliad (CPH) lle bydd y defaid a/neu’r geifr rwy’n berchen arnyn nhw y cael eu cadw ar 1 Rhagfyr?

Oes, rhaid i chi restru pob CPH lle rydych chi’n cadw eich defaid a/neu eich geifr ar 1 Rhagfyr. Mae hyn yn cynnwys tir comin, CPH dros dro ac unrhyw CPH y byddwch wedi symud yr anifeiliaid rydych yn berchen arnyn nhw iddo. 

15. Rwy’n defnyddio tir comin; sut mae dod o hyd i rif y daliad (CPH)?

Gellir cael rhif CPH y tir comin drwy ffonio EIDCymru ar 01970 636959. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch cyn cysylltu a nhw:

a. enw’r comin
b. rhif y tir comin (hynny yw, rhif CL)

Rhaid i chi gofio nodi ar eich stocrestr nifer y defaid rydych chi’n berchen arnyn nhw sy’n pori tir comin ar 1 Rhagfyr. (Gallai’r rhif fod yn wahanol i nifer y defaid y mae gennych hawliau pori ar eu cyfer i bori’r comin).

16. Gofynnwyd imi lenwi stocrestr ond nid wyf yn cadw defaid na geifr. Oes angen i mi lenwi stocrestr?

Oes. Yn ôl EIDCymru, rydych yn dal i fod yn geidwad defaid a/neu eifr. Mae’ch CPH wedi cael ei ddefnyddio i gofnodi symudiadau defaid a/neu eifr yn y flwyddyn ddiwethaf.
Os nad ydych chi’n cadw defaid na geifr mwyach, rhaid i chi ddadgofrestru fel ceidwad defaid drwy gysylltu â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar 0300 3038268.

17. Rwyf wedi dadgofrestru fy hun fel ceidwad ond rwyf newydd dderbyn y stocrestr. A ddylwn i ei llenwi?

Dylech. Mae’ch CPH wedi cael ei ddefnyddio i gofnodi symudiadau defaid a/neu eifr yn y flwyddyn ddiwethaf. Gallai’r symudiadau hynny fod wedi’u gwneud cyn ichi ddadgofrestru.

18. Rwy’n cadw fy nefaid a/neu fy ngeifr fel anifeiliaid anwes. Oes angen i mi lenwi’r stocrestr?

Oes, mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol i bob ceidwad defaid a geifr, ac mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi lenwi stocrestr.

19. Nid wyf yn cadw defaid na geifr, ond rwy’n cadw lamas a/neu alpacas. Sut mae’r ddeddfwriaeth hon yn effeithio arna i?

Dim ond i ddefaid a geifr y mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol (rhywogaethau defaid a geifr). Nid yw lamas/alpacas a da byw eraill yn dod o dan y ddeddfwriaeth hon.

20. A ga i beidio â llenwi fy stocrestr tan ddiwedd Rhagfyr?

Rydyn ni’n eich cynghori i lenwi’ch stocrestr cyn gynted ag y medrwch ar ôl
1 Rhagfyr ac i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael.

21. Pa wybodaeth y bydd angen i mi ei chasglu cyn llenwi fy stocrestr?

Nid yw’r wybodaeth sydd ei hangen wedi newid ers llynedd. Rhaid ichi gofnodi nifer y defaid a/neu’r geifr rydych yn berchen arnyn nhw ar 1 Rhagfyr. Mae rhestr wirio ar y wefan i chi ei defnyddio fel canllaw.