Galwad am dystiolaeth ac arbenigedd ar wrychoedd (perthi)
Galwad am dystiolaeth ac arbenigedd ar wrychoedd gan asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru.
Annwyl gyfeillion
Fy rôl, fel Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru, yw goruchwylio’r gwaith o weithredu cyfraith amgylcheddol yng Nghymru, ac ystyried materion systemig sy’n ymwneud â’r ffordd y mae cyfraith amgylcheddol yn gweithio neu’n gweithredu yng Nghymru. Gyda hyn mewn golwg, rwy’n bwriadu llunio adroddiad ar wrychoedd i Weinidogion Cymru er mwyn:
- asesu a yw’r fframwaith cyfreithiol presennol yn gweithredu’n gywir;
- nodi meysydd lle mae’n bosibl nad yw’r amddiffyniad cyfreithiol presennol yn dwyn y buddion a fwriedir, yn enwedig mewn perthynas â gwarchod bioamrywiaeth;
- nodi bylchau posibl yn y ddeddfwriaeth bresennol;
- nodi meysydd lle mae’n bosibl bod y gwaith o gymhwyso’r ddeddfwriaeth yn ymarferol yn cael ei rwystro;
- llunio argymhellion drafft ar sut y gellid gwella’r gyfraith.
Mae fy nghynlluniau ar gyfer llunio’r adroddiad hwn yn deillio o bryderon rwyf wedi’u derbyn, sy’n cynnwys:
- p’un a yw Rheoliadau Gwrychoedd (Perthi) 1997 yn cyflawni eu nod datganedig o warchod gwrychoedd yn effeithiol;
- p’un a ddeellir y Rheoliadau hyn yn ddigon da neu p’un a ydynt yn cael eu gorfodi’n briodol;
- p’un a ddylid cymhwyso’r gyfraith yn fwy eang er mwyn cwmpasu parciau a gerddi yn ogystal â thir ffermio;
- p’un a yw cyllid grantiau yn annog gwaredu gwrychoedd sydd wedi gordyfu;
- effaith defnyddio rhwydi i atal adar ar wrychoedd.
Os hoffai unrhyw un ddarparu sylwadau neu dystiolaeth ysgrifenedig ar y materion uchod, anfonwch hwy at IEPAW@llyw.cymru erbyn dydd Gwener 30 Medi 2022.
A fyddech cystal â chadarnhau hefyd a ydych yn fodlon i’ch sylwadau / tystiolaeth gael eu dyfynnu yn yr adroddiad terfynol a’u priodoli i chi a/neu eich sefydliad. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am rôl IEPAW yn Codi pryderon am sut mae cyfraith amgylcheddol yn gweithio.
Diolch yn fawr.
Ar ran
Dr Nerys Llewelyn Jones
Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru
E-bost: IEPAW@llyw.cymru
