Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gogledd a Thrafnidiaeth, yn ymweld â Bwcle heddiw (dydd Gwener 10 Mai) i wrando ar gynghorwyr yn siarad am y teimladau lleol am y terfyn 20mya yn y dref a'r cyffiniau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

JGyda Dirprwy Arweinydd Sir y Fflint, Dave Hughes, a'r cynghorwyr lleol, crwydrodd Ysgrifennydd y Cabinet Liverpool Road, un o'r priffyrdd sy'n codi gofidiau yn yr ardal, i ddeall rhai o'r pryderon. 

Dyma'r diweddaraf mewn nifer o gyfarfodydd y mae Ysgrifennydd y Cabinet am eu cynnal fel rhan o raglen wrando genedlaethol am yr 20mya. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio hefyd ar y cyd â phob un o'r 22 awdurdod lleol i fraenaru'r tir ar gyfer newid ac adolygu'r canllawiau ynghylch pa ffyrdd y gellir eu heithrio rhag yr 20mya. 

Fel rhan o'r broses hon, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn annog pobl o bob cwr o Gymru i gysylltu â'u cyngor lleol i roi gwybod iddynt pa ffyrdd y dylid eu heithrio fel bod 20mya yn cael ei dargedu'n well. Mae gwybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: 

Mae'n bleser cael bod ym Mwcle heddiw i glywed rhai o'r pryderon didwyll y mae trigolion lleol wedi'u codi am yr 20mya.

"Mae gwrando wedi bod yn flaenoriaeth i mi erioed, ac rwyf am sicrhau bod cymunedau'n ganolbwynt ein meddyliau wrth i ni weithio gyda chynghorau lleol i fireinio'r polisi a phenderfynu ar y cyflymder iawn ar y ffyrdd iawn. 

"Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn y broses hon a dyna pam rwy'n annog pobl i fod yn rhan o'r sgwrs genedlaethol hon a rhoi gwybod i'w cyngor lleol pa ffyrdd y maen nhw'n meddwl y dylid eu heithrio i gael y cyflymder iawn ar y ffyrdd iawn. Mae'r wefan rydyn ni'n ei lansio heddiw yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gymryd rhan.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a'r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol yng Nghyngor Sir y Fflint: 

Rwy'n ddiolchgar iawn i Ken am ymweld â Bwcle heddiw. Dyma'r cam cyntaf tuag at yr adolygiad sydd fawr ei angen o'r meini prawf 20mya.

"Mae Cyngor Sir y Fflint yn disgwyl ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau canlyniad cadarnhaol i'n cymunedau.