Neidio i'r prif gynnwys

Trosolwg

Llofnododd Québec a Chymru Ddatganiad o Fwriad yn 2020 a oedd yn ymrwymo i gydweithredu dwyochrog, gan gynnwys ar arloesi a buddiannau economaidd a rennir. Mae hyn wedi cael ei gefnogi gan alwadau cyllido amrywiol dros y blynyddoedd, gan greu partneriaethau newydd a chydweithredu gwerthfawr. Mae Gouvernement du Québec a Llywodraeth Cymru wedi nodi cyfle i gefnogi partneriaethau i gymryd y cam nesaf tuag at sicrhau manteision economaidd trawsnewidiol.

Rydyn ni eisiau cynigion sy'n:

  • Cynnwys partneriaethau gwirioneddol gydag o leiaf un partner o Gymru ac o leiaf un partner o Québec. Croesewir cynigion amlochrog os yw'r gwerth ychwanegol yn glir.
  • Meddu ar y potensial i gyflawni newid cadarnhaol, trawsnewidiol neu strwythurol.
  • Cefnogi o leiaf un o'r sectorau economaidd canlynol: awyrofod, deallusrwydd artiffisial, twf glas, deunyddiau critigol, seiberddiogelwch, trawsnewid ynni, gwyddorau bywyd ac iechyd, lled-ddargludyddion.
  • Dangos llwybr clir i wneud effeithiau. Gallai hyn gynnwys cynnwys partneriaid cyflawni pwysig fel diwydiant perthnasol, cyrff sector neu glystyrau.
  • Nodi opsiynau realistig ar gyfer parhau â'r gweithgaredd ar ôl i'r cyllid ddod i ben.
  • Cynnwys camau gweithredu dan arweiniad y partner yn Québec a chamau gweithredu dan arweiniad y partner yng Nghymru sy'n wahanol ond yn ategu ei gilydd.
  • Gall y partner arweiniol yng Nghymru gyflawni'r gweithgaredd, yr allbynnau a'r gwariant  erbyn 31 Mawrth 2027. Gellir cyflwyno tystiolaeth o ganlyniadau ar ôl y dyddiad hwnnw.

Cyllid

Rydyn ni'n disgwyl cefnogi 1 i 3 o brosiectau o dan yr alwad hon, yn dibynnu ar y galw a'r ansawdd. Gall y partner arweiniol yng Nghymru wneud cais am hyd at £10,000 ar gyfer y gweithgaredd y bydd yn ei arwain. Efallai y bydd symiau tebyg ar gael ar gyfer y partner yn Québec o Gouvernement du Québec. Fodd bynnag, bydd gwerth am arian yn ystyriaeth bwysig a dylai gwariant y ddau bartner fod yn rhesymegol ac yn gymesur.

Oni gadarnhawyd fel arall, mae canllawiau arferol Cymru Ystwyth yn berthnasol i wariant y partner arweiniol yng Nghymru. Dylai partneriaid yng Nghymru nodi, er y gellir cefnogi hyd at 100% o'r costau cymwys, bod rhai costau'n anghymwys (e.e. cynhaliaeth), ac rydyn ni'n annog yn gryf ganolbwyntio ar eitemau cost mwy, hawdd eu dangos.

Y broses ar gyfer partneriaid yng Nghymru

Mae Cymru Ystwyth bellachyn derbyn cynigion gan y partner arweiniol yng Nghymru. Nid oes dyddiad cau, cyflwynwch eich cynnig cyn gynted â phosibl.  Bydd cynigion yn cael eu hystyried ar sail 'y cyntaf i'r felin', gan adlewyrchu'r cyfnod cymharol fyr i'w cyflwyno. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y byddwn yn ystyried cynigion newydd ar ôl mis Rhagfyr 2026.

Mae hon yn alwad beilot a gall y broses esblygu. Bydd yn gweithredu ar fodel cyllido cyfochrog, sy'n ei gwneud yn ofynnol i brosiectau fodloni meini prawf a gofynion Gouvernement du Québec a Llywodraeth Cymru, ac i gyflwyno cais llwyddiannus am gyllid yn y ddwy awdurdodaeth.

Ar gyfer cyllid gan Lywodraeth Cymru, dylai'r partner arweiniol yng Nghymru anfon e-bost at dîm Cymru Ystwyth gydag amlinelliad byr o'r cynnig yn esbonio sut mae'n bodloni gofynion yr alwad hon. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth am natur strategol y gweithgaredd a gwybodaeth ymarferol am y ffordd y gellir ei gyflawni yn yr amserlen.

Bydd tîm Cymru Ystwyth yn cynnal asesiad cychwynnol (brysbennu) o'r cynigion, gan geisio rhagor o wybodaeth lle bo modd cyfiawnhau gwneud hynny. Gellir rhoi cynigion nad ydyn nhw'n flaenoriaeth glir ar 'restr wrth gefn'  er mwyn caniatáu cyfleoedd ar gyfer cynigion eraill. 

Dim ond ond oes tebygolrwydd rhesymol o brosiect ar y cyd y byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno cais o dan yr alwad hon; gall tîm Cymru Ystwyth gynghori ar lwybrau cyllido eraill neu gadarnhau nad ydych wedi cael eich blaenoriaethu ar gyfer cyllid. Sylwch nad yw cyrraedd y cam ymgeisio yn warant o gyllid.

Os cewch eich gwahodd i gyflwyno ffurflen gais, byddwn yn dilyn gweithdrefnau safonol Cymru Ystwyth oni bai eich bod yn cael eich hysbysu fel arall. Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu digon o wybodaeth am yr elfennau o'r prosiect ar ochr Cymru a Québec i ganiatáu asesu gwerth am arian, unrhyw risg o ddyblygu cyllid cyhoeddus ac a ydyn nhw'n ategu ei gilydd.

Drwy gydol y broses, gellir gofyn am gyngor gan gydweithwyr arbenigol a pholisi perthnasol yng Nghymru neu wledydd/rhanbarthau perthnasol eraill. Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda Gouvernement du Québec ar rinweddau pob cynnig, gan rannu gwybodaeth a cheisiadau yn ôl yr angen.

Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch y cyllid ar gyfer y partner yng Nghymru, a all gynnwys dyfarnu grant is na'r hyn y gofynnwyd amdano. Efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cymeradwyo cyllid cyn penderfyniadau cyllido eraill, ond bydd costau partner yng Nghymru heb gytundeb penodol yn ysgrifenedig gan dîm Cymru Ystwyth yn anghymwys.

Manylion cyswllt

Dylai partneriaid arweiniol yng Nghymru anfon e-bost at dîm Cymru Ystwyth  CymruYstwyth@llyw.cymru 

Dylai partneriaid yn Québec e-bostio Gouvernement du Québec yn CoopQuebecGalles@mri.gouv.qc.ca